RHAN 4Cyfrifon pensiwn

PENNOD 3Cyfrifo addasiadau

Penderfynu’r “ychwanegiad oedran”35

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phob blwyddyn gynllun pan fo cyfrif aelod actif, a chyfrif pensiwn ychwanegol aelod actif, os oes un, ar agor; sy’n flwyddyn gynllun ddiweddarach na’r flwyddyn gynllun pan fo’r aelod yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan y cynllun hwn; ac nad yw’n flwyddyn gynllun pan sefydlwyd y cyfrif o dan y Rhan hon.

2

Ar ddechrau’r flwyddyn gynllun, ar gyfer pob disgrifiad o bensiwn, rhaid i’r rheolwr cynllun, gan roi sylw i ganllawiau actiwaraidd, benderfynu’r ychwanegiad oedran sydd i’w ddyfarnu ar gyfer y flwyddyn gynllun honno drwy gyfeirio at y balans agoriadol o’r disgrifiad o bensiwn sydd dan sylw ar gyfer y flwyddyn gynllun flaenorol.

3

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “yr ychwanegiad oedran” (“the age addition”) yw swm ychwanegol o bensiwn a benderfynir drwy gyfeirio at y gyfran o’r flwyddyn gynllun flaenorol pan oedd aelod eisoes wedi cyrraedd yr oedran pensiwn arferol o dan y cynllun hwn.