- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (13), mae Rheoliadau 2013 wedi eu dirymu ar 1 Medi 2014.
(2) Mae Rheoliadau 2003 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2003 ond cyn 1 Medi 2004.
(3) Mae Rheoliadau 2004 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2004 ond cyn 1 Medi 2005.
(4) Mae Rheoliadau 2005 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2005 ond cyn 1 Medi 2006.
(5) Mae Rheoliadau 2006 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ond cyn 1 Medi 2007.
(6) Mae Rheoliadau 2007 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2007 ond cyn 1 Medi 2008.
(7) Mae Rheoliadau 2008 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2008 ond cyn 1 Medi 2009.
(8) Mae Rheoliadau (Rhif 2) 2008 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2009 ond cyn 1 Medi 2010.
(9) Mae Rheoliadau 2009 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011.
(10) Mae Rheoliadau 2011 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2011 ond cyn 1 Medi 2012.
(11) Mae Rheoliadau (Rhif 2) 2011 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012 ond cyn 1 Medi 2013.
(12) Mae Rheoliadau 2012 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2013 ond cyn 1 Medi 2014.
(13) Mae Rheoliadau 2013 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2014 ond cyn 1 Medi 2015.
(14) At ddibenion paragraffau (2) i (4), mae unrhyw gyfeiriad at yr Ysgrifennydd Gwladol o ran unrhyw swyddogaeth a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan y Rheoliadau y cyfeirir atynt yn y paragraffau hynny, i’w ddarllen o ran Cymru fel cyfeiriad at—
(a)Gweinidogion Cymru, yn achos swyddogaeth y cyfeirir ati yn adran 44(1) o Ddeddf Addysg Uwch 2004(1); neu
(b)Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol, yn achos swyddogaeth y cyfeirir ati yn adran 44(2) o Ddeddf Addysg Uwch 2004.
(15) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2014 pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl 1 Medi 2014.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: