Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Chwefror 2015 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio pan fo’r cyd-destun yn mynnu fel arall—

ystyr “a ariennir yn gyhoeddus” ac “a ariannwyd yn gyhoeddus” (“publicly funded”) yw cael ei gynnal neu ei gynorthwyo gan grantiau rheolaidd o’r cronfeydd cyhoeddus, ac mae ymadroddion perthynol i’w dehongli yn unol â hyn;

mae i “anabledd” yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010(1);

mae i “athro neu athrawes gymwysedig” ac “athro neu’n athrawes gymwysedig” yr ystyr a roddir i “qualified teacher” yn adran 132(1) o Ddeddf Addysg 2002(2);

ystyr “yr Athrofa” (“Institute”) yw Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis(3);

ystyr “awdurdod academaidd” (“academicauthority”), mewn perthynas â sefydliad, yw’r corff llywodraethu neu’r corff arall sydd â swyddogaethau corff llywodraethu ac mae’n cynnwys person sy’n gweithredu gydag awdurdod y corff hwnnw;

ystyr “benthyciad” (“loan”), ac eithrio lle nodir fel arall, yw benthyciad yn unol ag unrhyw reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998, gan gynnwys y llog sy’n crynhoi ar y benthyciad ac unrhyw gosbau neu daliadau a ysgwyddir mewn cysylltiad ag ef;

ystyr “benthyciad at ffioedd” (“fee loan”) yw benthyciad ar gyfer ffioedd sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn unol â Rhan 4;

ystyr “benthyciad at ffioedd coleg” (“college fee loan”) yw benthyciad at ffioedd coleg sy’n daladwy i fyfyriwr cymhwysol yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

ystyr “benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam” (“accelerated graduate entry fee loan”) yw benthyciad sy’n daladwy gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 23;

ystyr “benthyciad at gostau byw” (“loan for living costs”) yw benthyciad at gostau byw yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

ystyr “benthyciad newydd at ffioedd” (“new fee loan”) yw benthyciad sy’n daladwy gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 21;

ystyr “benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser” (“new part-time fee loan”) yw benthyciad sy’n daladwy gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 91;

ystyr “benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat” (“new private institution fee loan”) yw benthyciad sy’n daladwy gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 22;

ystyr “benthyciwr” (“borrower”) yw person y mae benthyciad wedi ei roi iddo;

ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw—

(a)

mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs ac eithrio blwyddyn gyntaf cwrs blwyddyn gyntaf gywasgedig, y cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Medi yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi, yn ôl a yw’r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr a chyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill a chyn 1 Gorffennaf, ar neu ar ôl 1 Gorffennaf a chyn 1 Awst neu ar neu ar ôl 1 Awst ac ar neu cyn 31 Rhagfyr, yn y drefn honno; neu

(b)

mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn gyntaf cwrs blwyddyn gyntaf gywasgedig, y cyfnod o wyth mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Medi yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi, yn ôl a yw’r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr a chyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill a chyn 1 Gorffennaf, ar neu ar ôl 1 Gorffennaf a chyn 1 Awst neu ar neu ar ôl 1 Awst ac ar neu cyn 31 Rhagfyr, yn y drefn honno;

ystyr “blwyddyn bwrsari” (“bursary year”) yw blwyddyn academaidd cwrs, y mae’r myfyriwr yn gymwys i wneud cais am fwrsari gofal iechyd neu lwfans gofal iechyd yr Alban mewn perthynas â hi, a chaiff swm y bwrsari neu lwfans ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr, boed swm y cyfrifiad yn ddim ai peidio;

ystyr “blwyddyn Erasmus” (“Erasmus year”) yw blwyddyn academaidd cwrs pryd y bydd myfyriwr yn cymryd rhan yng nghynllun gweithredu’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol a elwir ERASMUS(4) a bod cwrs y myfyriwr yn gwrs y cyfeirir ato yn rheoliad 5(1)(e) ac―

(a)

pan ddechreuodd y cwrs cyn 1 Medi 2012, bod pob cyfnod astudio neu leoliad gwaith yn ystod y flwyddyn academaidd wedi’i fynychu mewn sefydliad neu weithle y tu allan i’r Deyrnas Unedig;

(b)

pan fo’r cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012 a’i fod yn cael ei ddarparu gan sefydliad yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon, bod pob cyfnod astudio neu leoliad gwaith yn ystod y flwyddyn academaidd yn cael ei fynychu mewn sefydliad neu weithle y tu allan i’r Deyrnas Unedig; neu

(c)

pan fo’r cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012 a’i fod yn cael ei ddarparu gan sefydliad yng Nghymru neu Loegr—

(i)

bod o leiaf un cyfnod astudio neu leoliad gwaith yn ystod y flwyddyn academaidd yn cael ei fynychu mewn sefydliad neu weithle y tu allan i’r Deyrnas Unedig; a

(ii)

naill ai—

(aa)

mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno, bod cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu

(bb)

mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol y cwrs, bod cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos;

ystyr “bwrsari gofal iechyd” (“healthcarebursary”) yw bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg o dan adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968(5) neu Erthygl 44 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972(6);

ystyr “bwrsari gofal iechyd cyffredinol” (“universal healthcare bursary”) yw bwrsari gofal iechyd o £1,000—

(a)

sy’n daladwy i fyfyriwr carfan 2012 neu i fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012; a

(b)

mewn perthynas â myfyriwr carfan 2012, nas cyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr hwnnw; neu

(c)

mewn perthynas â myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012, nas cyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr hwnnw;

ystyr “carcharor” (“prisoner”) yw person sy’n bwrw dedfryd mewn carchar yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys person sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn sefydliad troseddwyr ifanc;

ystyr “carcharor cymwys” (“eligible prisoner”) yw carcharor—

(a)

sy’n dechrau’r cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2012;

(b)

sydd wedi ei awdurdodi gan Lywodraethwr neu Gyfarwyddwr y carchar neu awdurdod priodol arall i astudio’r cwrs presennol;

(c)

y mae ei ddyddiad rhyddhau cynharaf o fewn 6 mlynedd i ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol;

(d)

nad yw wedi trosglwyddo i’r cwrs presennol o dan reoliad 8 o gwrs sy’n dechrau cyn 1 Medi 2012; ac

(e)

nad yw’n dechrau cwrs penben ar neu ar ôl 1 Medi 2012;

ystyr “carcharor rhan-amser cymwys” (“eligible part-time prisoner”) yw carcharor—

(a)

sy’n dechrau’r cwrs rhan-amser presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2014;

(b)

sydd wedi ei awdurdodi gan Lywodraethwr neu Gyfarwyddwr y carchar neu awdurdod priodol arall i astudio’r cwrs rhan-amser presennol;

(c)

y mae ei ddyddiad rhyddhau cynharaf o fewn 6 mlynedd i ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs rhan-amser presennol; a

(d)

nad yw wedi trosglwyddo i’r cwrs rhan-amser presennol o dan reoliad 107 o gwrs sy’n dechrau cyn 1 Medi 2014;

ystyr “ceisydd” (“applicant”), mewn perthynas â pherson sy’n gwneud cais am gymorth taladwy o dan y Rheoliadau hyn i―

(a)

myfyriwr cymwys, yw person sy’n gwneud cais o dan reoliad 9;

(b)

myfyriwr dysgu o bell cymwys, yw person sy’n gwneud cais o dan reoliad 77;

(c)

myfyriwr rhan-amser cymwys, yw person sy’n gwneud cais o dan reoliad 104; a

(d)

myfyriwr ôl-raddedig cymwys, yw person sy’n gwneud cais o dan reoliad 120;

ystyr “costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant” (“prescribed childcare charges”) yw costau gofal plant o ddisgrifiad a ragnodir at ddibenion adran

12 o Ddeddf Credydau Treth 2002(7);

ystyr “credyd cynhwysol” (“universal credit”) yw credyd cynhwysol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012(8);

ystyr “cronfeydd cyhoeddus” (“publicfunds”) yw arian a ddarperir gan Senedd y Deyrnas Unedig gan gynnwys arian o gronfeydd a ddarperir gan Weinidogion Cymru;

ystyr “cwrs addysg uwch” (“higher education course”) yw cwrs y cyfeirir ato yn Atodlen 2 neu gwrs i ôl-raddedigion neu gwrs arall y mae ei safon yn uwch na safon cwrs gradd gyntaf;

mae “cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon” (“course for the initial training of teachers”) yn cynnwys cwrs o’r fath sy’n arwain at radd gyntaf oni nodir yn wahanol ond nid yw’n cynnwys cynllun hyfforddi athrawon sydd wedi ei seilio ar gyflogaeth;

ystyr “cwrs blwyddyn gyntaf gywasgedig” (“compressed first year course”) yw cwrs dynodedig—

(a)

sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2013;

(b)

pan ymgymerir â blwyddyn gyntaf y cwrs ar sail gywasgedig a bod modd ei chwblhau mewn cyfnod o ddim mwy na saith mis; ac

(c)

pan nad ymgymerir ag unrhyw flynyddoedd eraill ar y cwrs ar y sail gywasgedig honno;

ystyr “cwrs carlam” (“acceleratedcourse”) yw cwrs sy’n parhau am ddwy flynedd, a’r sefydliad sy’n ei ddarparu yn ei gwneud yn ofynnol fel rheol bod y personau sy’n cymryd y cwrs yn bresennol (boed ym mangre’r sefydliad ynteu mewn man arall) am gyfnod o 40 wythnos o leiaf yn y flwyddyn derfynol;

ystyr “cwrs cymhwysol” (“qualifying course”) yw cwrs dynodedig llawnamser a ddarperir gan Brifysgol Rhydychen neu Brifysgol Caergrawnt a hwnnw’n gwrs—

(a)

sy’n arwain at gymhwyster gweithiwr cymdeithasol, meddyg, deintydd, milfeddyg neu bensaer;

(b)

sy’n arwain, os yw wedi dechrau cyn 1 Medi 2009, at gymhwyster fel pensaer tirwedd, dylunydd tirwedd, rheolwr tirwedd, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref; neu

(c)

sy’n cynnwys o leiaf un flwyddyn academaidd sy’n flwyddyn bwrsari;

ystyr “cwrs dwys” (“intensive course”) yw cwrs carlam neu gwrs gradd cywasgedig;

ystyr “cwrs dynodedig” (“designated course”) yw cwrs a ddynodwyd gan reoliad 5 neu gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 5;

mae i “cwrs dynodedig a bennir” (“specified designated course”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (7);

ystyr “cwrs dysgu o bell” (“distance learning course”) yw cwrs llawnamser sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012 ac nad yw’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr sy’n ymgymryd â’r cwrs fod yn bresennol mewn perthynas ag ef, ac eithrio er mwyn bodloni unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad—

(a)

at ddibenion cofrestru, ymrestru neu unrhyw arholiad; neu

(b)

ar benwythnos neu yn ystod unrhyw wyliau;

ystyr “cwrs dysgu o bell dynodedig” (“designated distance learning course”) yw cwrs a ddynodwyd gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 71;

ystyr “cwrs dysgu o bell presennol” (“present distance learning course”) yw’r cwrs dysgu o bell dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef o dan reoliad 77;

ystyr “cwrs dysgu o bell rhan-amser” (“part-time distance learning course”) yw cwrs rhan-amser dynodedig lle nad yw’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr sy’n ymgymryd â’r cwrs fod yn bresennol mewn perthynas ag ef, ac eithrio er mwyn bodloni unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad—

(a)

at ddibenion cofrestru, ymrestru neu unrhyw arholiad; neu

(b)

ar benwythnos neu yn ystod unrhyw wyliau;

ystyr “cwrs gradd cywasgedig” (“compressed degree course”) yw cwrs y dyfernir gan yr Ysgrifennydd Gwladol ei fod yn gwrs gradd cywasgedig;

ystyr “cwrs HCA hyblyg i ôl-raddedigion” (“flexible postgraduate ITT course”) yw cwrs ôl-radd o hyfforddiant cychwynnol athrawon, y mae ei hyd a’i batrwm yn cael eu pennu drwy gyfeirio at brofiad ac anghenion hyfforddi’r myfyriwr cymwys a hwnnw’n gwrs sydd wedi ei gymeradwyo gan yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion(9), yr Ysgrifennydd Gwladol neu Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru(10), a’r cwrs naill ai—

(a)

wedi dechrau cyn 1 Medi 2010;

(b)

yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a’r myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu

(c)

yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a’r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs;

ystyr “cwrs mynediad graddedig carlam” (“accelerated graduate entry course”) yw cwrs—

(a)

nad yw ei safon yn uwch na safon gradd gyntaf ac sy’n arwain at gymhwyster fel doctor meddygol neu ddeintydd;

(b)

y byddai gradd gyntaf neu gymhwyster cyfwerth fel arfer yn ofynnol ar gyfer mynediad i’r cwrs;

(c)

sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012; a

(d)

nad yw’n parhau’n hwy na 4 blynedd;

ystyr “cwrs ôl-radd dynodedig” (“designated postgraduate course”) yw cwrs sydd wedi ei ddynodi gan reoliad 117(1) neu gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 117(4);

ystyr “cwrs ôl-radd presennol” (“present postgraduate course”) yw’r cwrs ôl-radd dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad ag ef o dan reoliad 120;

ystyr “cwrs penben” (“end-on course”) yw—

(a)

cwrs gradd gyntaf llawnamser (ac eithrio cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) a hwnnw’n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar gwrs llawnamser a restrir ym mharagraff 2, 3 neu 4 o Atodlen 2 ac y mae’r myfyriwr wedi cael cymorth o dan Reoliadau 2006, 2007, 2008, 2008 (Rhif 2), 2009, 2011, 2011 (Rhif 2), 2012 neu 2013 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o’r rhain ar ei gyfer;

(b)

cwrs gradd anrhydedd llawnamser y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar gwrs gradd sylfaen llawnamser neu gwrs gradd arferol llawnamser ac y mae’r myfyriwr wedi cael cymorth o dan Reoliadau 2006, 2007, 2008, 2008 (Rhif 2), 2009, 2011, 2011 (Rhif 2), 2012 neu 2013 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o’r rhain ar ei gyfer;

(c)

cwrs gradd gyntaf rhan-amser (ac eithrio cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) a hwnnw’n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar gwrs rhan-amser a restrir ym mharagraff 2, 3 neu 4 o Atodlen 2 ac y mae’r myfyriwr wedi cael cymorth o dan Reoliadau 2006, 2007, 2008, 2008 (Rhif 2), 2009, 2011, 2011 (Rhif 2), 2012 neu 2013 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o’r rhain ar ei gyfer;

(d)

cwrs gradd anrhydedd rhan-amser y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar gwrs gradd sylfaen rhan-amser neu gwrs gradd arferol rhan-amser y mae’r myfyriwr wedi cael cymorth o dan Reoliadau 2006, 2007, 2008, 2008 (Rhif 2), 2009, 2011, 2011 (Rhif 2), 2012 neu 2013 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o’r rhain ar ei gyfer;

(e)

cwrs gradd gyntaf dysgu o bell (ac eithrio cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) a hwnnw’n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar gwrs dysgu o bell dynodedig a restrir ym mharagraff 2, 3 neu 4 o Atodlen 2 ac y mae’r myfyriwr wedi cael cymorth o dan Reoliadau 2006, 2007, 2008, 2008 (Rhif 2), 2009, 2011, 2011 (Rhif 2), 2012 neu 2013 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o’r rhain ar ei gyfer;

(f)

cwrs gradd anrhydedd dysgu o bell y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar gwrs gradd sylfaen dysgu o bell dynodedig neu gwrs gradd arferol dysgu o bell dynodedig y mae’r myfyriwr wedi cael cymorth o dan Reoliadau 2006, 2007, 2008, 2008 (Rhif 2), 2009, 2011, 2011 (Rhif 2), 2012 neu 2013 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o’r rhain ar ei gyfer;

ystyr “cwrs presennol” (“present course”) yw’r cwrs dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef o dan reoliad 9;

ystyr “cwrs rhagarweiniol” (“preliminary course”) yw cwrs a restrir ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 2 ac yr ymgymerir ag ef cyn ymgymryd â chwrs gradd llawnamser (ac eithrio cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) neu gwrs gradd sylfaen yr ymgymerir ag ef cyn ymgymryd â chwrs gradd anrhydedd llawnamser, yn ôl fel y digwydd;

ystyr “cwrs rhan-amser dynodedig” (“designated part-time course”) yw cwrs sydd wedi ei ddynodi gan reoliad 88(1) neu gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 88(6);

ystyr “cwrs rhan-amser presennol” (“present part-time course”) yw’r cwrs rhan-amser dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad ag ef o dan reoliad 104;

mae i “cwrs rhyngosod” (“sandwichcourse”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (6);

ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“2004/38 Directive”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor(11) ar hawl dinasyddion yr Undeb ac aelodau o’u teuluoedd i symud ac i fyw’n ddilyffethair yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau;

ystyr “cyfnod arferol” (“ordinary duration”), o ran cwrs dynodedig, yw nifer y blynyddoedd academaidd y byddai myfyriwr safonol yn eu cymryd i gwblhau’r cwrs dynodedig;

ystyr “cyfnodau o brofiad gwaith” (“periods of work experience”) yw—

(a)

cyfnodau o brofiad diwydiannol, proffesiynol neu fasnachol sy’n gysylltiedig ag astudiaethau llawnamser mewn sefydliad ond mewn man y tu allan i’r sefydliad hwnnw;

(a)

cyfnodau pryd y caiff myfyriwr ei gyflogi ac y bydd yn preswylio mewn gwlad y mae ei hiaith yn un y mae’r myfyriwr yn ei hastudio ar gyfer cwrs y myfyriwr (ar yr amod bod y cyfnod o breswylio yn y wlad honno yn un o ofynion cwrs y myfyriwr a bod astudio un neu fwy o ieithoedd modern yn cyfrif am nid llai na hanner cyfanswm yr amser a dreulir yn astudio ar y cwrs);

ystyr “cyfraniad” (“contribution”), o ran—

(a)

myfyriwr cymwys, yw cyfraniad y myfyriwr wedi ei gyfrifo yn unol â rheoliad 60 ac Atodlen 5;

(b)

myfyriwr rhan-amser cymwys, yw cyfraniad y myfyriwr wedi ei gyfrifo yn unol â rheoliad 101 ac Atodlen 6;

ystyr “Cyngor Ymchwil” (“ResearchCouncil”) yw unrhyw un o’r cynghorau ymchwil canlynol—

(a)

Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau,

(b)

Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol,

(c)

Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol,

(d)

Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol,

(e)

Y Cyngor Ymchwil Feddygol,

(f)

Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol,

(g)

Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg;

ystyr “cymorth” (“support”), ac eithrio pan ddynodir yn wahanol, yw cymorth ariannol ar ffurf grant neu fenthyciad a roddir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliadau a wnaed ganddynt o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

ystyr “cymorth at ffioedd” (“fee support”) yw grantiau mewn perthynas â ffioedd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998 ac mae’n cynnwys benthyciadau at ffioedd mewn perthynas â ffioedd o dan Ran 4;

ystyr “cyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd” (“former Metropolitan Police District”) yw—

(a)

Llundain Fwyaf, heb gynnwys dinas Llundain, y Deml Fewnol a’r Deml Ganol;

(b)

yn swydd Essex, yn nosbarth Epping Forest—

  • ardal cyn ddosbarth trefol Chigwell,

  • plwyf Waltham Abbey;

(c)

yn swydd Hertford—

  • ym mwrdeistref Broxbourne, ardal cyn ddosbarth trefol Cheshunt,

  • dosbarth Hertsmere,

  • yn nosbarth Welwyn Hatfield, plwyf Northaw; a

(d)

yn swydd Surrey—

  • ym mwrdeistref Elmbridge, ardal cyn ddosbarth trefol Esher,

  • bwrdeistrefi Epsom ac Ewell a Spelthorne,

  • yn nosbarth Reigate a Banstead, ardal cyn ddosbarth trefol Banstead;

ystyr “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” (“council tax reduction scheme”) yw cynllun a wnaed gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013(12) neu sy’n gymwys yn ddiofyn(13) yn unol â pharagraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(14);

ystyr “cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth” (“employment-based teacher training scheme”) yw—

(a)

cynllun a sefydlwyd gan Weinidogion Cymru at ddiben rheoliad 8 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004(15) neu at ddiben rheoliad 8 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012(16) sy’n caniatáu i berson ymgymryd â hyfforddiant cychwynnol athrawon er mwyn ennill statws athro neu athrawes gymwysedig tra bo’n cael ei gyflogi i addysgu mewn ysgol a gynhelir, ysgol annibynnol neu sefydliad arall ac eithrio uned cyfeirio disgyblion; neu

(b)

cynllun a sefydlwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n caniatáu i berson ymgymryd â hyfforddiant cychwynnol athrawon er mwyn ennill statws athro neu athrawes gymwysedig tra bo’n cael ei gyflogi i addysgu mewn ysgol, coleg dinas, Academi, ysgol annibynnol neu sefydliad arall ac eithrio uned cyfeirio disgyblion;

ystyr “chwarter” (“quarter”) mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw cyfnod yn y flwyddyn honno—

(a)

sy’n dechrau ar 1 Ionawr ac sy’n diweddu ar 31 Mawrth;

(b)

sy’n dechrau ar 1 Ebrill ac sy’n diweddu ar 30 Mehefin;

(c)

sy’n dechrau ar 1 Gorffennaf ac sy’n diweddu ar 31 Awst; neu

(d)

sy’n dechrau ar 1 Medi ac sy’n diweddu ar 31 Rhagfyr;

ystyr “Deddf 1962” (“the 1962 Act”) yw Deddf Addysg 1962(17);

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;

ystyr “dyfarniad statudol” (“statutoryaward”) unrhyw ddyfarniad a roddir, unrhyw grant a delir neu unrhyw gymorth arall a ddarperir yn rhinwedd Deddf 1998 neu Ddeddf 1962, neu unrhyw ddyfarniad, grant neu gymorth arall cyffelyb mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs sy’n cael ei dalu o’r cronfeydd cyhoeddus;

ystyr “y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr” (“student loans legislation”) yw Deddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990(18), Gorchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990(19), Deddf Addysg (Yr Alban) 1980 a rheoliadau a wnaed o dan y Deddfau hynny neu’r Gorchymyn hwnnw, Gorchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998(20) a rheoliadau a wnaed o dan y Gorchymyn hwnnw neu Ddeddf 1998 a rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf 1998;

mae i “ffioedd” yr ystyr a roddir i “fees” yn adran 41(1) o Ddeddf Addysg Uwch 2004(21) ac eithrio mewn cyfeiriadau at ffioedd coleg;

ystyr “ffioedd coleg” (“college fees”) yw’r ffioedd sy’n daladwy gan fyfyriwr cymhwysol i goleg neu neuadd breifat barhaol ym Mhrifysgol Rhydychen neu i un o golegau Prifysgol Caergrawnt mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr cymhwysol ar gwrs cymhwysol;

ystyr “ffoadur” (“refugee”) yw person a gydnabuwyd gan lywodraeth Ei Mawrhydi fel ffoadur o fewn ystyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig sy’n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951(22) fel y’i hestynnwyd gan y Protocol iddo a ddaeth i rym ar 4 Hydref 1967(23);

ystyr “grant at deithio” (“grant for travel”) yw’r grant sy’n daladwy o dan reoliadau 33 i 35;

ystyr “grant at ffioedd” (“fee grant”) yw grant a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 16;

ystyr “grant at gostau byw” (“grant for living costs”) (heb ddim mwy) yw grant o dan unrhyw rai o ddarpariaethau Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn;

ystyr “grant at gostau byw myfyrwyr anabl” (“grant for disabled students’ living costs”) yw’r grant sy’n daladwy o dan reoliad 25;

ystyr “grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl” (“grant for disabled distance learning students’ living costs”) yw’r grant sy’n daladwy o dan reoliad 76;

ystyr “grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl” (“grant for disabled part-time students’ living costs”) yw’r grant sy’n daladwy o dan reoliad 93;

ystyr “grant cymorth arbennig” (“special support grant”) yw’r grant sy’n daladwy o dan reoliadau 40 i 43;

ystyr “grant cynhaliaeth” (“maintenance grant”) yw’r grant sy’n daladwy o dan reoliadau 36 i 39;

ystyr “grant dibynyddion mewn oed” (“adult dependants’ grant”) yw’r grant sy’n daladwy o dan reoliad 27;

ystyr “grant gofal plant” (“childcare grant”) yw’r grant sy’n daladwy o dan reoliad 28;

ystyr “grant newydd at ffioedd” (“new fee grant”) yw grant a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 17;

ystyr “grant newydd at gyrsiau rhan-amser” (“new part-time course grant”) yw grant sy’n daladwy gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 92;

ystyr “grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed” (“part-time adult dependants’ grant”) yw’r grant sy’n daladwy o dan reoliad 96;

ystyr “grant rhan-amser ar gyfer gofal plant” (“part-time childcare grant”) yw’r grant sy’n daladwy o dan reoliad 97;

ystyr “grantiau ar gyfer dibynyddion” (“grants for dependants”) yw’r grantiau a’r lwfans a restrir yn rheoliad 26(1);

ystyr “grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion” (“part-time grants for dependants”) yw’r grantiau a’r lwfans a restrir yn rheoliad 95(1);

ystyr “gweithiwr Twrcaidd” (“Turkishworker”) yw gwladolyn Twrcaidd—

(a)

sydd fel arfer yn preswylio yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd; a

(b)

sydd, neu sydd wedi bod, mewn cyflogaeth gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “gwladolyn o’r UE” (“EU national”) yw un o wladolion un o Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd;

mae “gwybodaeth” (“information”) yn cynnwys dogfennau;

ystyr “hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”) yw hawl sy’n deillio o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad;

mae “hen ddyfarniad” (“oldaward”) yn ddyfarniad o fewn ystyr “award” yn Rheoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 2003(24);

ystyr “hen gwrs ôl-radd hyblyg ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon” (“old flexible postgraduate course for the initial training of teachers”) yw cwrs HCA ôl-radd hyblyg y dechreuodd myfyriwr fod yn bresennol arno cyn 1 Medi 2008;

mae i’r ymadroddion “incwm yr aelwyd”, “incwm aelwyd” ac “incwm sydd gan yr aelwyd” (“household income”)—

(a)

o ran myfyriwr cymwys, yr ystyr a roddir iddynt yn Atodlen 5;

(b)

o ran myfyriwr rhan-amser cymwys, yr ystyr a roddir iddynt yn Atodlen 6;

ystyr “lwfans dysgu ar gyfer rhieni” (“parents’ learning allowance”) yw’r lwfans sy’n daladwy o dan reoliad 29;

ystyr “lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni” (“part-time parents’ learning allowance”) yw’r lwfans sy’n daladwy o dan reoliad 98;

ystyr “lwfans gofal iechyd yr Alban” (“Scottish healthcare allowance”) yw unrhyw lwfans o dan adrannau 73(f) a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(25) a roddwyd mewn perthynas â pherson sy’n bresennol ar gwrs sy’n arwain at gymhwyster mewn proffesiwn gofal iechyd ac eithrio fel doctor meddygol neu ddeintydd;

ystyr “llofnod electronig” (“electronicsignature”) yw cymaint o unrhyw beth ar ffurf electronig ag sydd—

(a)

wedi ei ymgorffori mewn unrhyw gyfathrebiad electronig neu ddata electronig neu sydd fel arall wedi ei gysylltu yn rhesymegol â hwy; a

(b)

yn honni ei fod wedi ei ymgorffori neu wedi ei gysylltu felly at ddiben cael ei ddefnyddio i gadarnhau bod y cyfathrebiad neu’r data yn ddilys, bod y cyfathrebiad neu’r data yn gyflawn, neu’r ddau;

mae i “myfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2006” (“2006gap year student”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (2);

mae i “myfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010” (“2010 gap year student”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (12);

mae i “myfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2011” (“2011 gap year student”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (16);

ystyr “myfyriwr carfan 2010” (“2010 cohort student”) yw myfyriwr cymwys a ddechreuodd ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2010 a chyn 1 Medi 2011, ac eithrio—

(a)

myfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010;

(b)

myfyriwr cymwys a ddechreuodd ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2010 a chyn 1 Medi 2011 pan fo’r cwrs hwnnw’n gwrs penben, sy’n dilyn ymlaen o gwrs y dechreuodd y myfyriwr arno—

(i)

cyn 1 Medi 2010; neu

(ii)

cyn 1 Medi 2011, a’r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs hwnnw; neu

(c)

myfyriwr cymwys a ddechreuodd ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2010 a chyn 1 Medi 2011 ac y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr cymwys i’r cwrs hwnnw o ganlyniad i un neu ragor o drosglwyddiadau o’r statws hwnnw gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998, o gwrs dynodedig y dechreuodd y myfyriwr arno—

(i)

cyn 1 Medi 2010; neu

(ii)

cyn 1 Medi 2011, a’r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs hwnnw;

ystyr “myfyriwr carfan 2011” (“2011 cohort student”) yw myfyriwr cymwys a ddechreuodd ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2011, ond cyn 1 Medi 2012, ac eithrio—

(a)

myfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2011;

(b)

myfyriwr cymwys a ddechreuodd ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2011 ond cyn 1 Medi 2012 pan fo’r cwrs hwnnw’n gwrs penben, sy’n dilyn ymlaen o gwrs—

(i)

y dechreuodd y myfyriwr arno cyn 1 Medi 2011; neu

(ii)

y dechreuodd y myfyriwr arno cyn 1 Medi 2012, a’r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2011 mewn perthynas â’r cwrs hwnnw; neu

(c)

myfyriwr cymwys a ddechreuodd ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2011 a chyn 1 Medi 2012 ac y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr cymwys i’r cwrs hwnnw o ganlyniad i un neu ragor o drosglwyddiadau o’r statws hwnnw gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998, o gwrs dynodedig y dechreuodd y myfyriwr arno—

(i)

cyn 1 Medi 2011; neu

(ii)

cyn 1 Medi 2012, a’r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2011 mewn perthynas â’r cwrs hwnnw;

ystyr “myfyriwr carfan 2012” (“2012 cohort student”) yw myfyriwr cymwys sy’n dechrau ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2012, ac eithrio—

(a)

myfyriwr cymwys a ddechreuodd ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2012 pan fo’r cwrs hwnnw’n gwrs penben, sy’n dilyn ymlaen o gwrs y dechreuodd y myfyriwr arno cyn 1 Medi 2012; neu

(b)

myfyriwr cymwys a ddechreuodd ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2012 ac y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr cymwys i’r cwrs hwnnw o ganlyniad i un neu ragor o drosglwyddiadau o’r statws hwnnw gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998, o gwrs dynodedig y dechreuodd y myfyriwr arno cyn 1 Medi 2012; neu

(c)

myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012;

ystyr “myfyriwr carfan newydd” (“new cohort student”) yw myfyriwr carfan 2010, myfyriwr carfan 2011 a myfyriwr carfan 2012;

ystyr “myfyriwr cwrs gradd cywasgedig” (“compressed degree student”) yw myfyriwr cymwys—

(a)

sy’n ymgymryd â chwrs gradd cywasgedig yn y Deyrnas Unedig (y “cwrs”);

(b)

naill ai sydd—

(i)

wedi dechrau ar y cwrs ar neu ar ôl i Medi 2006 ac sy’n parhau ar y cwrs hwnnw ar ôl 31 Awst 2013; neu

(ii)

yn dechrau ar y cwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2013; ac

(c)

y mae naill ai—

(i)

yn ofynnol iddo fod yn bresennol ar y cwrs am ran o’r flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais am gymorth ar ei chyfer o dan y Rheoliadau hyn; neu

(ii)

yn fyfyriwr cymwys anabl nad yw’n ofynnol iddo fod yn bresennol ar y cwrs, gan na all y myfyriwr hwnnw fod yn bresennol am reswm sy’n ymwneud ag anabledd y myfyriwr hwnnw;

ystyr “myfyriwr cymhwysol” (“qualifying student”) yw person sy’n bodloni’r amodau a nodir ym mharagraff 2 o Atodlen 4;

mae i “myfyriwr cymwys” (“eligible student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4;

ystyr “myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd” (“new system eligible student”) yw myfyriwr cymwys sydd naill ai—

(a)

wedi dechrau’r cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ac yn parhau ar y cwrs hwnnw ar ôl 31 Awst 2013; neu

(b)

yn dechrau’r cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2013;

mae i “myfyriwr dysgu o bell cymwys” (“eligible distance learning student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 69;

ystyr “myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon” (“type 1 teacher training student”) yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (ac eithrio cwrs gradd gyntaf) y mae cyfanswm ei gyfnodau o bresenoldeb llawnamser (gan gynnwys presenoldeb at ddiben ymarfer dysgu) yn y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi o dan y Rheoliadau hyn yn 6 wythnos o leiaf ond yn llai na 10 wythnos, pan fo’r cwrs naill ai—

(a)

wedi dechrau cyn 1 Medi 2010;

(b)

wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a’r myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu

(c)

wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a’r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs;

ystyr “myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon” (“type 2 teacher training student”) yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (ac eithrio cwrs gradd gyntaf) y mae cyfanswm ei gyfnodau o bresenoldeb llawnamser (gan gynnwys presenoldeb at ddiben ymarfer dysgu) yn y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi o dan y Rheoliadau hyn yn 10 wythnos neu fwy, pan fo’r cwrs naill ai—

(a)

wedi dechrau cyn 1 Medi 2010;

(b)

wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a’r myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu

(c)

wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a’r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs;

ystyr “myfyriwr math 3 ar gwrs hyfforddi athrawon” (“type 3 teacher training student”) yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd ar gwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon y mae cyfanswm ei gyfnodau o bresenoldeb llawnamser (gan gynnwys presenoldeb at ddiben ymarfer dysgu) yn y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi o dan y Rheoliadau hyn yn 6 wythnos o leiaf ond yn llai na 10 wythnos, pan fo’r cwrs naill ai—

(a)

wedi dechrau cyn 1 Medi 2010;

(b)

wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a’r myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu

(c)

wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a’r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs;

ystyr “myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012” (“2012 accelerated graduate entry student”) yw myfyriwr cymwys sy’n dechrau ar gwrs mynediad graddedig carlam ar neu ar ôl 1 Medi 2012;

mae i “myfyriwr ôl-raddedig cymwys” (“eligible postgraduate student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 115;

mae i “myfyriwr rhan-amser cymwys” (“eligible part-time student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 86;

ystyr “myfyriwr rhan-amser cymwys newydd” (“new eligible part-time student”) yw myfyriwr rhan-amser cymwys sy’n dechrau ar gwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2014, ac eithrio—

(a)

myfyriwr rhan-amser cymwys a ddechreuodd ar y cwrs rhan-amser presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2014 pan fo’r cwrs hwnnw’n gwrs penben, sy’n dilyn ymlaen o gwrs rhan-amser dynodedig y dechreuodd y myfyriwr arno cyn 1 Medi 2014; neu

(b)

myfyriwr rhan-amser cymwys a ddechreuodd ar y cwrs rhan-amser presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2014 ac y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr rhan-amser cymwys i’r cwrs rhan-amser hwnnw o ganlyniad i un neu ragor o drosglwyddiadau o’r statws hwnnw gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 107 o gwrs rhan-amser dynodedig y dechreuodd y myfyriwr arno cyn 1 Medi 2014;

mae “myfyriwr safonol” (“standard student”) yn fyfyriwr sydd i’w ystyried—

(a)

yn un sydd wedi dechrau ar y cwrs dynodedig ar yr un dyddiad â’r myfyriwr cymwys o dan sylw;

(b)

yn un nad esgusodir unrhyw ran o’r cwrs iddo;

(c)

yn un na chaiff ailadrodd unrhyw ran o’r cwrs; a

(d)

yn un na chaiff fod yn absennol o’r cwrs ac eithrio yn ystod gwyliau;

ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”) yw person (“A” yn y diffiniad hwn)—

(a)

sydd—

(i)

wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, o ganlyniad i’r cais hwnnw, y tybir, er yr ystyrir nad yw A yn gymwys i gael ei gydnabod fel ffoadur, ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn; neu

(ii)

heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn;

(b)

y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;

(c)

y mae cyfnod ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros heb ddod i ben nac wedi cael ei adnewyddu ac nad yw’r cyfnod y cafodd ei adnewyddu ar ei gyfer wedi dod i ben neu fod apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002(26) mewn perthynas â’i ganiatâd i ddod i mewn neu i aros; ac

(d)

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod er pan roddwyd caniatâd i A ddod i mewn neu i aros;

ystyr “Rheoliadau 1998” (“the 1998 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 1998(27);

ystyr “Rheoliadau 1999” (“the1999Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 1999(28);

ystyr “Rheoliadau 2000” (“the 2000 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2000(29);

ystyr “Rheoliadau 2001” (“the 2001 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2001(30);

ystyr “Rheoliadau 2002” (“the2002Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2002(31);

ystyr “Rheoliadau 2003” (“the 2003 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002(32) fel y’u diwygiwyd;

ystyr “Rheoliadau 2004” (“the 2004 Regulations”) yw Rheoliadau 2003 fel y’u diwygiwyd ymhellach(33);

ystyr “Rheoliadau 2005” (“the2005Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2005(34);

ystyr “Rheoliadau 2006” (“the 2006 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006(35);

ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2007(36);

ystyr “Rheoliadau 2008” (“the 2008 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2008(37);

ystyr “Rheoliadau (Rhif 2) 2008” (“the 2008 (No. 2) Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2008(38);

ystyr “Rheoliadau 2009” (“the 2009 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2009(39);

ystyr “Rheoliadau 2011” (“the 2011 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2011(40);

ystyr “Rheoliadau (Rhif 2) 2011” (“the 2011 (No. 2) Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu’r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2011(41);

ystyr “Rheoliadau 2012” (“the 2012 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2012(42);

ystyr “Rheoliadau 2013” (“the 2013 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2013(43);

ystyr “sefydliad preifat” (“private institution”) yw sefydliad nad yw’n cael ei ariannu’n gyhoeddus;

ystyr “yr Undeb Ewropeaidd” (“EuropeanUnion”) yw tiriogaeth Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd fel y’i cyfansoddir o bryd i’w gilydd;

ystyr “Ynysoedd” (“Islands”) yw Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw; ac

ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintainedschool”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig neu ysgol feithrin a gynhelir.

(2Yn y Rheoliadau hyn mae person yn “fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2006” (“2006 gap year student”) mewn perthynas â chwrs a ddarparwyd gan neu ar ran sefydliad a ariannwyd yn gyhoeddus ar 1 Awst 2005 os yw’r person yn bodloni’r amodau ym mharagraffau (3) neu (5).

(3Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

(a)bod y person, ar neu cyn 1 Awst 2005 wedi cael cynnig o le, pa un ai’n amodol ar ennill cymwysterau penodedig ai peidio, ar y cwrs presennol neu gwrs tebyg; a

(b)bod blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ond cyn 1 Medi 2007.

(4Ym mharagraff (3) mae cwrs (“y cwrs gwreiddiol”) yn debyg i’r cwrs presennol—

(a)os yw’n ymddangos i awdurdod academaidd y sefydliad sy’n darparu’r cwrs presennol fod cynnwys y cwrs, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, yr un fath â chynnwys y cwrs gwreiddiol, a

(b)ac eithrio pan nad yw’r cwrs gwreiddiol yn cael ei ddarparu mwyach, os yw’r cwrs presennol yn cael ei ddarparu gan y sefydliad a fyddai wedi darparu’r cwrs gwreiddiol.

(5Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

(a)bod y person wedi cael cynnig lle ar gwrs dynodedig (pa un ai yn yr un sefydliad â’r cwrs presennol ai peidio) y mae blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs hwnnw wedi dechrau cyn 1 Medi 2006;

(b)na allai’r person dderbyn y cynnig oherwydd na ddyfarnwyd i’r person gymhwyster penodedig neu safon benodedig;

(c)bod y person wedi apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â dyfarnu’r cymhwyster neu’r safon i’r person;

(d)bod yr apêl wedi ei chaniatáu ar ôl y dyddiad diwethaf y gallai’r person fod wedi derbyn y cynnig;

(e)o ganlyniad, bod y person wedi cael cynnig lle ar y cwrs presennol; ac

(f)bod blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ond cyn 1 Medi 2007.

(6Yn y Rheoliadau hyn—

(a)mae cwrs yn “gwrs rhyngosod” (“sandwich course”)—

(i)os nad yw’n gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon, nac yn flwyddyn academaidd o gwrs dynodedig sy’n flwyddyn Erasmus;

(ii)os yw’n cynnwys cyfnodau o astudio llawnamser mewn sefydliad am yn ail â chyfnodau o brofiad gwaith; a

(iii)gan gymryd y cwrs yn ei gyfanrwydd, os yw’r myfyriwr yn bresennol ar y cyfnodau o astudio llawnamser am nid llai na 18 wythnos ym mhob blwyddyn ar gyfartaledd;

(b)er mwyn cyfrifo presenoldeb y myfyriwr at ddibenion is-baragraff (a), trinnir y cwrs fel pe bai’n dechrau gyda’r cyfnod cyntaf o astudio llawnamser ac yn diweddu gyda’r cyfnod olaf o’r fath;

(c)at ddibenion is-baragraff (a), os ceir cyfnodau o astudio llawnamser am yn ail â phrofiad gwaith yn ystod unrhyw wythnos ar y cwrs, mae’r dyddiau o astudio llawnamser yn cael eu hadio at ei gilydd ac at unrhyw wythnosau o astudio llawnamser wrth bennu nifer yr wythnosau o astudio llawnamser ym mhob blwyddyn.

(7Yn y Rheoliadau hyn, ystyr y “cwrs dynodedig a bennir” (“specified designated course”) yw’r cwrs presennol, yn ddarostyngedig i baragraffau (8) a (9).

(8Os yw statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo i’r cwrs presennol o ganlyniad i un neu fwy nag un trosglwyddiad o’r statws hwnnw gan Weinidogion Cymru oddi ar gwrs (y “cwrs cychwynnol”) y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys yn unol â rheoliadau a wnaed ganddynt o dan adran 22 o Ddeddf 1998, y cwrs cychwynnol yw’r cwrs dynodedig a bennir.

(9Os yw’r cwrs presennol yn gwrs penben, y cwrs dynodedig a bennir yw’r cwrs y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef (“y cwrs blaenorol”). Os yw’r cwrs blaenorol ei hun yn gwrs penben, y cwrs dynodedig a bennir yw’r cwrs y mae’r cwrs blaenorol ei hun yn gwrs penben mewn perthynas ag ef.

(10Yn y Rheoliadau hyn, mae’r ymadrodd “myfyriwr sydd â hawl i gael grant at ffioedd” (“student who qualifies for a fee grant”) mewn perthynas â chwrs dynodedig ac mae unrhyw gyfeiriad at fyfyriwr nad oes ganddo hawl i gael grant at ffioedd, i’w dehongli yn unol â rheoliad 16.

(11Yn y Rheoliadau hyn, mae i’r ymadrodd “cwrs dynodedig cymhwysol” (“qualifying designated course”), mewn perthynas â myfyriwr sydd â hawl i gael grant at ffioedd, yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 16.

(12Yn y Rheoliadau hyn, mae person yn “fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010” (“2010 gap year student”) mewn perthynas â chwrs a ddarperir gan neu ar ran sefydliad a ariennid yn gyhoeddus ar 1 Awst 2009 os yw’r person hwnnw’n bodloni’r amodau ym mharagraffau (13) neu (15).

(13Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (12) yw—

(a)bod y person wedi cael cynnig lle, pa un ai’n amodol ai peidio, ar 1 Awst 2009 neu cyn hynny, ar y cwrs presennol neu gwrs tebyg; a

(b)bod blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011.

(14Ym mharagraff (13), mae cwrs (“y cwrs gwreiddiol”) yn debyg i’r cwrs presennol—

(a)pan yw’n ymddangos i awdurdod academaidd y sefydliad sy’n darparu’r cwrs presennol mai yr un, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, yw cynnwys y cwrs a chynnwys y cwrs gwreiddiol; a

(b)ac eithrio pan na ddarperir y cwrs gwreiddiol mwyach, pan yw’r cwrs presennol yn cael ei ddarparu gan y sefydliad a fyddai wedi darparu’r cwrs gwreiddiol.

(15Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (12) yw—

(a)bod y person wedi cael cynnig lle ar gwrs dynodedig (pa un ai yn yr un sefydliad â’r cwrs presennol ai peidio) a bod blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs hwnnw wedi dechrau cyn 1 Medi 2010;

(b)na allai’r person dderbyn y cynnig oherwydd na ddyfarnwyd i’r person gymhwyster penodedig neu safon benodedig;

(c)bod y person wedi apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â dyfarnu’r cymhwyster neu’r safon i’r person;

(d)bod yr apêl wedi ei chaniatáu ar ôl y dyddiad diwethaf y gallai’r person fod wedi derbyn y cynnig;

(e)o ganlyniad, bod y person wedi cael cynnig lle ar y cwrs presennol; ac

(f)bod blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011.

(16Yn y Rheoliadau hyn, mae person yn “fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2011” (“2011 gap year student”) mewn perthynas â chwrs a ddarparwyd gan neu ar ran sefydliad a ariannwyd yn gyhoeddus ar 1 Awst 2010 os yw’r person hwnnw’n bodloni’r amodau ym mharagraffau (17) neu (19).

(17Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (16) yw―

(a)bod y person wedi cael cynnig lle, pa un ai’n amodol ai peidio, ar 1 Awst 2010 neu cyn hynny, ar y cwrs presennol neu gwrs tebyg; a

(b)bod blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2011 ond cyn 1 Medi 2012.

(18Ym mharagraff (17), mae cwrs (“y cwrs gwreiddiol”) yn debyg i’r cwrs presennol—

(a)pan yw’n ymddangos i awdurdod academaidd y sefydliad sy’n darparu’r cwrs presennol mai yr un, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, yw cynnwys y cwrs a chynnwys y cwrs gwreiddiol; a

(b)ac eithrio pan na ddarperir y cwrs gwreiddiol mwyach, pan yw’r cwrs presennol yn cael ei ddarparu gan y sefydliad a fyddai wedi darparu’r cwrs gwreiddiol.

(19Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (16) yw—

(a)bod y person wedi cael cynnig lle ar gwrs dynodedig (pa un ai yn yr un sefydliad â’r cwrs presennol ai peidio) a bod blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs hwnnw wedi dechrau cyn 1 Medi 2011;

(b)na allai’r person dderbyn y cynnig oherwydd na ddyfarnwyd i’r person gymhwyster penodedig neu safon benodedig;

(c)bod y person wedi apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â dyfarnu’r cymhwyster neu’r safon i’r person;

(d)bod yr apêl wedi ei chaniatáu ar ôl y dyddiad diwethaf y gallai’r person fod wedi derbyn y cynnig;

(e)o ganlyniad, bod y person wedi cael cynnig lle ar y cwrs presennol; ac

(f)bod blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2011 ond cyn 1 Medi 2012.

(20At ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)rhaid trin myfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2011 fel myfyriwr carfan 2010;

(b)yn ddarostyngedig i baragraff (21), pan fo myfyriwr cymwys yn dechrau ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2011 a’r cwrs hwnnw’n gwrs penben sy’n dilyn ar ôl cwrs dynodedig (“y cwrs blaenorol”) y dechreuodd y myfyriwr arno ar neu ar ôl 1 Medi 2010 a chyn 1 Medi 2011, rhaid trin y myfyriwr fel myfyriwr carfan 2010;

(c)pan fo myfyriwr cymwys yn dechrau ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2011 ac y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr cymwys i’r cwrs hwnnw o ganlyniad i un neu ragor o drosglwyddiadau o’r statws hwnnw gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998, o gwrs dynodedig (“y cwrs blaenorol”) y dechreuodd y myfyriwr arno ar neu ar ôl 1 Medi 2010 a chyn 1 Medi 2011, rhaid trin y myfyriwr fel myfyriwr carfan 2010;

(d)yn ddarostyngedig i baragraff (22), pan fo myfyriwr cymwys yn dechrau ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2012 a’r cwrs hwnnw’n gwrs penben sy’n dilyn ar ôl cwrs dynodedig (“y cwrs blaenorol”) y dechreuodd y myfyriwr arno ar neu ar ôl 1 Medi 2011 a chyn 1 Medi 2012, rhaid trin y myfyriwr fel myfyriwr carfan 2011;

(e)yn ddarostyngedig i baragraff (22), pan fo myfyriwr cymwys yn dechrau ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2012 ac y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr cymwys i’r cwrs hwnnw o ganlyniad i un neu ragor o drosglwyddiadau o’r statws hwnnw gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998, o gwrs dynodedig (“y cwrs blaenorol”) y dechreuodd y myfyriwr arno ar neu ar ôl 1 Medi 2011 a chyn 1 Medi 2012, rhaid trin y myfyriwr fel myfyriwr carfan 2011.

(21Rhaid peidio â thrin y myfyriwr cymwys y cyfeirir ato yn is-baragraffau (b) ac (c) o baragraff (20) fel myfyriwr carfan 2010 os yw’r myfyriwr, mewn perthynas â’r cwrs blaenorol, yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010.

(22Rhaid peidio â thrin y myfyriwr cymwys y cyfeirir ato yn is-baragraffau (d) a (e) o baragraff (20) fel myfyriwr carfan 2011 os yw’r myfyriwr, mewn perthynas â’r cwrs blaenorol, yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2011.

Dirymu, arbedion a darpariaethau trosiannol

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (13), mae Rheoliadau 2013 wedi eu dirymu ar 1 Medi 2014.

(2Mae Rheoliadau 2003 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2003 ond cyn 1 Medi 2004.

(3Mae Rheoliadau 2004 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2004 ond cyn 1 Medi 2005.

(4Mae Rheoliadau 2005 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2005 ond cyn 1 Medi 2006.

(5Mae Rheoliadau 2006 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ond cyn 1 Medi 2007.

(6Mae Rheoliadau 2007 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2007 ond cyn 1 Medi 2008.

(7Mae Rheoliadau 2008 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2008 ond cyn 1 Medi 2009.

(8Mae Rheoliadau (Rhif 2) 2008 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2009 ond cyn 1 Medi 2010.

(9Mae Rheoliadau 2009 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011.

(10Mae Rheoliadau 2011 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2011 ond cyn 1 Medi 2012.

(11Mae Rheoliadau (Rhif 2) 2011 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012 ond cyn 1 Medi 2013.

(12Mae Rheoliadau 2012 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2013 ond cyn 1 Medi 2014.

(13Mae Rheoliadau 2013 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2014 ond cyn 1 Medi 2015.

(14At ddibenion paragraffau (2) i (4), mae unrhyw gyfeiriad at yr Ysgrifennydd Gwladol o ran unrhyw swyddogaeth a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan y Rheoliadau y cyfeirir atynt yn y paragraffau hynny, i’w ddarllen o ran Cymru fel cyfeiriad at—

(a)Gweinidogion Cymru, yn achos swyddogaeth y cyfeirir ati yn adran 44(1) o Ddeddf Addysg Uwch 2004(44); neu

(b)Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol, yn achos swyddogaeth y cyfeirir ati yn adran 44(2) o Ddeddf Addysg Uwch 2004.

(15Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2014 pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl 1 Medi 2014.

(3)

Gynt yr enw ar Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis oedd y Sefydliad Prydeinig ym Mharis. Newidiodd y Sefydliad Prydeinig ym Mharis ei enw’n ffurfiol ar 1 Ionawr 2005.

(4)

Mae ERASMUS yn rhan o raglen gweithredu’r Undeb Ewropeaidd, SOCRATES; OJ Rhif L28, 3.2.2000, t.1.

(5)

1968 p. 46; diwygiwyd adran 63 gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1972 (p. 58), Atodlen 7, Deddf Ad-drefnu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1973 (p. 32), Atodlenni 4 a 5, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p. 49), Atodlenni 15 ac 16, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978 (p. 29), Atodlenni 16 a 17, Deddf Llywodraeth Leol 1985 (p. 51), Atodlen 17, Deddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p. 49), adran 20, adran 25(2) ac Atodlen 3, Deddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994 (p. 39), Atodlen 13, Deddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17), Atodlen 1, Gorchymyn Ad-drefnu Llywodraeth Leol (Cymru) (Diwygiadau Canlyniadol Rhif 2) 1996 (O.S. 1996/1008), Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p. 46), Atodlen 2, Deddf Iechyd 1999 (p. 8), Atodlen 4, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p. 15), Atodlen 5, Deddf Diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p. 17), Atodlenni 2, 5 a 9, O.S. 2002/2202, erthygl 4(a) a (b), Rheoliadau Deddf Diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002 (Darpariaethau Atodol, Canlyniadol etc) 2002 (O.S. 2002/2469), Atodlen 1, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p. 43), Atodlenni 4, 11 a 14, Gorchymyn Cychwyn (Rhif 2) Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 2004 (O.S. 2004/288), erthygl 7, Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/480); Deddf Plant 2004 (p. 31), adran 55; O.S. 2004/957, yr Atodlen; Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 (p. 43), Atodlen 1; O.S. 2007/961, yr Atodlen, Deddf Iechyd 2009 (p. 21), Atodlen 1 a Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7), Atodlen 5.

(7)

Mae rheoliad 14 o Reoliadau Credyd Treth Gwaith (Hawlogaeth a’r Gyfradd Uchaf) 2002 (O.S. 2002/2005) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2003/701, O.S. 2003/2815, O.S. 2004/762, O.S. 2004/1276, O.S. 2004/2663, O.S. 2005/769, O.S. 2005/2919, O.S. 2006/766, O.S. 2007/824, O.S. 2007/2479, O.S. 2008/604, O.S. 2008/2169, O.S. 2009/697, O.S. 2009/2887, O.S. 2010/751, O.S. 2011/721, O.S. 2013/388 ac O.S. 2013/591 yn pennu’r costau rhagnodedig, ac felly’r costau gofal plant perthnasol at ddibenion adran 12 o Ddeddf Credydau Treth 2002.

(9)

Sefydlwyd y corff hwn yn wreiddiol o dan adran 1 o Ddeddf Addysg 1994 (p. 30) fel yr Asiantaeth Hyfforddi Athrawon. Yn rhinwedd adran 74 o Ddeddf Addysg 2005 (p. 18) fe’i gelwid yn lle hynny yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion. Diddymwyd y corff gan Ddeddf Addysg 2011 (p. 21) gydag effaith o 1 Ebrill 2012.

(10)

Gweler adrannau 85–90 o Ddeddf Addysg 2005 i weld swyddogaeth CCAUC ynghylch hyfforddi athrawon.

(11)

OJ Rhif L158, 30.04.2004, t.77-123.

(13)

Nodir y cynllun diofyn cyfredol yn O.S. 2013/3035 (Cy. 303).

(14)

1992 p. 14; mewnosodwyd Atodlen 1B gan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p. 17), adran 10 ac Atodlen 4.

(15)

O.S. 2004/1729 (Cy. 173), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2007/2811 (Cy. 238) ac O.S. 2008/215 (Cy. 26). Dirymwyd yr offeryn hwn, gydag arbedion, gan O.S. 2012/724 (Cy. 96).

(17)

1962 p. 12; amnewidiwyd adrannau 1 i 4 ac Atodlen 1 gan y darpariaethau a nodwyd yn Atodlen 5 i Ddeddf Addysg 1980 (p. 20). Diwygiwyd adran 1(3)(d) gan Ddeddf Addysg (Grantiau a Dyfarniadau) 1984 (p. 11), adran 4. Diwygiwyd adran 4 gan Ddeddf Addysg 1994 (p. 30), Atodlen 2, paragraff 2. Cafodd y Ddeddf gyfan ei diddymu gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 44(2) ac Atodlen 4, yn ddarostyngedig i’r darpariaethau trosiannol a’r arbedion a nodwyd yng Ngorchymyn Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) 1998 (O.S. 1998/3237), erthygl 3.

(18)

1990 p. 6; a ddiddymwyd gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), Atodlen 4, gydag arbedion gweler Gorchymyn Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) 1998 (O.S. 1998/2004) (C. 46).

(19)

O.S. 1990/1506 (G.I. 11), a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/274 (G.I. 1), Erthygl 43 ac Atodlen 5 Rhan II, O.S. 1996/1918 (G.I. 15), Erthygl 3 a’r Atodlen ac O.S. 1998/258 (G.I. 1), Erthyglau 3 i 6 ac a ddi-rymwyd, gydag arbedion, gan Rh. St. (GI) 1998 Rhif 306.

(20)

O.S. 1998/1760 (G.I. 14) y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(21)

2004 p. 8. Mae adran 41(1) wedi ei diwygio ond nid yw’r diwygiadau hynny’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(22)

Gorch. 9171.

(23)

Gorch. 3906 (allan o brint; mae llungopïau ar gael, yn ddi-dâl, oddi wrth yr Adran Cymorth i Fyfyrwyr, Yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau, Mowden Hall, Staindrop Road, Darlington DL3 9BG).

(25)

1980 p. 44; diwygiwyd adran 73(f) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 29(1) a Deddf Addysg (Gwaddoliad Graddedigion a Chymorth i Fyfyrwyr) (Yr Alban) 2001 (dsa 6), adran 3(2) a diwygiwyd adran 74 gan Ddeddf Ysgolion Hunanlywodraethol etc. (Yr Alban) 1989 (p. 39), Atodlen 10, paragraff 8(17). Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion yr Alban yn rhinwedd adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (p. 46).

(27)

O.S. 1998/2003, dirymwyd gydag arbedion gan O.S. 1999/496.

(28)

O.S. 1999/496, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/2266 ac O.S. 2000/1120. Dirymwyd yr offerynnau hyn gan O.S. 2000/1121 ac eithrio mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn 1 Medi 2000.

(29)

O.S. 2000/1121, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/1490, O.S. 2000/2142 ac O.S. 2000/2912. Dirymwyd yr offerynnau hyn gan O.S. 2001/951 ac eithrio mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn 1 Medi 2001.

(30)

O.S. 2001/951, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/1730, O.S. 2001/2355 ac O.S. 2002/174. Dirymwyd yr offerynnau hyn gan O.S. 2002/195 ac eithrio mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn 1 Medi 2002.

(31)

O.S. 2002/195, a ddiwygiwyd gan O.S. 2002/1318, O.S. 2002/2088 ac O.S. 2002/3059. Dirymwyd O.S. 2002/195, O.S. 2002/1318 ac O.S. 2002/2088 gan O.S. 2002/3200 ac eithrio mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn 1 Medi 2003. Dirymwyd O.S. 2002/3059 gan O.S. 2003/1065.

(32)

O.S. 2002/3200, a ddiwygiwyd gan O.S. 2003/1065 ac O.S. 2003/3280. Dirymwyd O.S. 2002/3200 ac O.S. 2003/1065 gan O.S. 2005/52 gydag arbedion.

(33)

O.S. 2002/3200, a ddiwygiwyd gan O.S. 2003/1065, O.S. 2003/3280, O.S. 2004/161, O.S. 2004/1602, O.S. 2004/2041, O.S. 2004/2598, O.S. 2005/1341 ac O.S. 2005/2084. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Ac eithrio O.S. 2005/1341 ac O.S. 2005/2084, dirymwyd yr offerynnau hyn gydag arbedion gan O.S. 2005/52. Dirymwyd O.S. 2005/1341 ac O.S. 2005/2084 o ran Cymru, gydag arbedion, gan O.S. 2006/126 (Cy. 19).

(34)

O.S. 2005/52, a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/1341, O.S. 2005/2084, O.S. 2005/3482 ac O.S. 2006/955. Ac eithrio O.S. 2005/3482 ac O.S. 2006/955, dirymwyd yr offerynnau hyn o ran Cymru, gydag arbedion, gan O.S. 2006/126 (Cy. 19).

(35)

O.S. 2006/126 (Cy. 19), a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/1863 (Cy. 196) ac O.S. 2007/2312 (Cy. 183). Dirymwyd O.S. 2006/126 (Cy. 19) ac O.S. 2006/1863 (Cy. 196) gan O.S. 2007/1045 (Cy. 104) gydag arbedion mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ond cyn 1 Medi 2007.

(37)

O.S. 2008/1273 (Cy. 130), a ddiwygiwyd gan O.S. 2008/2140 (Cy. 189). Dirymwyd yr offerynnau hyn, gydag arbedion, gan O.S. 2008/3170 (Cy. 283).

(39)

O.S. 2009/2737 (Cy. 235). Dirymwyd yr offeryn hwn, gydag arbedion, gan O.S. 2011/148 (Cy. 32).

(40)

O.S. 2011/148 (Cy. 32), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2011/1978 (Cy. 218). Dirymwyd yr offeryn hwn, gydag arbedion, gan O.S. 2011/886 (Cy. 130).

(41)

O.S. 2011/886 (Cy. 130), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1978 (Cy. 218), O.S. 2012/14 (Cy. 5) ac O.S. 2012/1156 (Cy. 139). Dirymwyd yr offeryn hwn, gydag arbedion, gan O.S. 2012/3097 (Cy. 313).

(42)

O.S. 2012/3097 (Cy. 313), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2013/765 (Cy. 91) ac O.S. 2013/1965 (Cy 190). Dirymwyd yr offeryn hwn, gydag arbedion, gan O.S. 2013/3177 (Cy. 316).

(43)

O.S. 2013/3177 (Cy. 316), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2014/1712 (Cy. 172).

(44)

2004 p. 8.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources