xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 12CYMORTH AT GYRSIAU RHAN-AMSER

Grantiau at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl

93.—(1Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl, i helpu gyda’r gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod yn ofynnol i’r myfyriwr ei ysgwyddo, mewn cysylltiad ag ymgymryd ohono â chwrs rhan-amser dynodedig, oherwydd anabledd sydd gan y myfyriwr rhan-amser cymwys.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), swm y grant y mae hawl gan fyfyriwr rhan-amser cymwys i’w gael o dan y rheoliad hwn yw’r swm sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

(3Rhaid i swm y grant beidio â bod yn fwy na’r canlynol—

(a)£15,885 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;

(b)£5,332 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;

(c)y gwariant ychwanegol sy’n cael ei ysgwyddo—

(i)yn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol yn y sefydliad;

(ii)yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o gwrs y myfyriwr rhan-amser cymwys, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad tramor neu at ddiben bod yn bresennol yn yr Athrofa;

(d)£1,338 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant sy’n cael ei ysgwyddo at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy’n fwy na’r uchafsymiau penodedig.

(4Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), mae grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl yn daladwy i fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.

(5Pan fo grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol (o fewn ystyr paragraff (3)(b)) caiff fod yn daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd gyfan.

(6Pan fo rheoliad 87(3) yn gymwys, dim ond at y dibenion a bennir ym mharagraff (3)(a), (c) a (d) mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol yn rheoliad 87(4) ddigwydd y caiff myfyriwr rhan-amser cymwys fod â hawl i gael grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl.

(7Yn ddarostyngedig i baragraff (8), nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl i gael grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl os yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn garcharor.

(8Nid yw paragraff (7) yn gymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd pryd y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar.

(9Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys nad yw’n fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl i gael grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig os yw’r dwysedd astudio yn ystod y flwyddyn honno yn llai na 50 y cant.

(10Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl i gael grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig os yw’r dwysedd astudio yn ystod y flwyddyn honno yn llai na 25 y cant.

(11At ddibenion paragraffau (9) a (10), mae’r dwysedd astudio yn ystod blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig i’w gyfrifo yn unol â rheoliad 90(2) a (3).