52.—(1) Mae’r Bennod hon yn gymwys mewn perthynas â chyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn.
(2) Yn achos person sy’n aelod gohiriedig o’r cynllun hwn mewn perthynas â dau neu ragor o gyfnodau di-dor o wasanaeth pensiynadwy, mae’r Bennod hon yn gymwys ar wahân mewn perthynas â phob un o’r cyfnodau hynny o wasanaeth.