RHAN 10Trosglwyddiadau

PENNOD 3Trosglwyddiadau i mewn

Swm pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb154

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â thaliad gwerth trosglwyddiad clwb a gafwyd oddi wrth gynllun clwb arall.

2

Ar gyfer y flwyddyn gynllun y mae’r dyddiad trosglwyddo yn digwydd ynddi, swm y pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb y mae hawl gan P i’w gyfrif yw—

a

y swm a bennir yn y datganiad gwerth trosglwyddiad clwb; neu

b

os na ddarparwyd datganiad o’r fath neu os nad yw wedi ei gyfrifo yn unol â chanllawiau actiwaraidd, swm a gyfrifir gan y rheolwr cynllun yn unol â chanllawiau actiwaraidd.