xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
33.—(1) Yr addasiad mynegai ymddeol ar gyfer swm o bensiwn enilledig cronedig yw—
ac ystyr “canran mynegai ymddeol”( “retirement index percentage”) yw’r ganran mynegai ymddeol a gyfrifir o dan baragraff (2) ar gyfer pensiwn enilledig cronedig.
(2) Y ganran mynegai ymddeol yw—
ac—
ystyr A yw—
ar gyfer pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb cronedig, y mynegai ailbrisio mewn-gwasanaeth sy’n gymwys mewn perthynas â’r cynllun hwn ar gyfer y flwyddyn ymadael;
ar gyfer pensiwn enilledig cronedig ac eithrio pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb, yr addasiad mynegai sy’n gymwys mewn perthynas â’r cynllun hwn ar gyfer y flwyddyn ymadael;
B yw nifer y misoedd cyflawn yn y cyfnod rhwng dechrau’r flwyddyn ymadael a diwedd y diwrnod olaf perthnasol.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn, mae “mis cyflawn” (“complete month”) yn cynnwys mis anghyflawn sy’n cynnwys 16 diwrnod o leiaf.
34.—(1) Cyfrifir yr addasiad mynegai DPC ymddeol ar gyfer y swm o bensiwn ychwanegol cronedig yn unol â pharagraff (2).
(2) Yr addasiad mynegai DPC ymddeol yw swm y cynnydd y byddid wedi ei wneud o dan DPC 1971 yn y flwyddyn ymadael, yng nghyfradd flynyddol pensiwn o swm sy’n hafal i swm y pensiwn ychwanegol cronedig pe bai—
(a)y pensiwn hwnnw yn gymwys i’w gynyddu felly; a
(b)y diwrnod ar ôl y diwrnod olaf perthnasol yn ddyddiad cychwyn ar gyfer y pensiwn hwnnw.
35.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phob blwyddyn gynllun pan fo cyfrif aelod actif, a chyfrif pensiwn ychwanegol aelod actif, os oes un, ar agor; sy’n flwyddyn gynllun ddiweddarach na’r flwyddyn gynllun pan fo’r aelod yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan y cynllun hwn; ac nad yw’n flwyddyn gynllun pan sefydlwyd y cyfrif o dan y Rhan hon.
(2) Ar ddechrau’r flwyddyn gynllun, ar gyfer pob disgrifiad o bensiwn, rhaid i’r rheolwr cynllun, gan roi sylw i ganllawiau actiwaraidd, benderfynu’r ychwanegiad oedran sydd i’w ddyfarnu ar gyfer y flwyddyn gynllun honno drwy gyfeirio at y balans agoriadol o’r disgrifiad o bensiwn sydd dan sylw ar gyfer y flwyddyn gynllun flaenorol.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “yr ychwanegiad oedran” (“the age addition”) yw swm ychwanegol o bensiwn a benderfynir drwy gyfeirio at y gyfran o’r flwyddyn gynllun flaenorol pan oedd aelod eisoes wedi cyrraedd yr oedran pensiwn arferol o dan y cynllun hwn.
36.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan sefydlir cyfrif aelod gohiriedig neu gyfrif ymddeol mewn cysylltiad ag aelod nad oes ganddo gyfrif aelod actif mewn cysylltiad â chyflogaeth gynllun arall.
(2) Rhaid i’r rheolwr cynllun, gan roi sylw i ganllawiau actiwaraidd, benderfynu’r ychwanegiad oedran tybiedig ar gyfer y swm o bensiwn enilledig cronedig a phensiwn ychwanegol cronedig (os oes un) a bennir yn y cyfrif hwnnw.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “yr ychwanegiad oedran tybiedig” (“the assumed age addition”) yw—
(a)yn achos swm o bensiwn enilledig cronedig nad yw’n briodoladwy i bensiwn a drosglwyddwyd, yr ychwanegiad oedran y byddid wedi ei ddyfarnu ar gyfer pensiwn enilledig cronedig pe na bai’r aelod wedi gadael gwasanaeth pensiynadwy neu wedi arfer yr opsiwn o ymddeol yn rhannol yn y flwyddyn ymadael, a benderfynir drwy gyfeirio at y gyfran o’r flwyddyn ymadael pan oedd yr aelod yn aelod actif o’r cynllun hwn, ac wedi cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan y cynllun hwn;
(b)yn achos swm o bensiwn enilledig cronedig sy’n briodoladwy i bensiwn a drosglwyddwyd, yr ychwanegiad oedran y byddid wedi ei ddyfarnu ar gyfer pensiwn a drosglwyddwyd pe na bai’r aelod wedi gadael gwasanaeth pensiynadwy neu wedi arfer yr opsiwn o ymddeol yn rhannol yn y flwyddyn ymadael, a benderfynir drwy gyfeirio at y gyfran o’r flwyddyn ymadael pan oedd yr aelod yn aelod actif o’r cynllun hwn, ac wedi cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan y cynllun hwn;
(c)yn achos swm o bensiwn ychwanegol cronedig, yr ychwanegiad oedran y byddid wedi ei ddyfarnu ar gyfer pensiwn ychwanegol pe na bai’r aelod wedi gadael gwasanaeth pensiynadwy neu wedi arfer yr opsiwn o ymddeol yn rhannol yn y flwyddyn ymadael, a benderfynir drwy gyfeirio at y gyfran o’r flwyddyn ymadael pan oedd yr aelod yn aelod actif o’r cynllun hwn, ac wedi cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan y cynllun hwn.