- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
136.—(1) Os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru, ar ôl cymryd i ystyriaeth yr amcangyfrif ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall, y bydd y cyfanswm sy’n debygol o gael ei dalu i mewn i’r CBDT yn y flwyddyn ariannol berthnasol yn fwy na’r cyfanswm sy’n debygol o fod yn daladwy allan o’r CBDT yn y flwyddyn honno, rhaid i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol bod rheolwr cynllun yn talu i Weinidogion Cymru swm sy’n hafal i 80% o’r gwarged tebygol.
(2) Os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru, ar ôl cymryd i ystyriaeth unrhyw amcangyfrif diwygiedig ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall, y bydd—
(a)y cyfanswm sy’n debygol o gael ei dalu i mewn i’r CBDT yn y flwyddyn ariannol berthnasol yn fwy na’r cyfanswm sy’n debygol o fod yn daladwy allan o’r CBDT yn y flwyddyn honno; a
(b)80% o’r gwarged tebygol yn fwy nag—
(i)y swm a dalwyd neu sy’n daladwy gan y rheolwr cynllun i Weinidogion Cymru o dan baragraff (1) mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol, neu
(ii)os nad oedd unrhyw swm o’r fath wedi ei dalu neu’n daladwy gan y rheolwr cynllun, sero,
caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol bod y rheolwr cynllun yn talu i Weinidogion Cymru ba bynnag swm y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu drwy hysbysiad ysgrifenedig.
(3) Os yw’r rheolwr cynllun wedi talu swm i Weinidogion Cymru o dan baragraffau (1) a (2), rhaid i gyfanswm y symiau hynny beidio â bod yn fwy nag 80% o warged tebygol yr CBDT am y flwyddyn honno.
(4) Os yw Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol bod y rheolwr cynllun yn talu swm o dan baragraff (2), nid yw unrhyw swm a dalwyd neu a fyddai wedi bod yn daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol gan Weinidogion Cymru i’r rheolwr cynllun o dan reoliad 135(1) (amcangyfrifon o ddiffygion), i’w dalu, neu, os talwyd swm o’r fath, rhaid i’r rheolwr cynllun ei ad-dalu.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru roi i’r rheolwr cynllun, ar neu cyn 3 Mawrth yn y flwyddyn ariannol berthnasol, hysbysiad ysgrifenedig o swm unrhyw daliad neu ad-daliad y mae’n ofynnol gan Weinidogion Cymru fod y rheolwr cynllun yn ei wneud o dan baragraff (1), (2) neu (4).
(6) Pan ei gwneir yn ofynnol bod y rheolwr cynllun yn gwneud taliad o dan baragraffau (1) neu (2) neu ad-daliad o dan baragraff (4), rhaid gwneud y taliad neu ad-daliad cyn diwedd y flwyddyn ariannol berthnasol neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl hynny.
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: