- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
28.—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys, mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr cymwys ar gwrs dynodedig, hawl i gael grant gofal plant yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), mae’r grant gofal plant ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr cymwys yn ysgwyddo costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant ynddi a hynny ar gyfer—
(a)plentyn dibynnol sydd o dan 15 oed yn union cyn dechrau’r flwyddyn academaidd, gan gynnwys plentyn dibynnol a enir ar ôl i’r flwyddyn academaidd ddechrau; neu
(b)plentyn dibynnol sydd ag anghenion addysgol arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special educational needs” yn adran 312 o Ddeddf Addysg 1996(1) ac sydd o dan 17 oed yn union cyn dechrau’r flwyddyn academaidd, gan gynnwys plentyn dibynnol a enir ar ôl i’r flwyddyn academaidd ddechrau.
(3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn—
(a)os yw’r myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys wedi dewis cael yr elfen gofal plant o’r credyd treth gweithio o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002(2);
(b)os oes gan y myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys hawlogaeth i gael dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys swm o dan reoliad 31 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013 (elfen costau gofal plant)(3); neu
(c)os yw partner y myfyriwr cymwys wedi dewis cael cymorth ariannol at ofal plant o dan fwrsari gofal iechyd.
(4) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw’r costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant y mae’n eu hysgwyddo’n cael eu talu, neu os ydynt i’w talu, gan y myfyriwr i bartner y myfyriwr cymwys.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraffau (6), (7) ac (8), swm sylfaenol y grant gofal plant am bob wythnos yw—
(a)ar gyfer un plentyn dibynnol, 85 y cant o gostau rhagnodedig ar gyfer gofal plant, hyd at uchafswm o £161.50 yr wythnos; neu
(b)ar gyfer dau neu fwy o blant dibynnol, 85 y cant o gostau rhagnodedig ar gyfer gofal plant, hyd at uchafswm o £274.55 yr wythnos,
ac eithrio nad oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael unrhyw grant o’r fath mewn perthynas â phob wythnos sy’n dod o fewn y cyfnod rhwng diwedd y cwrs a diwedd y flwyddyn academaidd y daw’r cwrs i ben ynddi.
(6) Er mwyn cyfrifo swm sylfaenol y grant gofal plant—
(a)mae wythnos yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sul; a
(b)os yw wythnos yr ysgwyddir costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant mewn perthynas â hi yn dod yn rhannol o fewn y flwyddyn academaidd y mae grant gofal plant yn daladwy mewn perthynas â hi o dan y rheoliad hwn ac yn rhannol y tu allan i’r flwyddyn academaidd honno, cyfrifir uchafswm wythnosol y grant drwy luosi’r uchafswm wythnosol perthnasol ym mharagraff (5) â nifer y dyddiau yn yr wythnos honno sy’n dod o fewn y flwyddyn academaidd a rhannu’r canlyniad â saith.
(7) Pan na fo cais myfyriwr cymwys am grant gofal plant yn nodi darparwr gofal plant, caiff Gweinidogion Cymru—
(a)cyfyngu ar swm y grant gofal plant a delir i’r myfyriwr i 85 y cant o’r costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant hyd at uchafswm o £115 yr wythnos; a
(b)cyfyngu ar y taliad o’r grant gofal plant i un chwarter o’r flwyddyn academaidd.
(8) Yn ddarostyngedig i baragraff (9), mae grant gofal plant yn daladwy i fyfyriwr cymwys mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.
(9) Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 24(13) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, dim ond mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd y caiff myfyriwr cymwys fod â hawl i gael grant gofal plant.
1996 p. 56; diwygiwyd adran 312 gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), Atodlen 7, paragraff 23 ac Atodlen 8, Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140, Atodlen 30, paragraff 71 ac Atodlen 31, Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 59 ac Atodlen 2, Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), Atodlen 3 ac O.S. 2010/1158.
2002 p. 21 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: