xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 7Buddion ar gyfer aelodau â chredyd pensiwn

Hawlogaeth i bensiwn aelod â chredyd pensiwn

114.—(1Mae hawl gan aelod â chredyd pensiwn (P) o’r cynllun hwn i gael taliad o bensiwn aelod â chredyd pensiwn ar unwaith o dan y cynllun hwn—

(a)os yw P wedi cyrraedd oedran pensiwn gohiriedig;

(b)os yw’r gorchymyn rhannu pensiwn, y mae hawl gan P i gael y credyd pensiwn oddi tano, wedi cael effaith; ac

(c)os yw P wedi hawlio taliad o’r pensiwn.

(2Os oes hawl gan P i gael dau neu ragor o gredydau pensiwn, mae ganddo hawl i gael pensiwn aelod â chredyd pensiwn mewn cysylltiad â phob un o’r credydau pensiwn.

(3Cyfradd flynyddol pensiwn aelod â chredyd pensiwn

115.  Cyfrifir cyfradd flynyddol pensiwn aelod â chredyd pensiwn drwy—

(a)cymryd swm y pensiwn credydedig a bennir yng nghyfrif yr aelod â chredyd pensiwn; a

(b)didynnu ohono swm y cymudiad (os oes un) a bennir yn y cyfrif hwnnw mewn perthynas â’r swm hwnnw.

Lleihau buddion aelod â debyd pensiwn

116.  Mae’r buddion y mae hawl gan aelod â debyd pensiwn i’w cael o dan y Rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i ostyngiad yn y swm perthnasol, a gyfrifir yn unol â rheoliad 63 (sefydlu cyfrif aelod â chredyd pensiwn).

Hawliau aelod â chredyd pensiwn

117.  Ni chaniateir cyfuno buddion sy’n briodoladwy i gredyd pensiwn (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) gydag unrhyw fudd arall y mae hawl gan yr aelod â chredyd pensiwn i’w gael o dan y cynllun hwn.

Cymudo rhan o bensiwn

118.—(1Caiff aelod â chredyd pensiwn sy’n cael yr hawl i daliad o bensiwn aelod â chredyd pensiwn o dan y cynllun hwn arfer yr opsiwn o gyfnewid rhan o’r pensiwn am gyfandaliad.

(2Ni chaniateir arfer yr opsiwn ac eithrio drwy roi hysbysiad—

(a)i’r rheolwr cynllun ddim cynharach na phedwar mis cyn y diweddaraf o’r canlynol—

(i)y dyddiad y bydd y gorchymyn rhannu pensiwn yn cael effaith, a

(ii)y dyddiad y bydd y person yn cyrraedd oedran pensiwn gohiriedig;

(b)ym mha bynnag ffurf sy’n ofynnol gan y rheolwr cynllun; ac

(c)a roddir cyn bo’r taliad cyntaf o’r pensiwn wedi ei wneud.

(3Os yw aelod â chredyd pensiwn yn arfer yr opsiwn o dan y rheoliad hwn, am bob £1 o ostyngiad i swm cyfradd flynyddol y pensiwn, rhaid talu i’r aelod gyfandaliad o £12.

(4Ni chaiff y gyfran a gymudir fod yn fwy na chwarter swm pensiwn yr aelod â chredyd pensiwn.

(5Ni chaiff aelod â chredyd pensiwn gyfnewid pensiwn am gyfandaliad o dan y rheoliad hwn i’r graddau y byddai’n achosi taliad trethadwy o’r cynllun at ddibenion Rhan 4 (cynllun pensiwn etc.) o DC 2004, (gweler adran 241 o’r Ddeddf honno).

(6Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys os oedd yr aelod â debyd pensiwn, y mae’r pensiwn yn deillio o’i hawliau, wedi cael cyfandaliad o dan Ran 5 (buddion ymddeol) cyn y dyddiad yr oedd y gorchymyn rhannu pensiwn yn cael effaith.