ATODLEN 1Myfyrwyr Cymwys
RHAN 1Dehongli
1
1
At ddibenion yr Atodlen hon—
ystyr “aelod o deulu” (“family member”) (oni nodir fel arall) yw—
- a
o ran gweithiwr ffin yr AEE, gweithiwr mudol o’r AEE, person hunangyflogedig ffin yr AEE neu berson hunangyflogedig o’r AEE—
- i
priod y person neu ei bartner sifil;
- ii
disgynyddion uniongyrchol y person neu ddisgynyddion priod neu bartner sifil y person sydd—
- aa
o dan 21 oed; neu
- bb
yn ddibynyddion y person neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y person; neu
- aa
- iii
perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y person neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y person;
- i
- b
o ran person cyflogedig Swisaidd, person cyflogedig ffin y Swistir, person hunangyflogedig ffin y Swistir neu berson hunangyflogedig Swisaidd—
- i
priod y person neu ei bartner sifil; neu
- ii
plentyn y person neu blentyn priod neu bartner sifil y person;
- i
- c
o ran gwladolyn o’r UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38—
- i
priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu
- ii
disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn sydd—
- aa
o dan 21 oed; neu
- bb
yn ddibynyddion y gwladolyn neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y gwladolyn;
- aa
- i
- d
o ran gwladolyn o’r UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38—
- i
priod neu bartner sifil y gwladolyn;
- ii
disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn sydd—
- aa
o dan 21 oed; neu
- bb
yn ddibynyddion y gwladolyn neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu
- aa
- iii
perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y gwladolyn neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y gwladolyn;
- i
- e
o ran gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 9—
- i
priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu
- ii
disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn sydd—
- aa
o dan 21 oed; neu
- bb
yn ddibynyddion y gwladolyn neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y gwladolyn;
- aa
- i
- a
ystyr “Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economic Area”) yw’r ardal a ffurfir gan y Gwladwriaethau AEE;
ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw’r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a’i Haelod-wladwriaethau, o’r naill ran, a Chydffederasiwn y Swistir, o’r rhan arall, ar Symud Rhydd Personau a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 199994 ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;
ystyr “gweithiwr” yw “worker” o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl fel y digwydd;
ystyr “gweithiwr mudol o’r AEE” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn o’r AEE sy’n weithiwr, ac eithrio gweithiwr ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “gweithiwr ffin yr AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn o’r AEE—
- a
sy’n weithiwr yng Nghymru; a
- b
sy’n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl fel y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
- a
ystyr “gwladolyn o’r AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn o Wladwriaeth yn yr AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig;
ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Aelod-wladwriaeth o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd;
ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
ystyr “person cyflogedig Swisaidd” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson cyflogedig, ac eithrio person cyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “person cyflogedig ffin y Swistir” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—
- a
yn berson cyflogedig yng Nghymru; a
- b
yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl fel y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
- a
ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person”) yw—
- a
o ran gwladolyn o’r AEE, person sy’n hunangyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl fel y digwydd; neu
- b
o ran gwladolyn Swisaidd, person sy’n berson hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
- a
ystyr “person hunangyflogedig o’r AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn o’r AEE sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “person hunangyflogedig ffin yr AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwladolyn o’r AEE sydd—
- a
yn berson hunangyflogedig yng Nghymru; a
- b
yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl fel y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
- a
ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “person hunangyflogedig ffin y Swistir” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—
- a
yn berson hunangyflogedig yng Nghymru; a
- b
yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth EEA ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth EEA honno, yn ôl fel y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
- a
mae i “wedi setlo” yr ystyr a roddir i “settled” gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 197195.
2
At ddibenion yr Atodlen hon, mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson sydd â gofal am blentyn ac mae “plentyn” (“child”) i’w ddehongli yn unol â hynny.
3
At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu yn yr Ynysoedd, o ganlyniad i fod wedi symud o un arall o’r ardaloedd hynny at ddiben ymgymryd ag—
a
y cwrs presennol, y cwrs dysgu o bell presennol, y cwrs rhan-amser presennol neu’r cwrs ôl-radd presennol; neu
b
gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, cwrs yr ymgymerodd y myfyriwr ag ef yn syth cyn ymgymryd â’r cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (a),
i’w ystyried yn berson sy’n preswylio’n arferol yn y lle y mae’r person wedi symud ohono.
4
At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“A” yn yr is-baragraff hwn) i gael ei drin fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci pe byddai A wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—
a
A;
b
priod neu bartner sifil A;
c
rhiant A; neu
d
yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, plentyn A neu briod neu bartner sifil plentyn A,
yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu’r diriogaeth a ffurfir gan Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci.
5
At ddibenion is-baragraff (4), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd y Swistir a Thwrci yn cynnwys—
a
yn achos aelodau o luoedd rheolaidd y llynges, y fyddin neu’r llu awyr y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel aelodau o’r cyfryw luoedd; a
b
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth EEA neu’r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir fel aelodau o’r cyfryw luoedd.
c
yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sydd yn ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci fel aelodau o’r cyfryw luoedd.
6
At ddibenion yr Atodlen hon mae ardal—
a
nad oedd gynt yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd neu’r Ardal Economaidd Ewropeaidd; ond
b
sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym wedi dod yn rhan o’r naill neu’r llall, neu o’r ddwy, o’r ardaloedd hyn,
i’w hystyried fel pe bai wastad wedi bod yn rhan o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.
7
At ddibenion yr Atodlen hon, ystyrir bod carcharor cymwys yn preswylio fel arfer yn y rhan o’r Deyrnas Unedig lle yr oedd y carcharor yn preswylio cyn cael ei ddedfrydu.