RHAN 2Llywodraethu

Byrddau pensiynau lleol: gwrthdrawiad buddiannau7

1

Rhaid i bob rheolwr cynllun fod wedi ei fodloni nad oes gan unrhyw berson, sydd i’w benodi yn aelod o fwrdd pensiynau lleol, fuddiannau sy’n gwrthdaro45.

2

Rhaid i reolwr cynllun fodloni ei hunan o bryd i’w gilydd nad oes gan yr un o aelodau’r bwrdd pensiynau lleol fuddiannau sy’n gwrthdaro.

3

Rhaid i berson sydd i’w benodi yn aelod o fwrdd pensiynau lleol gan reolwr cynllun, ddarparu i’r awdurdod hwnnw y cyfryw wybodaeth y gwneir yn ofynnol yn rhesymol gan yr awdurdod at ddibenion paragraff (1).

4

Rhaid i berson sydd yn aelod o fwrdd pensiynau lleol ddarparu i’r rheolwr cynllun a wnaeth y penodiad, y cyfryw wybodaeth y gwneir yn ofynnol yn rhesymol gan yw awdurdod hwnnw at ddibenion paragraff (2).