RHAN 13Atodol

PENNOD 2Fforffedu

Gwrthgyfrif185

1

Caiff y rheolwr cynllun wrthgyfrif rhwymedigaeth ariannol berthnasol yn erbyn hawlogaeth aelod i gael buddion o dan y cynllun hwn.

2

Yn y rheoliad hwn, ystyr “rhwymedigaeth ariannol berthnasol” (“relevant monetary obligation”) yw rhwymedigaeth ariannol sy’n ddyledus gan aelod (P) ac sy’n bodloni’r amodau ym mharagraffau (3), (4) neu (5).

3

Yr amodau yn y paragraff hwn yw fod y rhwymedigaeth ariannol—

a

wedi ei hachosi i gyflogwr P;

b

wedi ei hachosi ar ôl i P ddod yn aelod actif o’r cynllun hwn;

c

yn tarddu o, neu’n gysylltiedig â’r gyflogaeth gynllun y mae P yn aelod o’r cynllun hwn mewn cysylltiad â hi; a

d

yn tarddu o weithred neu anwaith droseddol, esgeulus neu dwyllodrus gan P.

4

Yr amodau yn y paragraff hwn yw fod y rhwymedigaeth ariannol—

a

wedi ei hachosi i’r cynllun hwn; a

b

yn tarddu o weithred neu anwaith droseddol, esgeulus neu dwyllodrus gan P.

5

Yr amodau yn y paragraff hwn yw fod y rhwymedigaeth ariannol—

a

wedi ei hachosi i’r cynllun hwn; a

b

yn tarddu o daliad a wnaed i P mewn camgymeriad gan y rheolwr cynllun.

6

Mae paragraff (7) yn gymwys os bwriedir gweithredu gwrthgyfrif o ganlyniad i rwymedigaeth ariannol berthnasol sy’n ddyledus gan P ac yn bodloni’r amodau ym mharagraff (3).

7

Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, ni chaiff y rheolwr cynllun wrthgyfrif yn erbyn y rhan honno o hawlogaeth P i gael buddion sy’n cynrychioli credydau trosglwyddo, yn yr ystyr a roddir i “transfer credits” yn adran 124(1) (dehongli Rhan 1) o Ddeddf Pensiynau 199583, ac eithrio credydau trosglwyddo rhagnodedig at ddibenion adran 91(5)(d) (eithrio o anaralladwyedd pensiynau galwedigaethol) o’r Ddeddf honno84.

8

Ni chaiff y rheolwr cynllun weithredu gwrth gyfrif ac eithrio yn erbyn y rhan honno o bensiwn aelod sydd dros ben unrhyw leiafswm gwarantedig y mae hawl gan yr aelod hwnnw i’w gael o dan adran 14 o DCauP 1993.

9

Ni chaiff gwerth y gwrthgyfrif a weithredir fod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—

a

swm y rhwymedigaeth ariannol berthnasol; a

b

gwerth hawlogaeth P i gael buddion.

10

Ni chaiff y rheolwr cynllun wrthgyfrif rhwymedigaeth ariannol berthnasol yn erbyn hawlogaeth P i gael buddion ac eithrio—

a

pan nad oes anghytundeb ynglŷn â swm y rhwymedigaeth ariannol berthnasol; neu

b

pan fo’r rhwymedigaeth ariannol berthnasol yn orfodadwy fel a ganlyn—

i

o dan orchymyn llys cymwys, neu

ii

o ganlyniad i ddyfarniad gan gymrodeddwr.