28. Mae person (P) yn aelod actif o’r cynllun hwn—
(a)os yw P mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn;
(b)os nad yw P mewn gwasanaeth pensiynadwy tra bo P ar absenoldeb salwch di-dâl neu ar absenoldeb di-dâl cysylltiedig â phlentyn neu ar anghydfod undebol, a P wedi bod yn aelod actif yn union cyn dechrau’r absenoldeb neu’r anghydfod undebol hwnnw;
(c)os yw P ar absenoldeb awdurdodedig di-dâl a’r rheolwr cynllun yn caniatáu trin P fel aelod actif; neu
(d)os yw P ar absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn a P wedi bod yn aelod actif yn union cyn dechrau’r absenoldeb hwnnw.
29. Mae person (P) yn aelod gohiriedig o’r cynllun hwn mewn perthynas â chyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy—
(a)os yw P yn peidio â bod yn aelod actif o’r cynllun hwn mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw o wasanaeth, cyn bo P yn hawlio pensiwn o dan y cynllun hwn mewn cysylltiad â’r cyfnod hwnnw o wasanaeth pensiynadwy;
(b)os nad yw P yn aelod-bensiynwr o’r cynllun hwn mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw o wasanaeth; ac
(c)os oes gan P dri mis o leiaf o wasanaeth cymwys neu os oes taliad gwerth trosglwyddiad, ac eithrio taliad o’r fath allan o gynllun pensiwn galwedigaethol arall, wedi ei dderbyn gan y cynllun hwn mewn perthynas â P.
30. Mae person yn aelod â chredyd pensiwn o’r cynllun hwn os rhoddwyd i’r person hwnnw gredyd pensiwn yn y cynllun o ganlyniad i ddebyd pensiwn a grëwyd o dan adran 29 o DDLlPh 1999 mewn perthynas ag aelod o’r cynllun hwn.