xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2015 No. 54 (Cy. 5)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015

Gwnaed

27 Ionawr 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

28 Ionawr 2015

Yn dod i rym

19 Chwefror 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22 a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Chwefror 2015 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio pan fo’r cyd-destun yn mynnu fel arall—

ystyr “a ariennir yn gyhoeddus” ac “a ariannwyd yn gyhoeddus” (“publicly funded”) yw cael ei gynnal neu ei gynorthwyo gan grantiau rheolaidd o’r cronfeydd cyhoeddus, ac mae ymadroddion perthynol i’w dehongli yn unol â hyn;

mae i “anabledd” yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010(3);

mae i “athro neu athrawes gymwysedig” ac “athro neu’n athrawes gymwysedig” yr ystyr a roddir i “qualified teacher” yn adran 132(1) o Ddeddf Addysg 2002(4);

ystyr “yr Athrofa” (“Institute”) yw Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis(5);

ystyr “awdurdod academaidd” (“academicauthority”), mewn perthynas â sefydliad, yw’r corff llywodraethu neu’r corff arall sydd â swyddogaethau corff llywodraethu ac mae’n cynnwys person sy’n gweithredu gydag awdurdod y corff hwnnw;

ystyr “benthyciad” (“loan”), ac eithrio lle nodir fel arall, yw benthyciad yn unol ag unrhyw reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998, gan gynnwys y llog sy’n crynhoi ar y benthyciad ac unrhyw gosbau neu daliadau a ysgwyddir mewn cysylltiad ag ef;

ystyr “benthyciad at ffioedd” (“fee loan”) yw benthyciad ar gyfer ffioedd sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn unol â Rhan 4;

ystyr “benthyciad at ffioedd coleg” (“college fee loan”) yw benthyciad at ffioedd coleg sy’n daladwy i fyfyriwr cymhwysol yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

ystyr “benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam” (“accelerated graduate entry fee loan”) yw benthyciad sy’n daladwy gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 23;

ystyr “benthyciad at gostau byw” (“loan for living costs”) yw benthyciad at gostau byw yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

ystyr “benthyciad newydd at ffioedd” (“new fee loan”) yw benthyciad sy’n daladwy gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 21;

ystyr “benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser” (“new part-time fee loan”) yw benthyciad sy’n daladwy gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 91;

ystyr “benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat” (“new private institution fee loan”) yw benthyciad sy’n daladwy gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 22;

ystyr “benthyciwr” (“borrower”) yw person y mae benthyciad wedi ei roi iddo;

ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw—

(a)

mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs ac eithrio blwyddyn gyntaf cwrs blwyddyn gyntaf gywasgedig, y cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Medi yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi, yn ôl a yw’r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr a chyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill a chyn 1 Gorffennaf, ar neu ar ôl 1 Gorffennaf a chyn 1 Awst neu ar neu ar ôl 1 Awst ac ar neu cyn 31 Rhagfyr, yn y drefn honno; neu

(b)

mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn gyntaf cwrs blwyddyn gyntaf gywasgedig, y cyfnod o wyth mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Medi yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi, yn ôl a yw’r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr a chyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill a chyn 1 Gorffennaf, ar neu ar ôl 1 Gorffennaf a chyn 1 Awst neu ar neu ar ôl 1 Awst ac ar neu cyn 31 Rhagfyr, yn y drefn honno;

ystyr “blwyddyn bwrsari” (“bursary year”) yw blwyddyn academaidd cwrs, y mae’r myfyriwr yn gymwys i wneud cais am fwrsari gofal iechyd neu lwfans gofal iechyd yr Alban mewn perthynas â hi, a chaiff swm y bwrsari neu lwfans ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr, boed swm y cyfrifiad yn ddim ai peidio;

ystyr “blwyddyn Erasmus” (“Erasmus year”) yw blwyddyn academaidd cwrs pryd y bydd myfyriwr yn cymryd rhan yng nghynllun gweithredu’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol a elwir ERASMUS(6) a bod cwrs y myfyriwr yn gwrs y cyfeirir ato yn rheoliad 5(1)(e) ac―

(a)

pan ddechreuodd y cwrs cyn 1 Medi 2012, bod pob cyfnod astudio neu leoliad gwaith yn ystod y flwyddyn academaidd wedi’i fynychu mewn sefydliad neu weithle y tu allan i’r Deyrnas Unedig;

(b)

pan fo’r cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012 a’i fod yn cael ei ddarparu gan sefydliad yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon, bod pob cyfnod astudio neu leoliad gwaith yn ystod y flwyddyn academaidd yn cael ei fynychu mewn sefydliad neu weithle y tu allan i’r Deyrnas Unedig; neu

(c)

pan fo’r cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012 a’i fod yn cael ei ddarparu gan sefydliad yng Nghymru neu Loegr—

(i)

bod o leiaf un cyfnod astudio neu leoliad gwaith yn ystod y flwyddyn academaidd yn cael ei fynychu mewn sefydliad neu weithle y tu allan i’r Deyrnas Unedig; a

(ii)

naill ai—

(aa)

mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno, bod cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu

(bb)

mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol y cwrs, bod cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos;

ystyr “bwrsari gofal iechyd” (“healthcarebursary”) yw bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg o dan adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968(7) neu Erthygl 44 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972(8);

ystyr “bwrsari gofal iechyd cyffredinol” (“universal healthcare bursary”) yw bwrsari gofal iechyd o £1,000—

(a)

sy’n daladwy i fyfyriwr carfan 2012 neu i fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012; a

(b)

mewn perthynas â myfyriwr carfan 2012, nas cyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr hwnnw; neu

(c)

mewn perthynas â myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012, nas cyfrifir drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr hwnnw;

ystyr “carcharor” (“prisoner”) yw person sy’n bwrw dedfryd mewn carchar yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys person sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn sefydliad troseddwyr ifanc;

ystyr “carcharor cymwys” (“eligible prisoner”) yw carcharor—

(a)

sy’n dechrau’r cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2012;

(b)

sydd wedi ei awdurdodi gan Lywodraethwr neu Gyfarwyddwr y carchar neu awdurdod priodol arall i astudio’r cwrs presennol;

(c)

y mae ei ddyddiad rhyddhau cynharaf o fewn 6 mlynedd i ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol;

(d)

nad yw wedi trosglwyddo i’r cwrs presennol o dan reoliad 8 o gwrs sy’n dechrau cyn 1 Medi 2012; ac

(e)

nad yw’n dechrau cwrs penben ar neu ar ôl 1 Medi 2012;

ystyr “carcharor rhan-amser cymwys” (“eligible part-time prisoner”) yw carcharor—

(a)

sy’n dechrau’r cwrs rhan-amser presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2014;

(b)

sydd wedi ei awdurdodi gan Lywodraethwr neu Gyfarwyddwr y carchar neu awdurdod priodol arall i astudio’r cwrs rhan-amser presennol;

(c)

y mae ei ddyddiad rhyddhau cynharaf o fewn 6 mlynedd i ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs rhan-amser presennol; a

(d)

nad yw wedi trosglwyddo i’r cwrs rhan-amser presennol o dan reoliad 107 o gwrs sy’n dechrau cyn 1 Medi 2014;

ystyr “ceisydd” (“applicant”), mewn perthynas â pherson sy’n gwneud cais am gymorth taladwy o dan y Rheoliadau hyn i―

(a)

myfyriwr cymwys, yw person sy’n gwneud cais o dan reoliad 9;

(b)

myfyriwr dysgu o bell cymwys, yw person sy’n gwneud cais o dan reoliad 77;

(c)

myfyriwr rhan-amser cymwys, yw person sy’n gwneud cais o dan reoliad 104; a

(d)

myfyriwr ôl-raddedig cymwys, yw person sy’n gwneud cais o dan reoliad 120;

ystyr “costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant” (“prescribed childcare charges”) yw costau gofal plant o ddisgrifiad a ragnodir at ddibenion adran

12 o Ddeddf Credydau Treth 2002(9);

ystyr “credyd cynhwysol” (“universal credit”) yw credyd cynhwysol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012(10);

ystyr “cronfeydd cyhoeddus” (“publicfunds”) yw arian a ddarperir gan Senedd y Deyrnas Unedig gan gynnwys arian o gronfeydd a ddarperir gan Weinidogion Cymru;

ystyr “cwrs addysg uwch” (“higher education course”) yw cwrs y cyfeirir ato yn Atodlen 2 neu gwrs i ôl-raddedigion neu gwrs arall y mae ei safon yn uwch na safon cwrs gradd gyntaf;

mae “cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon” (“course for the initial training of teachers”) yn cynnwys cwrs o’r fath sy’n arwain at radd gyntaf oni nodir yn wahanol ond nid yw’n cynnwys cynllun hyfforddi athrawon sydd wedi ei seilio ar gyflogaeth;

ystyr “cwrs blwyddyn gyntaf gywasgedig” (“compressed first year course”) yw cwrs dynodedig—

(a)

sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2013;

(b)

pan ymgymerir â blwyddyn gyntaf y cwrs ar sail gywasgedig a bod modd ei chwblhau mewn cyfnod o ddim mwy na saith mis; ac

(c)

pan nad ymgymerir ag unrhyw flynyddoedd eraill ar y cwrs ar y sail gywasgedig honno;

ystyr “cwrs carlam” (“acceleratedcourse”) yw cwrs sy’n parhau am ddwy flynedd, a’r sefydliad sy’n ei ddarparu yn ei gwneud yn ofynnol fel rheol bod y personau sy’n cymryd y cwrs yn bresennol (boed ym mangre’r sefydliad ynteu mewn man arall) am gyfnod o 40 wythnos o leiaf yn y flwyddyn derfynol;

ystyr “cwrs cymhwysol” (“qualifying course”) yw cwrs dynodedig llawnamser a ddarperir gan Brifysgol Rhydychen neu Brifysgol Caergrawnt a hwnnw’n gwrs—

(a)

sy’n arwain at gymhwyster gweithiwr cymdeithasol, meddyg, deintydd, milfeddyg neu bensaer;

(b)

sy’n arwain, os yw wedi dechrau cyn 1 Medi 2009, at gymhwyster fel pensaer tirwedd, dylunydd tirwedd, rheolwr tirwedd, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref; neu

(c)

sy’n cynnwys o leiaf un flwyddyn academaidd sy’n flwyddyn bwrsari;

ystyr “cwrs dwys” (“intensive course”) yw cwrs carlam neu gwrs gradd cywasgedig;

ystyr “cwrs dynodedig” (“designated course”) yw cwrs a ddynodwyd gan reoliad 5 neu gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 5;

mae i “cwrs dynodedig a bennir” (“specified designated course”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (7);

ystyr “cwrs dysgu o bell” (“distance learning course”) yw cwrs llawnamser sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012 ac nad yw’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr sy’n ymgymryd â’r cwrs fod yn bresennol mewn perthynas ag ef, ac eithrio er mwyn bodloni unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad—

(a)

at ddibenion cofrestru, ymrestru neu unrhyw arholiad; neu

(b)

ar benwythnos neu yn ystod unrhyw wyliau;

ystyr “cwrs dysgu o bell dynodedig” (“designated distance learning course”) yw cwrs a ddynodwyd gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 71;

ystyr “cwrs dysgu o bell presennol” (“present distance learning course”) yw’r cwrs dysgu o bell dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef o dan reoliad 77;

ystyr “cwrs dysgu o bell rhan-amser” (“part-time distance learning course”) yw cwrs rhan-amser dynodedig lle nad yw’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr sy’n ymgymryd â’r cwrs fod yn bresennol mewn perthynas ag ef, ac eithrio er mwyn bodloni unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad—

(a)

at ddibenion cofrestru, ymrestru neu unrhyw arholiad; neu

(b)

ar benwythnos neu yn ystod unrhyw wyliau;

ystyr “cwrs gradd cywasgedig” (“compressed degree course”) yw cwrs y dyfernir gan yr Ysgrifennydd Gwladol ei fod yn gwrs gradd cywasgedig;

ystyr “cwrs HCA hyblyg i ôl-raddedigion” (“flexible postgraduate ITT course”) yw cwrs ôl-radd o hyfforddiant cychwynnol athrawon, y mae ei hyd a’i batrwm yn cael eu pennu drwy gyfeirio at brofiad ac anghenion hyfforddi’r myfyriwr cymwys a hwnnw’n gwrs sydd wedi ei gymeradwyo gan yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion(11), yr Ysgrifennydd Gwladol neu Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru(12), a’r cwrs naill ai—

(a)

wedi dechrau cyn 1 Medi 2010;

(b)

yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a’r myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu

(c)

yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a’r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs;

ystyr “cwrs mynediad graddedig carlam” (“accelerated graduate entry course”) yw cwrs—

(a)

nad yw ei safon yn uwch na safon gradd gyntaf ac sy’n arwain at gymhwyster fel doctor meddygol neu ddeintydd;

(b)

y byddai gradd gyntaf neu gymhwyster cyfwerth fel arfer yn ofynnol ar gyfer mynediad i’r cwrs;

(c)

sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012; a

(d)

nad yw’n parhau’n hwy na 4 blynedd;

ystyr “cwrs ôl-radd dynodedig” (“designated postgraduate course”) yw cwrs sydd wedi ei ddynodi gan reoliad 117(1) neu gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 117(4);

ystyr “cwrs ôl-radd presennol” (“present postgraduate course”) yw’r cwrs ôl-radd dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad ag ef o dan reoliad 120;

ystyr “cwrs penben” (“end-on course”) yw—

(a)

cwrs gradd gyntaf llawnamser (ac eithrio cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) a hwnnw’n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar gwrs llawnamser a restrir ym mharagraff 2, 3 neu 4 o Atodlen 2 ac y mae’r myfyriwr wedi cael cymorth o dan Reoliadau 2006, 2007, 2008, 2008 (Rhif 2), 2009, 2011, 2011 (Rhif 2), 2012 neu 2013 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o’r rhain ar ei gyfer;

(b)

cwrs gradd anrhydedd llawnamser y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar gwrs gradd sylfaen llawnamser neu gwrs gradd arferol llawnamser ac y mae’r myfyriwr wedi cael cymorth o dan Reoliadau 2006, 2007, 2008, 2008 (Rhif 2), 2009, 2011, 2011 (Rhif 2), 2012 neu 2013 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o’r rhain ar ei gyfer;

(c)

cwrs gradd gyntaf rhan-amser (ac eithrio cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) a hwnnw’n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar gwrs rhan-amser a restrir ym mharagraff 2, 3 neu 4 o Atodlen 2 ac y mae’r myfyriwr wedi cael cymorth o dan Reoliadau 2006, 2007, 2008, 2008 (Rhif 2), 2009, 2011, 2011 (Rhif 2), 2012 neu 2013 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o’r rhain ar ei gyfer;

(d)

cwrs gradd anrhydedd rhan-amser y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar gwrs gradd sylfaen rhan-amser neu gwrs gradd arferol rhan-amser y mae’r myfyriwr wedi cael cymorth o dan Reoliadau 2006, 2007, 2008, 2008 (Rhif 2), 2009, 2011, 2011 (Rhif 2), 2012 neu 2013 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o’r rhain ar ei gyfer;

(e)

cwrs gradd gyntaf dysgu o bell (ac eithrio cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) a hwnnw’n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar gwrs dysgu o bell dynodedig a restrir ym mharagraff 2, 3 neu 4 o Atodlen 2 ac y mae’r myfyriwr wedi cael cymorth o dan Reoliadau 2006, 2007, 2008, 2008 (Rhif 2), 2009, 2011, 2011 (Rhif 2), 2012 neu 2013 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o’r rhain ar ei gyfer;

(f)

cwrs gradd anrhydedd dysgu o bell y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar gwrs gradd sylfaen dysgu o bell dynodedig neu gwrs gradd arferol dysgu o bell dynodedig y mae’r myfyriwr wedi cael cymorth o dan Reoliadau 2006, 2007, 2008, 2008 (Rhif 2), 2009, 2011, 2011 (Rhif 2), 2012 neu 2013 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o’r rhain ar ei gyfer;

ystyr “cwrs presennol” (“present course”) yw’r cwrs dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef o dan reoliad 9;

ystyr “cwrs rhagarweiniol” (“preliminary course”) yw cwrs a restrir ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 2 ac yr ymgymerir ag ef cyn ymgymryd â chwrs gradd llawnamser (ac eithrio cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) neu gwrs gradd sylfaen yr ymgymerir ag ef cyn ymgymryd â chwrs gradd anrhydedd llawnamser, yn ôl fel y digwydd;

ystyr “cwrs rhan-amser dynodedig” (“designated part-time course”) yw cwrs sydd wedi ei ddynodi gan reoliad 88(1) neu gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 88(6);

ystyr “cwrs rhan-amser presennol” (“present part-time course”) yw’r cwrs rhan-amser dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad ag ef o dan reoliad 104;

mae i “cwrs rhyngosod” (“sandwichcourse”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (6);

ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“2004/38 Directive”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor(13) ar hawl dinasyddion yr Undeb ac aelodau o’u teuluoedd i symud ac i fyw’n ddilyffethair yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau;

ystyr “cyfnod arferol” (“ordinary duration”), o ran cwrs dynodedig, yw nifer y blynyddoedd academaidd y byddai myfyriwr safonol yn eu cymryd i gwblhau’r cwrs dynodedig;

ystyr “cyfnodau o brofiad gwaith” (“periods of work experience”) yw—

(a)

cyfnodau o brofiad diwydiannol, proffesiynol neu fasnachol sy’n gysylltiedig ag astudiaethau llawnamser mewn sefydliad ond mewn man y tu allan i’r sefydliad hwnnw;

(a)

cyfnodau pryd y caiff myfyriwr ei gyflogi ac y bydd yn preswylio mewn gwlad y mae ei hiaith yn un y mae’r myfyriwr yn ei hastudio ar gyfer cwrs y myfyriwr (ar yr amod bod y cyfnod o breswylio yn y wlad honno yn un o ofynion cwrs y myfyriwr a bod astudio un neu fwy o ieithoedd modern yn cyfrif am nid llai na hanner cyfanswm yr amser a dreulir yn astudio ar y cwrs);

ystyr “cyfraniad” (“contribution”), o ran—

(a)

myfyriwr cymwys, yw cyfraniad y myfyriwr wedi ei gyfrifo yn unol â rheoliad 60 ac Atodlen 5;

(b)

myfyriwr rhan-amser cymwys, yw cyfraniad y myfyriwr wedi ei gyfrifo yn unol â rheoliad 101 ac Atodlen 6;

ystyr “Cyngor Ymchwil” (“ResearchCouncil”) yw unrhyw un o’r cynghorau ymchwil canlynol—

(a)

Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau,

(b)

Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol,

(c)

Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol,

(d)

Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol,

(e)

Y Cyngor Ymchwil Feddygol,

(f)

Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol,

(g)

Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg;

ystyr “cymorth” (“support”), ac eithrio pan ddynodir yn wahanol, yw cymorth ariannol ar ffurf grant neu fenthyciad a roddir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliadau a wnaed ganddynt o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

ystyr “cymorth at ffioedd” (“fee support”) yw grantiau mewn perthynas â ffioedd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998 ac mae’n cynnwys benthyciadau at ffioedd mewn perthynas â ffioedd o dan Ran 4;

ystyr “cyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd” (“former Metropolitan Police District”) yw—

(a)

Llundain Fwyaf, heb gynnwys dinas Llundain, y Deml Fewnol a’r Deml Ganol;

(b)

yn swydd Essex, yn nosbarth Epping Forest—

  • ardal cyn ddosbarth trefol Chigwell,

  • plwyf Waltham Abbey;

(c)

yn swydd Hertford—

  • ym mwrdeistref Broxbourne, ardal cyn ddosbarth trefol Cheshunt,

  • dosbarth Hertsmere,

  • yn nosbarth Welwyn Hatfield, plwyf Northaw; a

(d)

yn swydd Surrey—

  • ym mwrdeistref Elmbridge, ardal cyn ddosbarth trefol Esher,

  • bwrdeistrefi Epsom ac Ewell a Spelthorne,

  • yn nosbarth Reigate a Banstead, ardal cyn ddosbarth trefol Banstead;

ystyr “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” (“council tax reduction scheme”) yw cynllun a wnaed gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013(14) neu sy’n gymwys yn ddiofyn(15) yn unol â pharagraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(16);

ystyr “cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth” (“employment-based teacher training scheme”) yw—

(a)

cynllun a sefydlwyd gan Weinidogion Cymru at ddiben rheoliad 8 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004(17) neu at ddiben rheoliad 8 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012(18) sy’n caniatáu i berson ymgymryd â hyfforddiant cychwynnol athrawon er mwyn ennill statws athro neu athrawes gymwysedig tra bo’n cael ei gyflogi i addysgu mewn ysgol a gynhelir, ysgol annibynnol neu sefydliad arall ac eithrio uned cyfeirio disgyblion; neu

(b)

cynllun a sefydlwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n caniatáu i berson ymgymryd â hyfforddiant cychwynnol athrawon er mwyn ennill statws athro neu athrawes gymwysedig tra bo’n cael ei gyflogi i addysgu mewn ysgol, coleg dinas, Academi, ysgol annibynnol neu sefydliad arall ac eithrio uned cyfeirio disgyblion;

ystyr “chwarter” (“quarter”) mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw cyfnod yn y flwyddyn honno—

(a)

sy’n dechrau ar 1 Ionawr ac sy’n diweddu ar 31 Mawrth;

(b)

sy’n dechrau ar 1 Ebrill ac sy’n diweddu ar 30 Mehefin;

(c)

sy’n dechrau ar 1 Gorffennaf ac sy’n diweddu ar 31 Awst; neu

(d)

sy’n dechrau ar 1 Medi ac sy’n diweddu ar 31 Rhagfyr;

ystyr “Deddf 1962” (“the 1962 Act”) yw Deddf Addysg 1962(19);

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;

ystyr “dyfarniad statudol” (“statutoryaward”) unrhyw ddyfarniad a roddir, unrhyw grant a delir neu unrhyw gymorth arall a ddarperir yn rhinwedd Deddf 1998 neu Ddeddf 1962, neu unrhyw ddyfarniad, grant neu gymorth arall cyffelyb mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs sy’n cael ei dalu o’r cronfeydd cyhoeddus;

ystyr “y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr” (“student loans legislation”) yw Deddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990(20), Gorchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990(21), Deddf Addysg (Yr Alban) 1980 a rheoliadau a wnaed o dan y Deddfau hynny neu’r Gorchymyn hwnnw, Gorchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998(22) a rheoliadau a wnaed o dan y Gorchymyn hwnnw neu Ddeddf 1998 a rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf 1998;

mae i “ffioedd” yr ystyr a roddir i “fees” yn adran 41(1) o Ddeddf Addysg Uwch 2004(23) ac eithrio mewn cyfeiriadau at ffioedd coleg;

ystyr “ffioedd coleg” (“college fees”) yw’r ffioedd sy’n daladwy gan fyfyriwr cymhwysol i goleg neu neuadd breifat barhaol ym Mhrifysgol Rhydychen neu i un o golegau Prifysgol Caergrawnt mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr cymhwysol ar gwrs cymhwysol;

ystyr “ffoadur” (“refugee”) yw person a gydnabuwyd gan lywodraeth Ei Mawrhydi fel ffoadur o fewn ystyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig sy’n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951(24) fel y’i hestynnwyd gan y Protocol iddo a ddaeth i rym ar 4 Hydref 1967(25);

ystyr “grant at deithio” (“grant for travel”) yw’r grant sy’n daladwy o dan reoliadau 33 i 35;

ystyr “grant at ffioedd” (“fee grant”) yw grant a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 16;

ystyr “grant at gostau byw” (“grant for living costs”) (heb ddim mwy) yw grant o dan unrhyw rai o ddarpariaethau Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn;

ystyr “grant at gostau byw myfyrwyr anabl” (“grant for disabled students’ living costs”) yw’r grant sy’n daladwy o dan reoliad 25;

ystyr “grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl” (“grant for disabled distance learning students’ living costs”) yw’r grant sy’n daladwy o dan reoliad 76;

ystyr “grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl” (“grant for disabled part-time students’ living costs”) yw’r grant sy’n daladwy o dan reoliad 93;

ystyr “grant cymorth arbennig” (“special support grant”) yw’r grant sy’n daladwy o dan reoliadau 40 i 43;

ystyr “grant cynhaliaeth” (“maintenance grant”) yw’r grant sy’n daladwy o dan reoliadau 36 i 39;

ystyr “grant dibynyddion mewn oed” (“adult dependants’ grant”) yw’r grant sy’n daladwy o dan reoliad 27;

ystyr “grant gofal plant” (“childcare grant”) yw’r grant sy’n daladwy o dan reoliad 28;

ystyr “grant newydd at ffioedd” (“new fee grant”) yw grant a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 17;

ystyr “grant newydd at gyrsiau rhan-amser” (“new part-time course grant”) yw grant sy’n daladwy gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 92;

ystyr “grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed” (“part-time adult dependants’ grant”) yw’r grant sy’n daladwy o dan reoliad 96;

ystyr “grant rhan-amser ar gyfer gofal plant” (“part-time childcare grant”) yw’r grant sy’n daladwy o dan reoliad 97;

ystyr “grantiau ar gyfer dibynyddion” (“grants for dependants”) yw’r grantiau a’r lwfans a restrir yn rheoliad 26(1);

ystyr “grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion” (“part-time grants for dependants”) yw’r grantiau a’r lwfans a restrir yn rheoliad 95(1);

ystyr “gweithiwr Twrcaidd” (“Turkishworker”) yw gwladolyn Twrcaidd—

(a)

sydd fel arfer yn preswylio yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd; a

(b)

sydd, neu sydd wedi bod, mewn cyflogaeth gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “gwladolyn o’r UE” (“EU national”) yw un o wladolion un o Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd;

mae “gwybodaeth” (“information”) yn cynnwys dogfennau;

ystyr “hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”) yw hawl sy’n deillio o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad;

mae “hen ddyfarniad” (“oldaward”) yn ddyfarniad o fewn ystyr “award” yn Rheoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 2003(26);

ystyr “hen gwrs ôl-radd hyblyg ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon” (“old flexible postgraduate course for the initial training of teachers”) yw cwrs HCA ôl-radd hyblyg y dechreuodd myfyriwr fod yn bresennol arno cyn 1 Medi 2008;

mae i’r ymadroddion “incwm yr aelwyd”, “incwm aelwyd” ac “incwm sydd gan yr aelwyd” (“household income”)—

(a)

o ran myfyriwr cymwys, yr ystyr a roddir iddynt yn Atodlen 5;

(b)

o ran myfyriwr rhan-amser cymwys, yr ystyr a roddir iddynt yn Atodlen 6;

ystyr “lwfans dysgu ar gyfer rhieni” (“parents’ learning allowance”) yw’r lwfans sy’n daladwy o dan reoliad 29;

ystyr “lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni” (“part-time parents’ learning allowance”) yw’r lwfans sy’n daladwy o dan reoliad 98;

ystyr “lwfans gofal iechyd yr Alban” (“Scottish healthcare allowance”) yw unrhyw lwfans o dan adrannau 73(f) a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(27) a roddwyd mewn perthynas â pherson sy’n bresennol ar gwrs sy’n arwain at gymhwyster mewn proffesiwn gofal iechyd ac eithrio fel doctor meddygol neu ddeintydd;

ystyr “llofnod electronig” (“electronicsignature”) yw cymaint o unrhyw beth ar ffurf electronig ag sydd—

(a)

wedi ei ymgorffori mewn unrhyw gyfathrebiad electronig neu ddata electronig neu sydd fel arall wedi ei gysylltu yn rhesymegol â hwy; a

(b)

yn honni ei fod wedi ei ymgorffori neu wedi ei gysylltu felly at ddiben cael ei ddefnyddio i gadarnhau bod y cyfathrebiad neu’r data yn ddilys, bod y cyfathrebiad neu’r data yn gyflawn, neu’r ddau;

mae i “myfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2006” (“2006gap year student”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (2);

mae i “myfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010” (“2010 gap year student”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (12);

mae i “myfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2011” (“2011 gap year student”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (16);

ystyr “myfyriwr carfan 2010” (“2010 cohort student”) yw myfyriwr cymwys a ddechreuodd ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2010 a chyn 1 Medi 2011, ac eithrio—

(a)

myfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010;

(b)

myfyriwr cymwys a ddechreuodd ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2010 a chyn 1 Medi 2011 pan fo’r cwrs hwnnw’n gwrs penben, sy’n dilyn ymlaen o gwrs y dechreuodd y myfyriwr arno—

(i)

cyn 1 Medi 2010; neu

(ii)

cyn 1 Medi 2011, a’r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs hwnnw; neu

(c)

myfyriwr cymwys a ddechreuodd ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2010 a chyn 1 Medi 2011 ac y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr cymwys i’r cwrs hwnnw o ganlyniad i un neu ragor o drosglwyddiadau o’r statws hwnnw gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998, o gwrs dynodedig y dechreuodd y myfyriwr arno—

(i)

cyn 1 Medi 2010; neu

(ii)

cyn 1 Medi 2011, a’r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs hwnnw;

ystyr “myfyriwr carfan 2011” (“2011 cohort student”) yw myfyriwr cymwys a ddechreuodd ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2011, ond cyn 1 Medi 2012, ac eithrio—

(a)

myfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2011;

(b)

myfyriwr cymwys a ddechreuodd ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2011 ond cyn 1 Medi 2012 pan fo’r cwrs hwnnw’n gwrs penben, sy’n dilyn ymlaen o gwrs—

(i)

y dechreuodd y myfyriwr arno cyn 1 Medi 2011; neu

(ii)

y dechreuodd y myfyriwr arno cyn 1 Medi 2012, a’r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2011 mewn perthynas â’r cwrs hwnnw; neu

(c)

myfyriwr cymwys a ddechreuodd ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2011 a chyn 1 Medi 2012 ac y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr cymwys i’r cwrs hwnnw o ganlyniad i un neu ragor o drosglwyddiadau o’r statws hwnnw gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998, o gwrs dynodedig y dechreuodd y myfyriwr arno—

(i)

cyn 1 Medi 2011; neu

(ii)

cyn 1 Medi 2012, a’r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2011 mewn perthynas â’r cwrs hwnnw;

ystyr “myfyriwr carfan 2012” (“2012 cohort student”) yw myfyriwr cymwys sy’n dechrau ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2012, ac eithrio—

(a)

myfyriwr cymwys a ddechreuodd ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2012 pan fo’r cwrs hwnnw’n gwrs penben, sy’n dilyn ymlaen o gwrs y dechreuodd y myfyriwr arno cyn 1 Medi 2012; neu

(b)

myfyriwr cymwys a ddechreuodd ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2012 ac y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr cymwys i’r cwrs hwnnw o ganlyniad i un neu ragor o drosglwyddiadau o’r statws hwnnw gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998, o gwrs dynodedig y dechreuodd y myfyriwr arno cyn 1 Medi 2012; neu

(c)

myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012;

ystyr “myfyriwr carfan newydd” (“new cohort student”) yw myfyriwr carfan 2010, myfyriwr carfan 2011 a myfyriwr carfan 2012;

ystyr “myfyriwr cwrs gradd cywasgedig” (“compressed degree student”) yw myfyriwr cymwys—

(a)

sy’n ymgymryd â chwrs gradd cywasgedig yn y Deyrnas Unedig (y “cwrs”);

(b)

naill ai sydd—

(i)

wedi dechrau ar y cwrs ar neu ar ôl i Medi 2006 ac sy’n parhau ar y cwrs hwnnw ar ôl 31 Awst 2013; neu

(ii)

yn dechrau ar y cwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2013; ac

(c)

y mae naill ai—

(i)

yn ofynnol iddo fod yn bresennol ar y cwrs am ran o’r flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais am gymorth ar ei chyfer o dan y Rheoliadau hyn; neu

(ii)

yn fyfyriwr cymwys anabl nad yw’n ofynnol iddo fod yn bresennol ar y cwrs, gan na all y myfyriwr hwnnw fod yn bresennol am reswm sy’n ymwneud ag anabledd y myfyriwr hwnnw;

ystyr “myfyriwr cymhwysol” (“qualifying student”) yw person sy’n bodloni’r amodau a nodir ym mharagraff 2 o Atodlen 4;

mae i “myfyriwr cymwys” (“eligible student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4;

ystyr “myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd” (“new system eligible student”) yw myfyriwr cymwys sydd naill ai—

(a)

wedi dechrau’r cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ac yn parhau ar y cwrs hwnnw ar ôl 31 Awst 2013; neu

(b)

yn dechrau’r cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2013;

mae i “myfyriwr dysgu o bell cymwys” (“eligible distance learning student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 69;

ystyr “myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon” (“type 1 teacher training student”) yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (ac eithrio cwrs gradd gyntaf) y mae cyfanswm ei gyfnodau o bresenoldeb llawnamser (gan gynnwys presenoldeb at ddiben ymarfer dysgu) yn y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi o dan y Rheoliadau hyn yn 6 wythnos o leiaf ond yn llai na 10 wythnos, pan fo’r cwrs naill ai—

(a)

wedi dechrau cyn 1 Medi 2010;

(b)

wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a’r myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu

(c)

wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a’r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs;

ystyr “myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon” (“type 2 teacher training student”) yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (ac eithrio cwrs gradd gyntaf) y mae cyfanswm ei gyfnodau o bresenoldeb llawnamser (gan gynnwys presenoldeb at ddiben ymarfer dysgu) yn y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi o dan y Rheoliadau hyn yn 10 wythnos neu fwy, pan fo’r cwrs naill ai—

(a)

wedi dechrau cyn 1 Medi 2010;

(b)

wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a’r myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu

(c)

wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a’r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs;

ystyr “myfyriwr math 3 ar gwrs hyfforddi athrawon” (“type 3 teacher training student”) yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd ar gwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon y mae cyfanswm ei gyfnodau o bresenoldeb llawnamser (gan gynnwys presenoldeb at ddiben ymarfer dysgu) yn y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi o dan y Rheoliadau hyn yn 6 wythnos o leiaf ond yn llai na 10 wythnos, pan fo’r cwrs naill ai—

(a)

wedi dechrau cyn 1 Medi 2010;

(b)

wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a’r myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu

(c)

wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a’r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs;

ystyr “myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012” (“2012 accelerated graduate entry student”) yw myfyriwr cymwys sy’n dechrau ar gwrs mynediad graddedig carlam ar neu ar ôl 1 Medi 2012;

mae i “myfyriwr ôl-raddedig cymwys” (“eligible postgraduate student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 115;

mae i “myfyriwr rhan-amser cymwys” (“eligible part-time student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 86;

ystyr “myfyriwr rhan-amser cymwys newydd” (“new eligible part-time student”) yw myfyriwr rhan-amser cymwys sy’n dechrau ar gwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2014, ac eithrio—

(a)

myfyriwr rhan-amser cymwys a ddechreuodd ar y cwrs rhan-amser presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2014 pan fo’r cwrs hwnnw’n gwrs penben, sy’n dilyn ymlaen o gwrs rhan-amser dynodedig y dechreuodd y myfyriwr arno cyn 1 Medi 2014; neu

(b)

myfyriwr rhan-amser cymwys a ddechreuodd ar y cwrs rhan-amser presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2014 ac y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr rhan-amser cymwys i’r cwrs rhan-amser hwnnw o ganlyniad i un neu ragor o drosglwyddiadau o’r statws hwnnw gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 107 o gwrs rhan-amser dynodedig y dechreuodd y myfyriwr arno cyn 1 Medi 2014;

mae “myfyriwr safonol” (“standard student”) yn fyfyriwr sydd i’w ystyried—

(a)

yn un sydd wedi dechrau ar y cwrs dynodedig ar yr un dyddiad â’r myfyriwr cymwys o dan sylw;

(b)

yn un nad esgusodir unrhyw ran o’r cwrs iddo;

(c)

yn un na chaiff ailadrodd unrhyw ran o’r cwrs; a

(d)

yn un na chaiff fod yn absennol o’r cwrs ac eithrio yn ystod gwyliau;

ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”) yw person (“A” yn y diffiniad hwn)—

(a)

sydd—

(i)

wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, o ganlyniad i’r cais hwnnw, y tybir, er yr ystyrir nad yw A yn gymwys i gael ei gydnabod fel ffoadur, ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn; neu

(ii)

heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn;

(b)

y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;

(c)

y mae cyfnod ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros heb ddod i ben nac wedi cael ei adnewyddu ac nad yw’r cyfnod y cafodd ei adnewyddu ar ei gyfer wedi dod i ben neu fod apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002(28) mewn perthynas â’i ganiatâd i ddod i mewn neu i aros; ac

(d)

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod er pan roddwyd caniatâd i A ddod i mewn neu i aros;

ystyr “Rheoliadau 1998” (“the 1998 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 1998(29);

ystyr “Rheoliadau 1999” (“the1999Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 1999(30);

ystyr “Rheoliadau 2000” (“the 2000 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2000(31);

ystyr “Rheoliadau 2001” (“the 2001 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2001(32);

ystyr “Rheoliadau 2002” (“the2002Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2002(33);

ystyr “Rheoliadau 2003” (“the 2003 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002(34) fel y’u diwygiwyd;

ystyr “Rheoliadau 2004” (“the 2004 Regulations”) yw Rheoliadau 2003 fel y’u diwygiwyd ymhellach(35);

ystyr “Rheoliadau 2005” (“the2005Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2005(36);

ystyr “Rheoliadau 2006” (“the 2006 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006(37);

ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2007(38);

ystyr “Rheoliadau 2008” (“the 2008 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2008(39);

ystyr “Rheoliadau (Rhif 2) 2008” (“the 2008 (No. 2) Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2008(40);

ystyr “Rheoliadau 2009” (“the 2009 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2009(41);

ystyr “Rheoliadau 2011” (“the 2011 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2011(42);

ystyr “Rheoliadau (Rhif 2) 2011” (“the 2011 (No. 2) Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu’r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2011(43);

ystyr “Rheoliadau 2012” (“the 2012 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2012(44);

ystyr “Rheoliadau 2013” (“the 2013 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2013(45);

ystyr “sefydliad preifat” (“private institution”) yw sefydliad nad yw’n cael ei ariannu’n gyhoeddus;

ystyr “yr Undeb Ewropeaidd” (“EuropeanUnion”) yw tiriogaeth Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd fel y’i cyfansoddir o bryd i’w gilydd;

ystyr “Ynysoedd” (“Islands”) yw Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw; ac

ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintainedschool”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig neu ysgol feithrin a gynhelir.

(2Yn y Rheoliadau hyn mae person yn “fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2006” (“2006 gap year student”) mewn perthynas â chwrs a ddarparwyd gan neu ar ran sefydliad a ariannwyd yn gyhoeddus ar 1 Awst 2005 os yw’r person yn bodloni’r amodau ym mharagraffau (3) neu (5).

(3Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

(a)bod y person, ar neu cyn 1 Awst 2005 wedi cael cynnig o le, pa un ai’n amodol ar ennill cymwysterau penodedig ai peidio, ar y cwrs presennol neu gwrs tebyg; a

(b)bod blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ond cyn 1 Medi 2007.

(4Ym mharagraff (3) mae cwrs (“y cwrs gwreiddiol”) yn debyg i’r cwrs presennol—

(a)os yw’n ymddangos i awdurdod academaidd y sefydliad sy’n darparu’r cwrs presennol fod cynnwys y cwrs, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, yr un fath â chynnwys y cwrs gwreiddiol, a

(b)ac eithrio pan nad yw’r cwrs gwreiddiol yn cael ei ddarparu mwyach, os yw’r cwrs presennol yn cael ei ddarparu gan y sefydliad a fyddai wedi darparu’r cwrs gwreiddiol.

(5Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

(a)bod y person wedi cael cynnig lle ar gwrs dynodedig (pa un ai yn yr un sefydliad â’r cwrs presennol ai peidio) y mae blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs hwnnw wedi dechrau cyn 1 Medi 2006;

(b)na allai’r person dderbyn y cynnig oherwydd na ddyfarnwyd i’r person gymhwyster penodedig neu safon benodedig;

(c)bod y person wedi apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â dyfarnu’r cymhwyster neu’r safon i’r person;

(d)bod yr apêl wedi ei chaniatáu ar ôl y dyddiad diwethaf y gallai’r person fod wedi derbyn y cynnig;

(e)o ganlyniad, bod y person wedi cael cynnig lle ar y cwrs presennol; ac

(f)bod blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ond cyn 1 Medi 2007.

(6Yn y Rheoliadau hyn—

(a)mae cwrs yn “gwrs rhyngosod” (“sandwich course”)—

(i)os nad yw’n gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon, nac yn flwyddyn academaidd o gwrs dynodedig sy’n flwyddyn Erasmus;

(ii)os yw’n cynnwys cyfnodau o astudio llawnamser mewn sefydliad am yn ail â chyfnodau o brofiad gwaith; a

(iii)gan gymryd y cwrs yn ei gyfanrwydd, os yw’r myfyriwr yn bresennol ar y cyfnodau o astudio llawnamser am nid llai na 18 wythnos ym mhob blwyddyn ar gyfartaledd;

(b)er mwyn cyfrifo presenoldeb y myfyriwr at ddibenion is-baragraff (a), trinnir y cwrs fel pe bai’n dechrau gyda’r cyfnod cyntaf o astudio llawnamser ac yn diweddu gyda’r cyfnod olaf o’r fath;

(c)at ddibenion is-baragraff (a), os ceir cyfnodau o astudio llawnamser am yn ail â phrofiad gwaith yn ystod unrhyw wythnos ar y cwrs, mae’r dyddiau o astudio llawnamser yn cael eu hadio at ei gilydd ac at unrhyw wythnosau o astudio llawnamser wrth bennu nifer yr wythnosau o astudio llawnamser ym mhob blwyddyn.

(7Yn y Rheoliadau hyn, ystyr y “cwrs dynodedig a bennir” (“specified designated course”) yw’r cwrs presennol, yn ddarostyngedig i baragraffau (8) a (9).

(8Os yw statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo i’r cwrs presennol o ganlyniad i un neu fwy nag un trosglwyddiad o’r statws hwnnw gan Weinidogion Cymru oddi ar gwrs (y “cwrs cychwynnol”) y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys yn unol â rheoliadau a wnaed ganddynt o dan adran 22 o Ddeddf 1998, y cwrs cychwynnol yw’r cwrs dynodedig a bennir.

(9Os yw’r cwrs presennol yn gwrs penben, y cwrs dynodedig a bennir yw’r cwrs y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef (“y cwrs blaenorol”). Os yw’r cwrs blaenorol ei hun yn gwrs penben, y cwrs dynodedig a bennir yw’r cwrs y mae’r cwrs blaenorol ei hun yn gwrs penben mewn perthynas ag ef.

(10Yn y Rheoliadau hyn, mae’r ymadrodd “myfyriwr sydd â hawl i gael grant at ffioedd” (“student who qualifies for a fee grant”) mewn perthynas â chwrs dynodedig ac mae unrhyw gyfeiriad at fyfyriwr nad oes ganddo hawl i gael grant at ffioedd, i’w dehongli yn unol â rheoliad 16.

(11Yn y Rheoliadau hyn, mae i’r ymadrodd “cwrs dynodedig cymhwysol” (“qualifying designated course”), mewn perthynas â myfyriwr sydd â hawl i gael grant at ffioedd, yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 16.

(12Yn y Rheoliadau hyn, mae person yn “fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010” (“2010 gap year student”) mewn perthynas â chwrs a ddarperir gan neu ar ran sefydliad a ariennid yn gyhoeddus ar 1 Awst 2009 os yw’r person hwnnw’n bodloni’r amodau ym mharagraffau (13) neu (15).

(13Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (12) yw—

(a)bod y person wedi cael cynnig lle, pa un ai’n amodol ai peidio, ar 1 Awst 2009 neu cyn hynny, ar y cwrs presennol neu gwrs tebyg; a

(b)bod blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011.

(14Ym mharagraff (13), mae cwrs (“y cwrs gwreiddiol”) yn debyg i’r cwrs presennol—

(a)pan yw’n ymddangos i awdurdod academaidd y sefydliad sy’n darparu’r cwrs presennol mai yr un, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, yw cynnwys y cwrs a chynnwys y cwrs gwreiddiol; a

(b)ac eithrio pan na ddarperir y cwrs gwreiddiol mwyach, pan yw’r cwrs presennol yn cael ei ddarparu gan y sefydliad a fyddai wedi darparu’r cwrs gwreiddiol.

(15Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (12) yw—

(a)bod y person wedi cael cynnig lle ar gwrs dynodedig (pa un ai yn yr un sefydliad â’r cwrs presennol ai peidio) a bod blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs hwnnw wedi dechrau cyn 1 Medi 2010;

(b)na allai’r person dderbyn y cynnig oherwydd na ddyfarnwyd i’r person gymhwyster penodedig neu safon benodedig;

(c)bod y person wedi apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â dyfarnu’r cymhwyster neu’r safon i’r person;

(d)bod yr apêl wedi ei chaniatáu ar ôl y dyddiad diwethaf y gallai’r person fod wedi derbyn y cynnig;

(e)o ganlyniad, bod y person wedi cael cynnig lle ar y cwrs presennol; ac

(f)bod blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011.

(16Yn y Rheoliadau hyn, mae person yn “fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2011” (“2011 gap year student”) mewn perthynas â chwrs a ddarparwyd gan neu ar ran sefydliad a ariannwyd yn gyhoeddus ar 1 Awst 2010 os yw’r person hwnnw’n bodloni’r amodau ym mharagraffau (17) neu (19).

(17Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (16) yw―

(a)bod y person wedi cael cynnig lle, pa un ai’n amodol ai peidio, ar 1 Awst 2010 neu cyn hynny, ar y cwrs presennol neu gwrs tebyg; a

(b)bod blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2011 ond cyn 1 Medi 2012.

(18Ym mharagraff (17), mae cwrs (“y cwrs gwreiddiol”) yn debyg i’r cwrs presennol—

(a)pan yw’n ymddangos i awdurdod academaidd y sefydliad sy’n darparu’r cwrs presennol mai yr un, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, yw cynnwys y cwrs a chynnwys y cwrs gwreiddiol; a

(b)ac eithrio pan na ddarperir y cwrs gwreiddiol mwyach, pan yw’r cwrs presennol yn cael ei ddarparu gan y sefydliad a fyddai wedi darparu’r cwrs gwreiddiol.

(19Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (16) yw—

(a)bod y person wedi cael cynnig lle ar gwrs dynodedig (pa un ai yn yr un sefydliad â’r cwrs presennol ai peidio) a bod blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs hwnnw wedi dechrau cyn 1 Medi 2011;

(b)na allai’r person dderbyn y cynnig oherwydd na ddyfarnwyd i’r person gymhwyster penodedig neu safon benodedig;

(c)bod y person wedi apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â dyfarnu’r cymhwyster neu’r safon i’r person;

(d)bod yr apêl wedi ei chaniatáu ar ôl y dyddiad diwethaf y gallai’r person fod wedi derbyn y cynnig;

(e)o ganlyniad, bod y person wedi cael cynnig lle ar y cwrs presennol; ac

(f)bod blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2011 ond cyn 1 Medi 2012.

(20At ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)rhaid trin myfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2011 fel myfyriwr carfan 2010;

(b)yn ddarostyngedig i baragraff (21), pan fo myfyriwr cymwys yn dechrau ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2011 a’r cwrs hwnnw’n gwrs penben sy’n dilyn ar ôl cwrs dynodedig (“y cwrs blaenorol”) y dechreuodd y myfyriwr arno ar neu ar ôl 1 Medi 2010 a chyn 1 Medi 2011, rhaid trin y myfyriwr fel myfyriwr carfan 2010;

(c)pan fo myfyriwr cymwys yn dechrau ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2011 ac y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr cymwys i’r cwrs hwnnw o ganlyniad i un neu ragor o drosglwyddiadau o’r statws hwnnw gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998, o gwrs dynodedig (“y cwrs blaenorol”) y dechreuodd y myfyriwr arno ar neu ar ôl 1 Medi 2010 a chyn 1 Medi 2011, rhaid trin y myfyriwr fel myfyriwr carfan 2010;

(d)yn ddarostyngedig i baragraff (22), pan fo myfyriwr cymwys yn dechrau ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2012 a’r cwrs hwnnw’n gwrs penben sy’n dilyn ar ôl cwrs dynodedig (“y cwrs blaenorol”) y dechreuodd y myfyriwr arno ar neu ar ôl 1 Medi 2011 a chyn 1 Medi 2012, rhaid trin y myfyriwr fel myfyriwr carfan 2011;

(e)yn ddarostyngedig i baragraff (22), pan fo myfyriwr cymwys yn dechrau ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2012 ac y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr cymwys i’r cwrs hwnnw o ganlyniad i un neu ragor o drosglwyddiadau o’r statws hwnnw gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998, o gwrs dynodedig (“y cwrs blaenorol”) y dechreuodd y myfyriwr arno ar neu ar ôl 1 Medi 2011 a chyn 1 Medi 2012, rhaid trin y myfyriwr fel myfyriwr carfan 2011.

(21Rhaid peidio â thrin y myfyriwr cymwys y cyfeirir ato yn is-baragraffau (b) ac (c) o baragraff (20) fel myfyriwr carfan 2010 os yw’r myfyriwr, mewn perthynas â’r cwrs blaenorol, yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010.

(22Rhaid peidio â thrin y myfyriwr cymwys y cyfeirir ato yn is-baragraffau (d) a (e) o baragraff (20) fel myfyriwr carfan 2011 os yw’r myfyriwr, mewn perthynas â’r cwrs blaenorol, yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2011.

Dirymu, arbedion a darpariaethau trosiannol

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (13), mae Rheoliadau 2013 wedi eu dirymu ar 1 Medi 2014.

(2Mae Rheoliadau 2003 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2003 ond cyn 1 Medi 2004.

(3Mae Rheoliadau 2004 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2004 ond cyn 1 Medi 2005.

(4Mae Rheoliadau 2005 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2005 ond cyn 1 Medi 2006.

(5Mae Rheoliadau 2006 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ond cyn 1 Medi 2007.

(6Mae Rheoliadau 2007 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2007 ond cyn 1 Medi 2008.

(7Mae Rheoliadau 2008 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2008 ond cyn 1 Medi 2009.

(8Mae Rheoliadau (Rhif 2) 2008 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2009 ond cyn 1 Medi 2010.

(9Mae Rheoliadau 2009 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011.

(10Mae Rheoliadau 2011 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2011 ond cyn 1 Medi 2012.

(11Mae Rheoliadau (Rhif 2) 2011 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012 ond cyn 1 Medi 2013.

(12Mae Rheoliadau 2012 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2013 ond cyn 1 Medi 2014.

(13Mae Rheoliadau 2013 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2014 ond cyn 1 Medi 2015.

(14At ddibenion paragraffau (2) i (4), mae unrhyw gyfeiriad at yr Ysgrifennydd Gwladol o ran unrhyw swyddogaeth a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan y Rheoliadau y cyfeirir atynt yn y paragraffau hynny, i’w ddarllen o ran Cymru fel cyfeiriad at—

(a)Gweinidogion Cymru, yn achos swyddogaeth y cyfeirir ati yn adran 44(1) o Ddeddf Addysg Uwch 2004(46); neu

(b)Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol, yn achos swyddogaeth y cyfeirir ati yn adran 44(2) o Ddeddf Addysg Uwch 2004.

(15Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2014 pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl 1 Medi 2014.

RHAN 2CYMHWYSTRA

Myfyrwyr cymwys

4.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael cymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (7), mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig—

(a)os yw Gweinidogion Cymru, wrth asesu cais y person am gymorth o dan reoliad 9, yn penderfynu ei fod yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1; a

(b)os nad yw’r person wedi ei hepgor gan baragraff (3).

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (7), ni fydd person (“A” yn y paragraff hwn) yn fyfyriwr cymwys—

(a)os oes hen ddyfarniad wedi ei roi i A mewn perthynas â phresenoldeb A ar y cwrs;

(b)os yw A yn gymwys i gael benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs o dan Ddeddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990 neu Orchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990;

(c)os rhoddwyd i A, neu os talwyd i A, mewn perthynas â’i bresenoldeb ar y cwrs—

(i)bwrsari gofal iechyd, ac eithrio bwrsari gofal iechyd cyffredinol, nas cyfrifir ei swm drwy gyfeirio at incwm A; neu

(ii)unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007(47);

(d)os yw A wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

(e)os yw A wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynglŷn â benthyciad a wnaed ag A pan oedd A o dan 18 oed; neu

(f)os yw A, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw’n addas i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn.

(4At ddibenion paragraffau (3)(d) a (3)(e), ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a roddwyd o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.

(5Mewn achos pan fo’r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, ni fydd paragraff 3(e) yn gymwys ac eithrio pan fo’r cytundeb wedi ei wneud—

(a)cyn 25 Medi 1991, a

(b)gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd gan y benthyciwr guradur.

(6Nid oes gan fyfyriwr cymwys, y mae blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig a bennwyd mewn perthynas ag ef yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2000 hawl, ar unrhyw un adeg, i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn—

(a)at fwy nag un cwrs dynodedig;

(b)at gwrs dynodedig a chwrs rhan-amser dynodedig;

(c)at gwrs dynodedig a chwrs ôl-radd dynodedig;

(d)at gwrs dynodedig a chwrs dysgu o bell dynodedig.

(7Yn ddarostyngedig i baragraffau (9) i (11), os yw person yn bodloni’r amodau ym mharagraff (8)(a), (b) neu (c)—

(a)nid yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys i’r person; a

(b)mae’r person yn fyfyriwr cymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(8Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7) yw—

(a)bod―

(i)y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach o’r cwrs presennol yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(ii)y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol; a

(iii)statws y person fel myfyriwr cymwys heb ei derfynu.

(b)bod—

(i)y cwrs presennol yn gwrs penben y mae’r person yn dechrau arno ar neu ar ôl 1 Medi 2006;

(ii)y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef;

(iii)y cyfnod cymhwystra mewn perthynas â’r cwrs yn is-baragraff (b)(ii) wedi dod i ben oherwydd, yn unig, bod y myfyriwr wedi cwblhau’r cwrs; a

(iv)y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn is-baragraff (b)(ii);

(c)bod—

(i)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o’r blaen bod y person—

(aa)yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig;

(bb)yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig ac eithrio’r cwrs presennol; neu

(cc)yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig;

(ii)statws y person fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr dysgu o bell cymwys neu fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs yn is-baragraff (c)(i) wedi ei drosi neu wedi ei drosglwyddo o’r cwrs hwnnw i’r cwrs presennol o ganlyniad i drosi neu drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(iii)y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (c)(i); a

(iv)statws y person fel myfyriwr cymwys heb ei derfynu.

(9Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn ffoadur neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i ffoadur—

(i)yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o’r cwrs presennol, mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef, neu’n gais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig, cwrs dysgu o bell dynodedig neu gwrs dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys, neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo o’r cwrs hwnnw i’r cwrs presennol; neu

(ii)yn fyfyriwr cymhwysol mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs cymhwysol neu o gwrs cymhwysol arall y mae statws A fel myfyriwr cymhwysol wedi ei drosglwyddo o’r cwrs hwnnw i’r cwrs cymhwysol y mae’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef; a

(b)ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, statws ffoadur A neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) neu ei lys-riant, yn ôl fel y digwydd, wedi dod i ben ac nad oes unrhyw hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymhwysol yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(10Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu yn rhinwedd bod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i’r cyfryw berson—

(i)yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o’r cwrs presennol, mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef, neu’n gais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig, cwrs dysgu o bell dynodedig neu gwrs dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys, neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo o’r cwrs hwnnw i’r cwrs presennol; neu

(ii)yn fyfyriwr cymhwysol mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o’r cwrs cymhwysol neu o gwrs cymhwysol arall y mae statws A fel myfyriwr cymhwysol wedi ei drosglwyddo o’r cwrs hwnnw i’r cwrs cymhwysol y mae’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef; a

(b)ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod a ganiateir i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig wedi terfynu ac nad oes unrhyw hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymhwysol yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(11Nid yw paragraffau (9) a (10) yn gymwys pan fo’r myfyriwr wedi dechrau ar y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru, mewn cysylltiad â’r cwrs hwnnw, bod A yn fyfyriwr rhan-amser cymwys, yn fyfyriwr cymwys neu’n fyfyriwr cymhwysol, yn ôl fel y digwydd, cyn 1 Medi 2007.

(12Yn ddarostyngedig i baragraff (13), ni fydd carcharor sy’n dechrau’r cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2012 yn fyfyriwr cymwys oni bai—

(a)ei fod yn garcharor cymwys;

(b)ei fod yn fyfyriwr cymwys sydd wedi trosglwyddo i’r cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2012 o dan reoliad 8 o gwrs sy’n dechrau cyn 1 Medi 2012; neu

(c)bod y cwrs presennol yn gwrs penben.

(13Nid yw paragraff (12) yn gymwys o ran blwyddyn academaidd pryd y mae’r myfyriwr yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar.

Cyrsiau dynodedig

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), (3) a (4) mae cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 4—

(a)os yw wedi ei restru yn Atodlen 2;

(b)os yw’n un o’r canlynol—

(i)cwrs llawnamser;

(ii)cwrs rhyngosod;

(iii)cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon―

(aa)a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010;

(bb)sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 a’r myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu

(cc)a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 ac yr oedd y myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs; neu

(iv)cwrs dysgu o bell ac eithrio cwrs y mae rheoliad 71(5) yn gymwys iddo;

(c)os nad yw’n gwrs dysgu o bell dynodedig;

(d)os yw o leiaf—

(i)yn parhau am un flwyddyn academaidd; neu

(ii)yn parhau am chwe wythnos yn achos cwrs HCA ôl-radd hyblyg;

(e)os yw’n cael ei ddarparu’n gyfan gwbl yn y Deyrnas Unedig gan sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu’n cael ei ddarparu gan sefydliad o’r fath ar y cyd â sefydliad y tu allan i’r Deyrnas Unedig; ac

(f)ar gyfer cwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012 ac sy’n dod o fewn paragraffau 1, 2, 4, 6, 7 neu 8 o Atodlen 2, os yw’n gwrs sy’n arwain at ddyfarniad sydd wedi ei roi neu sydd i’w roi gan gorff sy’n dod o fewn adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(48).

(2Nid yw cwrs, sy’n dod o fewn paragraff 7 neu 8 o Atodlen 2, yn gwrs dynodedig os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi trefnu i ddarparu’r cwrs hwnnw i un o ddisgyblion yr ysgol.

(3Nid yw cwrs a gymerir fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon sydd wedi ei seilio ar gyflogaeth yn gwrs dynodedig.

(4Nid yw paragraff (1)(c) yn gymwys os bydd y person sy’n gwneud cais am gymorth o dan reoliad 9 mewn cysylltiad â’r cwrs—

(a)yn fyfyriwr cymwys anabl; a

(b)yn ymgymryd â’r cwrs hwnnw yn y Deyrnas Unedig ond heb fod yn bresennol arno oherwydd bod y person yn analluog i fod yn bresennol am reswm sy’n ymwneud ag anabledd y person hwnnw.

(5At ddibenion paragraff (1)—

(a)mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw’r sefydliad yn darparu’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs, pa un a yw’r sefydliad wedi gwneud cytundeb gyda’r myfyriwr i ddarparu’r cwrs neu beidio;

(b)bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu’n gyhoeddus os yw naill ai’r brifysgol neu’r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn cael eu hariannu’n gyhoeddus; ac

(c)ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu’n gyhoeddus ddim ond am ei fod yn cael arian o gronfeydd cyhoeddus gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(49).

(6Bernir bod cwrs y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo yn gwrs sengl ar gyfer gradd gyntaf neu ar gyfer cymhwyster cyfatebol hyd yn oed—

(a)os yw’r cwrs yn arwain at ddyfarnu gradd neu gymhwyster arall cyn y radd neu’r cymhwyster cyfatebol; a

(b)os yw rhan o’r cwrs yn ddewisol.

(7Mae paragraff (6) yn gymwys i gwrs nad yw ei safon yn uwch na gradd gyntaf ac sy’n arwain at gymhwyster fel meddyg, deintydd, milfeddyg, pensaer, pensaer tirwedd, dylunydd tirwedd, rheolwr tirwedd, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref.

(8At ddibenion adran 22 o Ddeddf 1998 a rheoliad 4(1), caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi eu dynodi o dan baragraff (1).

Cyfnod cymhwystra

6.—(1Bydd myfyriwr yn cadw ei statws fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig hyd nes y bo’r statws hwnnw’n terfynu yn unol â’r rheoliad hwn neu reoliad 4.

(2Y “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibilty”) yw’r cyfnod y bydd myfyriwr cymwys yn cadw’r statws y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

(3Yn ddarostyngedig i’r paragraffau canlynol a rheoliad 4, mae’r “cyfnod cymhwystra” yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y myfyriwr yn cwblhau’r cwrs dynodedig ynddi.

(4Mae’r cyfnod cymhwystra yn dod i ben pan fydd y myfyriwr cymwys—

(a)yn tynnu’n ôl o gwrs dynodedig y myfyriwr cymwys o dan amgylchiadau pan nad yw Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo na throsi, neu pan na fyddant yn trosglwyddo nac yn trosi, statws y myfyriwr cymwys fel myfyriwr cymwys o dan reoliad 8, rheoliad 81 neu reoliad 108; neu

(b)yn cefnu ar gwrs dynodedig y myfyriwr cymwys neu’n cael ei ddiarddel oddi arno.

(5Caiff Gweinidogion Cymru derfynu’r cyfnod cymhwystra os yw’r myfyriwr cymwys wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw’n addas i gael cymorth.

(6Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rheoliadau hyn neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy’n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw rai o’r camau canlynol y maent yn credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—

(a)terfynu’r cyfnod cymhwystra;

(b)penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw gymorth penodol neu unrhyw swm penodol o gymorth o dan y Rheoliadau hyn;

(c)trin unrhyw gymorth a dalwyd i’r myfyriwr o dan y Rheoliadau hyn fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliadau 67, 85, 114, 124 a pharagraff 15 o Atodlen 4.

(7Os bydd y cyfnod cymhwystra’n dod i ben cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn cwblhau’r cwrs dynodedig ynddi, caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu’r cyfnod cymhwystra am unrhyw gyfnod y byddant yn penderfynu arno.

(8Er gwaethaf paragraff (1), ni fydd myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, neu fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2006, na fu’n bresennol ar gwrs blaenorol, yn gymwys am ddim ond grant at ffioedd, grant newydd at ffioedd, benthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â’r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy’n hafal i OD+R+1.

(9Er gwaethaf paragraff (1) ac yn ddarostyngedig i baragraff (11), ni fydd myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, neu fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2006, sydd wedi bod yn bresennol ar gwrs blaenorol, yn gymwys am ddim ond grant at ffioedd, grant newydd at ffioedd, benthyciad at ffioedd, grant at deithio, grant cynhaliaeth neu grant cymorth arbennig mewn perthynas â’r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy’n hafal i (OD+R+1)-PC, ac eithrio—

(a)nad yw’r didyniad sy’n cyfateb i PC yn gymwys yn achos myfyriwr ar gwrs hyfforddi athrawon neu fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012;

(b)yn achos myfyriwr cymwys na chwblhaodd yn llwyddiannus y cwrs blaenorol diweddaraf am resymau personol anorchfygol—

(i)bod un flwyddyn ychwanegol yn cael ei hadio; a

(ii)caniateir i flwyddyn ychwanegol arall gael ei hadio os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar ôl rhoi sylw i’r rhesymau hynny; ac

(c)yn achos myfyriwr cymwys y mae paragraff (22) yn gymwys iddo, y caiff Gweinidogion Cymru adio un neu ragor o flynyddoedd ychwanegol os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.

(10Mae paragraff (11) yn gymwys—

(a)i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd ar gwrs penben;

(b)i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd—

(i)sydd wedi cwblhau cwrs llawnamser a restrir ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 2;

(ii)sydd ar gwrs gradd gyntaf llawnamser (ac eithrio gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) nad oedd y myfyriwr wedi dechrau arno yn union ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i); a

(iii)nad yw wedi cymryd cwrs gradd gyntaf llawnamser ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i) a chyn y cwrs presennol;

(c)i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd—

(i)sydd wedi cwblhau gradd sylfaen llawnamser;

(ii)sydd ar gwrs gradd anrhydedd llawnamser nad oedd y myfyriwr wedi dechrau arno yn union ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i) a chyn y cwrs presennol; a

(iii)nad yw wedi cymryd cwrs gradd gyntaf llawnamser ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i) a chyn y cwrs presennol.

(11Er gwaethaf paragraff (1), ni fydd myfyriwr cymwys y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo yn gymwys am ddim ond grant at ffioedd, grant newydd at ffioedd, benthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â’r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy’n hafal i (D + X) – PrC ac eithrio, yn achos myfyriwr cymwys y mae paragraff (22) yn gymwys iddo, ac, yn yr achos hwnnw, caiff Gweinidogion Cymru adio un neu ragor o flynyddoedd ychwanegol os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.

(12Mewn unrhyw achos pan fo nifer y blynyddoedd academaidd y mae grant at ffioedd, grant newydd at ffioedd, benthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw ar gael ar eu cyfer yn unol â’r rheoliad hwn yn llai na nifer y blynyddoedd academaidd sy’n ffurfio’r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs presennol, y blynyddoedd academaidd y bydd y myfyriwr yn gymwys ar gyfer y cyfryw grant neu fenthyciad at ffioedd, neu grant at gostau byw, fydd blynyddoedd diweddaraf y cwrs presennol.

(13Yn y rheoliad hwn—

(a)D yw 3 neu nifer y blynyddoedd academaidd sy’n ffurfio cyfnod arferol y cwrs, pa un bynnag yw’r mwyaf;

(b)OD yw nifer y blynyddoedd academaidd sy’n ffurfio’r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs presennol;

(c)PC yw nifer y blynyddoedd y bu’r myfyriwr cymwys yn bresennol ar gwrs blaenorol;

(d)X yw 1 pan oedd cyfnod arferol y cwrs rhagarweiniol yn llai na thair blynedd a phan oedd cyfnod arferol y cwrs rhagarweiniol (neu gyfanswm y cyrsiau rhagarweiniol) yn dair blynedd neu ragor, y cyfnod arferol llai 1;

(e)R yw nifer y blynyddoedd academaidd sy’n cael eu hailadrodd ar y cwrs presennol gan ddechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 a’r rheini’n gyfnodau o ailadrodd y blynyddoedd academaidd blaenorol nad oedd y myfyriwr cymwys yn gallu eu cwblhau’n llwyddiannus oherwydd rhesymau personol anorchfygol;

(f)PrC yw nifer y blynyddoedd academaidd a dreuliodd y myfyriwr ar y cwrs rhagarweiniol ac eithrio unrhyw flynyddoedd yn ailadrodd astudiaethau am resymau personol anorchfygol;

(g)ystyr “myfyriwr ar gwrs hyfforddi athrawon” (“teacher training student”) yw myfyriwr nad yw’n athro neu’n athrawes gymwysedig, sy’n bresennol ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon, pan nad yw hyd y cwrs yn hwy na 2 flynedd a phan fo’r cwrs—

(i)yn gwrs llawnamser; neu

(ii)yn gwrs rhan-amser (ac y mynegir ei hyd fel y cyfwerth llawnamser) a phan fo’r cwrs naill ai—

(aa)wedi dechrau cyn 1 Medi 2010;

(bb)yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a’r myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy’n dechrau cyn 1 Medi 2010; neu

(cc)wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a’r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs.

(14Wrth gyfrifo nifer y blynyddoedd at ddiben y rheoliad hwn, bydd presenoldeb am ran o flwyddyn academaidd yn cael ei drin fel presenoldeb am flwyddyn academaidd gyfan.

(15Caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu neu estyn y cyfnod cymhwystra am unrhyw gyfnod ychwanegol y byddant yn penderfynu arno.

(16Caiff Gweinidogion Cymru roi cymhwystra i gael grant at ffioedd, grant newydd at ffioedd, benthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw rywfodd arall ac eithrio yn unol â pharagraffau (8) i (13).

(17At ddibenion y rheoliad hwn ac yn ddarostyngedig i’r eithriadau ym mharagraffau (19), (20) ac (21) “cwrs blaenorol” yw unrhyw gwrs addysg uwch llawnamser neu unrhyw gwrs rhan-amser ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon y dechreuodd y myfyriwr ei fynychu neu, yn achos cwrs gradd cywasgedig neu gwrs dysgu o bell dynodedig, y dechreuodd ymgymryd ag ef cyn y cwrs presennol ac sy’n bodloni un neu fwy o’r amodau ym mharagraff (18).

(18Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (17) yw—

(a)bod y cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig a ariannwyd yn gyhoeddus am rywfaint o’r blynyddoedd academaidd neu’r cyfan ohonynt pan oedd y myfyriwr yn dilyn y cwrs; neu

(b)bod unrhyw ysgoloriaeth, arddangostal, bwrsari, grant, lwfans neu ddyfarndal o unrhyw ddisgrifiad a dalwyd i’r myfyriwr fod yn bresennol ar y cwrs neu, yn achos cwrs gradd cywasgedig neu gwrs dysgu o bell dynodedig, iddo ymgymryd â’r cwrs, i dalu ffioedd wedi ei dalu o gronfeydd cyhoeddus neu o gronfeydd a oedd i’w priodoli i gronfeydd cyhoeddus.

(19Nid ymdrinnir â chwrs a fyddai fel arall yn gwrs blaenorol fel y cyfryw—

(a)os yw’r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;

(b)os nad yw hyd y cwrs presennol yn hwy na 2 flynedd a’r cwrs presennol—

(i)yn gwrs llawnamser; neu

(ii)yn gwrs rhan-amser (ac y mynegir ei hyd fel y cyfwerth llawnamser) a phan fo’r cwrs presennol naill ai—

(aa)wedi dechrau cyn 1 Medi 2010;

(bb)yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a’r myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy’n dechrau cyn 1 Medi 2010; neu

(cc)wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a’r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs; ac

(c)nad yw’r myfyriwr yn athro neu’n athrawes gymwysedig.

(20Nid ymdrinnir â chwrs ar gyfer Tystysgrif mewn Addysg a fyddai fel arall yn gwrs blaenorol fel y cyfryw—

(a)os yw’r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer gradd (gan gynnwys gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg;

(b)os trosglwyddodd y myfyriwr i’r cwrs presennol o gwrs ar gyfer Tystysgrif mewn Addysg cyn cwblhau’r cwrs hwnnw neu os dechreuodd ar y cwrs presennol ar ôl cwblhau’r cwrs ar gyfer Tystysgrif mewn Addysg.

(21Nid ymdrinnir â chwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg fel cwrs blaenorol—

(a)os yw’r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer gradd anrhydedd Baglor mewn Addysg;

(b)os trosglwyddodd y myfyriwr i’r cwrs presennol o gwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg cyn cwblhau’r cwrs hwnnw neu os dechreuodd ar y cwrs presennol ar ôl cwblhau’r cwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg.

(22Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod yr amodau a ganlyn wedi eu bodloni mewn perthynas â myfyriwr cymwys—

(a)bod y myfyriwr cymwys wedi darparu’r holl wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â chwrs blaenorol y mae’r myfyriwr wedi ei fynychu neu wedi ymgymryd ag ef ac unrhyw gymwysterau sydd gan y myfyriwr;

(b)bod yr wybodaeth honno yn gywir; ac

(c)bod Gweinidogion Cymru wedi darparu’n anghywir hysbysiad o gyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys o dan y rheoliad hwn.

Astudio blaenorol

7.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (3), (4), (6) a (7), nid oes gan fyfyriwr cymwys sydd wedi cael gradd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig hawl i gael grant at ffioedd, grant newydd at ffioedd na benthyciad at ffioedd.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5) a (7), nid oes gan fyfyriwr cymwys (“A” yn y paragraff hwn) sy’n dechrau ar ei gwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2006 hawl i gael benthyciad at gostau byw os yw A wedi cael gradd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy’n bresennol ar gwrs dynodedig—

(a)pan fo’r cwrs yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;

(b)pan nad yw hyd y cwrs yn hwy na 2 flynedd a’r cwrs—

(i)yn gwrs llawnamser; neu

(ii)yn gwrs rhan-amser (ac y mynegir ei hyd fel y cyfwerth llawnamser) a phan fo’r cwrs naill ai—

(aa)wedi dechrau cyn 1 Medi 2010;

(bb)yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a’r myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy’n dechrau cyn 1 Medi 2010; neu

(cc)wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a’r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs; ac

(c)nad yw’r myfyriwr cymwys yn athro neu’n athrawes gymwysedig.

(4Os bernir bod y cwrs presennol yn gwrs sengl oherwydd rheoliadau 5(6) a 5(7) a’i fod yn arwain at ddyfarnu gradd anrhydedd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig i’r myfyriwr cymwys cyn y radd derfynol neu’r cymwysterau cyfatebol, ni rwystrir y myfyriwr cymwys rhag bod â hawl i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn yn rhinwedd paragraff (1) neu (2) mewn perthynas ag unrhyw ran o’r cwrs sengl yn rhinwedd y ffaith bod ganddo’r radd anrhydedd honno.

(5Nid yw paragraff (2) yn gymwys—

(a)os yw’r cwrs presennol yn arwain at gymhwyster fel gweithiwr cymdeithasol, meddyg, deintydd, milfeddyg neu bensaer;

(b)os yw’r myfyriwr cymwys i gael unrhyw daliad o dan—

(i)bwrsari gofal iechyd y cyfrifwyd ei swm drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr; neu

(ii)lwfans gofal iechyd yr Alban y cyfrifwyd ei swm drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd o’r cwrs presennol; neu

(c)os yw’r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon, sydd—

(i)yn gwrs llawnamser; neu

(ii)yn gwrs rhan-amser sydd naill ai—

(aa)wedi dechrau cyn 1 Medi 2010;

(bb)yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a’r myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy’n dechrau cyn 1 Medi 2010; neu

(cc)wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a’r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs.

(6Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy’n bresennol ar gwrs dynodedig sy’n gwrs mynediad graddedig carlam.

(7Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod yr amodau a ganlyn wedi eu bodloni mewn perthynas â myfyriwr cymwys—

(a)bod y myfyriwr cymwys wedi darparu’r holl wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru sy’n ymwneud â gradd anrhydedd a gafodd y myfyriwr o’r blaen o sefydliad yn y Deyrnas Unedig;

(b)bod yr wybodaeth honno yn gywir; ac

(c)bod Gweinidogion Cymru wedi darparu’n anghywir hysbysiad bod gan y myfyriwr cymwys hawl i gael grant at ffioedd, grant newydd at ffioedd, benthyciad at ffioedd neu fenthyciad at gostau byw yn unol â’r Rheoliadau hyn.

(8Pan fo paragraff (7) yn gymwys, caiff myfyriwr cymwys fod â hawl i gael grant at ffioedd, grant newydd at ffioedd, benthyciad at ffioedd neu fenthyciad at gostau byw yn unol â pharagraffau (9) i (11).

(9Yn ddarostyngedig i baragraff (11), os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud y penderfyniad o dan baragraff (7) cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol, yna caiff y myfyriwr cymwys fod â hawl i gael grant at ffioedd, grant newydd at ffioedd, benthyciad at ffioedd neu fenthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol.

(10Yn ddarostyngedig i baragraff (11), os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud y penderfyniad o dan baragraff (7) ar neu ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol, yna caiff y myfyriwr cymwys fod â hawl i gael grant at ffioedd, grant newydd at ffioedd, benthyciad at ffioedd neu fenthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â—

(a)blwyddyn academaidd y cwrs presennol y mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y penderfyniad ynddi; a

(b)blwyddyn academaidd y cwrs presennol y mae’r myfyriwr wedi ei chwblhau cyn i Weinidogion Cymru wneud y penderfyniad.

(11Caiff myfyriwr cymwys sy’n ddarostyngedig i benderfyniad o dan baragraff (7) fod â hawl i gael grant at ffioedd, grant newydd at ffioedd, benthyciad at ffioedd neu fenthyciad at gostau byw ac eithrio yn unol â pharagraffau (9) a (10), pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod hyn yn briodol o ganlyniad i amgylchiadau eithriadol achos penodol.

Trosglwyddo statws

8.—(1Os yw myfyriwr cymwys yn trosglwyddo o gwrs dynodedig i gwrs dynodedig arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i’r cwrs arall hwnnw—

(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr cymwys am wneud hynny;

(b)os ydynt wedi eu bodloni bod un neu fwy o’r seiliau trosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac

(c)os nad yw’r cyfnod cymhwystra wedi ei derfynu.

(2Y seiliau trosglwyddo yw—

(a)bod y myfyriwr cymwys, ar argymhelliad yr awdurdod academaidd, yn rhoi’r gorau i un cwrs dynodedig ac yn dechrau―

(i)bod yn bresennol ar gwrs dynodedig arall yn yr un sefydliad;

(ii)yn ymgymryd â chwrs gradd cywasgedig arall yn yr un sefydliad; neu

(iii)yn ymgymryd â chwrs gradd cywasgedig yn yr un sefydliad;

(b)bod y myfyriwr cymwys yn dechrau―

(i)bod yn bresennol ar gwrs dynodedig mewn sefydliad arall; neu

(ii)ymgymryd â chwrs gradd cywasgedig mewn sefydliad arall;

(c)ar ôl iddo ddechrau cwrs ar gyfer y Dystysgrif mewn Addysg, bod y myfyriwr cymwys, wrth gwblhau’r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd (gan gynnwys gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg naill ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall;

(d)ar ôl iddo ddechrau cwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg, bod y myfyriwr cymwys, wrth gwblhau’r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd Baglor mewn Addysg naill ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall; neu

(e)ar ôl iddo ddechrau cwrs ar gyfer gradd gyntaf (ac eithrio gradd anrhydedd), bod y myfyriwr cymwys, cyn cwblhau’r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc yn y sefydliad.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae gan fyfyriwr cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1) hawl i gael, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y bydd y myfyriwr yn trosglwyddo iddo, weddill y cymorth a asesir gan Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd o’r cwrs y bydd y myfyriwr yn trosglwyddo ohono.

(4Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sy’n daladwy o dan y Rheoliadau hyn ar ôl y trosglwyddiad.

(5Ni chaiff myfyriwr cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i Weinidogion Cymru asesu’r cymorth a gaiff y myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’n trosglwyddo ohono ond cyn iddo gwblhau’r flwyddyn honno, wneud cais, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr cymwys yn trosglwyddo iddo, am grant neu fenthyciad arall o’r math y mae’r myfyriwr cymwys eisoes wedi gwneud cais amdano o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr cymwys yn trosglwyddo ohono oni ddarperir ar gyfer hynny fel arall.

RHAN 3GWNEUD CAIS AM GYMORTH A RHOI GWYBODAETH

Ceisiadau am gymorth

9.—(1Rhaid i berson wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i Weinidogion Cymru gais ar unrhyw ffurf a chan ddarparu unrhyw ddogfennau y bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn amdanynt.

(2Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw’r ceisydd yn fyfyriwr cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn, a swm y cymorth sy’n daladwy, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn ai peidio ac, os oes gan y ceisydd hawl, ei hysbysu o swm y cymorth sy’n daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.

Terfynau amser

10.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na diwedd y nawfed mis o’r flwyddyn academaidd y mae’n cael ei gyflwyno mewn perthynas â hi.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys—

(a)os bydd un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 15 yn digwydd ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi o dan y Rheoliadau hyn, ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o naw mis sy’n dechrau gyda’r diwrnod y mae’r digwyddiad perthnasol yn digwydd;

(b)os yw’r ceisydd yn gwneud cais ar wahân am fenthyciad at ffioedd o dan reoliad 19 neu reoliad 20 neu fenthyciad newydd at ffioedd o dan reoliad 21 neu fenthyciad at gostau byw o dan reoliad 44 neu fenthyciad at ffioedd coleg o dan Atodlen 4 neu os yw’n ceisio am swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd o dan reoliad 19(4), swm ychwanegol o fenthyciad newydd at ffioedd o dan reoliad 21(4), swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd o dan reoliad 20(3) neu swm ychwanegol o fenthyciad at gostau byw o dan reoliad 58(3) neu swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd coleg o dan baragraff 10(2) o Atodlen 4 ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach nag un mis cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae’r cais yn ymwneud â hi;

(c)os yw’r ceisydd yn gwneud cais am fenthyg swm ychwanegol o fenthyciad at gostau byw o dan reoliad 58(1), ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach nag un mis cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae’r cais yn cyfeirio ati neu o fewn cyfnod o un mis sy’n dechrau ar y diwrnod y caiff y ceisydd hysbysiad ynglŷn â’r uchafswm wedi ei gynyddu, pa un bynnag yw’r olaf;

(d)os yw’r ceisydd yn gwneud cais am grant o dan reoliad 25, ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol;

(e)os yw’r ceisydd yn gwneud cais ar wahân am fenthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat neu fenthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam, neu swm ychwanegol o fenthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat o dan reoliad 22(4), neu swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam o dan reoliad 23(4), ac mewn achos o’r fath rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach nag un mis cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae’r cais yn ymwneud â hi;

(f)os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau’r achos penodol, y dylid llacio’r terfyn amser, ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir ganddynt mewn ysgrifen.

Gwybodaeth

11.  Mae Atodlen 3 yn gymwys mewn perthynas â darparu gwybodaeth gan geisydd a chan fyfyriwr cymwys.

Gofyniad i ymrwymo i gontract ar gyfer benthyciad

12.  Er mwyn cael benthyciad o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i fyfyriwr cymwys ymrwymo i gontract gyda Gweinidogion Cymru ar delerau sydd i’w penderfynu gan Weinidogion Cymru.

RHAN 4GRANTIAU A BENTHYCIADAU AR GYFER FFIOEDD

PENNOD 1DARPARIAETH GYFFREDINOL

Cymorth at ffioedd yn gyffredinol

13.—(1Ni chaiff cymorth at ffioedd o dan y Rhan hon mewn perthynas â blwyddyn academaidd fod yn fwy na’r ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr cymwys mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno.

(2At ddibenion cyfrifo swm y cymorth at ffioedd o dan y Rhan hon, rhaid peidio ag ystyried sefydliad sy’n darparu cyrsiau a ddynodir gan reoliad 4 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Dawnsio a Drama) 1999(50) yn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus am yr unig reswm ei fod yn cael arian o gronfeydd cyhoeddus gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Addysg Uwch 1992(51).

(3Rhaid ymdrin â myfyriwr cymwys y mae paragraff (4) yn gymwys iddo fel pe bai’r myfyriwr cymwys yn bresennol ar y cwrs dynodedig at ddiben bod â hawl i gael cymorth at ffioedd.

(4Mae’r paragraff hwn yn gymwys i’r canlynol—

(a)myfyriwr cwrs gradd cywasgedig;

(b)myfyriwr cymwys anabl—

(i)nad yw’n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a

(ii)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw’n bresennol oherwydd na all fod yn bresennol am reswm sy’n ymwneud ag anabledd y myfyriwr cymwys.

(5Nid oes gan fyfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell hawl i gael unrhyw gymorth at ffioedd o dan y Rhan hon mewn perthynas â’r cwrs hwnnw oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf.

(6Ni fydd gan fyfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell hawl bellach i gael unrhyw gymorth at ffioedd o dan y Rhan hon mewn perthynas â’r cwrs hwnnw os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd

14.  Os bydd unrhyw un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 15 yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)caiff myfyriwr fod â hawl i gael grantiau a benthyciadau o dan y Rhan hon mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a

(b)nid yw’r grantiau a’r benthyciadau hyn ar gael i’r myfyriwr mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

Digwyddiadau

15.  Y digwyddiadau yw—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;

(b)bod y myfyriwr, neu briod neu bartner sifil y myfyriwr, neu riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd, a’r myfyriwr yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r wladwriaeth honno;

(d)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r UE;

(e)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;

(f)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(g)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu

(h)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

PENNOD 2GRANTIAU AT FFIOEDD

Grant at ffioedd

16.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff myfyriwr cymwys sydd â hawl i gael grant at ffioedd wneud cais am grant at ffioedd nad yw ei swm yn fwy na’r uchafswm sydd ar gael (yn unol â pharagraff (3) neu (4), yn ôl fel y digwydd) mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr cymwys ar gwrs dynodedig cymhwysol, neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

(2Nid oes grant at ffioedd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd—

(a)os yw’r flwyddyn honno yn flwyddyn bwrsari neu’n flwyddyn Erasmus;

(b)os yw’r cwrs dynodedig yn hen gwrs ôl-radd hyblyg ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon.

(3Uchafswm y grant sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i geisydd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig cymhwysol os nad yw’r un o’r amgylchiadau ym mharagraff (5) yn gymwys yw £2,085 neu y gwahaniaeth rhwng £1,380 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y ceisydd, pa un bynnag yw’r lleiaf.

(4Uchafswm y grant sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r fath o dan y rheoliad hwn i geisydd os yw un o’r amgylchiadau ym mharagraff (5) yn gymwys yw £1,045 neu’r gwahaniaeth rhwng £680 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y ceisydd, pa un bynnag yw’r lleiaf.

(5Yr amgylchiadau yw—

(a)blwyddyn academaidd derfynol y cwrs dynodedig pan fo fel arfer yn ofynnol cwblhau’r flwyddyn honno ar ôl llai na 15 wythnos o bresenoldeb;

(b)mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs rhyngosod sy’n dechrau cyn 1 Medi 2012—

(i)pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos; neu

(ii)mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos;

(c)mewn cysylltiad â chwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (gan gynnwys cwrs sy’n arwain at radd gyntaf)—

(i)a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010;

(ii)sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 pan fo’r myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy’n dechrau cyn 1 Medi 2010; neu

(iii)a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 ac y mae’r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas ag ef,

blwyddyn academaidd pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos;

(d)mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs sy’n dechrau cyn 1 Medi 2012 ac a ddarperir ar y cyd â sefydliad tramor—

(i)pryd y mae cyfanswm y cyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu

(ii)mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos.

(6Yn y Rheoliadau hyn ac yn ddarostyngedig i baragraff (7), ystyr “myfyriwr cymwys sydd â hawl i gael grant at ffioedd” (“eligible student who qualifies for a fee grant”), mewn perthynas â chwrs dynodedig cymhwysol, yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n berson y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu mewn cysylltiad â’r cwrs dynodedig ei fod yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1.

(7Nid yw myfyriwr carfan newydd neu fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 yn fyfyriwr cymwys sydd â hawl i gael grant at ffioedd.

(8Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “cwrs dynodedig cymhwysol” (“qualifying designated course”), mewn perthynas â myfyriwr sydd â hawl i gael grant at ffioedd, yw cwrs dynodedig sy’n cael ei ddarparu gan sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru.

Grant newydd at ffioedd

17.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2012 hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael grant newydd at ffioedd mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr carfan 2012 ar gwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad a ariennir yn gyhoeddus neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

(2Nid yw grant newydd at ffioedd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd os yw’r flwyddyn honno—

(a)yn flwyddyn bwrsari;

(b)yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon; neu

(c)yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru neu Loegr os dechreuodd y cwrs cyn 1 Medi 2012.

(3Uchafswm y grant newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os nad yw un o’r amgylchiadau yn rheoliad 16(5) neu baragraffau (7), (8) neu (9) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£5,190; neu

(b)y gwahaniaeth rhwng £3,810 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y ceisydd.

(4Uchafswm y grant newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os yw un o’r amgylchiadau yn rheoliad 16(5) neu baragraff (7) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£2,605; neu

(b)y gwahaniaeth rhwng £1,895 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y ceisydd.

(5Uchafswm y grant newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os yw paragraff (8) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£900; neu

(b)y gwahaniaeth rhwng £900 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y ceisydd.

(6Uchafswm y grant newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os yw paragraff (9) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£675; neu

(b)y gwahaniaeth rhwng £675 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y ceisydd.

(7Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhyngosod a ddarperir gan sefydliad yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2012 a—

(i)yn ystod y cyfnod hwnnw mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos; neu

(ii)mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos; neu

(b)mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs a ddarperir gan sefydliad yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon ar y cyd â sefydliad tramor a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2012 a—

(i)yn ystod y cyfnod hwnnw mae cyfanswm y cyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu

(ii)mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos.

(8Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhyngosod a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru neu Loegr a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2012 ac—

(a)yn ystod y cyfnod hwnnw mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos; neu

(b)mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos.

(9Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru neu Loegr ar y cyd â sefydliad tramor a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2012 ac;

(i)yn ystod y cyfnod hwnnw mae cyfanswm y cyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu

(ii)mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos; neu

(b)mewn perthynas â blwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru neu Loegr a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2012.

PENNOD 3BENTHYCIADAU AT FFIOEDD

Amodau cyffredinol yr hawl i gael benthyciadau at ffioedd

18.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at ffioedd mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig yn unol â’r Rhan hon ar yr amod nad yw’r myfyriwr wedi ei hepgor o fod â hawl gan y paragraff canlynol, rheoliad 6 neu reoliad 7.

(2Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd—

(a)os yw’r flwyddyn honno—

(i)yn flwyddyn bwrsari;

(ii)yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon; neu

(iii)yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru neu Loegr os dechreuodd y cwrs cyn 1 Medi 2012; neu

(b)os yw’r cwrs dynodedig yn hen gwrs ôl-radd hyblyg ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon.

(3Nid yw paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â chwrs mynediad graddedig carlam.

Benthyciadau at ffioedd mewn cysylltiad â chyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Medi 2012: myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd nad oes ganddynt hawl i gael grant at ffioedd

19.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael benthyciad mewn perthynas â’r ffioedd sy’n daladwy ganddo mewn perthynas â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig a ddechreuodd cyn 1 Medi 2012, neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

(2Oni bai bod paragraff (3) yn gymwys, rhaid i swm benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig beidio â bod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£3,465 neu, os oes un o’r amgylchiadau yn rheoliad 16(5) yn gymwys, £1,725; a

(b)y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

(3Os oes gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl i gael benthyciad at ffioedd o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â chwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i swm y benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs dynodedig beidio â bod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£3,805 neu, os oes un o’r amgylchiadau yn rheoliad 16(5) yn gymwys, £1,895; a

(b)y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall,

(4Os yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd sy’n llai na’r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm perthnasol sy’n gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw.

(5Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â myfyriwr os oes ganddo hawl i gael grant at ffioedd a bod y cwrs yn gwrs dynodedig cymhwysol.

(6Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2012.

(7Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012.

Benthyciadau at ffioedd mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Medi 2012: myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawl i gael grant at ffioedd

20.—(1Caiff myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawl i gael grant at ffioedd wneud cais o dan y rheoliad hwn am fenthyciad at ffioedd mewn perthynas â’i bresenoldeb ar y cwrs dynodedig cymhwysol.

(2Uchafswm y benthyciad at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn yw’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£1,380 neu, os oes unrhyw rai o’r amgylchiadau yn rheoliad 16(5) yn gymwys, £680; a

(b)gweddill y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd a swm sy’n hafal i’r grant at ffioedd mewn perthynas â’r flwyddyn honno neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall wedi ei ddidynnu oddi wrtho.

(3Os yw’r myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd sy’n llai na’r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm hwnnw.

Benthyciad newydd at ffioedd mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau ar 1 Medi 2012 neu wedi hynny

21.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2012 hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael benthyciad newydd at ffioedd mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr carfan 2012 ar gwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad a ariennir yn gyhoeddus, neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

(2Nid oes benthyciad newydd at ffioedd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd os yw’r flwyddyn honno—

(a)yn flwyddyn bwrsari;

(b)yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon; neu

(c)yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru neu Loegr os dechreuodd y cwrs cyn 1 Medi 2012.

(3Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os nad yw unrhyw un o’r amgylchiadau yn rheoliadau 16(5), 17(7), 17(8) neu 17(9) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£3,810; a

(b)y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

(4Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig pan fo un o’r amgylchiadau yn rheoliad 16(5) neu reoliad 17(7) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£1,895; a

(b)y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

(5Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig pan fo rheoliad 17(8) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£900; a

(b)y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

(6Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig pan fo rheoliad 17(9) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£675; a

(b)y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

(7Os yw myfyriwr carfan 2012 wedi gwneud cais am fenthyciad newydd at ffioedd sy’n llai na’r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr carfan 2012 wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm hwnnw.

(8Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr carfan 2012 sydd â’r hawl i gael benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat.

Benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat

22.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2012 hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr carfan 2012 ar gwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad preifat, neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

(2Nid oes benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd os yw’r flwyddyn honno—

(a)yn flwyddyn bwrsari;

(b)yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon; neu

(c)yn flwyddyn Erasmus cwrs a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru neu Loegr os dechreuodd y cwrs cyn 1 Medi 2012.

(3Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad preifat pan na fo unrhyw un o’r amgylchiadau yn rheoliadau 16(5), 17(7), 17(8) neu 17(9) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£6,000; a

(b)y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

(4Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad preifat pan fo un o’r amgylchiadau yn rheoliad 16(5) neu reoliad 17(7) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£3,000; a

(b)y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

(5Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad preifat pan fo rheoliad 17(8) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£1,200; a

(b)y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

(6Uchafswm benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad preifat pan fo rheoliad 17(9) yn gymwys yw’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£900; a

(b)y ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

(7Os yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd wedi gwneud cais am fenthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat sy’n llai na’r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm hwnnw.

Benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam

23.—(1Mae gan fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 ar gwrs dynodedig sy’n gwrs mynediad graddedig carlam, neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

(2Nid oes benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn Erasmus.

(3Rhaid i swm benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig sy’n gwrs mynediad graddedig carlam beidio â bod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£5,535; neu

(b)y gwahaniaeth rhwng £3,465 a’r ffioedd sy’n daladwy gan y myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012.

(4Os yw myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam sy’n llai na’r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm hwnnw.

RHAN 5GRANTIAU AT GOSTAU BYW

Amodau cyffredinol yr hawl i gael grantiau at gostau byw

24.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon ar yr amod—

(a)nad yw’r myfyriwr cymwys wedi ei hepgor o fod â’r hawl gan unrhyw un o’r paragraffau canlynol, rheoliad 6 neu reoliad 7; a

(b)bod y myfyriwr cymwys yn bodloni amodau’r hawl i gael y grant penodol y mae’n gwneud cais amdano.

(2Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os paragraff 9 yw’r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr cymwys yn dod odano.

(3Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon o ran—

(a)blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn bwrsari;

(b)blwyddyn academaidd cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon—

(i)a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010;

(ii)sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a’r myfyriwr cymwys yn trosglwyddo i’r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu

(iii)a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 ac yr oedd y myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs,

pan fo cyfanswm y cyfnodau o bresenoldeb llawnamser, gan gynnwys presenoldeb at ddiben ymarfer addysgu, yn llai na 6 wythnos;

(c)cwrs HCA hyblyg i ôl-raddedigion sydd yn parhau am lai nag un flwyddyn academaidd.

(4Nid yw paragraff (3)(b) yn gymwys at ddibenion bod â hawl i gael grant at gostau byw myfyriwr anabl o dan reoliad 25.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6), nid oes hawl gan fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 i gael grant o dan y Rhan hon.

(6Nid yw paragraff (5) yn gymwys at ddibenion rheoliadau 25 i 31, i fyfyrwyr mynediad graddedig carlam 2012 sy’n ymgymryd â’i flwyddyn gyntaf o astudio ar gwrs mynediad graddedig carlam.

(7Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs rhyngosod os yw cyfanswm y cyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos oni bai bod y cyfnodau o brofiad gwaith yn wasanaeth di-dâl.

(8At ddibenion paragraff (7), ystyr “gwasanaeth di-dâl” (“unpaid service”) yw—

(a)gwasanaeth di-dâl mewn ysbyty neu mewn labordy gwasanaeth iechyd cyhoeddus neu gydag ymddiriedolaeth gofal sylfaenol yn y Deyrnas Unedig;

(b)gwasanaeth di-dâl gydag awdurdod lleol yn y Deyrnas Unedig sy’n gweithredu i arfer eu swyddogaethau sy’n ymwneud â gofal plant a phobl ifanc, iechyd neu les neu gyda chorff gwirfoddol sy’n darparu cyfleusterau neu sy’n cynnal gweithgareddau o natur debyg yn y Deyrnas Unedig;

(c)gwasanaeth di-dâl yn y gwasanaeth carchardai neu’r gwasanaeth prawf ac ôl-ofal yn y Deyrnas Unedig;

(d)ymchwil ddi-dâl mewn sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu, yn achos myfyriwr cymwys sy’n bresennol mewn sefydliad tramor fel rhan o’i gwrs, mewn sefydliad tramor; neu

(e)gwasanaeth di-dâl gydag unrhyw un o’r canlynol—

(i)Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd yn unol ag adran 28 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(52);

(ii)Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd yn unol ag adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 neu Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd yn unol ag adran 22 o’r Ddeddf honno(53);

(iii)Bwrdd Iechyd neu Fwrdd Iechyd Arbennig a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(54);

(iv)Bwrdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhanbarthol neu’r Asiantaeth Ranbarthol ar gyfer Iechyd y Cyhoedd a Llesiant Cymdeithasol a sefydlwyd o dan adrannau 7 a 12 o Ddeddf (Diwygio) Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gogledd Iwerddon) 2009(55);

(v)Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 1H o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu Grŵp Comisiynu Clinigol a sefydlwyd o dan adran 1I o’r Ddeddf honno(56); neu

(vi)y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth mewn Gofal a sefydlwyd o dan adran 232 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 neu’r Ganolfan Gwybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol a sefydlwyd o dan adran 252 o’r Ddeddf honno(57).

(9Yn ddarostyngedig i baragraff (10), nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan reoliadau 36 i 43 mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig os nad oes gan y myfyriwr hawl i gael cymorth perthnasol mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno.

(10Nid yw paragraff (9) yn gymwys os y rheswm nad oes gan y myfyriwr hawl i gael cymorth perthnasol o ran blwyddyn academaidd cwrs dynodedig yw—

(a)bod y flwyddyn academaidd honno yn flwyddyn Erasmus yn unol â rheoliad 18(2); neu

(b)bod y cwrs dynodedig yn hen gwrs ôl-radd hyblyg ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon.

(11Ym mharagraff (9) ystyr “cymorth perthnasol” (“relevant support”), yn achos grant o dan reoliadau 36 i 43, yw benthyciad at ffioedd.

(12Os bydd un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (13) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr fod â hawl i gael grant penodol yn unol â’r Rhan hon mewn perthynas â rhan o’r flwyddyn academaidd honno ond nid oes gan y myfyriwr hwnnw hawl i gael grant mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

(13Y digwyddiadau yw—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;

(b)bod y myfyriwr, priod y myfyriwr, partner sifil y myfyriwr neu riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c)bod y wladwriaeth y mae’r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd os yw’r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(d)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;

(e)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(f)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu

(g)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

(14Yn ddarostyngedig i baragraff (15), nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os yw’n garcharor.

(15Nid yw paragraff (14) yn gymwys o ran grant at gostau byw myfyrwyr anabl sy’n daladwy mewn cysylltiad â chwrs dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2012.

(16Rhaid trin myfyriwr y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo fel pe bai’n bresennol ar y cwrs dynodedig at ddiben bod â hawl i gael y grantiau canlynol—

(a)grantiau ar gyfer dibynyddion;

(b)grant at gostau byw myfyrwyr anabl;

(c)grant cynhaliaeth neu grant cymorth arbennig;

(d)grant addysg uwch.

(17Mae paragraff (16) yn gymwys i’r canlynol—

(a)myfyriwr cwrs gradd cywasgedig;

(b)myfyriwr cymwys anabl—

(i)nad yw’n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a

(ii)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw’n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy’n ymwneud â’i anabledd; ac

(c)myfyriwr cymwys ar gyfnod astudio neu ar gyfnod lleoliad gwaith yn ystod blwyddyn Erasmus.

(18Nid oes gan fyfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell yr hawl i gael unrhyw grant o dan y Rhan hon ac eithrio (pan fo’n briodol) grant at gostau byw myfyrwyr anabl yn unol â rheoliad 25.

Grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl

25.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael grant at gostau byw myfyrwyr anabl i helpu i dalu am y gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod yn ofynnol i’r myfyriwr cymwys ei ysgwyddo oherwydd anabledd sydd ganddo mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig neu mewn cysylltiad â chwrs dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef.

(2Yn ddarostyngedig i’r paragraffau canlynol, swm y grant at gostau byw myfyrwyr anabl o dan y rheoliad hwn yw’r swm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried sy’n briodol yn unol ag amgylchiadau’r myfyriwr cymwys.

(3Ac eithrio pan fo paragraff (4) yn gymwys, rhaid i swm y grant at gostau byw myfyrwyr anabl beidio â bod yn fwy na’r canlynol—

(a)£21,181 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;

(b)£5,332 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;

(c)y gwariant ychwanegol sy’n cael ei ysgwyddo—

(i)yn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol yn y sefydliad,

(ii)yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o gwrs y myfyriwr cymwys, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad tramor neu at ddiben bod yn bresennol yn yr Athrofa;

(d)£1,785 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant sy’n cael ei ysgwyddo at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy’n fwy na’r uchafsymiau a bennir yn y paragraffau hynny.

(4Uchafswm y grant o dan baragraffau (3)(a) a (3)(d) yw £15,885 a £1,338, yn y drefn honno—

(a)os yw myfyriwr cymwys yn bresennol ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon—

(i)a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010;

(ii)sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a’r myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu

(iii)a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a’r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs; a

(b)os, mewn unrhyw flwyddyn academaidd ar y cwrs hwnnw, yw cyfanswm y cyfnodau o astudio llawnamser ac ymarfer dysgu llawnamser gyda’i gilydd yn llai na 6 wythnos.

(5Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant at gostau byw myfyrwyr anabl o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â chwrs dysgu o bell oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf.

(6Ni fydd gan fyfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell hawl bellach i gael grant at gostau byw myfyrwyr anabl o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â’r cwrs hwnnw os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

(7Yn ddarostyngedig i baragraffau (8) a (9), mae grant at gostau byw myfyrwyr anabl yn daladwy i fyfyriwr cymwys mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.

(8Pan fo grant at gostau byw myfyrwyr anabl yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol (o fewn ystyr paragraff (3)(b)), caiff fod yn daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd gyfan.

(9Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 24(13) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, dim ond at y dibenion a bennir ym mharagraff (3)(a), (c) a (d), mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd, y caiff myfyriwr cymwys fod â hawl i gael grant at gostau byw myfyrwyr anabl.

Grantiau ar gyfer dibynyddion – cyffredinol

26.—(1Mae’r grantiau ar gyfer dibynyddion yn cynnwys yr elfennau canlynol—

(a)grant ar gyfer dibynyddion mewn oed;

(b)grant gofal plant;

(c)lwfans dysgu ar gyfer rhieni.

(2Nodir amodau’r hawl i gael pob elfen a’r symiau sy’n daladwy yn rheoliadau 27 i 30.

(3Caniateir didynnu swm o unrhyw un o elfennau’r grantiau ar gyfer dibynyddion yn unol â rheoliad 61.

Grantiau ar gyfer dibynyddion - grant ar gyfer dibynyddion mewn oed

27.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant ar gyfer dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr cymwys ar gwrs dynodedig yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Mae’r grant ar gyfer dibynyddion mewn oed ar gael mewn perthynas ag un dibynnydd i fyfyriwr cymwys sydd naill ai—

(a)yn bartner i’r myfyriwr cymwys; neu

(b)yn ddibynnydd mewn oed i’r myfyriwr cymwys nad yw ei incwm net am y flwyddyn berthnasol yn fwy na £3,923.

(3Mae swm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed sy’n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 30, a’r swm sylfaenol yw—

(a)£2,732; neu

(b)os yw’r person y mae’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais mewn perthynas ag ef am grant ar gyfer dibynyddion mewn oed yn preswylio fel arfer y tu allan i’r Deyrnas Unedig, unrhyw swm nad yw’n fwy na £2,732 ac sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.

Grantiau ar gyfer dibynyddion – grant gofal plant

28.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys, mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr cymwys ar gwrs dynodedig, hawl i gael grant gofal plant yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), mae’r grant gofal plant ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr cymwys yn ysgwyddo costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant ynddi a hynny ar gyfer—

(a)plentyn dibynnol sydd o dan 15 oed yn union cyn dechrau’r flwyddyn academaidd, gan gynnwys plentyn dibynnol a enir ar ôl i’r flwyddyn academaidd ddechrau; neu

(b)plentyn dibynnol sydd ag anghenion addysgol arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special educational needs” yn adran 312 o Ddeddf Addysg 1996(58) ac sydd o dan 17 oed yn union cyn dechrau’r flwyddyn academaidd, gan gynnwys plentyn dibynnol a enir ar ôl i’r flwyddyn academaidd ddechrau.

(3Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn—

(a)os yw’r myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys wedi dewis cael yr elfen gofal plant o’r credyd treth gweithio o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002(59);

(b)os oes gan y myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys hawlogaeth i gael dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys swm o dan reoliad 31 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013 (elfen costau gofal plant)(60); neu

(c)os yw partner y myfyriwr cymwys wedi dewis cael cymorth ariannol at ofal plant o dan fwrsari gofal iechyd.

(4Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw’r costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant y mae’n eu hysgwyddo’n cael eu talu, neu os ydynt i’w talu, gan y myfyriwr i bartner y myfyriwr cymwys.

(5Yn ddarostyngedig i baragraffau (6), (7) ac (8), swm sylfaenol y grant gofal plant am bob wythnos yw—

(a)ar gyfer un plentyn dibynnol, 85 y cant o gostau rhagnodedig ar gyfer gofal plant, hyd at uchafswm o £161.50 yr wythnos; neu

(b)ar gyfer dau neu fwy o blant dibynnol, 85 y cant o gostau rhagnodedig ar gyfer gofal plant, hyd at uchafswm o £274.55 yr wythnos,

ac eithrio nad oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael unrhyw grant o’r fath mewn perthynas â phob wythnos sy’n dod o fewn y cyfnod rhwng diwedd y cwrs a diwedd y flwyddyn academaidd y daw’r cwrs i ben ynddi.

(6Er mwyn cyfrifo swm sylfaenol y grant gofal plant—

(a)mae wythnos yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sul; a

(b)os yw wythnos yr ysgwyddir costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant mewn perthynas â hi yn dod yn rhannol o fewn y flwyddyn academaidd y mae grant gofal plant yn daladwy mewn perthynas â hi o dan y rheoliad hwn ac yn rhannol y tu allan i’r flwyddyn academaidd honno, cyfrifir uchafswm wythnosol y grant drwy luosi’r uchafswm wythnosol perthnasol ym mharagraff (5) â nifer y dyddiau yn yr wythnos honno sy’n dod o fewn y flwyddyn academaidd a rhannu’r canlyniad â saith.

(7Pan na fo cais myfyriwr cymwys am grant gofal plant yn nodi darparwr gofal plant, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)cyfyngu ar swm y grant gofal plant a delir i’r myfyriwr i 85 y cant o’r costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant hyd at uchafswm o £115 yr wythnos; a

(b)cyfyngu ar y taliad o’r grant gofal plant i un chwarter o’r flwyddyn academaidd.

(8Yn ddarostyngedig i baragraff (9), mae grant gofal plant yn daladwy i fyfyriwr cymwys mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.

(9Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 24(13) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, dim ond mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd y caiff myfyriwr cymwys fod â hawl i gael grant gofal plant.

Grantiau ar gyfer dibynyddion – lwfans dysgu ar gyfer rhieni

29.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig i gael y lwfans dysgu ar gyfer rhieni os oes ganddo un neu fwy o ddibynyddion sy’n blant dibynnol.

(2Mae swm y lwfans dysgu ar gyfer rhieni sy’n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 30, a’r swm sylfaenol yw £1,557.

Grantiau ar gyfer dibynyddion – eu cyfrifo

30.—(1Yn ddarostyngedig i’r paragraffau canlynol, y swm sy’n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol o’r grantiau ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i’w chael o dan reoliadau 27 i 29 yw’r swm hwnnw o’r elfen honno sy’n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes iddo gael ei ddihysbyddu, swm sy’n hafal i (A - B) fel a ganlyn ac yn y drefn ganlynol—

(a)i ostwng swm sylfaenol y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 27;

(b)i ostwng swm sylfaenol y grant gofal plant am y flwyddyn academaidd os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 28; ac

(c)i ostwng swm sylfaenol y lwfans dysgu ar gyfer rhieni os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 29.

(2Yn y rheoliad hwn ac yn ddarostyngedig i baragraff (11)—

A yw swm cyfanredol y canlynol—

(a)

incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gynharach;

(b)

incwm gweddilliol dibynnydd mewn oed y myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gynharach; ac

(c)

yn ddarostyngedig i baragraffau (3), (4) a (5), incwm net plant dibynnol y myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gynharach; a

B yw—

(a)

£1,159 os nad oes gan y myfyriwr cymwys blentyn dibynnol;

(b)

£3,473 os nad yw’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;

(c)

£4,632—

(i)

os nad yw’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol; neu

(ii)

os yw’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn;

(d)

£5,797 os yw’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.

(3Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm net plant dibynnol y myfyriwr cymwys yn y flwyddyn ariannol yn dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol”) yn debygol o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling eu hincwm net yn y flwyddyn ariannol gynharach, caiff Gweinidogion Cymru, at ddiben galluogi’r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ganfod incwm net y plant dibynnol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.

(4Os digwydd bod paragraff (3) neu’r paragraff hwn wedi ei gymhwyso mewn perthynas â blwyddyn academaidd flaenorol y cwrs presennol a bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm net plant dibynnol y myfyriwr cymwys yn y flwyddyn ariannol yn dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol”) yn debygol o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling eu hincwm net yn y flwyddyn ariannol flaenorol, caiff Gweinidogion Cymru, at ddibenion galluogi’r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ganfod incwm net y plant dibynnol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.

(5Mewn blwyddyn academaidd yn union ar ôl un y mae Gweinidogion Cymru wedi canfod ynddi incwm net plant dibynnol y myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol o dan baragraff (3), neu, pan fo’n gymwys, o dan baragraff (4), rhaid i Weinidogion Cymru ganfod incwm net y plant dibynnol yn y flwyddyn ariannol flaenorol.

(6Yn ddarostyngedig i baragraffau (8), (9) ac (16), os yw B yn fwy na neu’n hafal i A, mae swm sylfaenol pob elfen o’r grantiau ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i’w chael yn daladwy.

(7Os yw (A - B) yn hafal i neu’n fwy na chyfanswm symiau sylfaenol elfennau’r grantiau ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i’w cael, y swm sy’n daladwy mewn perthynas â phob elfen yw dim.

(8Gostyngir swm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan baragraff (1) o ran dibynnydd mewn oed gan hanner y swm—

(a)os yw partner y myfyriwr cymwys—

(i)yn fyfyriwr cymwys; neu

(ii)yn dal dyfarniad statudol; a

(b)os cymerir i ystyriaeth ddibynyddion y partner hwnnw wrth gyfrifo swm y cymorth y mae gan y partner hwnnw hawl i’w gael neu’r taliad y mae ganddo hawlogaeth iddo o dan y dyfarniad statudol.

(9Gostyngir swm y grant gofal plant a gyfrifir o dan baragraff (1) gan hanner y swm—

(a)os yw partner y myfyriwr cymwys—

(i)yn fyfyriwr cymwys; neu

(ii)yn dal dyfarniad statudol; a

(b)os cymerir i ystyriaeth ddibynyddion y partner hwnnw wrth gyfrifo swm y cymorth y mae gan y partner hwnnw hawl i’w gael neu’r taliad y mae ganddo hawlogaeth iddo o dan y dyfarniad statudol.

(10Os yw swm y lwfans dysgu ar gyfer rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu fwy ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu ar gyfer rhieni sy’n daladwy yw £50.

(11Mae paragraffau (12) i (15) yn gymwys os bydd unrhyw un o’r canlynol yn digwydd, yn ystod y flwyddyn academaidd—

(a)bod nifer dibynyddion y myfyriwr cymwys yn newid;

(b)bod person yn dod yn ddibynnydd i’r myfyriwr cymwys neu’n peidio â bod yn ddibynnydd iddo;

(c)bod y myfyriwr cymwys yn dod yn rhiant unigol neu’n peidio â bod yn rhiant unigol;

(d)bod myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys o ganlyniad i ddigwyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 24(13).

(12Er mwyn penderfynu priod werthoedd A a B ac a oes grant ar gyfer dibynyddion mewn oed neu lwfans dysgu ar gyfer rhieni yn daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y canlynol mewn perthynas â phob chwarter perthnasol drwy gyfeirio at amgylchiadau’r myfyriwr cymwys yn y chwarter perthnasol—

(a)faint o ddibynyddion y mae’r myfyriwr cymwys i gael ei drin fel pe baent ganddo;

(b)pwy yw’r dibynyddion hynny;

(c)a yw’r myfyriwr i gael ei drin fel rhiant unigol.

(13Swm y grantiau ar gyfer dibynyddion am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed a’r lwfans dysgu ar gyfer rhieni wedi eu cyfrifo mewn perthynas â phob chwarter perthnasol o dan baragraff (14) a swm unrhyw grant gofal plant am y flwyddyn academaidd.

(14Mae swm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed a’r lwfans dysgu ar gyfer rhieni mewn perthynas â chwarter perthnasol yn draean o swm y grant neu’r lwfans am y flwyddyn academaidd pe bai amgylchiadau’r myfyriwr yn y chwarter perthnasol fel y’u pennir o dan baragraff (12) yn gymwys drwy gydol y flwyddyn academaidd.

(15Yn y rheoliad hwn, ystyr “chwarter perthnasol” (“relevant quarter”) yw—

(a)yn achos myfyriwr cymwys y cyfeirir ato ym mharagraff (11)(d), chwarter sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd ac eithrio chwarter pryd y mae’r un hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn Gweinidogion Cymru;

(b)fel arall, chwarter ac eithrio’r chwarter pryd y mae’r un hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn Gweinidogion Cymru.

(16Caniateir gwneud didyniad yn unol â Rhan 9 o’r swm sy’n daladwy o ran elfen benodol o’r grantiau ar gyfer dibynyddion a gyfrifir o dan y Rhan hon.

Grantiau ar gyfer dibynyddion – dehongli

31.—(1Yn rheoliadau 27 i 30—

(a)yn ddarostyngedig i baragraff (5), ystyr “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw person mewn oed sy’n dibynnu ar y myfyriwr cymwys, ac eithrio plentyn y myfyriwr cymwys, partner y myfyriwr cymwys (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr cymwys wedi gwahanu oddi wrtho) neu gyn bartner y myfyriwr cymwys;

(b)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr cymwys sy’n ddibynnol arno ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr cymwys gyfrifoldeb rhiant drosto a hwnnw’n blentyn sy’n ddibynnol arno;

(c)ystyr “dibynnydd” (“dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw partner y myfyriwr cymwys, plentyn dibynnol y myfyriwr cymwys neu ddibynnydd mewn oed, nad yw ym mhob achos yn fyfyriwr cymwys ac nad oes ganddo ddyfarniad statudol;

(d)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf;

(e)ystyr “plentyn dibynnol” (“dependent child”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys yw plentyn sy’n ddibynnol ar y myfyriwr cymwys;

(f)ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm dibynnydd (y cyfrifir ei incwm o dan reoliadau 27 i 30) yn cael ei gyfrifiannu mewn perthynas ag ef at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm sy’n gymwys iddo;

(g)ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw myfyriwr cymwys nad oes ganddo bartner ac y mae ganddo blentyn dibynnol;

(h)ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd;

(i)mae i “incwm net” (“net income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (7);

(j)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (p), (q), (r) a pharagraffau (3) a (4) ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o’r canlynol—

(i)priod myfyriwr cymwys;

(ii)partner sifil myfyriwr cymwys;

(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai’r person yn briod i’r myfyriwr cymwys, pan fo’r myfyriwr cymwys yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5 ac wedi dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai’r person yn bartner sifil i’r myfyriwr cymwys, pan fo’r myfyriwr cymwys yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5 ac wedi dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(k)ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn berthnasol;

(l)ystyr “blwyddyn ariannol gynharach” (“prior financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol flaenorol;

(m)ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw blwyddyn academaidd y cwrs presennol y mae incwm dibynnydd y myfyriwr cymwys yn dod o’i mewn i’w asesu mewn perthynas â hi;

(n)ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff (10) (yn achos partner myfyriwr cymwys) neu baragraff (11) (yn achos dibynnydd mewn oed myfyriwr cymwys);

(o)ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”), mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol gynharach, yw—

(i)cyfanswm yr incwm y mae person yn gorfod talu treth incwm arno fel y’i pennir yng Ngham 1 o’r cyfrifiad yn adran 23 o Ddeddf Treth Incwm 2007(61), ynghyd ag unrhyw daliadau a budd-daliadau eraill a grybwyllir yn adran 401(1) o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003(62) (gan anwybyddu adran 401(2) o’r Ddeddf honno), a gafwyd neu a driniwyd fel pe baent wedi eu cael gan berson, i’r graddau nad ydynt yn gydran o gyfanswm yr incwm y mae person yn gorfod talu treth incwm arno;

(ii)cyfanswm incwm person o bob ffynhonnell fel y’i pennir at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall sy’n gymwys i incwm y person; neu

(iii)pan fo deddfwriaeth mwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gymwys i’r cyfnod, cyfanswm incwm person o bob ffynhonnell fel y’i pennir at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod cyfanswm incwm person yn yn y cyfnod hwnnw ar ei fwyaf odani,

ac eithrio nad ystyrir yr incwm y cyfeirir ato ym mharagraff (2) a delir i barti arall;

(p)

oni nodir fel arall, nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (j) yn cael ei drin fel partner—

(i)

os yw’r person hwnnw a’r myfyriwr cymwys, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu; neu

(ii)

os yw’r person fel arfer yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac nad yw’n cael ei gynnal gan y myfyriwr cymwys;

(q)

at ddibenion y diffiniad o “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), rhaid trin person fel partner os byddai’r person yn bartner o dan is-baragraff (j) oni bai am y ffaith nad yw’r myfyriwr cymwys y mae’r person fel arfer yn byw gydag ef yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5;

(r)

at ddibenion y diffiniadau o “plentyn” (“child”) a “rhiant unigol” (“lone parent”), rhaid trin person fel partner os byddai’r person yn bartner o dan is-baragraff (j) oni bai am y dyddiad y dechreuodd y myfyriwr cymwys ar y cwrs dynodedig a bennir neu’r ffaith nad yw’r myfyriwr cymwys y mae’r person fel arfer yn byw gydag ef yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5.

(2Yr incwm y cyfeirir ato yn y paragraff hwn yw unrhyw fudd-daliadau o dan drefniant pensiwn yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Achosion Priodasol 1973(63) sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd adrannau 25B(4) a 25E(3) o’r Ddeddf honno neu fudd-daliadau pensiwn o dan Ran 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004(64) sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd Rhannau 6 a 7 o’r Atodlen honno.

(3At ddibenion rheoliad 29—

(a)nid yw paragraff (1)(p) yn gymwys; a

(b)rhaid trin person fel partner os byddai’r person yn bartner o dan baragraff (1)(j) oni bai am y ffaith nad yw’r myfyriwr cymwys y mae’r person fel arfer yn byw gydag ef yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5.

(4At ddibenion penderfynu a yw rhywun yn gynbartner i bartner i fyfyriwr cymwys, ystyr “partner” (“partner”) o ran partner i fyfyriwr cymwys yw—

(a)priod i bartner myfyriwr cymwys;

(b)partner sifil i bartner myfyriwr cymwys;

(c)pan fo’r myfyriwr cymwys wedi dechrau ar y cwrs dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2000, person (“A”) sydd fel arfer yn byw gyda phartner (“B”) myfyriwr cymwys fel petai A yn briod i B;

(d)pan fo’r myfyriwr cymwys wedi dechrau ar y cwrs dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005, person (“A”) sydd fel arfer yn byw gyda phartner (“B”) myfyriwr cymwys fel petai A yn bartner sifil i B;

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6), at ddibenion y diffiniadau o “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”) a “plentyn dibynnol” (“dependent child”) caiff Gweinidogion Cymru ymdrin â pherson mewn oed neu blentyn fel un sy’n ddibynnol ar fyfyriwr cymwys os ydynt yn fodlon nad yw’r oedolyn neu’r plentyn—

(a)yn ddibynnol ar—

(i)y myfyriwr cymwys yn unig; neu

(ii)partner y myfyriwr cymwys yn unig; ond

(b)yn hytrach yn ddibynnol ar y myfyriwr cymwys a’i bartner gyda’i gilydd.

(6Rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag ymdrin ag oedolyn (“A”) fel un sy’n ddibynnol ar fyfyriwr cymwys yn unol â pharagraff (5), os yw A—

(a)yn briod neu’n bartner sifil i bartner y myfyriwr cymwys (yn cynnwys priod neu bartner sifil yr ystyria Gweinidogion Cymru bod partner y myfyriwr cymwys wedi gwahanu oddi wrtho); neu

(b)yn gynbartner partner y myfyriwr cymwys.

(7Incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell (am y flwyddyn berthnasol at ddibenion rheoliad 27(2)(b) ac am y flwyddyn ariannol gynharach at ddibenion rheoliad 30(2)) wedi ei ostwng yn ôl swm y dreth incwm a’r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy’n daladwy mewn perthynas â hi ond gan ddiystyru—

(a)unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd sydd gan y dibynnydd;

(b)budd-dal plant sy’n daladwy o dan Ran IX o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(65);

(c)unrhyw gymorth ariannol sy’n daladwy i’r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 2, 3 a 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(66);

(d)unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i’w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;

(e)yn achos dibynnydd y mae plentyn sy’n derbyn gofal awdurdod lleol wedi ei fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i’r dibynnydd hwnnw yn unol ag adran 23 o Ddeddf Plant 1989(67);

(f)unrhyw daliad a wneir i’r dibynnydd o dan adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989(68);

(g)unrhyw daliadau a wneir i’r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn perthynas â pherson nad yw’n blentyn i’r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 24 o’r Ddeddf honno(69);

(h)unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i’w gael o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002(70); ac

(i)yn achos dibynnydd sydd â hawlogaeth i gael dyfarniad o gredyd cynhwysol—

(i)unrhyw swm a gynhwysir wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 27(1) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013, mewn perthynas â’r ffaith bod gan y dibynnydd allu cyfyngedig i weithio neu allu cyfyngedig i weithio ac i wneud gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith; a

(ii)unrhyw swm neu swm ychwanegol a gynhwysir wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 20 o’r Rheoliadau hynny (elfen y plentyn).

(8Os yw myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd yn cael eu gwneud o’r blaen gan y myfyriwr cymwys yn unol â rhwymedigaeth a ysgwyddwyd cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr cymwys, mae incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys wedi ei ostwng—

(a)o swm sy’n hafal i’r taliadau o dan sylw am y flwyddyn academaidd, os cafodd y rhwymedigaeth, ym marn Gweinidogion Cymru, ei hysgwyddo’n rhesymol; neu

(b)o unrhyw swm llai, os bydd unrhyw swm o gwbl, sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru, os gellid yn rhesymol, yn eu barn hwy, bod wedi ysgwyddo rhwymedigaeth lai.

(9At ddibenion paragraff (7), os yw’r dibynnydd yn blentyn dibynnol a bod taliadau’n cael eu gwneud i’r myfyriwr cymwys tuag at gynhaliaeth y plentyn dibynnol, rhaid trin y taliadau hynny fel incwm y plentyn dibynnol.

(10Penderfynir ar incwm gweddilliol partner myfyriwr cymwys yn unol â pharagraff 6 o Atodlen 5.

(11Penderfynir ar incwm gweddilliol dibynnydd mewn oed myfyriwr cymwys yn unol â pharagraff 5 o Atodlen 5 (ac eithrio is-baragraffau (9), (10), neu (11) o baragraff 5) gan ddehongli cyfeiriadau at y rhiant fel pe baent yn gyfeiriadau at ddibynnydd mewn oed y myfyriwr cymwys.

Dehongli rheoliadau 33 i 35

32.  At ddibenion rheoliadau 33 i 35—

(a)mae unrhyw gyfeiriad at wariant a ysgwyddir at ddiben bod yn bresennol mewn sefydliad neu gyfnod astudio neu gyfnod ar leoliad gwaith dramor yn ystod blwyddyn Erasmus—

(i)yn cynnwys gwariant cyn ac ar ôl bod yn bresennol felly; a

(ii)nid yw’n cynnwys unrhyw wariant y mae grant yn daladwy mewn perthynas ag ef o dan reoliad 25;

(b)ystyr “chwarter cymhwysol” (“qualifying quarter”) yw chwarter pan fo’r myfyriwr cymwys yn bresennol, fel rhan o gwrs y myfyriwr cymwys, mewn sefydliad tramor, yr Athrofa, neu leoliad gwaith tramor yn ystod blwyddyn Erasmus, am o leiaf hanner cyfnod y chwarter hwnnw.

Amodau’r hawl i gael y grant at deithio

33.—(1Mae grant ar gael i fyfyriwr cymwys sy’n mynychu cwrs mewn meddygaeth neu ddeintyddiaeth (y mae rhan hanfodol ohono’n gyfnod o astudio ar ffurf hyfforddiant clinigol) mewn perthynas â’r gwariant rhesymol y mae’n orfodol i’r myfyriwr cymwys ei ysgwyddo mewn blwyddyn academaidd at ddiben mynychu, mewn cysylltiad â chwrs y myfyriwr cymwys, unrhyw ysbyty neu fangre arall yn y Deyrnas Unedig (nad yw’n rhan o’r sefydliad) lle y darperir cyfleusterau ar gyfer hyfforddiant clinigol ac eithrio gwariant a ysgwyddir at ddiben cyfnod o astudio preswyl heb fod yn y sefydliad.

(2Mae grant ar gael i fyfyriwr cymwys ynglŷn â’r gwariant rhesymol y mae’n orfodol iddo’i ysgwyddo ym mhob chwarter cymhwysol naill ai yn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o’i gwrs, mewn sefydliad tramor, yr Athrofa neu leoliad gwaith dramor yn ystod blwyddyn Erasmus.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae grant o dan y rheoliad hwn yn daladwy i fyfyriwr cymwys mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.

(4Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 24(13) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, dim ond mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd y caiff myfyriwr cymwys fod â hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn.

Swm y grant at deithio

34.—(1Mae swm y grant sy’n daladwy o dan reoliad 33(1) mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn hafal i’r gwariant rhesymol y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod yn orfodol i’r myfyriwr cymwys ei ysgwyddo at y dibenion a nodir yn y rheoliad hwnnw llai £303.

(2Cyfrifir swm y grant sy’n daladwy o dan reoliad 33(2) mewn perthynas â blwyddyn academaidd fel a ganlyn—

(3Y gwariant a bennir, y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yw—

(a)gwariant y mae’r myfyriwr cymwys yn rhesymol yn ei ysgwyddo wrth yswirio rhag atebolrwydd am gost triniaeth feddygol a ddarperir y tu allan i’r Deyrnas Unedig am unrhyw salwch neu anaf corfforol a ddioddefir gan y myfyriwr cymwys yn ystod y cyfnod y mae’n bresennol yn y sefydliad tramor, yr Athrofa, neu leoliad gwaith dramor yn ystod blwyddyn Erasmus (“y lleoliad” yn y paragraff hwn);

(b)cost fisa neu fisâu y mae’n orfodol i’r myfyriwr cymwys eu cael er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad tramor, yr Athrofa neu’r lleoliad; ac

(c)costau meddygol y mae’n rhesymol i’r myfyriwr cymwys eu hysgwyddo er mwyn cyflawni amod gorfodol i fynd i’r diriogaeth, y wlad neu’r wladwriaeth lle y mae’r sefydliad tramor, yr Athrofa neu’r lleoliad.

Didyniadau o’r grant at deithio

35.  Caniateir gwneud didyniad o grant o dan reoliadau 33 a 34 yn unol â Rhan 9.

Grant cynhaliaeth

36.—(1Mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, nad yw’n fyfyriwr carfan newydd, i gael grant cynhaliaeth yn unol â rheoliad 37 at gostau byw mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig.

(2Mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2010 neu’n fyfyriwr carfan 2012, i gael grant cynhaliaeth yn unol â rheoliad 38 at gostau byw mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig.

(3Mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2011, i gael grant cynhaliaeth yn unol â rheoliad 39 at gostau byw mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig.

(4Nid oes hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd i gael grant cynhaliaeth os oes hawl gan y myfyriwr cymwys hwnnw i gael grant cymorth arbennig.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6), mae grant cynhaliaeth at gostau byw yn daladwy i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.

(6Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 24(13) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, dim ond mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd y caiff myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd fod â hawl i gael grant cynhaliaeth at gostau byw.

Grant cynhaliaeth – myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd nad ydynt yn fyfyrwyr carfan newydd

37.—(1Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd nad yw’n fyfyriwr carfan newydd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw—

(a)yn achos myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,500;

(b)yn achos myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £3,000;

(c)yn achos myfyriwr math 3 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,500; a

(d)yn achos myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1, math 2 neu fath 3 ar gwrs hyfforddi athrawon, £3,000.

(2Mae myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £1,500;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M–(A/2) pan fo M yn £1,500 ac A yn £1 am bob £5.674 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852, neu os yw’r myfyriwr cymwys, wrth wneud cais am y grant, yn dewis peidio â darparu’r wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £664.

(3Mae myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £3,000;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M–A pan fo M yn £3,000 ac A yn £1 am bob £5.674 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852, neu os yw’r myfyriwr cymwys, wrth wneud cais am y grant, yn dewis peidio â darparu’r wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £1,329.

(4Mae myfyriwr math 3 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £1,500;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M–(A/2) pan fo M yn £1,500 ac A yn £1 am bob £5.674 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852 ond heb fod yn fwy na £39,329, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i RM–(A/2) pan fo RM yn £664 ac A yn £1 am bob £8.97 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £27,852;

(d)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £39,329, nid oes unrhyw grant cynhaliaeth yn daladwy.

(5Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1, math 2 neu fath 3 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £3,000;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M–A pan fo M yn £3,000 ac A yn £1 am bob £5.674 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852 ond heb fod yn fwy na £39,329, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i RM–A pan fo RM yn £1,329 ac A yn £1 am bob £8.97 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £27,852;

(d)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £39,329, nid oes unrhyw grant cynhaliaeth yn daladwy.

Grant cynhaliaeth – myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyrwyr carfan 2010 neu’n fyfyrwyr carfan 2012

38.—(1Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2010 neu’n fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £5,161.

(2Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2010 neu’n fyfyriwr carfan 2012 ac sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £5,161;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £26,500, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M-A, pan fo M yn £5,161 ac A yn £1 am bob £3.653 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £26,500 ond heb fod yn fwy na £34,000, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i RM–A pan fo RM yn £2,936 ac A yn £1 am bob £4.18 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £26,500;

(d)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £34,000 ond heb fod yn fwy na £50,020, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i SM–A pan fo SM yn £1,142 ac A yn £1 am bob £14.67 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £34,000;

(e)os yw incwm yr aelwyd yn £50,020, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £50; ac

(f)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £50,020, nid oes unrhyw grant cynhaliaeth yn daladwy.

Grant cynhaliaeth – myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyrwyr carfan 2011

39.—(1Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2011 mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £5,780.

(2Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2011 ac sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £5,780;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £26,500, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M-A, pan fo M yn £5,780 ac A yn £1 am bob £3.653 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £26,500 ond heb fod yn fwy na £34,000, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i RM–A pan fo RM yn £3,555 ac A yn £1 am bob £4.18 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £26,500;

(d)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £34,000 ond heb fod yn fwy na £50,020, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i SM–A pan fo SM yn £1,761 ac A yn £1 am bob £9.36 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £34,000;

(e)os yw incwm yr aelwyd yn £50,020, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £50;

(f)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £50,020, nid oes unrhyw grant cynhaliaeth yn daladwy.

Grant cymorth arbennig

40.—(1Mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, nad yw’n fyfyriwr carfan newydd, i gael grant cymorth arbennig yn unol â rheoliad 41 mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, i dalu costau llyfrau, offer, teithio neu ofal plant sy’n cael eu hysgwyddo at ddiben bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.

(2Mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, sy’n fyfyriwr carfan 2010 neu’n fyfyriwr carfan 2012, i gael grant cymorth arbennig yn unol â rheoliad 42 mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, i dalu costau llyfrau, offer, teithio neu ofal plant sy’n cael eu hysgwyddo at ddiben bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.

(3Mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, sy’n fyfyriwr carfan 2011, i gael grant cymorth arbennig yn unol â rheoliad 43 mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, i dalu costau llyfrau, offer, teithio neu ofal plant sy’n cael eu hysgwyddo at ddiben bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.

(4Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl i gael grant cymorth arbennig os yw’r myfyriwr cymwys hwnnw—

(a)yn dod o fewn categori rhagnodedig o bersonau at ddibenion adran 124(1)(e) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(71);

(b)yn cael ei drin fel rhywun sy’n atebol i wneud taliadau mewn perthynas ag annedd, a ragnodir gan reoliadau a wnaed o dan adran 130(2) o’r Ddeddf honno(72); neu

(c)yn atebol, neu’n cael ei drin fel pe bai’n atebol, i wneud taliadau mewn perthynas â’r llety y mae’n ei feddiannu fel ei gartref o dan reoliad 25(3) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6), mae grant cymorth arbennig yn daladwy i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.

(6Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 24(13) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, dim ond mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd y caiff myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd fod â hawl i gael grant cymorth arbennig.

Grant cymorth arbennig – myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd nad ydynt yn fyfyrwyr carfan newydd

41.—(1Uchafswm y grant cymorth arbennig sydd ar gael i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd nad yw’n fyfyriwr carfan newydd, mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw—

(a)yn achos myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,500;

(b)yn achos myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £3,000;

(c)yn achos myfyriwr math 3 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,500; ac

(d)yn achos myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1, math 2 neu fath 3 ar gwrs hyfforddi athrawon, £3,000.

(2Mae myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £1,500;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M–(A/2) pan fo M yn £1,500 ac A yn £1 am bob £5.674 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852, neu os yw’r myfyriwr, wrth wneud cais am y grant, yn dewis peidio â darparu’r wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £664.

(3Mae myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £3,000;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M–A pan fo M yn £3,000 ac A yn £1 am bob £5.674 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852, neu os yw’r myfyriwr wrth wneud cais am y grant yn dewis peidio â rhoi’r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £1,329.

(4Mae myfyriwr math 3 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £1,500;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M–(A/2) pan fo M yn £1,500 ac A yn £1 am bob £5.674 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852 ond heb fod yn fwy na £39,329, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i RM–(A/2), pan fo RM yn £664 ac A yn £1 am bob £8.97 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £27,852; ac

(d)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £39,329, nid oes unrhyw grant cymorth arbennig yn daladwy.

(5Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1, math 2 neu fath 3 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £3,000;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M–A pan fo M yn £3,000 ac A yn £1 am bob £5.674 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852 ond heb fod yn fwy na £39,329, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i RM–A pan fo RM yn £1,329 ac A yn £1 am bob £8.97 cyflawn o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £27,852;

(d)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £39,329, nid oes unrhyw grant cymorth arbennig yn daladwy.

Grant cymorth arbennig – myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyrwyr carfan 2010 neu’n fyfyrwyr carfan 2012

42.—(1Uchafswm y grant cymorth arbennig sydd ar gael i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2010 neu’n fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £5,161.

(2Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2010 neu’n fyfyriwr carfan 2012 ac sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £5,161;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £26,500, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M-A, pan fo M yn £5,161 ac A yn £1 am bob £3.653 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £26,500 ond heb fod yn fwy na £34,000, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i RM–A pan fo RM yn £2,936 ac A yn £1 am bob £4.18 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £26,500;

(d)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £34,000 ond heb fod yn fwy na £50,020, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i SM–A pan fo SM yn £1,142 ac A yn £1 am bob £14.67 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £34,000;

(e)os yw incwm yr aelwyd yn £50,020, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £50; ac

(f)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £50,020, nid oes unrhyw grant cymorth arbennig yn daladwy.

Grant cymorth arbennig – myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyrwyr carfan 2011

43.—(1Uchafswm y grant cymorth arbennig sydd ar gael i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2011 mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £5,780.

(2Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2011 ac sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £5,780;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £26,500, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M-A, pan fo M yn £5,780 ac A yn £1 am bob £3.653 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £26,500 ond heb fod yn fwy na £34,000, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i RM–A pan fo RM yn £3,555 ac A yn £1 am bob £4.18 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £26,500;

(d)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £34,000 ond heb fod yn fwy na £50,020, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i SM–A pan fo SM yn £1,761 ac A yn £1 am bob £9.36 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £34,000;

(e)os yw incwm yr aelwyd yn £50,020, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £50; ac

(f)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £50,020, nid oes unrhyw grant cymorth arbennig yn daladwy.

RHAN 6BENTHYCIADAU AT GOSTAU BYW

Amodau’r hawl i gael benthyciadau at gostau byw

44.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw’r myfyriwr cymwys yn bodloni’r amod ym mharagraff (2) ac nad yw’n cael ei hepgor gan baragraff (3) neu reoliad 7.

(2Yr amod yw bod y myfyriwr cymwys o dan 60 oed ar y dyddiad perthnasol.

(3Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw os paragraff 9 yw’r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr yn dod odano.

(4Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw’r cwrs hwnnw’n gwrs HCA hyblyg i ôl-raddedigion sy’n parhau am lai nag un flwyddyn academaidd.

(5Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw’r cwrs hwnnw—

(a)sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2009; a

(b)sy’n arwain at gymhwyster fel pensaer tirwedd, dylunydd tirwedd, rheolwr tirwedd, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref.

(6Rhaid trin myfyriwr cymwys y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo fel pe bai’n bresennol ar y cwrs dynodedig at ddiben bod â hawl i gael benthyciad at gostau byw.

(7Mae paragraff (6) yn gymwys i’r canlynol—

(a)myfyriwr cwrs gradd cywasgedig;

(b)myfyriwr cymwys anabl—

(i)nad yw’n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a

(ii)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw’n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy’n ymwneud â’i anabledd; ac

(c)myfyriwr cymwys ar gyfnod astudio neu ar gyfnod lleoliad gwaith yn ystod blwyddyn Erasmus.

(8Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw o dan y Rhan hon os yw’r myfyriwr cymwys yn garcharor.

(9Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw o dan y Rhan hon os yw’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell.

Cyffredinol

45.  Cyfrifir uchafswm y benthyciad at gostau byw mewn perthynas â blwyddyn academaidd fel a ganlyn—

(a)pan fo’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac nad yw’n fyfyriwr carfan newydd, yn unol â rheoliadau 46 a 47;

(b)pan fo’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyriwr carfan 2010, yn fyfyriwr carfan 2012 neu’n fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 sy’n ymgymryd â’i flwyddyn gyntaf o astudio, yn unol â rheoliad 48;

(c)pan fo’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyriwr carfan 2011, yn unol â rheoliad 49;

(d)pan fo’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol, yn unol â rheoliad 50.

Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac nad ydynt yn fyfyrwyr carfan newydd

46.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac nad yw’n fyfyriwr carfan newydd (ac eithrio myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, y mae ei gyfraniad yn uwch na dim).

(2Yn ddarostyngedig i reoliadau 51 i 56, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys) yn hafal i (X–Y) pan fo—

(3Yn ddarostyngedig i reoliadau 51 i 56, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys yn hafal i (X–Y) pan fo—

(4Yn y rheoliad hwn, “swm y grant cynhaliaeth” (“the maintenance grant amount”) yw—

(a)os oes gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, y cyfeirir ato ym mharagraff (1), hawl o dan reoliad 37 i gael swm o grant cynhaliaeth nad yw’n fwy na £1,329, swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy;

(b)os oes gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, y cyfeirir ato ym mharagraff (1), hawl o dan reoliad 37 i gael swm o grant cynhaliaeth sy’n fwy na £1,329 , £1,329; ac

(c)os nad oes grant cynhaliaeth yn daladwy, dim.

47.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr math 1 neu i fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon y mae ei gyfraniad yn uwch na dim.

(2Yn ddarostyngedig i reoliadau 51 i 56, uchafswm y benthyciad at gostau byw, y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs carlam yw, i fyfyriwr o’r fath—

(a)yng nghategori 1, £4,162;

(b)yng nghategori 2, £7,532;

(c)yng nghategori 3, £6,410;

(d)yng nghategori 4, £6,410;

(e)yng nghategori 5, £5,376.

(3Yn ddarostyngedig i reoliadau 51 i 56, uchafswm y benthyciad at gostau byw, y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs sy’n flwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs carlam yw, i fyfyriwr o’r fath—

(a)yng nghategori 1, £3,767;

(b)yng nghategori 2, £6,858;

(c)yng nghategori 3, £5,575;

(d)yng nghategori 4, £5,575;

(e)yng nghategori 5, £4,980.

Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyrwyr carfan 2010, yn fyfyrwyr carfan 2012 neu’n fyfyrwyr mynediad graddedig carlam 2012 sy’n ymgymryd â’u blwyddyn gyntaf o astudio

48.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyriwr carfan 2010, yn fyfyriwr carfan 2012 neu’n fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 sy’n ymgymryd â’i flwyddyn gyntaf o astudio.

(2Yn ddarostyngedig i reoliadau 51 i 56, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys) yn hafal i (X–Y) pan fo—

(3Yn ddarostyngedig i reoliadau 51 i 56, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys yn hafal i (X–Y) pan fo—

(4Yn y rheoliad hwn, “swm y grant cynhaliaeth” (“the maintenance grant amount”) yw’r canlynol—

(a)os oes gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, y cyfeirir ato ym mharagraff (1), hawl o dan reoliad 38 i gael swm o grant cynhaliaeth, y swm sy’n hafal i £0.50 am bob £1 o grant cynhaliaeth y mae hawl gan y myfyriwr i’w gael, hyd at uchafswm gwerth Y o £2,580;

(b)os nad oes grant cynhaliaeth yn daladwy o dan reoliad 38, dim.

Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyrwyr carfan 2011

49.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyriwr carfan 2011.

(2Yn ddarostyngedig i reoliadau 51 i 56, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys) yn hafal i (X–Y) pan fo—

(3Yn ddarostyngedig i reoliadau 51 i 56, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys yn hafal i (X–Y) pan fo—

(4Yn y rheoliad hwn, “swm y grant cynhaliaeth” (“the maintenance grant amount”) yw’r canlynol—

(a)os oes gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, y cyfeirir ato ym mharagraff (1), hawl o dan reoliad 39 i gael swm o grant cynhaliaeth, mae’r swm y mae hwnnw’n hafal iddo yn £0.50 am bob £1 o grant cynhaliaeth y mae hawl gan y myfyriwr i’w gael, hyd at uchafswm gwerth Y o £2,688;

(b)os nad oes grant cynhaliaeth yn daladwy o dan reoliad 39, dim.

Myfyrwyr sydd â hawlogaeth ostyngol

50.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau 51 i 56, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw, y mae gan fyfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys, fel a ganlyn—

(a)os yw’r myfyriwr yn dod o fewn rheoliad 24(3)(a), ar gyfer myfyriwr o’r fath—

(i)yng nghategori 1, yn £1,976;

(ii)yng nghategori 2, yn £3,703;

(iii)yng nghategori 3, yn £2,634;

(iv)yng nghategori 4, yn £2,634;

(v)yng nghategori 5, yn £2,634.

(b)os yw’r myfyriwr yn dod o fewn rheoliad 24(3)(b) neu 24(7), ar gyfer myfyriwr o’r fath—

(i)yng nghategori 1, yn £1,976;

(ii)yng nghategori 2, yn £3,703;

(iii)yng nghategori 3, yn £3,150;

(iv)yng nghategori 4, yn £3,150;

(v)yng nghategori 5, yn £2,634.

(c)os yw’r myfyriwr yn gwneud cais am fenthyciad at gostau byw ac yn dewis peidio â rhoi’r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd, swm hafal i (X-Y) pan fo—

X i fyfyriwr o’r fath—

(i)yng nghategori 1, yn £3,121;

(ii)yng nghategori 2, yn £5,649;

(iii)yng nghategori 3, yn £4,807;

(iv)yng nghategori 4, yn £4,807;

(v)yng nghategori 5, yn £4,032;

Y yw’r swm penodedig ym mharagraff (d).

(d)y swm penodedig yw—

(i)£664, os myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon yw’r myfyriwr, sy’n dewis peidio â darparu’r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan fo’n gwneud cais am grant cynhaliaeth a bod ganddo hawl i gael grant cynhaliaeth o £664;

(ii)£1,329, os myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon yw’r myfyriwr, sy’n dewis peidio â darparu’r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan fo’n gwneud cais am grant cynhaliaeth a bod ganddo hawl i gael grant cynhaliaeth o £1,329;

(iii)dim, pan nad yw’r myfyriwr yn fyfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon nac yn fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon.

(2Yn ddarostyngedig i reoliadau 51 i 56, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs sy’n flwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys, fel a ganlyn—

(a)os yw’r myfyriwr yn dod o fewn rheoliad 24(3)(a), ar gyfer myfyriwr o’r fath—

(i)yng nghategori 1, yn £1,501;

(ii)yng nghategori 2, yn £2,831;

(iii)yng nghategori 3, yn £2,053;

(iv)yng nghategori 4, yn £2,053;

(v)yng nghategori 5, yn £2,053.

(b)os yw’r myfyriwr yn dod o fewn rheoliad 24(3)(b) neu 24(7), ar gyfer myfyriwr o’r fath—

(i)yng nghategori 1, yn £1,501;

(ii)yng nghategori 2, yn £2,831;

(iii)yng nghategori 3, yn £2,302;

(iv)yng nghategori 4, yn £2,302;

(v)yng nghategori 5, yn £2,053.

(c)os yw’r myfyriwr yn gwneud cais am fenthyciad at gostau byw ac yn dewis peidio â rhoi’r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd, swm hafal i (X-Y) pan fo—

X i fyfyriwr o’r fath—

(i)yng nghategori 1, yn £2,825;

(ii)yng nghategori 2, yn £5,143;

(iii)yng nghategori 3, yn £4,181;

(iv)yng nghategori 4, yn £4,181;

(v)yng nghategori 5, yn £3,735;

Y yw’r swm penodedig ym mharagraff (d).

(d)y swm penodedig yw—

(i)£664 os myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon yw’r myfyriwr, sy’n dewis peidio â darparu’r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan fo’n gwneud cais am grant cynhaliaeth a bod ganddo hawl i gael grant cynhaliaeth o £664;

(ii)£1,329 os myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon yw’r myfyriwr, sy’n dewis peidio â darparu’r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan fo’n gwneud cais am grant cynhaliaeth a bod ganddo hawl i gael grant cynhaliaeth o £1,329;

(iii)dim, pan nad fo’r myfyriwr yn fyfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon nac yn fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon.

Myfyrwyr sy’n preswylio gyda’u rhieni

51.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fo myfyriwr cymwys (“A” yn y paragraff hwn) yn preswylio yng nghartref ei rieni a Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni nad yw’n rhesymol disgwyl, o dan yr holl amgylchiadau, i rieni A ei gynnal oherwydd oedran, analluedd neu reswm arall ac y byddai’n briodol i swm y benthyciad sy’n daladwy i fyfyriwr mewn categori ac eithrio categori 1 fod yn gymwys yn achos A, rhaid trin A fel pe na bai’n preswylio yng nghartref ei rieni.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy’n dechrau ar gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2004.

Benthyciadau at gostau byw sy’n daladwy ar gyfer tri chwarter o’r flwyddyn academaidd

52.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 54, mae benthyciad at gostau byw yn daladwy mewn perthynas â thri chwarter o’r flwyddyn academaidd.

(2Nid yw benthyciad at gostau byw yn daladwy—

(a)yn achos myfyriwr cwrs gradd cywasgedig, mewn perthynas â’r chwarter a enwir gan Weinidogion Cymru;

(b)mewn unrhyw achos arall, mewn perthynas â’r chwarter y mae’r hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd ynddo ym marn Gweinidogion Cymru.

Myfyrwyr sy’n dod o fewn mwy nag un categori

53.  Os yw myfyriwr cymwys yn dod o fewn mwy nag un o’r categorïau yn rheoliad 57 yn ystod y flwyddyn academaidd—

(a)uchafswm y benthyciad at gostau byw am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm uchafsymiau’r benthyciad at gostau byw am bob chwarter y mae’r benthyciad yn daladwy mewn perthynas ag ef;

(b)uchafswm y benthyciad at gostau byw am bob chwarter o’r fath yw traean o uchafswm y benthyciad at gostau byw a fyddai’n gymwys am y flwyddyn academaidd pe bai’r myfyriwr cymwys yn dod o fewn y categori sy’n gymwys i’r chwarter perthnasol drwy gydol y flwyddyn academaidd; ac

(c)y categori sy’n gymwys i chwarter yw—

(i)y categori y mae’r myfyriwr cymwys yn dod o fewn am y cyfnod hwy neu hwyaf yn y chwarter hwnnw; neu

(ii)os yw’r myfyriwr cymwys yn dod o fewn mwy nag un categori am gyfnod cyfartal yn y cyfnod hwnnw, y categori sydd â’r gyfradd uchaf o fenthyciad at gostau byw am y flwyddyn academaidd.

Myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd

54.—(1Os yw myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys yn ystod blwyddyn academaidd o ganlyniad i un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (2), caiff y myfyriwr fod â hawl i gael benthyciad at gostau byw, mewn perthynas â’r chwarteri hynny o’r flwyddyn academaidd honno y mae benthyciad at gostau byw yn daladwy mewn perthynas â hwy ac sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ym mharagraff (2) ddigwydd.

(2Y digwyddiadau yw—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;

(b)bod y myfyriwr, priod y myfyriwr, partner sifil y myfyriwr neu riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c)bod y wladwriaeth y mae’r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd os yw’r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(d)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;

(e)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(f)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu

(g)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

(3Nid oes gan fyfyriwr cymwys y mae paragraff (1) yn gymwys iddo hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y mae’r digwyddiad perthnasol yn digwydd ynddi.

(4Uchafswm y benthyciad at gostau byw sy’n daladwy yw cyfanswm uchafsymiau’r benthyciad am bob chwarter y mae gan y myfyriwr hawl i gael cymorth mewn perthynas ag ef o dan y rheoliad hwn.

(5Uchafswm y benthyciad at gostau byw am bob chwarter o’r fath yw traean o uchafswm y benthyciad at gostau byw a fyddai’n gymwys am y flwyddyn academaidd pe bai’r myfyriwr yn dod o fewn y categori sy’n gymwys i’r chwarter perthnasol drwy gydol y flwyddyn academaidd.

Codiadau yn yr uchafswm

55.—(1Os yw’n ofynnol i fyfyriwr cymwys fod yn bresennol ar ei gwrs am gyfnod sy’n hwy na 30 wythnos a 3 diwrnod mewn blwyddyn academaidd, rhaid codi uchafswm y benthyciad at gostau byw a bennir yn rheoliadau 46 i 49 am bob wythnos neu bob rhan o wythnos o bresenoldeb yn y flwyddyn academaidd honno y tu hwnt i 30 wythnos a 3 diwrnod fel a ganlyn, i fyfyriwr o’r fath:

(a)yng nghategori 1, £62;

(b)yng nghategori 2, £119;

(c)yng nghategori 3, £129;

(d)yng nghategori 4, £129;

(e)yng nghategori 5, £93.

(2Os yw myfyriwr cymwys yn bresennol ar ei gwrs am gyfnod nad yw’n llai na 45 wythnos mewn unrhyw gyfnod di-dor o 52 wythnos, codir swm y benthyciad at gostau byw a bennir yn rheoliadau 46 i 49 am bob wythnos yn ystod y cyfnod o 52 wythnos pan nad oedd y myfyriwr cymwys yn bresennol yn ôl y symiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).

(3Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys yn achos myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol.

Didynnu o fenthyciadau at gostau byw

56.—(1Caniateir didynnu o swm y benthyciad at gostau byw a gyfrifir o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn yn unol â rheoliad 61.

(2Ni chaniateir didynnu o swm y benthyciad at gostau byw a gyfrifir o dan y Rhan hon mewn perthynas â myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol o dan reoliad 61.

Dehongli Rhan 6

57.  Yn y Rhan hon—

(a)mae myfyriwr yng nghategori 1―

(i)yn ddarostyngedig i reoliad 51, os yw’r myfyriwr yn preswylio yng nghartref ei rieni tra bydd yn bresennol ar y cwrs; neu

(ii)os dechreuodd y myfyriwr ar y cwrs presennol cyn 1 Medi 2009 a’r myfyriwr yn aelod o urdd grefyddol ac yn byw yn un o dai’r urdd honno;

(b)mae myfyriwr yng nghategori 2 os nad yw yng nghategori 1 a’r myfyriwr yn bresennol ar un neu ragor o’r canlynol—

(i)cwrs ym Mhrifysgol Llundain;

(ii)cwrs mewn sefydliad sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo fod yn bresennol am hanner o leiaf o gyfanswm yr amser mewn unrhyw chwarter o’r cwrs yn y flwyddyn academaidd ar safle sydd yn gyfan gwbl neu yn rhannol yn ardal Dinas Llundain a chyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd; neu

(iii)cwrs rhyngosod mewn sefydliad sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r myfyriwr ymgymryd â phrofiad gwaith neu gyfuniad o brofiad gwaith ac astudio ar yr amod bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r profiad gwaith hwnnw neu’r cyfuniad hwnnw o brofiad gwaith ac astudio am hanner o leiaf o gyfanswm yr amser mewn unrhyw chwarter o’r cwrs yn y flwyddyn academaidd ar safle neu safleoedd sydd yn gyfan gwbl neu’n rhannol yn ardal Dinas Llundain a chyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd;

(c)mae myfyriwr yng nghategori 3 os nad yw’r myfyriwr yng nghategori 1 ac os yw’r myfyriwr, fel rhan o’i gwrs, yn bresennol mewn sefydliad tramor, neu leoliad gwaith dramor yn ystod blwyddyn Erasmus;

(d)mae myfyriwr yng nghategori 4 os nad yw’r myfyriwr yng nghategori 1 a’i fod yn mynychu’r Athrofa;

(e)mae myfyriwr yng nghategori 5 os nad yw yng nghategorïau 1 i 4;

(f)“myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn” (“new system eligible student with full entitlement”) yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol;

(g)rhaid dehongli “rhiant” (“parent”), ac eithrio pan ddynodir yn wahanol, yn unol â pharagraff 1(1)(f) o Atodlen 5;

(h)ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig a bennir;

(i)“myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol” (“student with reduced entitlement”) yw myfyriwr cymwys—

(i)nad yw’n gymwys i gael grant at gostau byw mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd yn rhinwedd rheoliad 24(3)(a) neu (b) neu reoliad 24(7); neu

(ii)sydd, wrth wneud cais am fenthyciad at gostau byw, yn dewis peidio â rhoi’r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd;

(j)os un flwyddyn academaidd yn unig yw hyd cwrs i raddedigion neu ar lefel ôl-radd ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon, nid yw’r flwyddyn honno i gael ei thrin fel y flwyddyn derfynol.

RHAN 7DARPARIAETHAU CYFFREDINOL YNGLŶN Â BENTHYCIADAU

Symiau ychwanegol o fenthyciadau

58.—(1Caiff myfyriwr cymwys wneud cais am fenthyg swm ychwanegol o fenthyciad at gostau byw—

(a)os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu y dylid cynyddu uchafswm y benthyciad at gostau byw sydd wedi ei hysbysu i’r myfyriwr cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd (gan gynnwys cynnydd i fyny o ddim byd) o ganlyniad i ailasesu cyfraniad y myfyriwr cymwys neu fel arall; a

(b)os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw’r cynnydd yn yr uchafswm yn digwydd oherwydd i’r myfyriwr cymwys—

(i)methu â rhoi yn brydlon wybodaeth a allai effeithio ar allu’r myfyriwr cymwys i fod â hawl i gael benthyciad neu effeithio ar swm y benthyciad y mae ganddo hawl i’w gael; neu

(ii)rhoi gwybodaeth sy’n anghywir o ran unrhyw fanylyn perthnasol.

(2Nid yw’r swm ychwanegol ym mharagraff (1), o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm wedi ei gynyddu.

(3Os yw myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am fenthyciad sy’n llai na’r uchafswm y mae ganddo hawlogaeth i’w gael mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm perthnasol sy’n gymwys yn ei achos ef.

RHAN 8BENTHYCIADAU AT FFIOEDD COLEG

Benthyciadau at ffioedd coleg

59.  Mae benthyciad at ffioedd coleg ar gael i fyfyriwr cymwys yn unol ag Atodlen 4.

RHAN 9ASESIAD ARIANNOL

Cyfrifo’r cyfraniad

60.—(1Cyfraniad myfyriwr cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw’r swm a gyfrifir o dan Atodlen 5, os oes unrhyw swm o gwbl.

(2Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr cymwys roi o bryd i’w gilydd unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn angenrheidiol am incwm unrhyw berson y mae ei foddion yn berthnasol ar gyfer asesu cyfraniad y myfyriwr cymwys.

Cymhwyso’r cyfraniad

61.—(1Mae swm sy’n hafal i’r cyfraniad neu i weddill y cyfraniad, yn ôl fel y digwydd, a gyfrifir o dan Atodlen 5, i’w gymhwyso hyd nes dihysbyddir yn erbyn swm y grantiau a’r benthyciadau penodol y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i’w cael fel a ganlyn—

(a)yn gyntaf, i ostwng ADG;

(b)yn ail, i ostwng CCG;

(c)yn drydydd, i ostwng PLA;

(d)yn bedwerydd, i ostwng LLC i ddim llai na’r lefel isaf am y flwyddyn academaidd;

(e)yn bumed, i ostwng GFT.

(2Yn y rheoliad hwn—

(a)ADG yw swm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 30;

(b)CCG yw swm y grant gofal plant, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 30;

(c)GFT yw swm y grant at deithio y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i’w gael o dan reoliad 33, os oes unrhyw swm o gwbl;

(d)LLC yw swm y benthyciad at gostau byw, os oes unrhyw swm o gwbl, y mae gan y myfyriwr cymwys (ac eithrio myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol) hawl i’w gael o dan Ran 6 i ddim llai na’r lefel isaf am y flwyddyn academaidd a bennir ym mharagraff (3);

(e)PLA yw swm, os oes unrhyw swm o gwbl, lwfans dysgu’r rhieni a gyfrifir o dan reoliad 30 (ac eithrio £50 cyntaf y lwfans).

(3Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), y “lefel isaf am y flwyddyn academaidd” (“minimum level for the academic year”) yn rheoliad 61(1)(e) yw, yn achos myfyriwr—

(a)yng nghategori 1, £3,121;

(b)yng nghategori 2, £5,649;

(c)yng nghategori 3, £4,807;

(d)yng nghategori 4, £4,807;

(e)yng nghategori 5, £4,032.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), os y flwyddyn academaidd o dan sylw yw blwyddyn derfynol cwrs ac eithrio cwrs dwys, y “lefel isaf am y flwyddyn academaidd” (“minimum level for the academic year”) yw, yn achos myfyriwr—

(a)yng nghategori 1, £2,825;

(b)yng nghategori 2, £5,143;

(c)yng nghategori 3, £4,181;

(d)yng nghategori 4, £4,181;

(e)yng nghategori 5, £3,735.

(5Pan fo categorïau gwahanol yn gymwys i fyfyriwr cymwys ar gyfer gwahanol chwarteri o’r flwyddyn academaidd, y lefelau isaf ym mharagraffau (3) a (4) yw swm cyfanredol y symiau a benderfynir o dan baragraff (6) ar gyfer pob un o’r tri chwarter y mae benthyciad yn daladwy mewn perthynas â hwy.

(6Y swm a bennir ar gyfer pob chwarter yw traean o’r swm ym mharagraff (3) neu (4) sy’n cyfateb i’r gyfradd sy’n gymwys ar gyfer y chwarter.

(7Mae’r paragraff hwn yn gymwys i fyfyrwyr math 1 a math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon y mae ganddynt hawl i gael grant cynhaliaeth ac y mae eu cyfraniad yn fwy na dim.

(8Mae’r benthyciad at gostau byw sy’n daladwy o ran blwyddyn academaidd i fyfyriwr y mae paragraff (7) yn gymwys iddo yn cael ei gyfrifo fel a ganlyn—

pan fo—

  • A yn swm y benthyciad at gostau byw sy’n weddill ar ôl cymhwyso’r cyfraniad yn unol â’r Rhan hon; a

  • B yn swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys.

(9Mae i’r categorïau 1 i 5 yr ystyr a roddir yn rheoliad 57.

RHAN 10TALIADAU

Talu grantiau neu fenthyciadau ar gyfer ffioedd i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd

62.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu’r benthyciad at ffioedd y mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd i’w gael i awdurdod academaidd y mae’r myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn atebol i dalu iddo.

(2Caiff Gweinidogion Cymru dalu’r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu’r benthyciad at ffioedd yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau a ystyriant yn briodol.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu’r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu’r benthyciad at ffioedd, nac unrhyw randaliad o’r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu’r benthyciad at ffioedd, y mae hawl gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd i’w gael, oni fyddant wedi cael gan yr awdurdod academaidd perthnasol—

(a)cais am daliad; a

(b)cadarnhad o bresenoldeb y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ar y cwrs dynodedig.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “cadarnhad o bresenoldeb y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ar y cwrs dynodedig” (“confirmation of the new system eligible student’s attendance on the designated course”) yw cadarnhad gan yr awdurdod academaidd perthnasol fod y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd—

(a)wedi ymrestru ar y cwrs dynodedig ac wedi dechrau bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw, neu, yn achos myfyriwr yr ymdrinnir ag ef fel pe bai’n bresennol o dan reoliad 13(3) ac 13(4), wedi dechrau ymgymryd â’r cwrs dynodedig, pan fo’r cadarnhad yn ymwneud â thaliad llawn neu randaliad cyntaf o’r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu’r benthyciad at ffioedd; neu

(b)yn parhau wedi ymrestru ar y cwrs dynodedig ac yn parhau i fod yn bresennol ar y cwrs hwnnw ar ddyddiad y cadarnhad, neu, yn achos myfyriwr yr ymdrinnir ag ef fel pe bai’n bresennol o dan reoliad 13(3) ac 13(4), yn parhau i ymgymryd â’r cwrs dynodedig ar ddyddiad y cadarnhad, pan fo’r cadarnhad yn ymwneud â rhandaliad o’r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu’r benthyciad at ffioedd, ac eithrio’r rhandaliad cyntaf.

(5Os yw asesu cais myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd neu faterion eraill wedi gohirio cyfrifiad terfynol swm y grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu’r benthyciad at ffioedd y mae hawl gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd i’w gael, caiff Gweinidogion Cymru wneud asesiad a thaliad dros dro.

(6Os yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar gwrs dynodedig, neu’n rhoi’r gorau i ymgymryd â chwrs dynodedig, yn ystod y flwyddyn academaidd, a’r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dychwelyd yn ystod y flwyddyn academaidd honno, rhaid i’r awdurdod academaidd hysbysu Gweinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ynghylch ymadawiad y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd o’r cwrs dynodedig.

Talu grantiau at gostau byw

63.—(1Yn ddarostyngedig i’r paragraffau canlynol, caiff Gweinidogion Cymru dalu cymorth o dan Ran 5 yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau ag y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(2Mae’n ofynnol i awdurdod academaidd anfon cadarnhad o bresenoldeb at Weinidogion Cymru.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu’r rhandaliad cyntaf neu, os penderfynwyd peidio â thalu cymorth o dan Ran 5 mewn rhandaliadau, rhaid iddynt beidio â gwneud unrhyw daliad cymorth o dan y Rhan honno, i fyfyriwr cymwys cyn i’r cadarnhad o bresenoldeb ddod i law onid oes eithriad yn gymwys, y cyfeirir ato ym mharagraff (4).

(4Mae eithriad yn gymwys at ddibenion paragraff (3)—

(a)pan fo grant at gostau byw myfyrwyr anabl yn daladwy, ac yn yr achos hwnnw caniateir talu’r grant arbennig hwnnw cyn i gadarnhad o bresenoldeb ddod i law Gweinidogion Cymru; neu

(b)pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu y byddai’n briodol oherwydd amgylchiadau eithriadol i wneud taliad a chadarnhad o bresenoldeb heb eto ddod i law.

(5Pan na ellir gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a ddarperir gan y myfyriwr cymwys, caiff Gweinidogion Cymru wneud asesiad a thaliad cymorth dros dro o dan Ran 5.

(6Mae taliadau cymorth o dan Ran 5 i’w gwneud yn y cyfryw ddull ag y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol a chânt ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad fod yn rhaid i’r myfyriwr cymwys ddarparu ar eu cyfer fanylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y caniateir gwneud taliadau iddo drwy eu trosglwyddo’n electronig.

(7Yn ddarostyngedig i baragraff (8), nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 5 yn daladwy mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod mewn blwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor arno, oni fyddai’n briodol o dan yr holl amgylchiadau ym marn Gweinidogion Cymru i’r cymorth gael ei dalu mewn perthynas â’r diwrnod hwnnw.

(8Nid yw paragraff (7) yn gymwys mewn perthynas â grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl.

(9Wrth benderfynu a oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (7), mae’r amgylchiadau y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn cynnwys y caledi ariannol y byddai peidio â thalu’r cymorth yn ei achosi ac a fyddai peidio â thalu’r cymorth yn effeithio ar allu’r myfyriwr cymwys i barhau â’r cwrs.

(10Nid oes cymorth yn daladwy o dan Ran 5 mewn perthynas ag unrhyw gyfnod talu sy’n dechrau ar ôl i gyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys ddod i ben.

(11Pan fydd cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys yn dod i ben ar neu ar ôl y dyddiad perthnasol, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu—

(a)swm pob grant at gostau byw y mae’r myfyriwr hwnnw’n gymwys i’w gael ac a fyddai’n daladwy mewn perthynas â’r cyfnod talu perthnasol pe na fyddai cyfnod cymhwystra’r myfyriwr hwnnw wedi dod i ben (y “swm llawn”); a

(b)faint o’r swm llawn sy’n daladwy mewn perthynas â’r cyfnod sy’n ymestyn o ddiwrnod cyntaf y cyfnod talu perthnasol hyd at a chan gynnwys y diwrnod y daeth cyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys i ben (y “swm rhannol”).

(12Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw’r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd o dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.

(13Os yw Gweinidogion Cymru wedi talu grant at gostau byw mewn perthynas â’r cyfnod talu perthnasol cyn y pwynt yn y cyfnod hwnnw pryd y daeth cyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys i ben a bod taliad yn fwy na swm rhannol y grant hwnnw—

(a)cânt drin y tâl dros ben fel gordaliad o’r grant hwnnw; neu

(b)os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny cânt estyn cyfnod cymhwystra’r myfyriwr hwnnw mewn perthynas â’r grant hwnnw hyd ddiwedd y cyfnod talu perthnasol a chânt benderfynu bod swm llawn y grant yn daladwy mewn perthynas â’r cyfnod talu hwnnw.

(14Yn ddarostyngedig i baragraff (15), os yw taliad grant at gostau byw mewn perthynas â’r cyfnod talu perthnasol i’w dalu ar ôl i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys ddod i ben neu os dyna pryd y’i telir, swm y grant hwnnw sy’n daladwy yw’r swm rhannol onid yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol estyn y cyfnod cymhwystra mewn perthynas â’r grant hwnnw hyd ddiwedd y cyfnod talu perthnasol ac yn briodol penderfynu bod swm llawn y grant hwnnw’n daladwy mewn perthynas â’r cyfnod talu hwnnw.

(15Nid yw paragraff (14) yn gymwys i daliad grant at gostau byw i fyfyrwyr anabl o ran offer arbenigol.

(16Nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 5 yn daladwy mewn perthynas â chyfnod talu y mae myfyriwr cymwys yn absennol o’i gwrs yn ystod unrhyw ran ohono, oni fyddai’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru yn yr amgylchiadau i gyd i’r cymorth gael ei dalu mewn perthynas â’r cyfnod o absenoldeb.

(17Wrth benderfynu pa un a fyddai’n briodol i gymorth fod yn daladwy o dan baragraff (16) mae’r amgylchiadau y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn cynnwys y rheswm dros absenoldeb y myfyriwr, hyd y cyfnod o absenoldeb a’r caledi ariannol a achosid pe na bai’r cymorth yn cael ei dalu.

(18Ni ddylid ystyried bod myfyriwr cymwys yn absennol o’i gwrs os yw’r myfyriwr cymwys yn methu â bod yn bresennol oherwydd salwch ac na fu’n absennol am fwy na 60 diwrnod.

(19Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl iddynt wneud unrhyw daliad o gymorth o dan Ran 5 neu Ran 6, yn penderfynu swm y grant at gostau byw a chostau eraill y mae hawl gan y myfyriwr cymwys i’w gael, naill ai am y tro cyntaf neu ar ffurf adolygiad o benderfyniad dros dro neu benderfyniad arall ynghylch y swm hwnnw—

(a)os penderfyniad i gynyddu swm y grant hwnnw y mae hawl gan y myfyriwr cymwys i’w gael yw’r penderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r swm ychwanegol, a chânt wneud hynny yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau a ystyriant yn briodol;

(b)os penderfyniad i ostwng swm y grant hwnnw y mae hawl gan y myfyriwr cymwys i’w gael yw’r penderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru ddidynnu swm y gostyngiad o weddill y grant hwnnw sydd eto i’w dalu;

(c)os yw swm y gostyngiad yn fwy na gweddill y grant hwnnw sydd eto i’w dalu, rhaid gostwng y gweddill hwnnw i ddim, a didynnu’r balans o unrhyw grant arall at gostau byw y mae hawl gan y myfyriwr yn i’w gael mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd;

(d)gellir adennill unrhyw ordaliad sy’n weddill yn unol â rheoliad 67.

Darparu rhif yswiriant gwladol y Deyrnas Unedig

64.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad o ran unrhyw fenthyciad fod yn rhaid i’r myfyriwr cymwys ddarparu ar eu cyfer ei rif yswiriant gwladol yn y Deyrnas Unedig.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), pan fo Gweinidogion Cymru wedi gosod amod o dan baragraff (1), rhaid iddynt beidio â gwneud unrhyw daliad o ran y benthyciad i’r myfyriwr cymwys cyn iddynt gael eu bodloni bod y myfyriwr cymwys wedi cydymffurfio â’r amod hwnnw.

(3Er gwaethaf paragraff (2), caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt wedi eu bodloni y byddai’n briodol iddynt wneud taliad o’r fath oherwydd amgylchiadau eithriadol, wneud taliad o fenthyciad i fyfyriwr cymwys pan nad yw’r myfyriwr cymwys wedi cydymffurfio â’r amod a osodwyd o dan baragraff (1).

Gofynion o ran gwybodaeth

65.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ofyn i geisydd neu fyfyriwr cymwys am wybodaeth y maent yn ystyried ei bod yn ofynnol ar gyfer adennill benthyciad.

(2Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ofyn i geisydd neu fyfyriwr cymwys am gael gweld ei gerdyn adnabod dilys, ei basbort dilys a ddyroddwyd gan y wladwriaeth y mae’n ddinesydd ynddi, neu ei dystysgrif geni.

(3Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gofyn am wybodaeth o dan y rheoliad hwn, cânt gadw’n ôl unrhyw daliad benthyciad hyd nes y bo’r ceisydd neu’r myfyriwr cymwys yn darparu’r hyn y gofynnwyd amdano neu’n darparu eglurhad boddhaol am beidio â chydymffurfio â’r cais.

(4Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol bod ceisydd neu fyfyriwr cymwys yn ymrwymo i gytundeb i ad-dalu benthyciad drwy ddull penodol.

(5Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gofyn am gytundeb ynglŷn â’r dull o ad-dalu o dan y rheoliad hwn, cânt gadw’n ôl unrhyw daliad benthyciad hyd nes y bo’r ceisydd neu’r myfyriwr cymwys yn darparu’r hyn y gofynnwyd amdano.

Talu benthyciadau at gostau byw

66.—(1Caiff Gweinidogion Cymru dalu cymorth o dan Ran 6 mewn rhandaliadau neu mewn un cyfandaliad.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff Gweinidogion Cymru dalu cymorth o dan Ran 6 ar y cyfryw adegau ag y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(3Mae’n ofynnol i awdurdod academaidd anfon cadarnhad o bresenoldeb at Weinidogion Cymru.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu’r rhandaliad cyntaf, neu pan fyddant wedi penderfynu peidio â thalu cymorth o dan Ran 6 drwy randaliadau, wneud unrhyw daliad cymorth o dan Ran 6 i’r myfyriwr cymwys hyd oni fydd cadarnhad o bresenoldeb wedi dod i law oddi wrth yr awdurdod academaidd perthnasol onid yw’r eithriad y cyfeirir ato ym mharagraff (5) yn gymwys.

(5At ddibenion paragraff (4), mae’r eithriad yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu y byddai’n briodol, oherwydd amgylchiadau eithriadol, iddynt wneud taliad heb i gadarnhad o bresenoldeb ddod i law.

(6Pan na ellir gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a ddarparwyd gan y myfyriwr cymwys, caiff Gweinidogion Cymru wneud asesiad a thaliad cymorth dros dro o dan Ran 6.

(7Mae taliadau cymorth o dan Ran 6 i’w gwneud yn y cyfryw fodd ag y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol a chânt ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad fod y rhaid i’r myfyriwr cymwys ddarparu ar eu cyfer fanylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo’n electronig.

(8Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud unrhyw daliad cymorth o dan Ran 5 neu o dan Ran 6 a bod myfyriwr cymwys sydd â hawl i gael benthyciad at gostau byw o dan Ran 6 yn gwneud cais am fenthyciad o’r fath neu’n gwneud cais am swm ychwanegol o fenthyciad at gostau byw mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff Gweinidogion Cymru dalu’r benthyciad hwnnw neu’r swm ychwanegol hwnnw o fenthyciad yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau ag y maent yn ystyried eu bod yn briodol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i gais boddhaol ddod i law.

(9Yn ddarostyngedig i baragraff (10), nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 6 yn daladwy mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod mewn blwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor arno, oni fyddai’n briodol o dan yr holl amgylchiadau ym marn Gweinidogion Cymru i’r cymorth gael ei dalu mewn perthynas â’r diwrnod hwnnw.

(10Wrth benderfynu a oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (9), mae’r amgylchiadau y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn cynnwys y caledi ariannol y byddai peidio â thalu’r cymorth yn ei achosi ac a fyddai peidio â thalu’r cymorth yn effeithio ar allu’r myfyriwr cymwys i barhau â’r cwrs.

(11Nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 6 yn daladwy mewn perthynas ag unrhyw gyfnod talu sy’n dechrau ar ôl i gyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys ddod i ben.

(12Nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 6 yn daladwy mewn perthynas â chyfnod talu y mae myfyriwr cymwys yn absennol o’i gwrs yn ystod rhan ohono, oni fyddai’n briodol, ym marn Gweinidogion Cymru, yn yr holl amgylchiadau, i gymorth gael ei dalu mewn perthynas â’r cyfnod o absenoldeb.

(13Wrth benderfynu pa un a oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (12) mae’r amgylchiadau y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn cynnwys y rhesymau am absenoldeb y myfyriwr cymwys, hyd y cyfnod o absenoldeb a’r caledi ariannol y byddai peidio â thalu i’r myfyriwr cymwys yn ei achosi.

(14Ni ddylid ystyried bod myfyriwr cymwys yn absennol o’i gwrs os yw’r myfyriwr cymwys yn analluog i fod yn bresennol oherwydd salwch ac nad yw wedi bod yn absennol am fwy na 60 diwrnod.

(15Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl iddynt wneud unrhyw daliad benthyciad at gostau byw y mae hawl gan y myfyriwr cymwys i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd o dan Ran 6, yn gwneud penderfyniad bod y swm o fenthyciad at gostau byw y mae hawl gan y myfyriwr cymwys i’w gael yn llai na’r swm a benderfynwyd yn flaenorol naill ai drwy adolygiad o asesiad dros dro neu fel arall—

(a)rhaid iddynt ddidynnu o unrhyw swm o fenthyciad at gostau byw sydd ar ôl i’w dalu y cyfryw swm sydd ei angen er mwyn sicrhau nad yw’r myfyriwr cymwys yn benthyg swm mwy at gostau byw na’r swm y mae hawl gan y myfyriwr cymwys i’w gael;

(b)os yw’r swm sydd i’w dynnu i ffwrdd yn fwy na’r swm o fenthyciad at gostau byw sydd ar ôl i’w dalu, gostyngir y swm diwethaf hwn i ddim;

(c)gellir adennill unrhyw ordaliad yn unol â rheoliad 67.

Gordaliadau

67.—(1Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad o grant at ffioedd, grant newydd at ffioedd neu fenthyciad at ffioedd oddi wrth yr awdurdod academaidd.

(2Rhaid i fyfyriwr cymwys, os bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn iddo wneud hynny, ad-dalu unrhyw swm a delir i’r myfyriwr cymwys o dan Ran 5 neu 6 ac sydd am ba reswm bynnag yn fwy na’r swm o gymorth y mae gan y myfyriwr hawlogaeth arno o dan Ran 5 neu 6.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru adennill gordaliad o unrhyw grant at gostau byw a chostau eraill onid ydynt yn ystyried nad yw’n briodol gwneud hynny.

(4Mae taliad o unrhyw grant at gostau byw a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordaliad os yw’r myfyriwr cymwys yn rhoi’r gorau i’r cwrs cyn y dyddiad perthnasol oni fydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.

(5Yn yr amgylchiadau ym mharagraff (6) neu (7), mae gordaliad o’r grant at gostau byw myfyrwyr anabl oni fydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.

(6Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) yw—

(a)mae Gweinidogion Cymru yn defnyddio’r cyfan neu ran o’r grant at gostau byw myfyrwyr anabl i brynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr cymwys;

(b)mae cyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; ac

(c)nid yw’r offer wedi ei ddanfon at y myfyriwr cyn i’w gyfnod cymhwystra ddod i ben.

(7Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) yw—

(a)mae cyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; a

(b)gwneir taliad o’r grant at gostau byw myfyrwyr anabl mewn perthynas ag offer arbenigol i’r myfyriwr ar ôl i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys ddod i ben.

(8Os oes gordaliad o grant at gostau byw myfyrwyr anabl, caiff Gweinidogion Cymru dderbyn yn ôl offer arbenigol a brynwyd â’r grant yn fodd i adennill y cyfan neu ran o’r gordaliad os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.

(9Caniateir adennill unrhyw ordaliad o unrhyw grant o dan Ran 5 ym mha un bynnag neu ym mha rai bynnag o’r ffyrdd canlynol y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod neu eu bod yn briodol yn yr holl amgylchiadau—

(a)drwy dynnu i ffwrdd y gordaliad o unrhyw fath o grant sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys o bryd i’w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(b)drwy gymryd y cyfryw gamau eraill i adennill gordaliad ag sydd ar gael iddynt.

(10Caniateir adennill unrhyw ordaliad o fenthyciad at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd os yw, ym marn Gweinidogion Cymru—

(a)y gordaliad wedi digwydd o ganlyniad i fethiant ar ran y myfyriwr i ddarparu’n brydlon wybodaeth a allai effeithio ar ba un a oes hawl gan y myfyriwr ai peidio i gael benthyciad neu ar swm y benthyciad y mae hawl ganddo i’w gael;

(b)unrhyw wybodaeth y mae’r myfyriwr wedi ei darparu yn anghywir mewn manylyn perthnasol; neu

(c)y myfyriwr wedi methu â darparu gwybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn berthnasol yng nghyd-destun adennill y benthyciad.

(11Pan fo modd adennill gordaliad o fenthyciad at gostau byw yn unol â pharagraff (10), caniateir ei adennill ym mha un bynnag neu ym mha rai bynnag o’r ffyrdd canlynol y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod neu eu bod yn briodol yn yr holl amgylchiadau—

(a)drwy dynnu i ffwrdd y gordaliad o swm unrhyw fenthyciad sy’n daladwy i’r myfyriwr o bryd i’w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(b)drwy gymryd y cyfryw gamau eraill i adennill gordaliad ag sydd ar gael iddynt.

(12Os oes gordaliad wedi bod o fenthyciad at gostau byw nad oes modd ei adennill o dan baragraff (10), caiff Gweinidogion Cymru dynnu i ffwrdd y gordaliad o swm unrhyw fenthyciad sy’n daladwy i’r myfyriwr o bryd i’w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998.

(13Yn y rheoliad hwn “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw’r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd o dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.

Taliadau – dehongli

68.  Yn y Rhan hon—

(a)ystyr “cadarnhad o bresenoldeb” (“attendance confirmation”) yw cadarnhad mewn ysgrifen gan yr awdurdod academaidd—

(i)bod y myfyriwr cymwys wedi ymrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd—

(aa)pan fo’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â chwrs dynodedig am y tro cyntaf;

(bb)pan fo gan y myfyriwr cymwys anabledd; ac

(cc)pan fo’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â’r cwrs ond nad yw’n bresennol ar y cwrs (pa un a yw’r rheswm am beidio â bod yn bresennol yn ymwneud â’i anabledd ai peidio);

(ii)bod y myfyriwr cymwys wedi bod yn bresennol yn y sefydliad ac wedi dechrau mynychu’r cwrs—

(aa)pan fo’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â chwrs dynodedig am y tro cyntaf;

(bb)pan nad yw statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo i’r cwrs o gwrs dynodedig arall yn yr un sefydliad; ac

(cc)nad yw is-baragraff (i)(cc) yn gymwys;

(iii)bod y myfyriwr cymwys wedi ymrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd pan fo’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig—

(aa)a hynny am dro ac eithrio’r tro cyntaf; neu

(bb)am y tro cyntaf wedi i statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys gael ei drosglwyddo i’r cwrs hwnnw o gwrs arall yn yr un sefydliad;

(b)ystyr “cyfnod talu” (“payment period”) yw cyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn talu mewn perthynas ag ef y cymorth perthnasol o dan Ran 5 neu Ran 6 neu y byddent wedi talu’r cyfryw gymorth pe na bai cyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys wedi dod i ben.

RHAN 11CYMORTH AT GYRSIAU DYSGU O BELL LLAWNAMSER

Myfyrwyr dysgu o bell cymwys

69.—(1Mae gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael cymorth mewn cysylltiad ag ymgymryd ohono â chwrs dysgu o bell dynodedig, yn ddarostyngedig i’r Rhan hon ac yn unol â hi.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) ac (8), mae person yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig os yw Gweinidogion Cymru, wrth asesu ei gais am gymorth o dan reoliad 77, yn penderfynu bod y person hwnnw yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (8) nid yw person (“A” yn y paragraff hwn) yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys—

(a)os, yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhoddwyd i A neu os talwyd i A, mewn perthynas â’r cwrs dysgu o bell—

(i)bwrsari gofal iechyd pa un a gyfrifir swm y bwrsari hwnnw drwy gyfeirio at incwm A ai peidio;

(ii)unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007(73); neu

(iii)lwfans gofal iechyd yr Alban a gyfrifir swm y lwfans hwnnw drwy gyfeirio at incwm A ai peidio;

(b)os yw A wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

(c)os yw A wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynghylch benthyciad a wnaed gydag A pan oedd A o dan 18 oed;

(d)os yw A, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw’n addas i gael cymorth o dan y Rhan hon; neu

(e)yn ddarostyngedig i baragraff (5), os yw A yn garcharor.

(4Nid yw paragraff (3)(a) yn gymwys—

(a)os yw’r person sy’n gwneud cais am gymorth o dan y Rhan hon yn fyfyriwr anabl; a

(b)os rhoddwyd neu os talwyd i’r person mewn perthynas â’r cwrs dysgu o bell—

(i)bwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y person; neu

(ii)lwfans gofal iechyd yr Alban pa un a gyfrifir swm y lwfans hwnnw drwy gyfeirio at incwm y person ai peidio.

(5Nid yw paragraff (3)(e) yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn mynd i’r carchar i fwrw dedfryd mewn caethiwed neu’n cael ei ryddhau o’r carchar ar ôl bwrw dedfryd o’r fath.

(6At ddibenion paragraffau (3)(b) a (3)(c), ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wnaed o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.

(7Mewn achos pan fo’r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, bydd paragraff (3)(c) ddim ond yn gymwys os cafodd y cytundeb ei wneud—

(a)cyn 25 Medi 1991; a

(b)gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd ganddo guradur.

(8Yn ddarostyngedig i baragraffau (10) i (12), mae person yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw’n bodloni’r amodau ym mharagraff (9)(a), (b) neu (c).

(9Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (8) yw—

(a)bod―

(i)y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs dysgu o bell presennol yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(ii)y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y cwrs dysgu o bell presennol; a

(iii)statws y person fel myfyriwr dysgu o bell cymwys heb ei derfynu;

(b)bod—

(i)y cwrs dysgu o bell presennol yn gwrs penben;

(ii)y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y mae’r cwrs dysgu o bell presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef;

(iii)y cyfnod cymhwystra mewn perthynas â’r cwrs yn is-baragraff (b)(ii) wedi dod i ben oherwydd, yn unig, bod y myfyriwr wedi cwblhau’r cwrs; a

(iv)y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn is-baragraff (b)(ii);

(c)bod—

(i)Gweinidogion Cymru eisoes wedi penderfynu bod y person—

(aa)yn fyfyriwr cymwys mewn perthynas â chwrs dynodedig;

(bb)yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig ac eithrio’r cwrs dysgu o bell presennol; neu

(cc)yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig;

(ii)statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys, myfyriwr dysgu o bell cymwys neu fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (c)(i) wedi ei drosi neu wedi ei drosglwyddo o’r cwrs hwnnw i’r cwrs dysgu o bell presennol o ganlyniad i drosi neu drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(iii)y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (c)(i); a

(iv)statws y person fel myfyriwr dysgu o bell cymwys heb ei derfynu.

(10Pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn ffoadur neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs dysgu o bell presennol, neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn perthynas â chwrs dynodedig, cwrs rhan amser dynodedig, neu gwrs dysgu o bell dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr cymwys, myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo i’r cwrs dysgu o bell presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, os bydd statws ffoadur A neu briod, partner sifil, rhiant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) neu lys-riant A, yn ôl fel y digwydd, wedi terfynu ac nad oes hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002(74)),

bydd statws A fel myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu’n syth cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(11Pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i’r cyfryw berson, yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs dysgu o bell presennol, neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn perthynas â chwrs dynodedig, cwrs rhan-amser dynodedig, neu gwrs dysgu o bell dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr cymwys, myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo i’r cwrs dysgu o bell presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, os bydd y cyfnod a ganiateir i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig wedi terfynu ac nad oes hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu’n syth cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(12Nid yw paragraffau (10) ac (11) yn gymwys pan fo’r myfyriwr wedi dechrau ar y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys neu’n fyfyriwr rhan-amser cymwys, yn ôl fel y digwydd, cyn 1 Medi 2007.

(13Ni chaiff myfyriwr dysgu o bell cymwys fod â’r hawl, ar unrhyw adeg, i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn—

(a)at fwy nag un cwrs dysgu o bell dynodedig;

(b)at gwrs dysgu o bell dynodedig a chwrs dynodedig;

(c)at gwrs dysgu o bell dynodedig a chwrs rhan-amser dynodedig;

(d)at gwrs dysgu o bell dynodedig a chwrs ôl- radd dynodedig.

Myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaidd

70.—(1Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)caiff myfyriwr fod â hawl i grant o ran ffioedd mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn unol â’r Rhan hon cyn belled â bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd o fewn tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a

(b)nid oes grant mewn perthynas â ffioedd ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol.

(2Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (e), (f), (g), (h), neu (i) o baragraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)caiff myfyriwr fod â hawl i grant tuag at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn unol â’r Rhan hon; a

(b)nid yw grant tuag at lyfrau, teithio a gwariant arall ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol.

(3Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (e), (f), (g), (h), neu (i) o baragraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)caiff myfyriwr fod â hawl i grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn unol â’r Rhan hon; ac

(b)nid yw grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ar gael.

(4Y digwyddiadau yw—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dysgu o bell dynodedig;

(b)bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n dod yn berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd a bod y myfyriwr yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r wladwriaeth honno;

(d)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r UE;

(e)bod y wladwriaeth y mae’r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd pan fo’r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(f)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;

(g)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1;

(h)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd; neu

(i)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd.

Cyrsiau dysgu o bell dynodedig

71.—(1Mae cwrs yn ddynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 69 os dynodir ef gan Weinidogion Cymru dan y rheoliad hwn.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cwrs dan y rheoliad hwn os yn eu barn hwy—

(a)bod y cwrs yn cael ei restru yn Atodlen 2 ac eithrio cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;

(b)bod y cwrs yn gwrs llawnamser;

(c)bod y cwrs yn parhau am o leiaf un flwyddyn academaidd;

(d)nad yw’n ofynnol gan y sefydliad sy’n darparu’r cwrs bod myfyrwyr sy’n ymgymryd â’r cwrs yn y Deyrnas Unedig yn bresennol ar y cwrs; ac

(e)yn ddarostyngedig i baragraff (5), dechreuodd y cwrs cyn 1 Medi 2012.

(3At ddibenion penderfynu a yw’r gofyniad ym mharagraff (2)(d) yn cael ei fodloni, caiff Gweinidogion Cymru ddiystyru—

(a)unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad sy’n darparu’r cwrs i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad at ddibenion—

(i)cofrestru neu ymrestru;

(ii)arholiad;

(b)unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad sy’n darparu’r cwrs i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad ar benwythnos neu yn ystod unrhyw wyliau;

(c)unrhyw gyfnod mynychu yn y sefydliad sy’n darparu’r cwrs y caiff y myfyriwr ei gyflawni ond nad yw’n orfodol iddo wneud hynny gan y sefydliad hwnnw.

(4Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddynodi cwrs fel cwrs dysgu o bell dynodedig—

(a)os yw’n dod o fewn paragraff 7 neu 8 o Atodlen 2; a

(b)os yw corff llywodraethol ysgol a gynhelir wedi trefnu darparu’r cwrs ar gyfer disgybl yr ysgol.

(5Mae cwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012 yn gwrs dysgu o bell dynodedig—

(a)os yw myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs hwnnw yn unol â rheoliad 80 o gwrs dysgu o bell dynodedig blaenorol a ddechreuodd cyn 1 Medi 2012; neu

(b)os yw’r cwrs hwnnw’n gwrs penben yr ymgymerir ag ef drwy ddysgu o bell, sy’n dilyn ymlaen o gwrs dysgu o bell dynodedig,

a ddechreuodd cyn 1 Medi 2012 a phe byddai’r cwrs hwnnw fel arall yn gwrs dynodedig at ddibenion rheoliad 5.

Cyfnod cymhwystra

72.—(1Cedwir statws myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig hyd nes y bo’r statws hwnnw’n terfynu yn unol â’r rheoliad hwn neu reoliad 69.

(2Y cyfnod y mae myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cadw’r statws y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw’r “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”).

(3Yn ddarostyngedig i’r paragraffau canlynol a rheoliad 69, mae’r cyfnod cymhwystra yn terfynu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cwblhau ei gwrs dysgu o bell dynodedig ynddi.

(4Mae’r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr dysgu o bell cymwys (“A” yn y paragraff hwn ac ym mharagraff (5))—

(a)yn tynnu’n ôl o’i gwrs dysgu o bell dynodedig dan amgylchiadau pan na fo Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu wedi trosi neu pan na fyddant yn trosglwyddo neu yn trosi statws A o dan reoliad 80, 81, 82 neu 108; neu

(b)yn cefnu ar ei gwrs dysgu o bell dynodedig neu’n cael ei ddiarddel oddi arno.

(5Caiff Gweinidogion Cymru derfynu’r cyfnod cymhwystra os yw A, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw’n addas i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn.

(6Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy’n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw rai o’r camau canlynol y credent eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—

(a)terfynu’r cyfnod cymhwystra;

(b)penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw gymorth penodol neu unrhyw swm penodol o gymorth o dan y Rheoliadau hyn;

(c)trin unrhyw gymorth a dalwyd i’r myfyriwr o dan y Rheoliadau hyn fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 85.

(7Pan fo’r cyfnod cymhwystra’n terfynu cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cwblhau’r cwrs dysgu o bell dynodedig ynddi caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu neu estyn y cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnod ag y maent yn penderfynu arno.

Cymorth at gyrsiau dysgu o bell

73.—(1At ddibenion y rheoliad hwn, y cymorth sydd ar gael yw—

(a)grant mewn perthynas â ffioedd nad yw’n fwy na’r lleiaf o’r symiau canlynol—

(i)£1,025; neu

(ii)y ffioedd gwirioneddol, sef swm y ffioedd a godir ar y myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs dysgu o bell dynodedig; a

(b)grant nad yw’n fwy na £1,155 at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn cysylltiad â’r cwrs dysgu o bell dynodedig.

(2Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i gael cymorth dan baragraff (1)(b) os yr unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y daw’r myfyriwr dysgu o bell cymwys oddi tano yw paragraff 9.

(3Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i gael cymorth dan y rheoliad hwn—

(a)os yw’n fyfyriwr anabl; a

(b)os rhoddwyd neu os talwyd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs dysgu o bell dynodedig—

(i)bwrsari gofal iechyd y cyfrifir ei swm drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr dysgu o bell cymwys; neu

(ii)lwfans gofal iechyd yr Alban pa un a gyfrifir swm y lwfans hwnnw drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr dysgu o bell cymwys ai peidio.

(4Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i gael cymorth dan y rheoliad hwn oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf.

(5Ni fydd gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl bellach i gael cymorth o dan y rheoliad hwn os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell dynodedig y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

(6Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i gael cymorth dan y rheoliad hwn os yw’r myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ymgymryd ag un neu ragor o gyrsiau dysgu o bell dros gyfnod cyfanredol o wyth o flynyddoedd academaidd ac wedi cael benthyciad neu grant o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (7) mewn perthynas â phob un o’r blynyddoedd academaidd hynny.

(7Y benthyciadau a’r grantiau yw—

(a)benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio neu wariant arall a wnaed mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell yn unol â’r rheoliadau a wnaed dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(b)benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio neu wariant arall a wnaed mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell gan Adran Gyflogaeth a Dysgu (Gogledd Iwerddon) yn unol â rheoliadau wnaed dan Erthyglau 3 ac 8(4) o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998(75); neu

(c)benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell a wnaed yn unol â rheoliadau a wnaed dan adrannau 73(f), 73B a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(76).

(8Yn ddarostyngedig i baragraff (11), nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i gael cymorth dan y rheoliad hwn os yw’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn ddeiliad gradd gyntaf gan sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig.

(9At ddibenion paragraff (8), rhaid peidio â thrin gradd fel gradd gyntaf—

(a)os yw’n radd (ac eithrio gradd anrhydedd) a ddyfarnwyd i’r myfyriwr dysgu o bell cymwys sydd wedi cwblhau’r modiwlau, arholiadau neu’r dulliau asesu gofynnol eraill ar gyfer cwrs gradd gyntaf y myfyriwr dysgu o bell cymwys; a

(b)y myfyriwr hwnnw’n ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell presennol er mwyn cael gradd anrhydedd ar ôl cwblhau’r modiwlau, arholiadau neu’r dulliau asesu gofynnol eraill (pa un a yw’r myfyriwr hwnnw yn parhau’r cwrs yn yr un sefydliad addysgol ai peidio, ar ôl dyfarnu’r radd y cyfeirir ati yn is-baragraff (a)).

(10Nid oes cymorth yn daladwy o dan y Rheoliadau hyn i fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn perthynas â’r myfyriwr hwnnw’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell nad yw’n gwrs dysgu o bell dynodedig.

(11Nid yw paragraff (8) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod yr amodau a ganlyn wedi eu bodloni mewn perthynas â myfyriwr dysgu o bell cymwys—

(a)bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi darparu’r holl wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â gradd gyntaf sydd gan y myfyriwr o sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig;

(b)bod yr wybodaeth honno yn gywir; ac

(c)bod Gweinidogion Cymru wedi darparu’n anghywir hysbysiad bod gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael cymorth o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â’r cwrs dysgu o bell presennol.

(12Pan fo paragraff (11) yn gymwys, caiff myfyriwr dysgu o bell cymwys fod â hawl i gael cymorth o dan y rheoliad hwn yn unol â pharagraffau (13) i (15).

(13Yn ddarostyngedig i baragraff (15), os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud y penderfyniad o dan baragraff (11) cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dysgu o bell presennol, yna caiff y myfyriwr dysgu o bell cymwys fod â hawl i gael cymorth o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dysgu o bell presennol.

(14Yn ddarostyngedig i baragraff (15), os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud y penderfyniad o dan baragraff (11) ar neu ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dysgu o bell presennol, yna caiff y myfyriwr dysgu o bell cymwys fod â hawl i gael cymorth o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â—

(a)blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell presennol y mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y penderfyniad ynddi; a

(b)blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell presennol y mae’r myfyriwr wedi ei chwblhau cyn i Weinidogion Cymru wneud y penderfyniad.

(15Caiff myfyriwr dysgu o bell cymwys sy’n ddarostyngedig i benderfyniad o dan baragraff (7) fod â hawl i gael cymorth o dan y rheoliad hwn ac eithrio yn unol â pharagraffau (13) a (14), pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod hyn yn briodol o ganlyniad i amgylchiadau eithriadol achos penodol.

Swm y cymorth

74.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a rheoliad 80(6), mae swm y cymorth sy’n daladwy o dan reoliad 73 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd fel a ganlyn—

(a)os oes gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys neu ei bartner, ar ddyddiad ei gais, hawlogaeth—

(i)o dan Ran VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(77) i gymhorthdal incwm neu fudd-dal tai;

(ii)o dan Ran 1 o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995(78) i lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm;

(iii)o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007(79) i lwfans cyflogaeth a chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm;

(iv)i gredyd cynhwysol; neu

(v)i ostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor;

mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan reoliad 73(1) yn daladwy;

(b)pan fo’r incwm perthnasol yn llai na £16,865, mae’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 73(1) yn daladwy;

(c)pan fo’r incwm perthnasol yn £16,865, mae’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 73(1)(b) yn daladwy ynghyd â £50 yn llai na’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 73(1)(a);

(d)pan fo’r incwm perthnasol yn uwch na £16,865, ond yn llai na £25,435, mae’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 73(1)(b) yn daladwy a swm y cymorth taladwy o dan reoliad 73(1)(a) yw’r swm a benderfynir arno yn unol â pharagraff (2);

(e)pan fo’r incwm perthnasol yn £25,435, mae’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 73(1)(b) yn daladwy a swm y cymorth taladwy o dan reoliad 73(1)(a) yw £50;

(f)pan fo’r incwm perthnasol yn uwch na £25,435 ond yn llai na £26,095, mae’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 73(1)(b) yn daladwy ac nid oes unrhyw gymorth yn daladwy o dan reoliad 73(1)(a);

(g)pan fo’r incwm perthnasol yn £26,095 neu ragor ond yn llai na £28,180, nid oes unrhyw gymorth ar gael o dan reoliad 73(1)(a) a swm y cymorth taladwy o dan reoliad 73(1)(b) yw’r swm a adewir yn dilyn didynnu o’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 73(1)(b) £1 am bob £1.886 o incwm perthnasol uwchlaw £26,095;

(h)pan fo’r incwm perthnasol yn £28,180, nid oes unrhyw gymorth yn daladwy o dan reoliad 73(1)(a) ac mae swm y cymorth taladwy o dan reoliad 73(1)(b) yn £50;

(i)pan fo’r incwm perthnasol yn uwch na £28,180, nid oes unrhyw gymorth yn daladwy o dan reoliad 73(1).

(2Pan fo paragraff (1)(d) yn berthnasol, penderfynir faint o gymorth sy’n daladwy o dan reoliad 73(1)(a) drwy ddidynnu o’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 73(1)(a) un o’r symiau canlynol—

(a)£50 a £1 ychwanegol am bob £9.26 cyflawn o incwm perthnasol uwchlaw £16,865; neu

(b)pan fo’r ffioedd gwirioneddol yn llai na £1,025, cyfanswm sy’n hafal i’r hyn a adewir wedi didynnu o’r swm a gyfrifwyd o dan is-baragraff (a) y gwahaniaeth rhwng £1,025 a’r ffioedd gwirioneddol (oni bai bod y swm yn rhif negatif ac yn yr achos hwnnw telir yr uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 73(1)(a)).

Dehongli rheoliad 74

75.—(1At ddibenion rheoliad 74 a’r rheoliad hwn—

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (b), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o’r canlynol—

(i)priod myfyriwr dysgu o bell cymwys;

(ii)partner sifil myfyriwr dysgu o bell cymwys;

(iii)person sydd fel rheol yn byw gyda myfyriwr dysgu o bell cymwys fel pe bai’n briod i’r myfyriwr dysgu o bell cymwys, pan fo’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn 25 oed neu’n hŷn ar y diwrnod cyntaf o’r flwyddyn academaidd y caiff ei asesu ar gyfer cymorth mewn perthynas â hi, a phan fo’r myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi dechrau ar y cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir cyn 1 Medi 2005;

(iv)person sydd fel rheol yn byw gyda myfyriwr dysgu o bell cymwys fel pe bai’n briod neu’n bartner sifil i’r myfyriwr dysgu o bell cymwys, pan fo’r myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi dechrau ar y cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(b)nid yw person fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (a) i’w drin fel partner os—

(i)ym marn Gweinidogion Cymru fod y person hwnnw a’r myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi gwahanu; neu

(ii)bod y person fel rheol yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac nas cynhelir gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys;

(c)mae i “incwm perthnasol” (“relevant income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (2).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae incwm perthnasol myfyriwr dysgu o bell cymwys yn hafal i’w ffynonellau ariannol yn y flwyddyn ariannol flaenorol llai—

(a)£2,000 mewn perthynas â’i bartner;

(b)£2,000 mewn perthynas â’r unig blentyn neu’r plentyn hynaf sy’n ddibynnol ar y myfyriwr dysgu o bell cymwys neu ar ei bartner; a

(c)£1,000 mewn perthynas â phob plentyn arall sy’n ddibynnol ar y myfyriwr dysgu o bell cymwys neu ar ei bartner.

(3Pan fo Gweinidogion Cymru yn fodlon bod ffynonellau ariannol y myfyriwr dysgu o bell cymwys am y flwyddyn ariannol flaenorol yn fwy na’i ffynonellau ariannol am y flwyddyn ariannol gyfredol a bod y gwahaniaeth rhwng y ddau gyfanswm yn £1,000 neu ragor, rhaid iddynt asesu ffynonellau ariannol y myfyriwr hwnnw drwy gyfeirio at y ffynonellau hynny yn y flwyddyn ariannol gyfredol.

(4Yn y rheoliad hwn ystyr ffynonellau ariannol myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn blwyddyn ariannol yw swm cyfanredol ei incwm am y flwyddyn honno ynghyd â swm cyfanredol incwm am y flwyddyn honno unrhyw berson sy’n bartner i’r myfyriwr dysgu o bell cymwys, ar y dyddiad y gwneir y cais am gymorth o dan y Rhan hon.

(5Yn y rheoliad hwn—

(a)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr gyfrifoldeb rhiant drosto;

(b)ystyr “blwyddyn ariannol gyfredol” (“current financial year”) yw’r flwyddyn ariannol sy’n cynnwys diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae person yn cael ei asesu ar gyfer cymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas â hi;

(c)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf;

(d)ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cael ei gyfrifiannu mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy’n gymwys iddo;

(e)ystyr “incwm” (“income”) yw incwm gros o bob ffynhonnell heb gynnwys—

(i)unrhyw daliad a wneir o dan adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989; a

(ii)unrhyw gredydau treth a ddyfarnwyd yn unol ag unrhyw hawliadau o dan adran 3 o Ddeddf Credydau Treth 2002(80);

(f)ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol gyfredol;

(g)ystyr “cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir” (“specified designated distance learning course”) yw’r cwrs y mae’r person yn gwneud cais am gymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas ag ef, neu, pan fo statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo i’r cwrs dysgu o bell presennol o ganlyniad i un trosglwyddiad neu fwy o’r statws hwnnw gan Weinidogion Cymru o gwrs dysgu o bell (y “cwrs cychwynnol”) (“initial course”) y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998, y cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir yw’r cwrs cychwynnol.

Grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl

76.—(1Mae gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl yn unol â’r Rhan hon i gael grant i helpu gyda’r gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod yn ofynnol i’r myfyriwr dysgu o bell cymwys ei ysgwyddo oherwydd anabledd sydd ganddo mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig.

(2Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael y grant o dan y rheoliad hwn os yr unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y daw’r myfyriwr dysgu o bell cymwys odano yw paragraff 9.

(3Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael y grant o dan y rheoliad hwn mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n flwyddyn bwrsari.

(4Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael y grant o dan y rheoliad hwn oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell dynodedig yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf.

(5Ni fydd gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl bellach i gael y grant o dan y rheoliad hwn os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell dynodedig y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

(6Yn ddarostyngedig i’r paragraffau canlynol, swm y grant o dan y rheoliad hwn yw’r swm sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru yn unol ag amgylchiadau’r myfyriwr.

(7Ni ddylai swm y grant o dan y rheoliad hwn fod yn fwy na’r canlynol—

(a)£21,181 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;

(b)£5,332 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;

(c)y gwariant ychwanegol a ysgwyddir—

(i)o fewn y Deyrnas Unedig at ddiben gallu bod yn bresennol yn y sefydliad;

(ii)o fewn neu o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o gwrs y myfyriwr dysgu o bell cymwys, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad tramor neu at ddiben bod yn bresennol yn yr Athrofa;

(d)£1,785 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant a ysgwyddwyd at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy’n fwy na’r uchafsymiau penodedig.

(8Yn ddarostyngedig i baragraffau (9) a (10), mae’r grant o dan y rheoliad hwn yn daladwy i fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.

(9Pan fo grant o dan y rheoliad hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol (o fewn ystyr paragraff (7)(b)) caiff fod yn daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd gyfan.

(10Pan fo rheoliad 70(3) yn gymwys, dim ond at y dibenion a bennir ym mharagraff (7)(a), (c) a (d) mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol yn rheoliad 70(4) ddigwydd y caiff myfyriwr dysgu o bell cymwys fod â hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn.

Ceisiadau am gymorth

77.—(1Rhaid i berson wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell dynodedig drwy gwblhau ffurflen gais ar y cyfryw ffurf ag y byddo Gweinidogion Cymru yn gofyn amdani a’i chyflwyno i Weinidogion Cymru.

(2Rhaid anfon gyda’r cais—

(a)datganiad a gwblhawyd gan yr awdurdod academaidd; a

(b)unrhyw ddogfennaeth ychwanegol a fydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru.

(3Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau yr ystyriant yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw’r ceisydd yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth o dan y Rhan hon, a swm y cymorth sy’n daladwy, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd a oes ganddo hawl i gael cymorth o dan y Rhan hon, ac os oes ganddo hawl, swm y cymorth sy’n daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6) rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o chwe mis sy’n dechrau gyda diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell dynodedig y cyflwynir y cais mewn perthynas ag ef.

(6Nid yw paragraff (5) yn gymwys—

(a)pan fo un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (4) o reoliad 70 yn digwydd ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas â hi, ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o chwe mis sy’n dechrau gyda diwrnod y digwyddiad perthnasol;

(b)pan fo’r ceisydd yn gwneud cais am y grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl, ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol; neu

(c)pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau’r achos penodol, y dylid llacio’r terfyn amser, ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir ganddynt.

Datganiadau a ddarperir gan awdurdodau academaidd

78.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i’r awdurdod academaidd, ar gais y ceisydd, gwblhau datganiad yn y cyfryw ffurf ag y byddo Gweinidogion Cymru yn gofyn amdano fynd gyda’r cais am gymorth o dan reoliad 77.

(2Nid yw’n ofynnol i awdurdod academaidd gwblhau datganiad os nad yw’n gallu rhoi’r cadarnhad sy’n ofynnol gan is-baragraff (3)(a)(ii) neu (3)(b)(ii).

(3Yn y Rhan hon, ystyr “datganiad” (“declaration”) yw—

(a)pan fo’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â’r cwrs dysgu o bell dynodedig am y tro cyntaf, datganiad—

(i)sy’n darparu gwybodaeth am y cwrs; a

(ii)sy’n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymgymryd ag o leiaf ddwy wythnos o’r cwrs dysgu o bell dynodedig;

(b)mewn unrhyw achos arall, datganiad—

(i)sy’n darparu gwybodaeth am y cwrs; a

(ii)sy’n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymrestru i ymgymryd â blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell dynodedig y mae’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwybodaeth am y cwrs” (“course information”) yw—

(a)swm y ffioedd a godir mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd y mae’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas â hi;

(b)ardystiad gan yr awdurdod academaidd ei fod yn ystyried bod y ceisydd yn ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell dynodedig yng Nghymru; ac

(c)mewn unrhyw achos pan fo’r ceisydd yn fyfyriwr anabl, ardystiad gan yr awdurdod academaidd ei fod yn ystyried bod y ceisydd wedi dewis ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell dynodedig am reswm ac eithrio’r ffaith na all y ceisydd fod yn bresennol ar gwrs dynodedig oherwydd rhesymau sy’n ymwneud ag anabledd y ceisydd.

Gwybodaeth

79.  Mae Atodlen 3 yn gymwys mewn perthynas â darparu gwybodaeth gan geisydd neu gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys.

Trosglwyddo statws

80.—(1Pan fo myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo o gwrs dysgu o bell dynodedig i gwrs dysgu o bell dynodedig arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys i’r cwrs arall hwnnw—

(a)pan dderbyniant gais i wneud hynny oddi wrth y myfyriwr dysgu o bell cymwys;

(b)pan ydynt wedi eu bodloni bod un neu fwy o’r seiliau trosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac

(c)pan nad yw’r cyfnod cymhwystra wedi ei derfynu.

(2Y seiliau trosglwyddo yw—

(a)bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig arall yn yr un sefydliad;

(b)bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig mewn sefydliad arall; neu

(c)ar ôl iddo ddechrau cwrs dysgu o bell dynodedig ar gyfer gradd gyntaf (ac eithrio gradd anrhydedd) bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys, cyn cwblhau’r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs dysgu o bell dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc neu bynciau yn yr un sefydliad.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd myfyriwr dysgu o bell cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1) yn parhau i gael, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo iddo, weddill y cymorth o dan y Rhan hon y penderfynodd Gweinidogion Cymru fod gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys hawl iddo mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’n trosglwyddo oddi arno.

(4Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sydd yn daladwy ar ôl y trosglwyddo yn unol â’r Rhan hon.

(5Ni chaiff myfyriwr cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar gymorth o dan y Rhan hon y myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo oddi arno ond cyn iddo gwblhau’r flwyddyn honno, wneud cais am grant arall o dan reoliad 73(1)(b) neu reoliad 76 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo iddo.

(6Pan fo myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (1), uchafswm y cymorth o dan reoliad 73(1)(a) mewn perthynas â’r blynyddoedd academaidd y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo iddynt ac ohonynt yw swm y cymorth sydd ar gael mewn cysylltiad â’r cwrs sydd â’r ffioedd uchaf gwirioneddol fel y’u diffinnir yn rheoliad 73.

Trosi statws – myfyrwyr cymwys yn trosglwyddo i gyrsiau dysgu o bell dynodedig

81.—(1Pan fo myfyriwr cymwys yn rhoi’r gorau i ymgymryd â chwrs dynodedig ac yn trosglwyddo i gwrs dysgu o bell dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i statws myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y mae’r myfyriwr cymwys yn trosglwyddo iddo—

(a)pan dderbyniant gais oddi wrth y myfyriwr dysgu o bell cymwys i wneud hynny; a

(b)pan nad yw’r cyfnod cymhwystra wedi terfynu.

(2Mae’r canlynol yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1)—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant at gostau byw myfyriwr anabl o dan Ran 5 i’r myfyriwr hwnnw mewn rhandaliadau rheolaidd, ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â’r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy’n dechrau ar ôl y dyddiad y daw’r myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys;

(b)mae uchafswm y grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl, y byddai gan y myfyriwr hwnnw hawl iddo, ar wahân i’r rheoliad hwn, mewn cysylltiad â’r myfyriwr hwnnw yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daw’r myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd, ac o ddau draean os daw’r myfyriwr hwnnw’n fyfyriwr dysgu o bell cymwys yn ystod chwarter diweddarach o’r flwyddyn honno;

(c)pan fo swm o grant at gostau byw myfyrwyr anabl at unrhyw ddiben wedi ei dalu i’r myfyriwr o dan Ran 5 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl sy’n daladwy iddo at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (b) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant a dalwyd iddo at y diben hwnnw yn unol â Rhan 5, ac os yw’r swm sy’n deillio o hyn yn ddim neu’n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim; a

(d)pan fo’r myfyriwr, yn union cyn dod yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys, yn gymwys i wneud cais, ond ei fod heb wneud cais am fenthyciad at gostau byw ar gyfer y flwyddyn honno, neu heb wneud cais am yr uchafswm neu’r uchafswm a gynyddwyd yr oedd â hawl iddo, caiff y myfyriwr hwnnw wneud cais am y benthyciad hwnnw neu’r swm ychwanegol hwnnw o fenthyciad fel pe bai wedi parhau yn fyfyriwr cymwys; ac o dan yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (3) gostyngir uchafswm y benthyciad hwnnw neu uchafswm cynnydd y cyfryw fenthyciad am y flwyddyn academaidd yn unol â’r paragraff hwnnw.

(3Pan fo’r cais o dan baragraff (1) yn cael ei wneud yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn academaidd y mae’r benthyciad at gostau byw yn daladwy ar ei chyfer, gostyngir uchafswm y benthyciad neu’r uchafswm a gynyddwyd o’r cyfryw fenthyciad (yn ôl fel y digwydd) o ddau draean, ac os yw’r cais yn cael ei wneud yn ystod ail chwarter y flwyddyn honno gostyngir y swm hwnnw o un traean.

Trosi statws – myfyrwyr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo i gyrsiau dynodedig

82.—(1Pan fo myfyriwr dysgu o bell cymwys yn rhoi’r gorau i ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig a’i fod yn trosglwyddo i gwrs dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys i statws myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo iddo—

(a)pan dderbyniant gais oddi wrth y myfyriwr cymwys i wneud hynny; a

(b)pan nad yw’r cyfnod cymhwystra wedi terfynu.

(2Mae’r canlynol yn gymwys i fyfyriwr dysgu o bell cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1)—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl i’r myfyriwr hwnnw mewn rhandaliadau rheolaidd ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â’r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy’n dechrau ar ôl y dyddiad y daw’r myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr cymwys;

(b)bydd unrhyw gymorth y mae gan y myfyriwr hwnnw hawl iddo o dan y Rhan hon mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd y trosglwydda’r myfyriwr hwnnw ynddi yn cael ei anwybyddu wrth benderfynu swm y cymorth y gall bod ganddo hawl iddo am y flwyddyn honno o dan Rannau 4 i 6;

(c)mae uchafswm unrhyw gymorth o dan Ran 5 neu 6 y byddai’r myfyriwr hwnnw ar wahân i’r rheoliad hwn, â hawl iddo mewn cysylltiad â chwrs dynodedig o fewn y flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean pan ddaeth y myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd honno, ac o ddau draean os daeth y myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr cymwys mewn chwarter diweddarach o’r flwyddyn honno; a

(d)pan fo swm grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl at unrhyw ddiben wedi ei dalu i’r myfyriwr hwnnw mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant at gostau byw myfyrwyr anabl sy’n daladwy iddo o dan Ran 5 at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (c) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl a dalwyd iddo at y diben hwnnw, a phan fo’r swm sy’n deillio o hyn yn ddim neu’n swm negyddol bydd y swm hwnnw yn ddim.

Talu grantiau ar gyfer ffioedd

83.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r grant mewn perthynas â ffioedd y mae hawl gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys i’w gael unwaith y byddant wedi cael gan yr awdurdod academaidd perthnasol—

(a)cais am daliad; a

(b)cadarnhad o bresenoldeb y myfyriwr dysgu o bell cymwys ar y cwrs dysgu o bell dynodedig.

(2Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau o dan baragraff (1) ar unrhyw adegau ac mewn unrhyw randaliadau (os bydd rhandaliadau) fel y gwelant yn dda.

(3Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau dros dro o dan baragraff (1) mewn unrhyw achosion y barnant sy’n briodol.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “cadarnhad o bresenoldeb y myfyriwr dysgu o bell cymwys ar y cwrs dysgu o bell dynodedig” (“confirmation of theeligible distance learning student’s attendance on the designated distance learning course”) yw cadarnhad gan yr awdurdod academaidd perthnasol fod y myfyriwr cymwys dysgu o bell—

(a)wedi ymrestru ar y cwrs dysgu o bell dynodedig ac wedi dechrau ymgymryd â’r cwrs hwnnw, pan fo’r cadarnhad yn ymwneud â thaliad y cyfan o’r grant mewn perthynas â ffioedd neu’r rhandaliad cyntaf o’r grant mewn perthynas â ffioedd; neu

(b)yn parhau wedi ymrestru ar y cwrs dysgu o bell dynodedig ac yn parhau i ymgymryd â’r cwrs hwnnw ar ddyddiad y cadarnhad, pan fo’r cadarnhad yn ymwneud â rhandaliad o’r grant mewn perthynas â ffioedd, ac eithrio’r rhandaliad cyntaf.

(5Os yw myfyriwr dysgu o bell cymwys yn rhoi’r gorau i ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig, yn ystod y flwyddyn academaidd, a’r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dychwelyd yn ystod y flwyddyn academaidd honno, rhaid i’r awdurdod academaidd hysbysu Gweinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ynghylch ymadawiad y myfyriwr dysgu o bell cymwys o’r cwrs dysgu o bell dynodedig.

Talu grantiau at lyfrau, teithio a gwariant arall a grantiau at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl

84.—(1Caiff taliadau’r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl eu gwneud mewn dull y barna Gweinidogion Cymru sydd briodol a chânt osod amod ar gyfer yr hawl i daliad bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys i roi iddynt fanylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gellir gwneud y taliadau iddo drwy drosglwyddiad electronig.

(2Pan fetha Gweinidogion Cymru â gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a roddwyd gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys, cânt wneud asesiad dros dro a gwneud taliad o’r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall ac o’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl.

(3Caiff Gweinidogion Cymru dalu’r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl mewn rhandaliadau neu mewn un cyfandaliad.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff Gweinidogion Cymru dalu’r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl ar adegau y barnant hwy yn briodol.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu’r rhandaliad cyntaf na chwaith, pan benderfynwyd peidio â thalu cymorth mewn rhandaliadau, wneud unrhyw daliad o’r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall na’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl cyn iddynt dderbyn datganiad o dan reoliad 78 oni bai bod eithriad y cyfeirir ato ym mharagraff (6) yn gymwys.

(6Mae eithriad at ddibenion paragraff (5) yn gymwys—

(a)os oes grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl yn daladwy, a’r pryd hynny gellir talu’r grant hwnnw cyn bo datganiad wedi dod i law Gweinidogion Cymru;

(b)os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu y byddai’n briodol oherwydd yr amgylchiadau eithriadol i wneud taliad heb i ddatganiad ddod i law.

Gordaliadau

85.—(1Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad grant mewn perthynas â ffioedd oddi ar yr awdurdod academaidd.

(2Os bydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru, bydd yn rhaid i fyfyriwr dysgu o bell cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd iddo o dan y Rhan hon ac sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae gan y myfyriwr hwnnw hawl iddo o dan y Rhan hon.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru adennill gordaliad grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl oni bai eu bod yn ystyried nad yw’n briodol gwneud hynny.

(4Y dulliau o adennill yw—

(a)tynnu’r gordaliad o unrhyw fath o grant sy’n daladwy i’r myfyriwr dysgu o bell cymwys o bryd i’w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(b)cymryd unrhyw gamau eraill sydd ar gael i Weinidogion Cymru er mwyn adennill gordaliad.

(5Mae taliad o grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordaliad os yw’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn rhoi’r gorau i’r cwrs cyn y dyddiad perthnasol oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu’n wahanol.

(6Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw dyddiad dechrau gwirioneddol tymor cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw.

(7O dan yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff (8) neu (9), ceir gordaliad o’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu’n wahanol.

(8Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7) yw—

(a)bod Gweinidogion Cymru yn cymhwyso’r cyfan neu ran o’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl ar gyfer prynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr dysgu o bell cymwys;

(b)bod cyfnod cymhwystra’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu ar ôl y dyddiad perthnasol; ac

(c)nad yw’r offer wedi ei ddanfon at y myfyriwr dysgu o bell cymwys cyn diwedd cyfnod cymhwystra’r myfyriwr.

(9Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7) yw—

(a)bod cyfnod cymhwystra’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu ar ôl y dyddiad perthnasol; a

(b)bod taliad grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl yn cael ei wneud ar gyfer offer arbenigol i’r myfyriwr ar derfyn y cyfnod cymhwystra.

(10Pan fo gordaliad o’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl, caiff Gweinidogion Cymru dderbyn dychweliad offer arbenigol a brynwyd â’r grant fel modd i adennill y cyfan neu ran o’r gordaliad os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.

RHAN 12CYMORTH AT GYRSIAU RHAN-AMSER

Myfyrwyr rhan-amser cymwys

86.—(1Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth mewn cysylltiad ag ymgymryd o’r myfyriwr â chwrs rhan-amser dynodedig, yn ddarostyngedig i’r Rhan hon ac yn unol â hi.

(2Mae person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig—

(a)os yw Gweinidogion Cymru, wrth iddynt asesu cais y person hwnnw am gymorth o dan reoliad 104, yn penderfynu bod y person yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1; a

(b)os nad yw’r person wedi ei hepgor gan baragraff (3).

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (7), nid yw person (“A” yn y paragraff hwn) yn fyfyriwr rhan-amser cymwys—

(a)os rhoddwyd neu os talwyd i A mewn perthynas ag ymgymryd ohono â’r cwrs rhan-amser dynodedig—

(i)bwrsari gofal iechyd, pa un a gyfrifir swm y bwrsari hwnnw drwy gyfeirio at incwm A ai peidio;

(ii)unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007; neu

(iii)lwfans gofal iechyd yr Alban pa un a gyfrifir swm y lwfans hwnnw drwy gyfeirio at incwm A ai peidio;

(b)os yw A wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

(c)os yw A wedi cyrraedd 18 oed a heb ddilysu unrhyw gytundeb ynglŷn â benthyciad a wnaed gydag A pan oedd A o dan 18 oed;

(d)os yw A, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy’i ymddygiad nad yw A yn addas i gael cymorth o dan y Rhan hon; neu

(e)yn ddarostyngedig i baragraff (4), os yw A yn garcharor.

(4Nid yw paragraff (3)(e) yn gymwys—

(a)pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn garcharor rhan-amser cymwys; na

(b)mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd pryd y mae’r myfyriwr yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar.

(5At ddibenion paragraffau (3)(b) a (3)(c), ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wnaed o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.

(6Mewn achos lle mae’r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, oni fydd y cytundeb ei wneud—

(a)cyn 25 Medi 1991, a

(b)gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd gan y benthyciwr guradur,

ni fydd paragraff (3)(c) yn gymwys.

(7Yn ddarostyngedig i baragraffau (9) i (11), mae person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw’n bodloni’r amodau ym mharagraff (8)(a), (b) neu (c).

(8Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7) yw—

(a)bod―

(i)y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs rhan-amser presennol yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(ii)y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y cwrs rhan-amser presennol; a

(iii)statws y person fel myfyriwr rhan-amser cymwys heb ei derfynu;

(b)bod—

(i)y cwrs rhan-amser presennol yn gwrs penben;

(ii)y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y mae’r cwrs rhan-amser presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef;

(iii)y cyfnod cymhwystra mewn perthynas â’r cwrs yn is-baragraff (b)(ii) wedi dod i ben oherwydd, yn unig, bod y myfyriwr wedi cwblhau’r cwrs; a

(iv)y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn is-baragraff (b)(ii);

(c)bod—

(i)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o’r blaen fod y person—

(aa)yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig;

(bb)yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig ac eithrio’r cwrs rhan-amser presennol; neu

(cc)yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig;

(ii)statws y person fel myfyriwr cymwys, myfyriwr dysgu o bell cymwys neu fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (c)(i) wedi ei drosi neu wedi ei drosglwyddo o’r cwrs hwnnw i’r cwrs rhan-amser presennol o ganlyniad i drosi neu drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(iii)y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (c)(i); a

(iv)statws y person fel myfyriwr rhan-amser cymwys heb ei derfynu.

(9Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn ffoadur, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu’n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs rhan-amser presennol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig, cwrs dynodedig dysgu o bell neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs rhan-amser presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, statws ffoadur A neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) neu ei lys-riant, yn ôl fel y digwydd, wedi dod i ben ac na roddwyd caniatâd pellach iddo aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(10Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs rhan-amser presennol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig, cwrs dynodedig dysgu o bell neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs rhan-amser presennol; a

(b)y cyfnod y caniateir i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi ac, ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau’r flwyddyn academaidd honno, os na roddwyd hawl bellach i aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(11Nid yw paragraffau (9) a (10) yn gymwys pan fo’r myfyriwr wedi dechrau ar y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys neu’n fyfyriwr cymwys, yn ôl fel y digwydd, cyn 1 Medi 2007.

(12Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliad 90(1)(b), rheoliad 92, rheoliad 93 neu reoliadau 94 i 103 os paragraff 9 yw’r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod odano.

(13Yn ddarostyngedig i baragraffau (14) a (15), mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth—

(a)o dan reoliad 90(1)(a) os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr rhan-amser cymwys yn ymgymryd â’r cwrs rhan-amser dynodedig yng Nghymru; neu

(b)o dan reoliadau 90(1)(b), 93 neu 94 i 103 os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr rhan-amser cymwys yn ymgymryd â’r cwrs rhan-amser dynodedig yn y Deyrnas Unedig.

(14Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliadau 90 i 103 mewn perthynas â chwrs dysgu o bell rhan-amser, oni bai bo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf.

(15Ni fydd gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl bellach i gael cymorth o dan reoliadau 90 i 103 mewn perthynas â chwrs dysgu o bell rhan-amser os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

(16Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliadau 90 i 92 neu reoliadau 94 i 103 os yw—

(a)wedi ymgymryd ag un neu fwy o gyrsiau rhan-amser a ddechreuodd cyn 1 Medi 2014 am gyfanswm o wyth mlynedd academaidd a’i fod wedi cael mewn perthynas â phob un o’r blynyddoedd academaidd hynny fenthyciad neu grant o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (17); neu

(b)wedi ymgymryd ag un neu fwy o gyrsiau rhan-amser a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2014 am gyfanswm o un mlynedd ar bymtheg a’i fod wedi cael mewn perthynas â phob un o’r blynyddoedd academaidd hynny fenthyciad neu grant o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (17).

(17Y benthyciadau a’r grantiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (16) yw—

(a)benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio a gwariant arall bob un wedi ei roi mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(b)benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio a gwariant arall bob un wedi ei roi mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser gan yr Adran Cyflogi a Dysgu (Gogledd Iwerddon) yn unol â rheoliadau a wnaed o dan Erthyglau 3 ac 8(4) o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998; neu

(c)benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser a roddwyd yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 73(f), 73B a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980.

(18Yn ddarostyngedig i baragraffau (19), (20) a (22), nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliadau 90 i 92 neu reoliadau 94 i 103 os oes gan y myfyriwr radd gyntaf oddi wrth sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig.

(19At ddibenion paragraff (18), rhaid peidio â thrin gradd fel gradd gyntaf—

(a)os yw’n radd (ac eithrio gradd anrhydedd) a ddyfarnwyd i’r myfyriwr rhan-amser cymwys sydd wedi cwblhau’r modiwlau, arholiadau neu’r dulliau asesu gofynnol eraill ar gyfer ei gwrs gradd gyntaf; a

(b)os yw’r myfyriwr hwnnw’n ymgymryd â’r cwrs rhan-amser presennol er mwyn cael gradd anrhydedd ar ôl cwblhau’r modiwlau, arholiadau neu’r dulliau asesu gofynnol eraill (pa un a yw’r myfyriwr hwnnw yn parhau’r cwrs yn yr un sefydliad addysgol ai peidio, ar ôl dyfarnu’r radd y cyfeirir ati yn is-baragraff (a)).

(20Nid yw paragraff (18) yn rhwystro myfyriwr rhan-amser cymwys rhag bod â hawl i gael cymorth o dan reoliadau 90 i 92 neu reoliadau 94 i 103—

(a)os yw’r cwrs rhan-amser presennol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2010;

(b)os yw’r cwrs yn parhau am ddim mwy na phedair blynedd; ac

(c)os nad yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn athro neu’n athrawes gymwysedig.

(21Ni chaiff fyfyriwr rhan-amser cymwys yr hawl, ar unrhyw adeg, i gael cymorth—

(a)ar gyfer mwy nag un cwrs rhan-amser dynodedig;

(b)ar gyfer cwrs rhan-amser dynodedig a chwrs dynodedig;

(c)ar gyfer cwrs rhan-amser dynodedig a chwrs dysgu o bell dynodedig;

(d)ar gyfer cwrs rhan-amser dynodedig a chwrs ôl-radd dynodedig.

(22Nid yw paragraff (18) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod yr amodau a ganlyn wedi eu bodloni mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys—

(a)bod y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi darparu’r holl wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â gradd gyntaf sydd gan y myfyriwr o sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig;

(b)bod yr wybodaeth honno yn gywir; ac

(c)bod Gweinidogion Cymru wedi darparu’n anghywir hysbysiad bod gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â’r cwrs rhan-amser presennol.

(23Pan fo paragraff (22) yn gymwys, caiff myfyriwr rhan-amser cymwys fod â hawl i gael cymorth o dan y Rhan hon yn unol â pharagraffau (24) i (26).

(24Yn ddarostyngedig i baragraff (26), os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud y penderfyniad o dan baragraff (22) cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs rhan-amser presennol, yna caiff y myfyriwr rhan-amser cymwys fod â hawl i gael cymorth o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs rhan-amser presennol.

(25Yn ddarostyngedig i baragraff (26), os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud y penderfyniad o dan baragraff (22) ar neu ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs rhan-amser presennol, yna caiff y myfyriwr rhan-amser cymwys fod â hawl i gael cymorth o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â’r canlynol—

(a)blwyddyn academaidd y cwrs rhan-amser presennol y mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y penderfyniad ynddi; a

(b)blwyddyn academaidd y cwrs rhan-amser presennol y mae’r myfyriwr wedi ei chwblhau cyn i Weinidogion Cymru wneud y penderfyniad.

(26Caiff myfyriwr rhan-amser cymwys sy’n ddarostyngedig i benderfyniad o dan baragraff (22) fod â hawl i gael cymorth o dan y Rhan hon ac eithrio yn unol â pharagraffau (24) a (25), pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod hyn yn briodol o ganlyniad i amgylchiadau eithriadol achos penodol.

Myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaidd

87.—(1Os bydd un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)caiff myfyriwr fod â hawl i gael grant mewn perthynas â ffioedd neu fenthyciad newydd at ffioedd rhan-amser mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn unol â’r Rhan hon ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a

(b)nid oes grant mewn perthynas â ffioedd na benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

(2Os bydd un o’r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (e), (f), (g), (h) neu (i) o baragraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, caiff myfyriwr fod â hawl i gael grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn perthynas â’r cyfan neu ran o’r flwyddyn academaidd honno ond nid oes gan y myfyriwr hawl i gael grant mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y dechreuodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

(3Os bydd un o’r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (e), (f), (g), (h) neu (i) o baragraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)caiff myfyriwr fod â hawl i gael grant at lyfrau, teithio a gwariant arall, grant newydd at gyrsiau rhan-amser neu grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn unol â’r Rhan hon; a

(b)nid oes grant at lyfrau, teithio a gwariant arall, grant newydd at gyrsiau rhan-amser nac ychwaith grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl, ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

(4Y digwyddiadau yw—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs rhan-amser dynodedig;

(b)bod y myfyriwr, neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd os yw’r myfyriwr yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r wladwriaeth honno;

(d)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r UE;

(e)bod y wladwriaeth y mae’r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd os yw’r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(f)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;

(g)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(h)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu

(i)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

Cyrsiau rhan-amser dynodedig

88.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mae cwrs rhan-amser yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 86—

(a)os yw’n gwrs a restrir yn Atodlen 2 ac eithrio cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon—

(i)a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010;

(ii)sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a’r myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu

(iii)a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a’r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs;

(b)os yw’n parhau am o leiaf un flwyddyn academaidd;

(c)os yw fel arfer yn bosibl gorffen y cwrs mewn dim mwy na—

(i)dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau cwrs llawnamser cyfatebol pan fo’r cwrs yn dechrau cyn 1 Medi 2014; neu

(ii)pedair gwaith y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau cwrs llawnamser cyfatebol pan fo’r cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2014;

(d)os yw’n cael ei ddarparu’n gyfan gwbl gan sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu’n cael ei ddarparu gan sefydliad o’r fath ar y cyd â sefydliad y tu allan i’r Deyrnas Unedig;

(e)nad yw wedi ei ddynodi gan neu o dan reoliad 5; ac

(f)nad yw wedi ei ddynodi gan neu o dan reoliad 71.

(2Nid yw cwrs sy’n dod o fewn paragraff 7 neu 8 o Atodlen 2 yn gwrs rhan-amser dynodedig os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi trefnu darparu’r cwrs hwnnw i un o ddisgyblion yr ysgol.

(3Nid yw cwrs yr ymgymerir ag ef fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth yn gwrs rhan-amser dynodedig.

(4At ddibenion paragraff (1)—

(a)mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw’r sefydliad yn darparu’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs, pa un a yw’r sefydliad wedi gwneud cytundeb gyda’r myfyriwr i ddarparu’r cwrs neu beidio;

(b)bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu’n gyhoeddus os yw naill ai’r brifysgol neu’r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn cael eu hariannu’n gyhoeddus; ac

(c)ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu’n gyhoeddus dim ond am ei fod yn cael arian o gronfeydd cyhoeddus gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(81).

(5At ddibenion paragraff (1)(c)—

(a)ystyr “cwrs llawnamser cyfatebol” (“full-time equivalent”) yw cwrs llawnamser sy’n arwain at yr un cymhwyster â’r cwrs rhan-amser dan sylw;

(b)ystyr “cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol” (“period ordinarily required to complete the full-time equivalent”) yw—

(i)os darperir y cwrs gan neu ar ran y Brifysgol Agored, y cyfnod y byddai ei angen ar fyfyriwr llawnamser safonol i gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol pe rhoddid iddo 120 o bwyntiau credyd ym mhob blwyddyn academaidd;

(ii)os darperir y cwrs gan neu ar ran unrhyw sefydliad arall, y cyfnod y byddai myfyriwr llawnamser safonol yn ei gymryd i gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol;

(c)“myfyriwr llawnamser safonol” (“standard full-time student”) yw myfyriwr y cymerir—

(i)ei fod wedi dechrau cwrs llawnamser cyfatebol ar yr un dyddiad ag y dechreuodd y myfyriwr rhan-amser cymwys ar y cwrs rhan-amser o dan sylw;

(ii)nad yw wedi ei esgusodi rhag dilyn unrhyw ran o’r cwrs llawnamser cyfatebol;

(iii)nad yw wedi ailadrodd unrhyw ran o’r cwrs llawnamser cyfatebol; a

(iv)nad yw wedi bod yn absennol o’r cwrs llawnamser cyfatebol ac eithrio yn ystod gwyliau.

(6At ddibenion adran 22 o Ddeddf 1998 a rheoliad 86(1), caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi eu dynodi o dan baragraff (1).

(7At ddibenion y Rhan hon, trinnir cwrs rhan-amser dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2014 fel pe bai’n dechrau cyn 1 Medi 2014—

(a)pan fo’n gwrs rhan-amser dynodedig y mae person yn trosglwyddo iddo yn unol â rheoliad 107 o gwrs rhan-amser dynodedig blaenorol a ddechreuodd cyn 1 Medi 2014; neu

(b)pan fo’n gwrs rhan-amser dynodedig sy’n gwrs penben, sy’n dilyn ymlaen o gwrs rhan-amser dynodedig a ddechreuodd cyn 1 Medi 2014.

Cyfnod cymhwystra

89.—(1Cedwir statws myfyriwr fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig oni ddaw’r statws hwnnw i ben yn unol â’r rheoliad hwn neu reoliad 86.

(2Y cyfnod y mae myfyriwr rhan-amser cymwys yn cadw’r statws y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw’r “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”).

(3Yn ddarostyngedig i’r paragraffau canlynol a rheoliad 86, mae’r cyfnod cymhwystra yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y myfyriwr rhan-amser cymwys yn cwblhau ei gwrs rhan-amser dynodedig ynddi.

(4Mae’r cyfnod cymhwystra yn terfynu os yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys (“A” yn y paragraff hwn)—

(a)yn tynnu’n ôl o gwrs rhan-amser dynodedig A o dan amgylchiadau pan nad yw Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu drosi, neu ni fyddant yn trosglwyddo nac yn trosi, statws A o dan reoliad 107 neu 108; neu

(b)yn cefnu ar ei gwrs rhan-amser dynodedig neu’n cael ei ddiarddel oddi arno.

(5Mae’r cyfnod cymhwystra’n dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y mae’n dod yn amhosibl i’r myfyriwr rhan-amser cymwys, yn ystod y flwyddyn neu ar ei diwedd, gwblhau’r cwrs rhan-amser dynodedig o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 88(1)(c) hyd yn oed pe bai’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn dwysáu ei astudio.

(6Caiff Gweinidogion Cymru derfynu’r cyfnod cymhwystra os yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys (“A” yn y paragraff hwn), ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy’i ymddygiad nad yw A yn addas i gael cymorth o dan y Rhan hon.

(7Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr rhan-amser cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy’n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw rai o’r camau canlynol y maent yn credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—

(a)terfynu’r cyfnod cymhwystra;

(b)penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw gymorth penodol neu unrhyw swm penodol o gymorth o dan y Rhan hon;

(c)trin unrhyw gymorth a dalwyd i’r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 114.

(8Pan fo’r cyfnod cymhwystra’n dod i ben—

(a)cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn cwblhau’r cwrs rhan-amser dynodedig ynddi; a

(b)ac eithrio o dan baragraff (5),

caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu, neu estyn y cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnod ag y maent yn penderfynu arno.

Cymorth at gyrsiau rhan-amser sy’n dechrau cyn 1 Medi 2014 (grant at ffioedd, a grant at lyfrau, teithio a gwariant arall)

90.—(1At ddibenion y rheoliad hwn, y cymorth sydd ar gael mewn perthynas â chwrs rhan-amser dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2014 yw—

(a)grant mewn perthynas â ffioedd nad yw’n fwy na’r lleiaf o’r symiau canlynol—

(i)swm y grant ffioedd sylfaenol (a gyfrifir yn unol â’r paragraffau canlynol), neu

(ii)y “ffioedd gwirioneddol” (“actual fees”), sef swm y ffioedd a godir mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs rhan-amser dynodedig; a

(b)grant nad yw’n fwy na £1,155 at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn cysylltiad â’r cwrs rhan-amser dynodedig.

(2Mae’r grant ffioedd sylfaenol yn amrywio yn ôl dwysedd yr astudio.

Cyfrifir y dwysedd astudio, a mynegir ef fel canran, fel a ganlyn:

ac y mae—

PT yn dynodi nifer y modiwlau, credydau, pwyntiau credyd, pwyntiau neu unedau eraill sydd i’w dyfarnu i’r myfyriwr rhan-amser cymwys gan yr awdurdod academaidd os bydd yn cwblhau’n llwyddiannus y flwyddyn academaidd y mae’n gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi o dan reoliad 104; ac

FT yn dynodi—

(a)

os darperir y cwrs gan neu ar ran y Brifysgol Agored, 120;

(b)

os darperir y cwrs gan neu ar ran unrhyw sefydliad arall, nifer y modiwlau, credydau, pwyntiau credyd, pwyntiau neu unedau eraill y byddai’n ofynnol i fyfyriwr llawnamser safonol eu hennill ym mhob blwyddyn academaidd er mwyn iddo gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol o fewn y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs hwnnw.

(3At ddibenion paragraff (2)—

(a)mae “cwrs llawnamser cyfatebol” (“full-time equivalent”) a “myfyriwr llawnamser safonol” (“standard full-time student”) i’w dehongli’n unol â rheoliad 88; a

(b)mae “y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol” (“the period ordinarily required to complete the full-time equivalent”) i’w gyfrifo’n unol â rheoliad 88.

(4Y “grant ffioedd sylfaenol” (“basic fee grant”) yw—

(a)£690, os yw’r dwysedd astudio yn llai na 60 y cant (“lefel 1”);

(b)£820, os yw’r dwysedd astudio yn 60 y cant neu fwy ond yn llai na 75 y cant (“lefel 2”);

(c)£1,025, os yw’r dwysedd astudio yn 75 y cant neu’n fwy (“lefel 3”).

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6) a rheoliad 107(6), mae swm y cymorth sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â blwyddyn academaidd fel a ganlyn—

(a)os oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys neu bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys, ar ddyddiad y cais, hawlogaeth—

(i)o dan Ran VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 i gymhorthdal incwm neu fudd-dal tai;

(ii)o dan Ran 1 o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995 i lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm;

(iii)o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007 i lwfans cyflogaeth a chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm;

(iv)i gredyd cynhwysol; neu

(v)i ostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor;

mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1) yn daladwy;

(b)os yw’r incwm perthnasol yn llai na £16,865, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1) yn daladwy;

(c)os yw’r incwm perthnasol yn £16,865, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy ynghyd â £50 yn llai nag uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(a);

(d)os yw’r incwm perthnasol yn fwy na £16,865 ond yn llai na £25,435, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy, a swm y cymorth sy’n daladwy o dan baragraff (1)(a) yw’r swm a bennir yn unol â pharagraff (6);

(e)os yw’r incwm perthnasol yn £25,435, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy a swm y cymorth sy’n daladwy o dan baragraff (1)(a) yw £50;

(f)os yw’r incwm perthnasol yn fwy na £25,435 ond yn llai na £26,095, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy ac nid oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (1)(a);

(g)os yw’r incwm perthnasol yn £26,095 neu’n fwy ond yn llai na £28,180, nid oes cymorth ar gael o dan baragraff (1)(a) a swm y cymorth sy’n daladwy o dan baragraff (1)(b) yw’r swm sy’n weddill ar ôl didynnu o uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) £1 am bob £1.886 o incwm perthnasol uwchlaw £26,095;

(h)os yw’r incwm perthnasol yn £28,180, nid oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (1)(a) a swm y cymorth sy’n daladwy o dan baragraff (1)(b) yw £50;

(i)os yw’r incwm perthnasol yn fwy na £28,180, nid oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (1).

(6Os yw paragraff (5)(d) yn gymwys, pennir swm y cymorth sy’n daladwy o dan baragraff (1)(a) drwy ddidynnu o uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(a) un o’r symiau canlynol—

(a)£50 plws £1 arall am bob £14.52, £11.90 neu £9.26 cyflawn o incwm perthnasol uwchlaw £16,865 yn ôl a yw dwysedd yr astudio ar lefel 1, 2 neu 3, yn y drefn honno; neu

(b)os yw’r grant ffioedd sylfaenol yn fwy na’r ffioedd gwirioneddol, swm sy’n hafal i’r hyn sy’n weddill ar ôl didynnu o’r swm a gyfrifwyd o dan is-baragraff (a) y gwahaniaeth rhwng y grant ffioedd sylfaenol a’r ffioedd gwirioneddol (oni bai bod y swm yn rhif negyddol ac os felly mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(a) yn daladwy).

(7At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i’w bartner ac unrhyw blentyn y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant drosto;

(b)ystyr “y flwyddyn ariannol gyfredol” (“current financial year”) yw’r flwyddyn ariannol sy’n cynnwys diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae person yn cael ei asesu ar gyfer cymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas â hi;

(c)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf;

(d)ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm y myfyriwr rhan-amser cymwys yn cael ei gyfrifiannu mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy’n gymwys iddo;

(e)ystyr “incwm” (“income”) yw incwm gros o bob ffynhonnell heb gynnwys—

(i)unrhyw daliad a wneir o dan adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989; a

(ii)unrhyw gredydau treth a ddyfarnwyd yn unol ag unrhyw hawliadau o dan adran 3 o Ddeddf Credydau Treth 2002;

(f)yn ddarostyngedig i is-baragraff (g), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o’r canlynol—

(i)priod myfyriwr rhan-amser cymwys;

(ii)partner sifil myfyriwr rhan-amser cymwys;

(iii)person sydd fel rheol yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai’n briod i’r myfyriwr rhan-amser cymwys, pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn 25 oed neu’n hŷn ar y diwrnod cyntaf o’r flwyddyn academaidd y caiff ei asesu ar gyfer cymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas â hi, a phan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig a bennir cyn 1 Medi 2005;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai’n briod neu’n bartner sifil iddo pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(g)nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (f) yn cael ei drin fel partner—

(i)os yw’r person hwnnw a’r myfyriwr rhan-amser cymwys, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu; neu

(ii)os yw’r person fel arfer yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac nad yw’n cael ei gynnal gan y myfyriwr rhan-amser;

(h)ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol gyfredol;

(i)mae i “incwm perthnasol” (“relevant income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (8).

(8Yn ddarostyngedig i baragraff (9), mae incwm perthnasol myfyriwr rhan-amser cymwys yn hafal i’w adnoddau ariannol yn y flwyddyn ariannol flaenorol, llai—

(i)£2,000 mewn perthynas â phartner y myfyriwr rhan-amser cymwys;

(ii)£2,000 mewn perthynas â’r unig blentyn neu’r plentyn hynaf sy’n ddibynnol ar y myfyriwr rhan-amser cymwys neu ar ei bartner; a

(iii)£1,000 mewn perthynas â phob un plentyn arall sy’n ddibynnol ar y myfyriwr rhan-amser cymwys neu ar ei bartner.

(9Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod adnoddau ariannol myfyriwr rhan-amser cymwys yn y flwyddyn ariannol flaenorol yn fwy nag adnoddau ariannol y myfyriwr rhan-amser cymwys yn y flwyddyn ariannol gyfredol a bod y gwahaniaeth rhwng y ddau swm yn £1,000 neu fwy, rhaid iddynt asesu adnoddau ariannol y myfyriwr hwnnw drwy gyfeirio at yr adnoddau hynny yn y flwyddyn ariannol gyfredol.

(10Yn y rheoliad hwn ystyr ffynonellau ariannol myfyriwr rhan-amser cymwys mewn blwyddyn ariannol yw swm cyfanredol ei incwm am y flwyddyn honno ynghyd â swm cyfanredol incwm am y flwyddyn honno unrhyw berson sy’n bartner i’r myfyriwr rhan-amser cymwys, ar y dyddiad gwneir y cais am gymorth o dan y Rhan hon.

(11Yn y rheoliad hwn ystyr “cwrs rhan-amser dynodedig a bennir” (“specified designated part-time course”) yw’r cwrs y mae’r person yn gwneud cais am gymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas ag ef, pan fo statws y myfyriwr fel myfyriwr rhan-amser cymwys wedi ei drosglwyddo i’r cwrs rhan-amser presennol o ganlyniad i un trosglwyddiad o’r statws hwnnw neu fwy gan Weinidogion Cymru o gwrs rhan-amser (y “cwrs cychwynnol”) y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998, y cwrs rhan-amser dynodedig a bennir yw’r cwrs cychwynnol.

(12Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd.

Benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser

91.—(1Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys sy’n fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr ar gwrs rhan-amser dynodedig neu mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef.

(2Nid oes benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig sy’n flwyddyn bwrsari neu’n flwyddyn Erasmus.

(3Uchafswm y benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru yw’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£2,625; neu

(b)y ffi sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno.

(4Uchafswm y benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig a ddarperir gan sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon yw’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£6,750; neu

(b)y ffi sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno.

(5Uchafswm y benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig a ddarperir gan sefydliad preifat yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon yw’r lleiaf o’r canlynol—

(a)£4,500; neu

(b)y ffi sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno.

(6Ni fydd gan fyfyriwr rhan-amser cymwys nad yw’n fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl i gael unrhyw gymorth o dan y rheoliad hwn.

(7Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl i gael benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig os yw’r dwysedd astudio yn ystod y flwyddyn honno yn llai na 25 y cant.

(8At ddibenion paragraff (7), mae’r dwysedd astudio yn ystod blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig i’w gyfrifo yn unol â rheoliad 90(2) a (3).

Grant newydd at gyrsiau rhan-amser

92.—(1Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys sy’n fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael grant newydd at gyrsiau rhan-amser ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr ar gwrs rhan-amser dynodedig neu mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef.

(2Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl i gael grant newydd at gyrsiau rhan-amser mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig os yw dwysedd yr astudio yn ystod y flwyddyn honno yn llai na 50 y cant.

(3At ddibenion paragraff (2) mae dwysedd yr astudio yn ystod blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig i’w gyfrifo yn unol â rheoliad 90(2) a (3).

(4Uchafswm y grant newydd at gyrsiau rhan-amser at ddibenion paragraff (5) yw £1,155.

(5Cyfrifir swm y grant newydd at gyrsiau rhan-amser sy’n daladwy i fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig fel a ganlyn—

(a)mae uchafswm y grant newydd at gyrsiau rhan-amser yn daladwy pan fo gan fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd neu bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd, ar ddyddiad y cais am y grant, hawlogaeth—

(i)o dan Ran VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 i gymhorthdal incwm neu fudd-dal tai;

(ii)o dan Ran 1 o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995 i lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm;

(iii)o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007 i lwfans cyflogaeth a chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm;

(iv)i gredyd cynhwysol; neu

(v)i ostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor;

(b)mae uchafswm y grant newydd at gyrsiau rhan-amser yn daladwy pan fo’r incwm perthnasol yn llai na £26,095;

(c)pan fo’r incwm perthnasol yn £26,095 neu ragor ond yn llai na £28,180 swm y grant newydd at gyrsiau rhan-amser sy’n daladwy yw’r swm a adewir yn dilyn didynnu o uchafswm y grant newydd at gyrsiau rhan-amser £1 am bob £1.886 o incwm perthnasol uwchlaw £26,095;

(d)mae grant newydd at gyrsiau rhan-amser o £50 yn daladwy pan fo’r incwm perthnasol yn £28,180;

(e)nid oes grant newydd at gyrsiau rhan-amser ar gael pan fo’r incwm perthnasol yn fwy na £28,180.

(6At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd gyfrifoldeb rhiant amdano;

(b)ystyr “y flwyddyn ariannol gyfredol” (“current financial year”) yw’r flwyddyn ariannol sy’n cynnwys diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae person yn cael ei asesu mewn perthynas â hi ar gyfer grant newydd at gyrsiau rhan-amser o dan y rheoliad hwn;

(c)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw yn ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf;

(d)ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y cyfrifiennir incwm y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd ar ei gyfer at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm sy’n gymwys iddo;

(e)ystyr “incwm” (“incwm”) yw incwm gros o bob ffynhonnell ac eithrio—

(i)unrhyw daliad a wneir o dan adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989; a

(ii)unrhyw gredydau treth a ddyfernir yn unol ag unrhyw hawliadau o dan adran 3 o Ddeddf Credydau Treth 2002;

(f)yn ddarostyngedig i is-baragraff (g), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o’r canlynol—

(i)priod myfyriwr rhan-amser cymwys newydd;

(ii)partner sifil myfyriwr rhan-amser cymwys newydd;

(iii)person sy’n byw fel arfer gyda myfyriwr rhan-amser cymwys newydd fel pe bai’r person yn briod neu’n bartner sifil y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd;

(g)ni thrinnir person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (f) fel partner—

(i)os yw’r person hwnnw a’r myfyriwr rhan-amser cymwys newydd, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu; neu

(ii)os yw’r person yn byw fel arfer y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac nad yw’n cael ei gynnal gan y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd;

(h)ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol gyfredol;

(i)mae i “incwm perthnasol” (“relevant income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (7).

(7Yn ddarostyngedig i baragraff (8), mae incwm perthnasol myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn hafal i adnoddau ariannol y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn y flwyddyn ariannol flaenorol llai—

(a)£2,000 mewn perthynas â phartner y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd;

(b)£2,000 mewn perthynas â’r unig blentyn neu’r plentyn hynaf sy’n ddibynnol ar y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd neu bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd; ac

(c)£1,000 mewn perthynas â phob plentyn arall sy’n ddibynnol ar y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd neu bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd.

(8Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod adnoddau ariannol myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn y flwyddyn ariannol flaenorol yn fwy nag adnoddau ariannol y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn y flwyddyn ariannol gyfredol a bod y gwahaniaeth rhwng y ddau swm yn £1,000 neu ragor, rhaid iddynt asesu adnoddau’r myfyriwr hwnnw drwy gyfeirio at yr adnoddau hynny yn y flwyddyn ariannol gyfredol.

(9Yn y rheoliad hwn ystyr adnoddau ariannol myfyriwr rhan-amser cymwys newydd mewn blwyddyn ariannol yw cyfanswm incwm y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd ar gyfer y flwyddyn honno ynghyd â chyfanswm incwm ar gyfer y flwyddyn honno unrhyw berson sydd ar ddyddiad y cais am grant newydd at gyrsiau rhan-amser yn bartner i’r myfyriwr rhan-amser cymwys newydd.

(10Yn ddarostyngedig i baragraff (11), nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl i gael grant newydd at gyrsiau rhan-amser os yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn garcharor.

(11Nid yw paragraff (10) yn gymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd pryd y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar.

Grantiau at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl

93.—(1Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl, i helpu gyda’r gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod yn ofynnol i’r myfyriwr ei ysgwyddo, mewn cysylltiad ag ymgymryd ohono â chwrs rhan-amser dynodedig, oherwydd anabledd sydd gan y myfyriwr rhan-amser cymwys.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), swm y grant y mae hawl gan fyfyriwr rhan-amser cymwys i’w gael o dan y rheoliad hwn yw’r swm sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

(3Rhaid i swm y grant beidio â bod yn fwy na’r canlynol—

(a)£15,885 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;

(b)£5,332 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;

(c)y gwariant ychwanegol sy’n cael ei ysgwyddo—

(i)yn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol yn y sefydliad;

(ii)yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o gwrs y myfyriwr rhan-amser cymwys, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad tramor neu at ddiben bod yn bresennol yn yr Athrofa;

(d)£1,338 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant sy’n cael ei ysgwyddo at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy’n fwy na’r uchafsymiau penodedig.

(4Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), mae grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl yn daladwy i fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.

(5Pan fo grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol (o fewn ystyr paragraff (3)(b)) caiff fod yn daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd gyfan.

(6Pan fo rheoliad 87(3) yn gymwys, dim ond at y dibenion a bennir ym mharagraff (3)(a), (c) a (d) mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol yn rheoliad 87(4) ddigwydd y caiff myfyriwr rhan-amser cymwys fod â hawl i gael grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl.

(7Yn ddarostyngedig i baragraff (8), nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl i gael grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl os yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn garcharor.

(8Nid yw paragraff (7) yn gymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd pryd y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar.

(9Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys nad yw’n fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl i gael grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig os yw’r dwysedd astudio yn ystod y flwyddyn honno yn llai na 50 y cant.

(10Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl i gael grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig os yw’r dwysedd astudio yn ystod y flwyddyn honno yn llai na 25 y cant.

(11At ddibenion paragraffau (9) a (10), mae’r dwysedd astudio yn ystod blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig i’w gyfrifo yn unol â rheoliad 90(2) a (3).

Grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion – cyffredinol

94.—(1Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion ar yr amod—

(a)nad yw wedi ei hepgor o fod â hawl gan unrhyw un o’r paragraffau canlynol, rheoliad 86 neu reoliad 89; a

(b)bod y myfyriwr rhan-amser yn bodloni amodau’r hawl i gael y grant penodol y mae’r myfyriwr yn gwneud cais amdano.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (5), nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion os yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn garcharor.

(3Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys sy’n fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl i gael grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig os yw dwysedd yr astudio yn ystod y flwyddyn honno yn llai na 50 y cant.

(4At ddibenion paragraff (3) mae dwysedd yr astudio yn ystod blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig i’w gyfrifo yn unol â rheoliad 90(2) a (3).

(5Nid yw paragraff (2) yn gymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd pryd y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar.

95.—(1Mae’r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion wedi eu ffurfio o’r elfennau canlynol—

(a)grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed;

(b)grant rhan-amser ar gyfer gofal plant;

(c)lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni.

(2Nodir amodau’r hawl i gael pob elfen yn rheoliadau 96 i 103 a phenderfynir ar y symiau sy’n daladwy mewn perthynas â phob elfen yn unol â’r rheoliadau hynny.

(3Caniateir didynnu swm o unrhyw un o elfennau’r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn unol â rheoliadau 101 a 102.

Grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed

96.—(1Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr rhan-amser cymwys ar gwrs rhan-amser dynodedig yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Mae’r grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed ar gael mewn perthynas ag un dibynnydd i fyfyriwr rhan-amser cymwys sydd naill ai—

(a)yn bartner i’r myfyriwr rhan-amser cymwys; neu

(b)yn ddibynnydd mewn oed i’r myfyriwr rhan-amser cymwys a hwnnw’n ddibynnydd nad yw ei incwm net am y flwyddyn berthnasol yn fwy na £3,923.

(3Bydd swm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed sy’n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliadau 99 a 101 i 103, a’r swm sylfaenol yw—

(a)£2,732; neu

(b)os yw’r person y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn gwneud cais mewn perthynas ag ef am grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed yn preswylio fel arfer y tu allan i’r Deyrnas Unedig, unrhyw swm nad yw’n fwy na £2,732 sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.

Grant rhan-amser ar gyfer gofal plant

97.—(1Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys, mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs rhan-amser dynodedig, hawl i gael grant rhan-amser ar gyfer gofal plant yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), mae’r grant rhan-amser ar gyfer gofal plant ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn ysgwyddo costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant ynddi, a hynny ar gyfer—

(a)plentyn dibynnol sydd o dan 15 oed yn union cyn dechrau’r flwyddyn academaidd, gan gynnwys plentyn dibynnol a enir ar ôl i’r flwyddyn academaidd ddechrau; neu

(b)plentyn dibynnol sydd ag anghenion addysgol arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special educational needs” yn adran 312 o Ddeddf Addysg 1996(82) ac sydd o dan 17 oed yn union cyn dechrau’r flwyddyn academaidd, gan gynnwys plentyn dibynnol a enir ar ôl i’r flwyddyn academaidd ddechrau.

(3Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn—

(a)os yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys neu bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dewis cael yr elfen gofal plant o’r credyd treth gweithio o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002(83);

(b)os oes ganddo hawlogaeth i gael dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys swm o dan reoliad 31 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013 (elfen costau gofal plant); neu

(c)os oes gan bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys hawlogaeth i gael cymorth ariannol at ofal plant o dan fwrsari gofal iechyd.

(4Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw’r costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant y mae’n eu hysgwyddo’n cael eu talu neu os ydynt i’w talu gan y myfyriwr rhan-amser cymwys i’w bartner.

(5Yn ddarostyngedig i baragraffau (6), (7) ac (8), rheoliad 99 a rheoliadau 101 i 103, swm sylfaenol y grant gofal plant am bob wythnos yw—

(a)ar gyfer un plentyn dibynnol, 85 y cant o’r costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant, hyd at uchafswm o £161.50 yr wythnos; neu

(b)ar gyfer dau neu fwy o blant dibynnol, 85 y cant o’r costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant, hyd at uchafswm o £274.55 yr wythnos,

ac eithrio nad oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael unrhyw grant o’r fath mewn perthynas â phob wythnos sy’n dod o fewn y cyfnod rhwng diwedd y cwrs a diwedd y flwyddyn academaidd y daw’r cwrs i ben ynddi.

(6Er mwyn cyfrifo swm sylfaenol y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant—

(a)mae wythnos yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sul; a

(b)os yw wythnos yr ysgwyddir costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant mewn perthynas â hi yn dod yn rhannol o fewn y flwyddyn academaidd y mae grant rhan-amser ar gyfer gofal plant yn daladwy mewn perthynas â hi o dan y rheoliad hwn ac yn rhannol y tu allan i’r flwyddyn academaidd honno, cyfrifir uchafswm wythnosol y grant drwy luosi’r uchafswm wythnosol perthnasol ym mharagraff (5) â nifer y dyddiau yn yr wythnos honno sy’n dod o fewn y flwyddyn academaidd a rhannu’r canlyniad â saith.

(7Pan na fo cais myfyriwr rhan-amser cymwys am grant rhan-amser ar gyfer gofal plant yn nodi darparwr gofal plant, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)cyfyngu ar swm y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant a delir i’r myfyriwr i 85 y cant o’r costau gofal plant rhagnodedig hyd at uchafswm o £115 yr wythnos; a

(b)cyfyngu ar y taliad o grant rhan-amser ar gyfer gofal plant i un chwarter o’r flwyddyn academaidd.

(8Caiff Gweinidogion Cymru barhau i gyfyngu ar y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant yn unol â pharagraff (7) hyd nes y bydd y myfyriwr rhan-amser cymwys yn cyflwyno manylion y darparwr gofal plant iddynt.

Lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni

98.—(1Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs rhan-amser dynodedig i gael y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni os oes gan y myfyriwr un neu fwy o ddibynyddion sy’n blant dibynnol.

(2Mae swm y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni sy’n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliadau 99 a 101 i 103, a’r swm sylfaenol yw £1,557.

Grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion – y cyfrifiadau cychwynnol

99.—(1Yn ddarostyngedig i’r paragraffau canlynol a rheoliadau 101 i 103, y swm sy’n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol o’r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i’w gael yw’r swm hwnnw o’r elfen honno sy’n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes iddo gael ei ddihysbyddu, swm sy’n hafal i (A - B) fel a ganlyn ac yn y drefn ganlynol—

(a)i ostwng swm sylfaenol y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed os oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 96;

(b)i ostwng swm sylfaenol y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant am y flwyddyn academaidd os oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 97; ac

(c)i ostwng swm sylfaenol y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni os oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 98.

(2Yn y rheoliad hwn ac yn ddarostyngedig i baragraff (11)—

A yw cyfanswm—

(a)

incwm gweddilliol partner y myfyriwr rhan-amser cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gynharach;

(b)

incwm gweddilliol dibynnydd mewn oed y myfyriwr rhan-amser cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gynharach; ac

(c)

yn ddarostyngedig i baragraffau (3), (4) a (5), incwm net plant dibynnol y myfyriwr rhan-amser cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gynharach; a

B yw—

(d)

£1,159 pan nad oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys blentyn dibynnol;

(e)

£3,473 pan nad yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhiant unigol, a phan fo ganddo un plentyn dibynnol;

(f)

£4,632—

(i)

pan nad yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhiant unigol, a phan fo ganddo fwy nag un plentyn dibynnol; neu

(ii)

pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhiant unigol, a phan fo ganddo un plentyn dibynnol;

(g)

£5,797 pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhiant unigol, a phan fo ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.

(3Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm net plant dibynnol y myfyriwr rhan-amser cymwys yn y flwyddyn ariannol yn dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol”) yn debygol o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling eu hincwm net yn y flwyddyn ariannol gynharach, caiff Gweinidogion Cymru, at ddibenion galluogi’r myfyriwr rhan-amser cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ganfod incwm net y plant dibynnol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.

(4Os digwydd bod paragraff (3) neu’r paragraff hwn wedi ei gymhwyso mewn perthynas â blwyddyn academaidd flaenorol y cwrs presennol a bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm net plant dibynnol y myfyriwr rhan-amser cymwys yn y flwyddyn ariannol yn dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol”) yn debygol o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling eu hincwm net yn y flwyddyn ariannol flaenorol, caiff Gweinidogion Cymru, at ddibenion galluogi’r myfyriwr rhan-amser cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ganfod incwm net y plant dibynnol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.

(5Mewn blwyddyn academaidd yn union ar ôl un y mae Gweinidogion Cymru wedi canfod ynddi incwm net plant dibynnol y myfyriwr rhan-amser cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol o dan baragraff (3), neu, pan fo’n gymwys, o dan baragraff (4), rhaid i Weinidogion Cymru ganfod incwm net y plant dibynnol yn y flwyddyn ariannol flaenorol.

(6Yn ddarostyngedig i baragraffau (8), (9) ac (16), os yw B yn fwy nag A neu’n hafal iddi, mae swm sylfaenol pob elfen o’r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i’w chael yn daladwy.

(7Os yw (A - B) yn hafal i gyfanswm symiau sylfaenol elfennau’r grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i’w cael neu’n fwy na’r cyfanswm hwnnw, y swm sy’n daladwy mewn perthynas â phob elfen yw dim.

(8Gostyngir swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan baragraff (1) o ran dibynnydd mewn oed gan hanner y swm—

(a)os yw partner y myfyriwr rhan-amser cymwys—

(i)yn fyfyriwr rhan-amser cymwys; neu

(ii)yn dal dyfarniad statudol; a

(b)os cymerir i ystyriaeth ddibynyddion y partner hwnnw wrth gyfrifo swm y cymorth y mae gan y partner hwnnw hawl i’w gael neu’r taliad y mae gan y partner hwnnw hawlogaeth iddo o dan y dyfarniad statudol.

(9Gostyngir swm y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant a gyfrifir o dan baragraff (1) gan hanner y swm—

(a)os yw partner y myfyriwr rhan-amser cymwys—

(i)yn fyfyriwr rhan-amser cymwys; neu

(ii)yn dal dyfarniad statudol; a

(b)os cymerir i ystyriaeth ddibynyddion y partner hwnnw wrth gyfrifo swm y cymorth y mae gan y partner hwnnw hawl i’w gael neu’r taliad y mae gan y partner hwnnw hawlogaeth iddo o dan y dyfarniad statudol.

(10Os yw swm y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu’n fwy na hynny ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni sy’n daladwy yw £50.

(11Mae paragraffau (12) i (15) yn gymwys os bydd unrhyw un o’r canlynol yn digwydd yn ystod y flwyddyn academaidd—

(a)bod nifer dibynyddion y myfyriwr rhan-amser cymwys yn newid;

(b)bod person yn dod yn ddibynnydd i’r myfyriwr rhan-amser cymwys neu’n peidio â bod yn ddibynnydd iddo;

(c)bod y myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod yn rhiant unigol neu’n peidio â bod yn rhiant unigol;

(d)bod myfyriwr yn dod yn fyfyriwr rhan-amser cymwys o ganlyniad i ddigwyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 87(4)(a), (b), (e), (f), (g), (h) neu (i).

(12Er mwyn penderfynu priod werthoedd A a B ac a oes grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed neu lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni yn daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y canlynol mewn perthynas â phob chwarter perthnasol drwy gyfeirio at amgylchiadau’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn y chwarter perthnasol—

(a)faint o ddibynyddion y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys i gael ei drin fel pe baent ganddo;

(b)pwy yw’r dibynyddion hynny;

(c)a yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys i gael ei drin fel rhiant unigol.

(13Swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm symiau’r grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed a’r lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni wedi eu cyfrifo mewn perthynas â phob chwarter perthnasol o dan baragraff (14) a swm unrhyw grant rhan-amser ar gyfer gofal plant am y flwyddyn academaidd.

(14Mae swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed a’r lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni mewn perthynas â chwarter perthnasol yn draean o swm y grant neu’r lwfans hwnnw am y flwyddyn academaidd pe bai amgylchiadau’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn y chwarter perthnasol fel y’u pennir o dan baragraff (12) yn gymwys drwy gydol y flwyddyn academaidd.

(15Yn y rheoliad hwn, ystyr “chwarter perthnasol” (“relevant quarter”) yw —

(a)yn achos person y cyfeirir ato ym mharagraff (11)(d), chwarter sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd ac eithrio chwarter pryd y mae’r un hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn Gweinidogion Cymru;

(b)fel arall, chwarter ac eithrio’r chwarter pryd y mae’r un hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn Gweinidogion Cymru.

(16Caniateir gwneud didyniad yn unol â rheoliadau 101 a 102 o’r swm sy’n daladwy o ran elfen benodol o’r grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion a gyfrifir o dan y Rhan hon.

Grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion – dehongli

100.—(1Yn rheoliadau 94 i 99—

(a)yn ddarostyngedig i baragraff (4), ystyr “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys, yw person mewn oed sy’n dibynnu ar y myfyriwr rhan-amser cymwys ac eithrio plentyn y myfyriwr rhan-amser cymwys, partner y myfyriwr rhan-amser cymwys (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi gwahanu oddi wrtho) neu gynbartner y myfyriwr rhan-amser cymwys;

(b)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys sy’n ddibynnol arno ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys gyfrifoldeb rhiant drosto sy’n ddibynnol arno;

(c)ystyr “dibynnydd” (“dependant”), mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys, yw partner y myfyriwr rhan-amser cymwys, plentyn dibynnol y myfyriwr rhan-amser cymwys neu ddibynnydd mewn oed, nad yw, ym mhob achos, yn fyfyriwr cymwys ac nad oes ganddo ddyfarniad statudol;

(d)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf;

(e)ystyr “plentyn dibynnol” (“dependent child”), mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys yw plentyn sy’n ddibynnol ar y myfyriwr rhan-amser cymwys;

(f)ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y cyfrifiennir incwm dibynnydd (y cyfrifir ei incwm o dan reoliadau 94 i 99) mewn perthynas ag ef at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm sy’n gymwys iddo;

(g)ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw myfyriwr rhan-amser cymwys nad oes ganddo bartner ac sydd â phlentyn dibynnol;

(h)ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd;

(i)mae i “incwm net” (“net income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (6);

(j)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (i), (j), (k) a pharagraffau (2) a (3), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o’r canlynol—

(i)priod myfyriwr rhan-amser cymwys;

(ii)partner sifil myfyriwr rhan-amser cymwys;

(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai’r person yn briod i’r myfyriwr rhan-amser cymwys hwnnw, pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn 25 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i’w asesu ynddi at ddibenion Atodlen 6 a phan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai’r person yn bartner sifil i’r myfyriwr rhan-amser cymwys hwnnw, pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn 25 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i’w asesu ynddi at ddibenion Atodlen 6 a phan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(k)ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn berthnasol;

(l)ystyr “blwyddyn ariannol gynharach” (“prior financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol flaenorol;

(m)ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw blwyddyn academaidd y cwrs presennol y mae incwm dibynnydd y myfyriwr rhan-amser cymwys i’w asesu mewn perthynas â hi;

(n)ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff (10) (yn achos partner myfyriwr rhan-amser cymwys) neu baragraff (11) (yn achos dibynnydd mewn oed myfyriwr rhan-amser cymwys);

(o)ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”), mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol gynharach, yw—

(i)cyfanswm yr incwm y mae person yn gorfod talu treth incwm arno fel y’i pennir yng Ngham 1 o’r cyfrifiad yn adran 23 o Ddeddf Treth Incwm 2007(84), ynghyd ag unrhyw daliadau a budd-daliadau eraill a grybwyllir yn adran 401(1) o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003(85) (gan anwybyddu adran 401(2) o’r Ddeddf honno), a gafwyd neu a driniwyd fel pe baent wedi eu cael gan berson, i’r graddau nad ydynt yn gydran o gyfanswm yr incwm y mae person yn gorfod talu treth incwm arno;

(ii)cyfanswm incwm person o bob ffynhonnell fel y’i pennir at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall sy’n gymwys i incwm y person; neu

(iii)os yw deddfwriaeth mwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gymwys i’r cyfnod, cyfanswm incwm person o bob ffynhonnell fel y’i pennir at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod cyfanswm incwm person yn y cyfnod hwnnw ar ei fwyaf odani,

ac eithrio bod incwm, y cyfeirir ato ym mharagraff (2) ac a delir i barti arall, yn cael ei ddiystyru;

(p)oni nodir fel arall, nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (j) yn cael ei drin fel partner—

(i)os yw’r person hwnnw a’r myfyriwr rhan-amser cymwys, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu; neu

(ii)os yw’r person fel arfer yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac nad yw’n cael ei gynnal gan y myfyriwr rhan-amser cymwys;

(q)at ddibenion y diffiniad o “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mae person i’w drin fel partner pe bai’r person yn bartner o dan is-baragraff (h) oni bai am y ffaith nad yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys y mae’r person fel arfer yn byw gydag ef yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i’w asesu ynddi at ddibenion Atodlen 6;

(r)at ddibenion y diffiniadau o “plentyn” (“child”) a “rhiant unigol” (“lone parent”), mae person i’w drin fel partner pe bai’r person yn bartner o dan is-baragraff (h) oni bai am y dyddiad y dechreuodd y myfyriwr rhan-amser cymwys ar ei gwrs dynodedig a bennir neu’r ffaith nad yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys y mae’r person fel arfer yn byw gydag ef yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i’w asesu ynddi at ddibenion Atodlen 6.

(2Yr incwm y cyfeirir ato yn y paragraff hwn yw unrhyw fudd-daliadau o dan drefniant pensiwn yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Achosion Priodasol 1973 sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd adrannau 25B(4) a 25E(3) o’r Ddeddf honno neu fudd-daliadau pensiwn o dan Ran 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd Rhannau 6 a 7 o’r Atodlen honno.

(3At ddibenion rheoliad 97—

(a)nid yw paragraff (1)(p) yn gymwys; a

(b)mae person i’w drin fel partner pe byddai’r person yn bartner o dan baragraff (1)(j) oni bai am y ffaith nad yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys y mae’r person yn byw gydag ef yn arferol yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i’w asesu ynddi at ddibenion Atodlen 6.

(4At ddibenion penderfynu a yw person yn gynbartner i bartner i fyfyriwr rhan-amser cymwys, ystyr “partner” (“partner”), o ran partner i fyfyriwr rhan-amser cymwys, yw—

(a)priod i bartner myfyriwr rhan-amser cymwys;

(b)partner sifil i bartner myfyriwr rhan-amser cymwys;

(c)pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dechrau ar y cwrs dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2000, person (“A”) sydd fel arfer yn byw gyda phartner (“B”) myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai A yn briod i B;

(d)pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005, person (“A”) sydd fel arfer yn byw gyda phartner (“B”) myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai A yn bartner sifil i B.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (5), at ddibenion y diffiniadau o “dibynnydd mewn oed” (“adult dependent”) a “plentyn dibynnol” (“dependent child”) caiff Gweinidogion Cymru ymdrin ag oedolyn neu blentyn fel un sy’n ddibynnol ar fyfyriwr cymwys os ydynt yn fodlon nad yw’r oedolyn neu’r plentyn—

(a)yn ddibynnol—

(i)ar y myfyriwr rhan-amser cymwys yn unig; neu

(ii)ar bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys yn unig; ond

(b)yn ddibynnol ar y myfyriwr rhan-amser cymwys a’i bartner gyda’i gilydd.

(6Rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag ymdrin ag oedolyn (A”) fel un sy’n ddibynnol ar fyfyriwr rhan-amser cymwys yn unol â pharagraff (4), os yw A—

(a)yn briod neu’n bartner sifil i bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys (yn cynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru yn credu bod partner y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi gwahanu oddi wrtho); neu

(b)yn gynbartner i bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys.

(7Incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell (am y flwyddyn berthnasol at ddibenion rheoliad 96(2)(b) ac am y flwyddyn ariannol gynharach at ddibenion rheoliad 99(2)) am y flwyddyn academaidd o dan sylw wedi ei ostwng yn ôl swm y dreth incwm a’r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy’n daladwy mewn perthynas â hi ond gan ddiystyru—

(a)unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd sydd gan y dibynnydd;

(b)budd-dal plant sy’n daladwy o dan Ran IX o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(86);

(c)unrhyw gymorth ariannol sy’n daladwy i’r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 2, 3 a 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(87);

(d)unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i’w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;

(e)yn achos dibynnydd y mae plentyn sy’n derbyn gofal awdurdod lleol wedi ei fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i’r dibynnydd hwnnw yn unol ag adran 23 o Ddeddf Plant 1989(88);

(f)unrhyw daliad i’r dibynnydd o dan adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989;

(g)unrhyw daliadau a wneir i’r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn perthynas â pherson nad yw’n blentyn i’r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 24 o’r Ddeddf honno(89);

(h)unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i’w gael o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002(90); ac

(i)yn achos dibynnydd sydd â hawlogaeth i gael dyfarniad o gredyd cynhwysol—

(i)unrhyw swm a gynhwysir wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 27(1) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013, mewn perthynas â’r ffaith bod gan y dibynnydd allu cyfyngedig i weithio neu allu cyfyngedig i weithio ac i wneud gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith; a

(ii)unrhyw swm neu swm ychwanegol a gynhwysir wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 24 o’r Rheoliadau hynny (elfen y plentyn).

(8Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys neu bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd yn cael eu gwneud o’r blaen gan y myfyriwr rhan-amser cymwys yn unol â rhwymedigaeth a ysgwyddwyd cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr rhan-amser cymwys, mae incwm gweddilliol partner y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi ei ostwng—

(a)o swm sy’n hafal i’r taliadau o dan sylw am y flwyddyn academaidd, os cafodd y rhwymedigaeth, ym marn Gweinidogion Cymru, ei hysgwyddo’n rhesymol; neu

(b)o unrhyw swm llai, os bydd unrhyw swm o gwbl, sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru, os gellid yn rhesymol, yn eu barn hwy, bod wedi ysgwyddo rhwymedigaeth lai.

(9At ddibenion paragraff (6), os yw’r dibynnydd yn blentyn dibynnol a bod taliadau’n cael eu gwneud i’r myfyriwr rhan-amser cymwys tuag at gynhaliaeth y plentyn dibynnol, mae’r taliadau hynny i gael eu trin fel incwm y plentyn dibynnol.

(10Penderfynir ar incwm gweddilliol partner myfyriwr rhan-amser cymwys yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 6.

(11Penderfynir ar incwm gweddilliol dibynnydd mewn oed myfyriwr rhan-amser cymwys yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 6 (ac eithrio is-baragraffau (8), (9) neu (10) o baragraff 4) gan ddehongli cyfeiriadau at bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe baent yn gyfeiriadau at ddibynnydd mewn oed y myfyriwr rhan-amser cymwys.

Grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion – cyfrifo’r cyfraniad

101.—(1Cyfraniad myfyriwr rhan-amser cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd a’r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn perthynas â’r flwyddyn honno yw’r swm a gyfrifir o dan Atodlen 6, os oes unrhyw swm o gwbl.

(2Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr rhan-amser cymwys roi o bryd i’w gilydd unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn angenrheidiol am incwm unrhyw berson y mae ei foddion yn berthnasol ar gyfer asesu cyfraniad y myfyriwr.

Grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion –cymhwyso’r cyfraniad

102.—(1Mae swm sy’n hafal i’r cyfraniad neu i weddill y cyfraniad, yn ôl fel y digwydd, a gyfrifir o dan Atodlen 6 i’w gymhwyso hyd nes iddo gael ei ddihysbyddu yn erbyn swm yr elfen benodol o’r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i’w cael fel a ganlyn—

(a)yn gyntaf, i ostwng PTADG;

(b)yn ail, i ostwng PTCCG;

(c)yn drydydd, i ostwng PTPLA.

(2Yn y rheoliad hwn—

(a)PTADG yw swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 99;

(b)PTCCG yw swm y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 99;

(c)PTPLA yw swm y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 99 (ac eithrio £50 cyntaf y lwfans).

Grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion – y cyfrifiad terfynol

103.—(1Penderfynir y swm sy’n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol o’r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Mae’r swm sy’n daladwy yn amrywio yn ôl pa mor ddwys yw’r astudio.

ac y mae i PT ac FT yr ystyron a roddir iddynt gan reoliad 90(2) a (3).

(3Yn achos grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed, os yw’r dwysedd astudio—

(a)yn 50 y cant neu fwy ond yn llai na 60 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 50 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;

(b)yn 60 y cant neu fwy ond yn llai na 75 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 60 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;

(c)yn 75 y cant neu fwy, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 75 y cant o’r swm sy’n deillio i hynny.

(4At ddibenion paragraff (3), ystyr “y swm sy’n deillio o hyn” (“the resulting amount”) yw swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed a benderfynir yn unol â rheoliad 99 a’r didyniadau (os oes rhai o gwbl) wedi eu cymhwyso’n unol â rheoliad 102.

(5Yn achos grant rhan-amser ar gyfer gofal plant, os yw’r dwysedd astudio—

(a)yn 50 y cant neu fwy ond yn llai na 60 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 50 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;

(b)yn 60 y cant neu fwy ond yn llai na 75 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 60 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;

(c)yn 75 y cant neu fwy, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 75 y cant o’r swm sy’n deillio i hynny.

(6At ddibenion paragraff (5), ystyr “y swm sy’n deillio o hyn” (“the resulting amount”) yw swm y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant a benderfynir yn unol â rheoliad 99 a’r didyniadau (os oes rhai o gwbl) wedi eu cymhwyso’n unol â rheoliad 102.

(7Yn achos lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni, os yw’r dwysedd astudio—

(a)yn 50 y cant neu fwy ond yn llai na 60 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 50 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;

(b)yn 60 y cant neu fwy ond yn llai na 75 y cant, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 60 y cant o’r swm sy’n deillio o hyn;

(c)yn 75 y cant neu fwy, mae’r swm sy’n daladwy yn hafal i 75 y cant o’r swm sy’n deillio i hynny.

(8At ddibenion paragraff (7), ystyr “y swm sy’n deillio o hyn” (“the resulting amount”) yw swm y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni a benderfynir yn unol â rheoliad 99 a’r didyniadau (os oes rhai o gwbl) wedi eu cymhwyso’n unol â rheoliad 102.

(9Nid oes unrhyw elfen o’r grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn daladwy pan fo’r dwysedd astudio yn llai na 50 y cant.

Ceisiadau am gymorth

104.—(1Rhaid i berson wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs rhan-amser dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i Weinidogion Cymru gais ar unrhyw ffurf y bydd Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol.

(2Rhaid i’r canlynol fynd gyda’r cais—

(a)datganiad o dan reoliad 106(2) i (6) wedi ei lenwi gan yr awdurdod academaidd; a

(b)y dogfennau ychwanegol hynny y gall Gweinidogion Cymru eu gwneud yn ofynnol.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o naw mis sy’n dechrau gyda diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs y mae’n cael ei gyflwyno mewn perthynas ag ef.

(4Nid yw paragraff (3) yn gymwys—

(a)os yw un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 87(4) yn digwydd ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth o dan y Rhan hon ynglŷn â hi, ac yn yr achos hwn rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o naw mis sy’n dechrau ar y dyddiad pan fo’r digwyddiad yn digwydd.

(b)os yw’r ceisydd yn gwneud cais am grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl, ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol; neu

(c)os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau’r achos penodol, y dylid llacio’r terfyn amser, ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir ganddynt.

(5Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw’r ceisydd yn fyfyriwr rhan-amser cymwys, a oes ganddo hawl i gael cymorth o dan y Rhan hon, a swm y cymorth sy’n daladwy, os oes swm yn daladwy o gwbl.

(6Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd mewn ysgrifen a oes ganddo hawl i gael cymorth o dan y Rhan hon ai peidio ac, os oes gan y ceisydd hawl, swm y cymorth sy’n daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd, os oes swm yn daladwy o gwbl.

Cymorth at ffioedd o ran presenoldeb ar gyrsiau rhan-amser yn Lloegr, Gogledd Iwerddon neu’r Alban sy’n dechrau cyn 1 Medi 2014

105.—(1Caiff Gweinidogion Cymru dalu cymorth o dan y Rhan hon i gynorthwyo at ffioedd i fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr rhan-amser cymwys ar gwrs rhan-amser dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2014 yn Lloegr, Gogledd Iwerddon neu’r Alban.

(2Rhaid i’r cymorth a delir o dan baragraff (1) beidio â bod yn fwy na’r lleiaf o—

(a)mwyafswm y cymorth a fyddai wedi bod yn daladwy i fyfyriwr rhan-amser cymwys o dan reoliad 90(1)(a) pe bai’r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi bod yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru; a

(b)mwyafswm y cymorth i gynorthwyo at ffioedd a fyddai wedi bod yn daladwy i’r myfyriwr rhan-amser cymwys, ym marn Gweinidogion Cymru yn ôl pa un a yw’n bresennol ar gwrs rhan-amser dynodedig yn Lloegr, Gogledd Iwerddon neu’r Alban—

(i)yn unol â rheoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf 1998 pe bai’r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi bod yn preswylio fel arfer yn Lloegr ac yn ymgymryd â’r cwrs rhan-amser yn Lloegr;

(ii)yn unol â rheoliadau a wnaed o dan Erthyglau 3 a 8(4) o Orchymyn Addysg (Cymorth Myfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998 pe bai’r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi bod yn preswylio fel arfer yng Ngogledd Iwerddon ac yn ymgymryd â’r cwrs rhan-amser yng Ngogledd Iwerddon; neu

(iii)o gyllid gan Gyngor Cyllido Addysg Bellach ac Addysg Uwch yr Alban(91) pe bai’r myfyriwr rhan-amser cymwys fel arfer yn preswylio yn yr Alban ac yn ymgymryd â’r cwrs rhan-amser yn yr Alban.

Gwybodaeth a materion eraill

106.—(1Mae Atodlen 3 yn gymwys o ran rhoi gwybodaeth, gan geisydd a chan fyfyriwr rhan-amser cymwys.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i’r awdurdod academaidd priodol, ar gais y ceisydd, lenwi datganiad yn y ffurf honno y caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fynd gyda’r cais am gymorth o dan reoliad 104.

(3Nid yw’n ofynnol bod awdurdod academaidd yn llenwi datganiad os na all roi’r cadarnhad sydd yn ofynnol gan baragraff (4)(a)(ii) neu (4)(b)(ii).

(4Yn y Rhan hon, ystyr “datganiad” (“declaration”) yw—

(a)pan fo’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â’r cwrs rhan-amser dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2014 am y tro cyntaf, datganiad—

(i)sy’n darparu gwybodaeth am y cwrs; a

(ii)sy’n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymgymryd ag o leiaf bythefnos o’r cwrs rhan-amser dynodedig;

(b)mewn unrhyw achos arall pan fo’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2014, datganiad—

(i)sy’n darparu gwybodaeth am y cwrs; a

(ii)sy’n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymrestru i ymgymryd â blwyddyn academaidd y cwrs rhan-amser dynodedig y mae’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi o dan y Rhan hon;

(c)pan fo’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2014, datganiad—

(i)sy’n darparu gwybodaeth am y cwrs; a

(ii)sy’n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymgymryd ag o leiaf ddwy wythnos o’r cwrs rhan-amser dynodedig ym mlwyddyn academaidd y cwrs hwnnw y mae’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi o dan y Rhan hon.

(5Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwybodaeth am y cwrs” (“course information”) yw—

(a)swm y ffioedd a godir mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd y mae’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi o dan y Rhan hon;

(b)dwyster yr astudio;

(c)nodyn ardystio gan yr awdurdod academaidd ei fod yn ystyried—

(i)mai cwrs rhan-amser dynodedig yw’r cwrs;

(ii)y bydd yn bosibl i’r ceisydd gwblhau’r cwrs o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 88(1)(c).

(6At ddibenion paragraff (5)(c)(ii) rhaid i’r awdurdod academaidd roi sylw i—

(a)unrhyw gynnydd ym mha mor ddwys y byddai angen astudio er mwyn i’r ceisydd gwblhau’r cwrs o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 88(1)(c);

(b)unrhyw rannau o’r cwrs y mae wedi bod yn ofynnol i’r ceisydd eu hailadrodd.

(7Rhaid i awdurdod academaidd hysbysu Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol pan fydd unrhyw un o’r digwyddiadau canlynol yn digwydd—

(a)bod myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar gwrs rhan-amser dynodedig, neu’n rhoi’r gorau i ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig, yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn hawlio cymorth mewn perthynas â hi o dan y Rhan hon, a bod yr awdurdod academaidd wedi penderfynu neu gytuno na fydd y myfyriwr yn dychwelyd yn ystod y flwyddyn academaidd honno;

(b)y newidir, neu y digwydd newidiadau i unrhyw ran o’r wybodaeth am y cwrs a gyflwynwyd yn rhan o ddatganiad o dan baragraffau (2) i (6).

(8Pan fydd awdurdod academaidd yn hysbysu Gweinidogion Cymru o dan baragraff (7), rhaid i’r awdurdod academaidd hefyd ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth bellach sy’n ofynnol ganddynt mewn perthynas â’r digwyddiad perthnasol ym mharagraff (7).

(9At ddibenion paragraff (8), ystyr “digwyddiad perthnasol” (“relevant event”) yw digwyddiad neu ddigwyddiadau o dan baragraff (7) sy’n ffurfio testun yr hysbysiad a roddir o dan baragraff (7).

Trosglwyddo statws

107.—(1Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn trosglwyddo o gwrs rhan-amser dynodedig i gwrs rhan-amser dynodedig arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr rhan-amser cymwys i’r cwrs arall hwnnw—

(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr rhan-amser cymwys am wneud hynny;

(b)os ydynt wedi eu bodloni bod un neu fwy o’r seiliau dros drosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac

(c)os nad yw’r cyfnod cymhwystra wedi ei derfynu.

(2Y seiliau dros drosglwyddo yw—

(a)bod y myfyriwr rhan-amser cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig arall yn yr un sefydliad;

(b)bod y myfyriwr rhan-amser cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig mewn sefydliad arall; neu

(c)ar ôl cychwyn cwrs rhan-amser dynodedig ar gyfer gradd gyntaf (ac eithrio gradd anrhydedd) bod y myfyriwr rhan-amser cymwys, cyn cwblhau’r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs rhan-amser dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc yn yr un sefydliad.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae hawl gan fyfyriwr rhan-amser cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1) barhau, am weddill y flwyddyn academaidd y mae’n trosglwyddo ynddi, i gael mewn cysylltiad â’r cwrs y mae’n trosglwyddo iddo y cymorth o dan y Rhan hon y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod ganddo hawl i’w gael mewn perthynas â’r cwrs y mae’n trosglwyddo oddi wrtho.

(4Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sy’n daladwy ar ôl y trosglwyddo yn unol â’r Rhan hon.

(5Ni chaiff myfyriwr rhan-amser cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar ei gymorth o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’n trosglwyddo oddi wrtho, ond cyn i’r myfyriwr rhan-amser cymwys gwblhau’r flwyddyn honno, wneud cais am grant arall o dan reoliad 90(1)(b), rheoliad 92, rheoliad 93 neu reoliadau 94 i 103 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’n trosglwyddo iddo.

(6Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn trosglwyddo o dan baragraff (1) o gwrs rhan-amser dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2014, uchafswm y cymorth o dan reoliad 90(1)(a) mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’n trosglwyddo iddo neu oddi wrtho yw swm y cymorth at ffioedd sydd ar gael mewn cysylltiad â’r cwrs sydd â’r dwysedd astudio uchaf fel y’i diffinnir yn rheoliad 90.

(7Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn trosglwyddo o dan baragraff (1) o gwrs rhan-amser dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2014, uchafswm y benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser sydd ar gael o dan reoliad 91 mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’n trosglwyddo iddo neu oddi wrtho yw’r swm sydd ar gael mewn cysylltiad â’r cwrs sy’n denu’r swm uchaf o fenthyciad newydd at ffioedd rhan-amser yn unol â rheoliad 91(3) i (5).

Trosi statws

108.—(1Os yw myfyriwr cymwys yn rhoi’r gorau i ymgymryd â chwrs dynodedig a’i fod yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i statws myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y mae’r myfyriwr cymwys yn trosglwyddo iddo—

(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr cymwys am wneud hynny; a

(b)os nad yw’r cyfnod cymhwystra wedi ei derfynu.

(2Os yw’r myfyriwr cymwys, cyn cwblhau’r cwrs dynodedig, yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser yn yr un pwnc sy’n arwain at yr un cymhwyster yn yr un sefydliad, trinnir y cwrs rhan-amser fel pe bai’n bodloni rheoliad 88(1)(b) ac (c)—

(a)os yw cyfnod yr astudio rhan-amser yr ymgymerir ag ef gan y myfyriwr hwnnw yn parhau am flwyddyn academaidd o leiaf; a

(b)os yw’n bosibl, mewn perthynas â throsglwyddo i gwrs rhan-amser dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2014, gwblhau gweddill y cwrs dynodedig y mae’r myfyriwr hwnnw yn trosglwyddo oddi wrtho mewn dim mwy na dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs dynodedig hwnnw; neu

(c)os yw’n bosibl, mewn perthynas â throsglwyddo i gwrs rhan-amser dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2014, gwblhau gweddill y cwrs dynodedig y mae’r myfyriwr hwnnw yn trosglwyddo oddi wrtho mewn dim mwy na phedair gwaith y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs dynodedig hwnnw.

(3Mae’r canlynol yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1)—

(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant i’r myfyriwr hwnnw o dan reoliad 25 mewn rhandaliadau cyfnodol, ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â’r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy’n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr rhan-amser cymwys;

(b)uchafswm y grant y byddai gan y myfyriwr hwnnw hawlogaeth i’w gael, heblaw am y rheoliad hwn, yn unol â rheoliad 93 mewn cysylltiad ag ymgymryd ohono â chwrs rhan-amser dynodedig mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daeth y myfyriwr hwnnw’n fyfyriwr rhan-amser cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd ac o ddau draean os daeth yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn chwarter diweddarach yn y flwyddyn honno;

(c)os oes swm o grant at unrhyw ddiben wedi ei dalu i’r myfyriwr o dan reoliad 25 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant sy’n daladwy i’r myfyriwr hwnnw yn unol â rheoliad 93 at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (b) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant a dalwyd i’r myfyriwr hwnnw at y diben hwnnw yn unol â rheoliad 25, ac os yw’r swm sy’n deillio o hyn yn ddim neu’n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim;

(d)os oedd y myfyriwr hwnnw yn union cyn dod yn fyfyriwr rhan-amser cymwys, yn gymwys i wneud cais, ond ei fod heb wneud cais, am fenthyciad at gostau byw mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu heb wneud cais am yr uchafswm neu’r uchafswm wedi ei gynyddu yr oedd ganddo hawlogaeth i’w gael, caiff wneud cais am y benthyciad hwnnw neu unrhyw swm ychwanegol o fenthyciad fel pe bai wedi parhau yn fyfyriwr cymwys; ac o dan yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (4) mae uchafswm y benthyciad hwnnw neu uchafswm wedi ei gynyddu y benthyciad hwnnw am y flwyddyn academaidd yn cael ei ostwng yn unol â’r paragraff hwnnw;

(e)os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant neu lwfans i’r myfyriwr hwnnw o dan reoliadau 27 i 30 mewn rhandaliadau cyfnodol, ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â’r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy’n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr rhan-amser cymwys;

(f)mae uchafswm y grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y byddai gan y myfyriwr hwnnw, heblaw am y rheoliad hwn, hawlogaeth i’w gael yn unol â rheoliadau 94 i 103 mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daeth y myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr rhan-amser cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd ac o ddau draean os daeth yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn chwarter arall yn ddiweddarach yn y flwyddyn honno; ac

(g)os oes swm o grant neu lwfans wedi ei dalu i’r myfyriwr hwnnw o dan reoliadau 27 i 30 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant neu’r lwfans sy’n daladwy iddo yn unol â rheoliadau 94 i 103 yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (f) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant neu’r lwfans cyfatebol a dalwyd iddo yn unol â rheoliadau 27 i 30, ac os yw’r swm sy’n deillio o hyn yn ddim neu’n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim.

(4Os yw’r cais o dan baragraff (1) yn cael ei wneud yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn academaidd y mae’r benthyciad yn daladwy mewn perthynas â hi, mae uchafswm y benthyciad neu uchafswm wedi ei gynyddu y benthyciad (yn ôl fel y digwydd) yn cael ei ostwng o ddau draean, ac os yw’r cais yn cael ei wneud yn ail chwarter y flwyddyn honno mae’r swm hwnnw’n cael ei ostwng o un traean.

(5Os yw myfyriwr dysgu o bell cymwys yn rhoi’r gorau i ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig a’i fod yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys i statws myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo iddo—

(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr dysgu o bell cymwys am wneud hynny; a

(b)os nad yw’r cyfnod cymhwystra wedi ei derfynu.

(6Os yw’r myfyriwr dysgu o bell cymwys, cyn cwblhau’r cwrs dysgu o bell dynodedig, yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser yn yr un pwnc sy’n arwain at yr un cymhwyster yn yr un sefydliad, trinnir y cwrs rhan-amser fel pe bai’n bodloni rheoliad 88(1)(b) ac (c)—

(a)os yw cyfnod yr astudio rhan-amser yr ymgymerir ag ef gan y myfyriwr hwnnw yn parhau am flwyddyn academaidd o leiaf; a

(b)os yw’n bosibl, mewn perthynas â throsglwyddo i gwrs rhan-amser dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2014, gwblhau gweddill y cwrs dysgu o bell dynodedig y mae’r myfyriwr hwnnw yn trosglwyddo oddi wrtho mewn dim mwy na dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs dysgu o bell dynodedig hwnnw; neu

(c)os yw’n bosibl, mewn perthynas â throsglwyddo i gwrs rhan-amser dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2014, gwblhau gweddill y cwrs dysgu o bell dynodedig y mae’r myfyriwr hwnnw yn trosglwyddo oddi wrtho mewn dim mwy na phedair gwaith y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs dysgu o bell dynodedig hwnnw.

(7Yn ddarostyngedig i baragraff (8), mae hawl gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (5) mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd y mae’n trosglwyddo ynddi, i gael mewn cysylltiad â’r cwrs y mae’n trosglwyddo iddo weddill y cymorth y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod ganddo hawl i’w gael o dan Ran 11 mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell dynodedig y mae’n trosglwyddo oddi wrtho.

(8Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sy’n daladwy ar ôl y trosglwyddiad yn unol â’r Rhan hon.

(9O ran myfyriwr sy’n trosglwyddo o dan baragraff (5) ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar y cymorth i’r myfyriwr hwnnw o dan Ran 11 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell y mae’n trosglwyddo oddi wrtho ond cyn iddo gwblhau’r flwyddyn honno—

(a)ni chaiff y myfyriwr hwnnw wneud cais am grant o dan reoliad 90(1)(b) neu reoliad 92 os yw eisoes wedi gwneud cais am grant o dan reoliad 73(1)(b);

(b)ni chaiff y myfyriwr hwnnw wneud cais am grant o dan reoliad 93 os yw eisoes wedi gwneud cais am grant o dan reoliad 76.

(10Os bydd myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (5) i gwrs rhan-amser dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2014, rhaid i gyfanswm y cymorth a delir i’r myfyriwr o dan reoliad 73(1)(a) a 90(1)(a) o ran—

(a)y flwyddyn academaidd y mae’n trosglwyddo oddi wrthi; a

(b)y flwyddyn academaidd y mae’n trosglwyddo iddi;

beidio â bod yn uwch na swm y cymorth a benderfynir sy’n daladwy i’r myfyriwr hwnnw o dan reoliad 73(1)(a).

(11Os bydd myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (5) i gwrs rhan-amser dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2014, nid ystyrir y cymorth a benderfynir sy’n daladwy i’r myfyriwr o dan reoliad 73(1)(a), wrth benderfynu ar swm y cymorth sy’n daladwy i’r myfyriwr o dan reoliad 91.

(12Os yw myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (5), uchafswm y grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y byddai gan y myfyriwr hwnnw hawlogaeth i’w gael, heblaw am y rheoliad hwn, yn unol â rheoliadau 94 i 103 mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daeth y myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr rhan-amser cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd ac o ddau draean os daeth yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn chwarter diweddarach yn y flwyddyn honno.

(13Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhoi’r gorau i ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig a’i fod yn trosglwyddo i gwrs dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr hwnnw fel myfyriwr rhan-amser cymwys i statws myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y mae’n trosglwyddo iddo—

(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr rhan-amser cymwys am wneud hynny; a

(b)os nad yw’r cyfnod cymhwystra wedi ei derfynu.

(14Mae’r canlynol yn gymwys i fyfyriwr sy’n trosglwyddo o dan baragraff (13)—

(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant i’r myfyriwr hwnnw yn unol â rheoliad 93 mewn rhandaliadau cyfnodol, ni chaniateir talu taliad perthynas â’r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy’n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr hwnnw’n fyfyriwr cymwys;

(b)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (c) ac (f), anwybyddir unrhyw gymorth y mae gan y myfyriwr hwnnw hawlogaeth i’w gael o dan y Rhan hon mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr hwnnw yn trosglwyddo ynddi wrth bennu swm y cymorth y gall fod ganddo hawlogaeth i’w gael mewn perthynas â’r flwyddyn honno o dan Rannau 4 i 6;

(c)os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o unrhyw grant neu lwfans i’r myfyriwr yn unol â rheoliadau 94 i 103 mewn rhandaliadau cyfnodol, ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â’r swm hwnnw o ran cyfnod unrhyw randaliad sy’n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr hwnnw’n fyfyriwr cymwys;

(d)mae uchafswm unrhyw gymorth o dan Rannau 5 neu 6 y byddai gan y myfyriwr hwnnw hawlogaeth i’w gael, heblaw am y rheoliad hwn, mewn cysylltiad â chwrs dynodedig mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daeth y myfyriwr hwnnw’n fyfyriwr cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd honno ac o ddau draean os daeth yn fyfyriwr cymwys mewn chwarter arall yn nes ymlaen yn y flwyddyn honno;

(e)os oes swm o grant at unrhyw ddiben wedi ei dalu i’r myfyriwr hwnnw yn unol â rheoliad 93 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant sy’n daladwy iddo o dan reoliad 25 at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (d) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant a dalwyd iddo at y diben hwnnw yn unol â rheoliad 93 ac os yw’r swm sy’n deillio o hyn yn ddim neu’n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim; ac

(f)os oes swm o grant neu lwfans wedi ei dalu i’r myfyriwr hwnnw yn unol â rheoliadau 94 i 103 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant neu’r lwfans cyfatebol sy’n daladwy iddo yn unol â rheoliadau 27 i 30 yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (d) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant neu’r lwfans a dalwyd iddo yn unol â rheoliadau 94 i 103, ac os yw’r swm sy’n deillio o hyn yn ddim neu’n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim.

(15Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhoi’r gorau i ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig a’i fod yn trosglwyddo i gwrs dysgu o bell dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr hwnnw fel myfyriwr rhan-amser cymwys i statws myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y mae’n trosglwyddo iddo—

(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr rhan-amser cymwys am wneud hynny; a

(b)os nad yw’r cyfnod cymhwystra wedi ei derfynu.

(16Yn ddarostyngedig i baragraff (17), mae gan fyfyriwr sy’n trosglwyddo o dan baragraff (15) hawl i gael mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’n trosglwyddo gweddill y cymorth y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod ganddo hawl i’w gael o dan y Rhan hon o ran blwyddyn academaidd y cwrs rhan-amser dynodedig y mae’n trosglwyddo oddi wrtho.

(17Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sy’n daladwy ar ôl y trosglwyddiad yn unol â Rhan 11.

(18O ran myfyriwr rhan-amser cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (15) ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar y cymorth i’r myfyriwr hwnnw mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs rhan-amser y mae’n trosglwyddo oddi wrtho ond cyn iddo gwblhau’r flwyddyn honno—

(a)ni chaiff y myfyriwr hwnnw wneud cais am grant o dan reoliad 73(1)(b) os yw eisoes wedi gwneud cais am grant o dan reoliad 90(1)(b) neu reoliad 92;

(b)ni chaiff y myfyriwr hwnnw wneud cais am grant o dan reoliad 76 os yw eisoes wedi gwneud cais am grant o dan reoliad 93.

(19Os bydd myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (15) o gwrs rhan-amser dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2014, rhaid i gyfanswm y cymorth a delir i’r myfyriwr hwnnw o dan reoliadau 73(1)(a) a 90(1)(a) o ran—

(a)y flwyddyn academaidd y mae’n trosglwyddo oddi wrthi; a

(b)y flwyddyn academaidd y mae’n trosglwyddo iddi;

beidio â bod yn uwch na swm uchaf y cymorth a benderfynir sy’n daladwy i’r myfyriwr hwnnw o dan reoliad 90(1)(a).

Talu cymorth i fyfyrwyr rhan-amser cymwys

109.—(1Caniateir i daliadau o’r grant at lyfrau, teithio a gwariant arall, y grant newydd at gyrsiau rhan-amser a’r grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl gael eu gwneud mewn unrhyw fodd sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru a chânt ei gwneud yn un o amodau’r hawlogaeth i gael taliad fod rhaid i’r myfyriwr rhan-amser cymwys roi iddynt fanylion cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo’n electronig.

(2Os na fydd Gweinidogion Cymru yn gallu gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a roddwyd gan y myfyriwr, cânt wneud asesiad dros dro a thalu grant at lyfrau, teithio a gwariant arall, y grant newydd at gyrsiau rhan-amser a’r grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl.

(3Caiff Gweinidogion Cymru dalu’r grant at lyfrau, teithio a gwariant arall, y grant newydd at gyrsiau rhan-amser a’r grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl mewn rhandaliadau neu mewn un cyfandaliad.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff Gweinidogion Cymru dalu’r grant at lyfrau, teithio a gwariant arall, y grant newydd at gyrsiau rhan-amser a’r grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl ar yr adegau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu’r rhandaliad cyntaf neu, os penderfynwyd peidio â thalu cymorth mewn rhandaliadau, wneud unrhyw daliad o’r grant at lyfrau, teithio a gwariant arall, y grant newydd at gyrsiau rhan-amser na’r grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl cyn iddynt gael y datganiad o dan reoliad 106(2) i (6) oni bai bod eithriad yn unol â pharagraff (6) yn gymwys.

(6At ddibenion paragraff (5), mae eithriad yn gymwys—

(a)os yw grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl o dan reoliad 93 yn daladwy, ac os felly, caniateir i’r grant penodol hwnnw gael ei dalu cyn i’r datganiad ddod i law Gweinidogion Cymru;

(b)os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu y byddai’n briodol o achos amgylchiadau eithriadol iddynt wneud taliad heb i ddatganiad ddod i law.

110.—(1Yn ddarostyngedig i’r paragraffau canlynol, caiff Gweinidogion Cymru dalu grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau ag y tybiant yn briodol.

(2Mae’n ofynnol i awdurdod academaidd anfon cadarnhad o bresenoldeb at Weinidogion Cymru.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu’r rhandaliad cyntaf neu, os penderfynwyd peidio â thalu grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn rhandaliadau, rhaid iddynt beidio â gwneud unrhyw daliad o’r cyfryw grant i fyfyriwr rhan-amser cymwys cyn iddynt gael cadarnhad o bresenoldeb onid yw’r eithriad ym mharagraff (4) yn gymwys.

(4Mae’r eithriad y cyfeirir ato ym mharagraff (3) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu y byddai’n briodol, oherwydd amgylchiadau eithriadol, gwneud taliad er eu bod heb gael cadarnhad o bresenoldeb.

(5Pan na ellir gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a ddarperir gan y myfyriwr rhan-amser cymwys, caiff Gweinidogion Cymru wneud asesiad dros dro a thaliad dros dro o grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion.

(6Mae taliadau grant dros dro ar gyfer dibynyddion i’w gwneud yn y cyfryw ddull ag y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol a chânt ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad fod yn rhaid i’r myfyriwr rhan-amser cymwys ddarparu ar eu cyfer fanylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y caniateir gwneud taliadau iddo drwy eu trosglwyddo’n electronig.

(7Nid oes unrhyw gymorth ar ffurf grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn daladwy mewn perthynas ag unrhyw gyfnod talu sy’n dechrau ar ôl i gyfnod cymhwystra myfyriwr rhan-amser cymwys ddod i ben.

(8Pan fydd cyfnod cymhwystra myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben ar neu ar ôl y dyddiad perthnasol, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu—

(a)swm pob grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae’r myfyriwr hwnnw yn gymwys i’w gael ac a fyddai’n daladwy mewn perthynas â’r cyfnod talu perthnasol pe na bai cyfnod cymhwystra’r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dod i ben (y “cyfanswm”); a

(b)faint o’r cyfanswm sy’n daladwy mewn perthynas â’r cyfnod sy’n ymestyn o ddiwrnod cyntaf y cyfnod talu perthnasol hyd at a chan gynnwys y diwrnod y daeth cyfnod cymhwystra’r myfyriwr rhan-amser cymwys i ben (y “swm rhannol”).

(9Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw’r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd o dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.

(10Os yw Gweinidogion Cymru wedi gwneud taliad grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn perthynas â’r cyfnod talu perthnasol cyn y pwynt yn y cyfnod hwnnw pryd y daeth cyfnod cymhwystra’r myfyriwr rhan-amser cymwys i ben a bod y taliad hwnnw’n fwy na swm rhannol y grant hwnnw—

(a)cânt drin y tâl dros ben fel gordaliad o’r grant hwnnw; neu

(b)os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny cânt estyn cyfnod cymhwystra’r myfyriwr hwnnw mewn perthynas â’r grant rhan-amser hwnnw hyd ddiwedd y cyfnod talu perthnasol a chânt benderfynu bod cyfanswm y grant yn daladwy mewn perthynas â’r cyfnod talu hwnnw.

(11Os oes taliad grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn perthynas â’r cyfnod talu perthnasol i’w dalu ar ôl i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr rhan-amser cymwys ddod i ben neu os dyna pryd y’i telir, swm y grant rhan-amser hwnnw ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy yw’r swm rhannol onid yw Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn briodol estyn y cyfnod cymhwystra mewn perthynas â’r grant hwnnw hyd ddiwedd y cyfnod talu perthnasol neu’n briodol penderfynu bod cyfanswm y grant hwnnw’n daladwy mewn perthynas â’r cyfnod talu perthnasol hwnnw.

(12Nid oes unrhyw gymorth ar ffurf grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn daladwy mewn perthynas â chyfnod talu y mae myfyriwr rhan-amser cymwys yn absennol o’i gwrs yn ystod unrhyw ran ohono, oni fyddai’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru yn yr holl amgylchiadau i’r cymorth gael ei dalu mewn perthynas â’r cyfnod absenoldeb.

(13Wrth benderfynu a oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (12) mae’r amgylchiadau y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn cynnwys y rheswm dros absenoldeb y myfyriwr, hyd y cyfnod absenoldeb a’r caledi ariannol a fyddai’n cael ei achosi pe na bai’r cymorth yn cael ei dalu.

(14Ni ddylid ystyried bod myfyriwr rhan-amser cymwys yn absennol o’i gwrs os yw’n methu â bod yn bresennol oherwydd salwch ac os nad yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi bod yn absennol am fwy na 60 o ddiwrnodau.

(15Os bydd Gweinidogion Cymru, ar ôl iddynt wneud unrhyw daliad cymorth ar ffurf grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion, yn penderfynu swm y grant hwnnw y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i’w gael, naill ai am y tro cyntaf neu ar ffurf adolygiad o benderfyniad dros dro neu benderfyniad arall ynghylch y swm hwnnw—

(a)os penderfyniad i gynyddu swm y grant hwnnw y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i’w gael yw’r penderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r swm ychwanegol, a chânt wneud hynny yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar yr adegau yr ystyriant yn briodol;

(b)os penderfyniad i ostwng swm y grant hwnnw y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i’w gael yw’r penderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru ddidynnu swm y gostyngiad o swm y grant hwnnw sydd ar ôl i’w dalu;

(c)os yw swm y gostyngiad yn fwy na swm y grant hwnnw sydd ar ôl i’w dalu, gostyngir y swm diwethaf hwn i ddim a chaiff y balans ei ddidynnu o unrhyw elfen arall o grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i’w gael mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd;

(d)ceir adennill unrhyw ordaliad sy’n weddill yn unol â rheoliad 114.

Dehongli rheoliad 110

111.  Yn rheoliad 110—

(a)ystyr “cadarnhad o bresenoldeb” (“attendance confirmation”) yw cadarnhad mewn ysgrifen gan yr awdurdod academaidd—

(i)bod y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi ymrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd—

(aa)pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn gwneud cais am un neu ragor o elfennau’r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion (“cymorth rhan-amser” yn y rheoliad hwn) mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig am y tro cyntaf;

(bb)pan fo gan y myfyriwr rhan-amser cymwys anabledd; ac

(cc)pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn ymgymryd â’r cwrs ond nad yw’n bresennol ar y cwrs (pa un a yw’r rheswm am beidio â bod yn bresennol yn ymwneud â’i anabledd ai peidio);

(ii)bod y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi bod yn bresennol yn y sefydliad ac wedi dechrau mynychu’r cwrs—

(aa)pan fo’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth rhan-amser mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig am y tro cyntaf;

(bb)pan nad yw statws y myfyriwr fel myfyriwr rhan-amser cymwys wedi ei drosglwyddo i’r cwrs rhan-amser dynodedig o gwrs arall yn yr un sefydliad; ac

(cc)nad yw is-baragraff (i)(cc) yn gymwys;

(iii)bod y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi ymrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn gwneud cais am gymorth rhan-amser mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig—

(aa)a hynny am dro ac eithrio’r tro cyntaf; neu

(bb)am y tro cyntaf wedi i statws y myfyriwr fel myfyriwr rhan-amser cymwys gael ei drosglwyddo i’r cwrs hwnnw o gwrs arall yn yr un sefydliad;

(b)ystyr “cyfnod talu” (“payment period”) yw cyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn talu cymorth mewn perthynas ag ef o dan reoliadau 94 i 103 neu y byddent wedi talu’r cyfryw gymorth pe na bai cyfnod cymhwystra’r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dod i ben.

Talu grantiau ar gyfer ffioedd mewn perthynas â chyrsiau rhan-amser dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2014

112.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r grant mewn perthynas â ffioedd y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2014 i’r awdurdod academaidd priodol ar ôl i gais mewn ysgrifen am daliad ddod i law, a ystyrir yn gais dilys gan Weinidogion Cymru.

(2Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau o dan baragraff (1) ar unrhyw adegau ac mewn unrhyw randaliadau (os bydd rhandaliadau) yr ystyriant yn briodol.

(3Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau dros dro o dan baragraff (1) mewn unrhyw achosion yr ystyriant yn briodol.

Talu benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser

113.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser y mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig i awdurdod academaidd y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn atebol i wneud taliad iddo.

(2Caiff Gweinidogion Cymru dalu’r benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser yn y rhandaliadau hynny (os bydd rhandaliadau) ac ar yr adegau hynny y maent yn eu hystyried yn briodol.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu’r benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser nac unrhyw randaliad o’r benthyciad hwnnw oni bai eu bod wedi cael y canlynol oddi wrth yr awdurdod academaidd perthnasol—

(a)cais am daliad; a

(b)datganiad o dan reoliad 106(2) i (6).

(4Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau dros dro o dan y rheoliad hwn yn yr achosion hynny y barnant sy’n briodol.

Gordaliadau

114.—(1Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad grant mewn perthynas â ffioedd neu fenthyciad newydd at ffioedd rhan-amser oddi wrth yr awdurdod academaidd.

(2Os bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr rhan-amser cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd i’r myfyriwr rhan-amser cymwys o dan y Rhan hon ac sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawlogaeth i’w gael o dan y Rhan hon.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru adennill gordaliad grant at lyfrau, teithio a gwariant arall, grant newydd at gyrsiau rhan-amser, grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl a grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion onid ydynt yn ystyried nad yw’n briodol gwneud hynny.

(4Dyma’r dulliau adennill—

(a)tynnu’r gordaliad o unrhyw fath o grant sy’n daladwy i’r myfyriwr rhan-amser cymwys o dro i dro yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(b)cymryd unrhyw gamau eraill i adennill gordaliad sydd ar gael iddynt.

(5Mae taliad o grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl neu grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordaliad os yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn tynnu allan o’r cwrs cyn y dyddiad perthnasol oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.

(6Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw’r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.

(7Yn y naill neu’r llall o’r amgylchiadau ym mharagraff (8) neu (9), ceir gordaliad o grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.

(8Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7) yw—

(a)bod Gweinidogion Cymru yn cymhwyso’r cyfan neu ran o’r grant at gostau byw myfyriwr rhan-amser anabl i brynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr rhan-amser cymwys;

(b)bod cyfnod cymhwystra’r myfyriwr yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; ac

(c)nad yw’r offer wedi ei ddanfon at y myfyriwr cyn i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr ddod i ben.

(9Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7) yw—

(a)bod cyfnod cymhwystra’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; a

(b)bod taliad o grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl mewn perthynas ag offer arbenigol i’r myfyriwr yn cael ei wneud ar ôl i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr rhan-amser cymwys ddod i ben.

(10Pan fo gordaliad o grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl, caiff Gweinidogion Cymru dderbyn yn ôl offer arbenigol a brynwyd â’r grant yn fodd i adennill y cyfan neu ran o’r gordaliad os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.

RHAN 13CYMORTH I FYFYRWYR ÔL-RADDEDIG SYDD AG ANABLEDDAU

Myfyrwyr ôl-raddedig cymwys

115.—(1Mae gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl, yn ddarostyngedig i’r Rhan hon ac yn unol â hi, i gael grant i helpu gyda’r gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod yn ofynnol i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ei ysgwyddo oherwydd anabledd sydd ganddo, mewn perthynas ag ymgymryd ohono â chwrs ôl-radd dynodedig.

(2Mae person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig os yw’r person hwnnw’n bodloni’r amodau ym mharagraff (3) ac nad yw wedi ei hepgor gan baragraff (4).

(3Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

(a)bod Gweinidogion Cymru, wrth asesu cais person am gymorth o dan reoliad 120, wedi penderfynu mewn cysylltiad â’r cwrs ôl-radd dynodedig fod y person yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1; a

(b)bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod yn ofynnol i’r person ysgwyddo gwariant ychwanegol mewn perthynas ag ymgymryd â’r cwrs oherwydd anabledd sydd ganddo.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (9), nid yw person (“A” yn y paragraff hwn) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys—

(a)os rhoddwyd i A neu os talwyd iddo mewn perthynas ag A yn ymgymryd â’r cwrs—

(i)bwrsari gofal iechyd;

(ii)unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007;

(iii)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan Gyngor Ymchwil;

(iv)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan sefydliad A sy’n cynnwys unrhyw daliad at ddiben talu am wariant ychwanegol a ysgwyddwyd gan A oherwydd ei anabledd; neu

(v)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed o dan adran 67(4)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(92) sy’n cynnwys taliad er mwyn talu am wariant ychwanegol a ysgwyddwyd gan A oherwydd ei anabledd; neu

(b)os yw A wedi torri rhwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

(c)os yw A wedi cyrraedd ei 18 oed a heb ddilysu unrhyw gytundeb ynglŷn â benthyciad a wnaed gydag A pan oedd A o dan 18 oed;

(d)os yw A, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw A yn addas i gael cymorth o dan y Rhan hon.

(5At ddibenion paragraffau (4)(b) a (4)(c) ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wnaed o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau myfyrwyr.

(6Mewn achos lle mae’r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud—

(a)cyn 25 Medi 1991; a

(b)gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd gan y benthyciwr guradur,

y bydd paragraff (4)(c) yn gymwys.

(7Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os paragraff 9 yw’r unig baragraff o Ran 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod odano.

(8Ac eithrio pan fo’r amgylchiadau a ddisgrifir yn rheoliad 122(3)(c)(ii) yn gymwys, fel bod myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn ymgymryd â rhan o’i gwrs dramor, nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon oni bai ei fod yn ymgymryd â’r cwrs yn y Deyrnas Unedig.

(9Yn ddarostyngedig i baragraffau (11) i (13) ac er gwaethaf paragraffau (3)(a) a (4) mae person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw’n bodloni’r amodau ym mharagraff (3)(b) a pharagraff (10)(a) neu (b).

(10Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (9) yw—

(a)bod―

(i)y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(ii)y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs ôl-radd presennol; a

(iii)statws y person fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys heb ei derfynu.

(b)bod—

(i)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o’r blaen bod y person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig ac eithrio’r cwrs ôl-radd presennol;

(ii)statws y myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs yn is-baragraff (b)(i) wedi ei drosglwyddo o’r cwrs hwnnw i’r cwrs presennol o ganlyniad i drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(iii)y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (b)(i); a

(iv)statws y person fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys heb ei derfynu.

(11Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn ffoadur, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu’n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs ôl-radd presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, statws ffoadur A neu statws ffoadur ei briod, ei bartner sifil, ei riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) neu ei lys-riant wedi dod i ben ac na roddwyd caniatâd pellach iddo aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(12Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn ffoadur, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu’n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs ôl-radd presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben, ac na roddwyd hawl bellach i aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(13Nid yw paragraffau (11) a (12) yn gymwys pan fo’r myfyriwr wedi dechrau ar y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef bod y myfyriwr yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys cyn 1 Medi 2007.

(14Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys, ar unrhyw un adeg, hawl i gael cymorth at y canlynol—

(a)mwy nag un cwrs ôl-radd dynodedig;

(b)cwrs ôl-radd dynodedig a chwrs dysgu o bell dynodedig;

(c)cwrs ôl-radd dynodedig a chwrs dynodedig;

(d)cwrs ôl-radd dynodedig a chwrs rhan-amser dynodedig.

Myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaidd

116.—(1Os digwydd un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (2) yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)caiff myfyriwr fod â hawl i gael grant o dan y Rhan hon mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn unol â’r Rhan hon; a

(b)nid oes grant o’r math sydd ar gael o dan y Rhan hon ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd yn dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

(2Y digwyddiadau yw—

(a)cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs ôl-radd dynodedig;

(b)y myfyriwr, neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) yn cael ei gydnabod yn ffoadur neu’n dod yn berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c)y wladwriaeth y mae’r myfyriwr yn un o’i dinasyddion yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd pan fo’r myfyriwr wedi bod yn preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(d)y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio’n barhaol;

(e)y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(f)y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Ran 2 o Atodlen 1; neu

(g)y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

Cyrsiau ôl-radd dynodedig

117.—(1Mae cwrs ôl-radd yn ddynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 115—

(a)os yw’n gwrs y mae angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) neu’n uwch i gael mynediad iddo fel rheol;

(b)os yw’n gwrs—

(i)sy’n parhau am o leiaf un flwyddyn academaidd; a

(ii)yn achos cwrs rhan-amser a ddechreuodd cyn 1 Medi 2014, y mae fel arfer yn bosibl cwblhau’r cwrs mewn nid mwy na dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol; neu

(iii)yn achos cwrs rhan-amser sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2014, y mae fel arfer yn bosibl cwblhau’r cwrs mewn nid mwy na phedair gwaith y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol;

(c)os yw’n cael ei ddarparu yn gyfan gwbl gan sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu’n cael ei ddarparu gan sefydliad o’r fath ar y cyd â sefydliad y tu allan i’r Deyrnas Unedig; a

(d)nad yw’n gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon neu’n gwrs yr ymgymerir ag ef fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth.

(2At ddibenion paragraff (1)—

(a)mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw’r sefydliad yn darparu’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs, pa un a yw’r sefydliad wedi gwneud cytundeb gyda’r myfyriwr i ddarparu’r cwrs neu beidio;

(b)bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu’n gyhoeddus os yw naill ai’r brifysgol neu’r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn cael eu hariannu’n gyhoeddus; ac

(c)ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu’n gyhoeddus dim ond am ei fod yn cael arian o gronfeydd cyhoeddus gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(93).

(3At ddibenion paragraff (1)(b)(ii)—

(a)ystyr “cwrs llawnamser cyfatebol” (“full-time equivalent”) yw cwrs llawnamser sy’n arwain at yr un cymhwyster â’r cwrs rhan-amser dan sylw;

(b)ystyr “cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol” (“period ordinarily required to complete the full-time equivalent”) yw’r cyfnod y byddai myfyriwr llawnamser safonol yn cwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol;

(c)ystyr “myfyriwr llawnamser safonol” (“standard full-time student”) yw myfyriwr sydd i’w ystyried yn un—

(i)sydd wedi dechrau ar y cwrs llawnamser cyfatebol ar yr un dyddiad ag y dechreuodd myfyriwr rhan-amser cymwys ar y cwrs rhan-amser o dan sylw;

(ii)nad yw wedi ei esgusodi o unrhyw ran o’r cwrs llawnamser cyfatebol;

(iii)nad yw wedi ailadrodd unrhyw ran o’r cwrs llawnamser cyfatebol; a

(iv)nad yw wedi bod yn absennol o’r cwrs llawnamser cyfatebol ac eithrio yn ystod gwyliau.

(4At ddibenion adran 22 o Ddeddf 1998 a rheoliad 115, caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi eu dynodi o dan baragraff (1).

Cyfnod cymhwystra

118.—(1Cedwir statws myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn perthynas â chwrs ôl-radd dynodedig hyd nes terfynir y statws hwnnw yn unol â’r rheoliad hwn neu reoliad 115.

(2Y cyfnod y bydd myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cadw’r statws y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw’r “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”).

(3Yn ddarostyngedig i’r paragraffau canlynol a rheoliad 115, mae’r cyfnod cymhwystra’n dod i ben ar ddiwedd y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs ôl-radd dynodedig.

(4Mae’r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr ôl-raddedig cymwys (“A” yn y paragraff hwn a pharagraff (5))—

(a)yn tynnu’n ôl o’i gwrs ôl-radd dynodedig o dan amgylchiadau pan nad yw Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu na fyddant yn trosglwyddo statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys i gwrs arall o dan reoliad 119; neu

(b)yn cefnu ar ei gwrs ôl-radd dynodedig neu’n cael ei ddiarddel oddi arno.

(5Caiff Gweinidogion Cymru derfynu’r cyfnod cymhwystra os yw A wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw A yn addas i gael cymorth o dan y Rhan hon.

(6Pan fo’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig sy’n gwrs rhan-amser, mae’r cyfnod cymhwystra’n terfynu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd pan â’n amhosibl, yn ystod y flwyddyn honno neu ar ei diwedd, i’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys gwblhau’r cwrs o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 117(1)(b)(ii).

(7Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy’n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw rai o’r camau canlynol y maent yn credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—

(a)terfynu’r cyfnod cymhwystra;

(b)penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael grant neu unrhyw swm penodol o grant o dan y Rhan hon;

(c)trin unrhyw gymorth a dalwyd i’r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 124.

(8Pan fo’r cyfnod cymhwystra’n dod i ben ar y dyddiad y daw’r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs ôl-radd dynodedig i ben neu cyn y dyddiad hwnnw, caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu’r cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnodau ag y byddant yn penderfynu arnynt.

Trosglwyddo statws

119.—(1Os yw myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn trosglwyddo o gwrs ôl-radd dynodedig i gwrs ôl-radd dynodedig arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys i’r cwrs arall hwnnw—

(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr ôl-raddedig cymwys am wneud hynny;

(b)os ydynt wedi eu bodloni bod un neu fwy o’r seiliau trosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac

(c)os nad yw’r cyfnod cymhwystra wedi ei derfynu.

(2Y seiliau trosglwyddo yw—

(a)bod y myfyriwr ôl-raddedig cymwys, ar argymhelliad yr awdurdod academaidd, yn dechrau ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig arall yn yr un sefydliad; neu

(b)bod y myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig mewn sefydliad arall.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1) hawlogaeth i gael, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’n trosglwyddo iddo, gweddill y cymorth o dan y Rhan hon, y penderfynodd Gweinidogion Cymru fod ganddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn trosglwyddo ohono.

(4Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth ar ôl y trosglwyddo, yn unol â’r Rhan hon.

(5Ni chaiff myfyriwr ôl-raddedig cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1), ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar ei gymorth o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’n trosglwyddo oddi wrtho ond cyn iddo gwblhau’r flwyddyn honno, wneud cais am grant arall o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’n trosglwyddo iddo.

Ceisiadau am gymorth

120.—(1Rhaid i berson wneud cais am grant o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs ôl-radd dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i Weinidogion Cymru gais ar unrhyw ffurf a chan ddarparu unrhyw ddogfennau y bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn amdanynt.

(2Rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(3Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw’r ceisydd yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael grant a swm y grant sy’n daladwy, os oes grant yn daladwy o gwbl.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd—

(a)pa un a oes gan y ceisydd hawl i gael grant neu beidio;

(b)os oes gan y ceisydd hawl, y swm sy’n daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd, os oes swm yn daladwy o gwbl; ac

(c)sut y dyrennir y swm hwnnw rhwng y mathau o wariant cymwys.

Gwybodaeth

121.  Mae Atodlen 3 yn gymwys mewn perthynas â rhoi gwybodaeth gan geisydd a chan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys.

Swm y grant

122.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), y grant sy’n daladwy i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys o dan y Rhan hon yw’r cyfryw swm sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru, i gynorthwyo gydag un neu ragor o fathau o wariant cymwys.

(2Rhaid i’r grant beidio â bod yn fwy na £10,590 mewn perthynas â blwyddyn academaidd.

(3At ddibenion y Rhan hon, y canlynol yw’r “mathau o wariant cymwys”—

(a)gwariant ar gynorthwyydd nad yw’n gynorthwyydd meddygol;

(b)gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol; a

(c)gwariant ychwanegol a ysgwyddir—

(i)o fewn y Deyrnas Unedig at ddiben mynychu sefydliad;

(ii)o fewn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben mynychu, fel rhan o’r cwrs, unrhyw gyfnod o astudio mewn sefydliad tramor neu at ddibenion mynychu’r Athrofa.

(4Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), mae grant o dan y Rhan hon yn daladwy i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.

(5Pan fo grant o dan y Rhan hon yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol (o fewn ystyr paragraff (3)(b)) caiff fod yn daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd gyfan.

(6Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 116(2) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, dim ond at y dibenion a bennir ym mharagraff (3)(a) ac (c) mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd y caiff myfyriwr ôl-raddedig cymwys fod â hawl i gael grant o dan y Rhan hon.

Talu’r grant

123.—(1Caiff Gweinidogion Cymru dalu grant y mae gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl i’w gael o dan y Rhan hon a hynny mewn unrhyw randaliadau (os oes rhandaliadau) ac ar unrhyw adegau y maent yn credu eu bod yn briodol ac wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Rhan hon fe gânt wneud taliadau dros dro hyd nes y ceir cyfrifiad terfynol swm y grant y mae gan y myfyriwr hawl i’w gael.

(2Caniateir i daliadau gael eu gwneud mewn unrhyw fodd sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru a chânt ei gwneud yn un o amodau’r hawlogaeth i gael taliad fod rhaid i’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi iddynt fanylion cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo’n electronig.

Gordaliadau

124.—(1Os bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd iddo o dan y Rhan hon sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae ganddo hawlogaeth i’w gael o dan y Rhan hon.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru adennill gordaliad o grant o dan y Rhan hon onid ydynt yn ystyried nad yw’n briodol gwneud hynny.

(3Dyma’r dulliau ar gyfer adennill—

(a)tynnu’r gordaliad o unrhyw fath o grant sy’n daladwy i’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys o bryd i’w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(b)cymryd unrhyw gamau eraill i adennill gordaliad sydd ar gael iddynt.

(4Mae taliad grant o dan y Rhan hon a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordaliad os yw’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn rhoi’r gorau i’r cwrs cyn y dyddiad perthnasol onid yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.

(5Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw’r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.

(6Yn y naill neu’r llall o’r amgylchiadau ym mharagraffau (7) ac (8), mae gordaliad o grant o dan y Rhan hon onid yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.

(7Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (6) yw—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru yn cymhwyso’r cyfan neu ran o’r grant o dan y Rhan hon i brynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr ôl-raddedig cymwys;

(b)pan fo cyfnod cymhwystra’r myfyriwr yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; ac

(c)pan nad yw’r offer wedi ei ddanfon at y myfyriwr cyn i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr ddod i ben.

(8Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (6) yw—

(a)pan fo cyfnod cymhwystra’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben; a

(b)pan wneir taliad grant o dan y Rhan hon mewn perthynas ag offer arbenigol i’r myfyriwr ar ôl i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr ddod i ben.

(9Pan fo gordaliad o grant o dan y Rhan hon, caiff Gweinidogion Cymru dderbyn yn ôl offer arbenigol a brynwyd â’r grant yn fodd i adennill y cyfan neu ran o’r gordaliad os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol iddynt wneud hynny.

RHAN 14DIWYGIO RHEOLIADAU 2013

Diwygio Rheoliadau 2013

125.—(1Mae Rheoliadau 2013 wedi eu diwygio yn unol â’r paragraffau canlynol.

(2Yn rheoliad 2(1), yn y man priodol, mewnosoder—

ystyr “cwrs blwyddyn gyntaf gywasgedig” (“compressed first year course”) yw cwrs dynodedig—

(a)

sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2013;

(b)

pan ymgymerir â blwyddyn gyntaf y cwrs ar sail gywasgedig a bod modd ei chwblhau mewn cyfnod o ddim mwy na saith mis; ac

(c)

pan nad ymgymerir ag unrhyw flynyddoedd eraill ar y cwrs ar y sail gywasgedig honno.

(3Yn rheoliad 2(1)—

(a)yn lle’r diffiniad o “blwyddyn academaidd”, rhodder—

ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw—

(a)

mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs ac eithrio blwyddyn gyntaf cwrs blwyddyn gyntaf gywasgedig, y cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Medi yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi yn ôl pa un a yw’r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr a chyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill a chyn 1 Gorffennaf, ar neu ar ôl 1 Gorffennaf a chyn 1 Awst neu ar neu ar ôl 1 Awst ac ar neu cyn 31 Rhagfyr yn y drefn honno; neu

(b)

mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn gyntaf cwrs blwyddyn gyntaf gywasgedig, y cyfnod o wyth mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Medi yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi yn ôl pa un a yw’r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr a chyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill a chyn 1 Gorffennaf, ar neu ar ôl 1 Gorffennaf a chyn 1 Awst neu ar neu ar ôl 1 Awst ac ar neu cyn 31 Rhagfyr yn y drefn honno;;

(b)yn lle’r diffiniad o “cwrs penben”, rhodder—

ystyr “cwrs penben” (“end-on course”) yw—

(a)

cwrs gradd gyntaf llawnamser (ac eithrio cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) a hwnnw’n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar gwrs llawnamser a restrir ym mharagraff 2, 3 neu 4 o Atodlen 2 ac y mae’r myfyriwr wedi cael cymorth o dan Reoliadau 2006, 2007, 2008, 2008 (Rhif 2), 2009, 2011, 2011 (Rhif 2) neu 2012 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o’r rhain ar ei gyfer;

(b)

cwrs gradd anrhydedd llawnamser y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar gwrs gradd sylfaen llawnamser neu gwrs gradd arferol llawnamser ac y mae’r myfyriwr wedi cael cymorth o dan Reoliadau 2006, 2007, 2008, 2008 (Rhif 2), 2009, 2011, 2011 (Rhif 2) neu 2012 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o’r rhain ar ei gyfer;

(c)

cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy’n dechrau cyn 1 Medi 2006 ac nad yw ei hyd yn hwy na dwy flynedd (ac y mynegir hyd cwrs rhan-amser fel y cyfwerth llawnamser) a hwnnw’n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar gwrs gradd gyntaf ac y mae’r myfyriwr wedi cael cymorth o dan Reoliadau 2006, 2007, 2008, 2008 (Rhif 2), 2009, 2011, 2011 (Rhif 2) neu 2012 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o’r rhain ar ei gyfer;

(d)

cwrs gradd gyntaf rhan-amser (ac eithrio cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) a hwnnw’n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar gwrs rhan-amser a restrir ym mharagraff 2, 3 neu 4 o Atodlen 2 ac y mae’r myfyriwr wedi cael cymorth o dan Reoliadau 2006, 2007, 2008, 2008 (Rhif 2), 2009, 2011, 2011 (Rhif 2) neu 2012 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o’r rhain ar ei gyfer;

(e)

cwrs gradd anrhydedd rhan-amser y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar gwrs gradd sylfaen rhan-amser neu gwrs gradd arferol rhan-amser y mae’r myfyriwr wedi cael cymorth o dan Reoliadau 2006, 2007, 2008, 2008 (Rhif 2), 2009, 2011, 2011 (Rhif 2) neu 2012 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o’r rhain ar ei gyfer;

(f)

cwrs gradd gyntaf dysgu o bell (ac eithrio cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) a hwnnw’n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar gwrs dysgu o bell dynodedig a restrir ym mharagraff 2, 3 neu 4 o Atodlen 2 ac y mae’r myfyriwr wedi cael cymorth o dan Reoliadau 2006, 2007, 2008, 2008 (Rhif 2), 2009, 2011, 2011 (Rhif 2) neu 2012 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o’r rhain ar ei gyfer;

(g)

cwrs gradd anrhydedd dysgu o bell y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar gwrs gradd sylfaen dysgu o bell dynodedig neu gwrs gradd arferol dysgu o bell dynodedig y mae’r myfyriwr wedi cael cymorth o dan Reoliadau 2006, 2007, 2008, 2008 (Rhif 2), 2009, 2011, 2011 (Rhif 2) neu 2012 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o’r rhain ar ei gyfer;;

(c)yn lle’r diffiniad o “myfyriwr rhan-amser cymwys newydd”, rhodder—

ystyr “myfyriwr rhan-amser cymwys newydd” (“new eligible part-time student”) yw myfyriwr rhan-amser cymwys sy’n dechrau ar gwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2014, ac eithrio—

(a)

myfyriwr rhan-amser cymwys a ddechreuodd ar y cwrs rhan-amser presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2014 pan fo’r cwrs hwnnw’n gwrs penben, sy’n dilyn ymlaen o gwrs rhan-amser dynodedig y dechreuodd y myfyriwr arno cyn 1 Medi 2014; neu

(b)

myfyriwr rhan-amser cymwys a ddechreuodd ar y cwrs rhan-amser presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2014 ac y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr rhan-amser cymwys i’r cwrs rhan-amser hwnnw o ganlyniad i un neu ragor o drosglwyddiadau o’r statws hwnnw gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 114 o gwrs rhan-amser dynodedig y dechreuodd y myfyriwr arno cyn 1 Medi 2014;.

(4Yn rheoliad 76—

(a)ym mharagraff (8), yn lle’r geiriau “ym mharagraff (9)(a) neu (b)” rhodder “ym mharagraff (9)(a), (b) neu (c)”;

(b)ym mharagraff (9)—

(i)ar ddiwedd is-baragraff (b)(iv), yn lle “.” rhodder “;”; a

(ii)ar ôl is-baragraff (b)(iv), mewnosoder—

(c)bod—

(i)y cwrs dysgu o bell presennol yn gwrs penben;

(ii)y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef;

(iii)y cyfnod cymhwystra mewn perthynas â’r cwrs yn is-baragraff (c)(ii) wedi dod i ben oherwydd, yn unig, bod y myfyriwr wedi cwblhau’r cwrs; a

(iv)y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn is-baragraff (c)(ii).

(5Ym mharagraff (5) o reoliad 78—

(a)yn is-baragraff (a), yn lle “a” rhodder “neu”; a

(b)yn lle is-baragraff (b), rhodder—

(b)os yw’r cwrs hwnnw’n gwrs penben yr ymgymerir ag ef drwy ddysgu o bell, sy’n dilyn ymlaen o gwrs dysgu o bell dynodedig a ddechreuodd cyn 1 Medi 2012,

a phe byddai’r cwrs hwnnw fel arall yn gwrs dynodedig at ddibenion rheoliad 5.

(6Yn rheoliad 93—

(a)ym mharagraff (7), yn lle’r geiriau “ym mharagraffau (8)(a) neu (b)” rhodder “ym mharagraff (8)(a), (b) neu (c)”;

(b)ym mharagraff (8)—

(i)ar ddiwedd is-baragraff (b)(iv), yn lle “.” rhodder “;”; a

(ii)ar ôl is-baragraff (b)(iv), mewnosoder—

(c)bod—

(i)y cwrs rhan-amser presennol yn gwrs penben;

(ii)y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y mae’r cwrs rhan-amser presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef;

(iii)y cyfnod cymhwystra mewn perthynas â’r cwrs yn is-baragraff (c)(ii) wedi dod i ben oherwydd, yn unig, bod y myfyriwr wedi cwblhau’r cwrs; a

(iv)y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn is-baragraff (c)(ii).

(7Ar ddiwedd rheoliad 95, mewnosoder—

(7) At ddibenion y Rhan hon, trinnir cwrs rhan-amser dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2014 fel pe bai’n dechrau cyn 1 Medi 2014—

(a)pan fo’n gwrs rhan-amser dynodedig y mae person yn trosglwyddo iddo yn unol â rheoliad 114 o gwrs rhan-amser dynodedig blaenorol a ddechreuodd cyn 1 Medi 2014; neu

(b)pan fo’n gwrs rhan-amser dynodedig sy’n gwrs penben, sy’n dilyn ymlaen o gwrs rhan-amser dynodedig a ddechreuodd cyn 1 Medi 2014.

(8Yn rheoliad 121(1), ar ôl “grant mewn perthynas â ffioedd”, mewnosoder “neu fenthyciad newydd at ffioedd rhan-amser”.

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

27 Ionawr 2015

Rheoliadau 4, 69, 86 a 115

ATODLEN 1Myfyrwyr Cymwys

RHAN 1Dehongli

1.—(1At ddibenion yr Atodlen hon—

ystyr “aelod o deulu” (“family member”) (oni nodir fel arall) yw—

(a)

o ran gweithiwr ffin yr AEE, gweithiwr mudol o’r AEE, person hunangyflogedig ffin yr AEE neu berson hunangyflogedig o’r AEE—

(i)

priod y person neu ei bartner sifil;

(ii)

disgynyddion uniongyrchol y person neu ddisgynyddion priod neu bartner sifil y person sydd—

(aa)

o dan 21 oed; neu

(bb)

yn ddibynyddion y person neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y person; neu

(iii)

perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y person neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y person;

(b)

o ran person cyflogedig Swisaidd, person cyflogedig ffin y Swistir, person hunangyflogedig ffin y Swistir neu berson hunangyflogedig Swisaidd—

(i)

priod y person neu ei bartner sifil; neu

(ii)

plentyn y person neu blentyn priod neu bartner sifil y person;

(c)

o ran gwladolyn o’r UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38—

(i)

priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu

(ii)

disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn sydd—

(aa)

o dan 21 oed; neu

(bb)

yn ddibynyddion y gwladolyn neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y gwladolyn;

(d)

o ran gwladolyn o’r UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38—

(i)

priod neu bartner sifil y gwladolyn;

(ii)

disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn sydd—

(aa)

o dan 21 oed; neu

(bb)

yn ddibynyddion y gwladolyn neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu

(iii)

perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y gwladolyn neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y gwladolyn;

(e)

o ran gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 9—

(i)

priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu

(ii)

disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn sydd—

(aa)

o dan 21 oed; neu

(bb)

yn ddibynyddion y gwladolyn neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y gwladolyn;

ystyr “Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economic Area”) yw’r ardal a ffurfir gan y Gwladwriaethau AEE;

ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw’r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a’i Haelod-wladwriaethau, o’r naill ran, a Chydffederasiwn y Swistir, o’r rhan arall, ar Symud Rhydd Personau a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999(94) ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;

ystyr “gweithiwr” yw “worker” o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl fel y digwydd;

ystyr “gweithiwr mudol o’r AEE” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn o’r AEE sy’n weithiwr, ac eithrio gweithiwr ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “gweithiwr ffin yr AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn o’r AEE—

(f)

sy’n weithiwr yng Nghymru; a

(g)

sy’n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl fel y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “gwladolyn o’r AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn o Wladwriaeth yn yr AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig;

ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Aelod-wladwriaeth o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd;

ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

ystyr “person cyflogedig Swisaidd” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson cyflogedig, ac eithrio person cyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person cyflogedig ffin y Swistir” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—

(h)

yn berson cyflogedig yng Nghymru; a

(i)

yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl fel y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person”) yw—

(j)

o ran gwladolyn o’r AEE, person sy’n hunangyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl fel y digwydd; neu

(k)

o ran gwladolyn Swisaidd, person sy’n berson hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

ystyr “person hunangyflogedig o’r AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn o’r AEE sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person hunangyflogedig ffin yr AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwladolyn o’r AEE sydd—

(l)

yn berson hunangyflogedig yng Nghymru; a

(m)

yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl fel y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person hunangyflogedig ffin y Swistir(“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—

(n)

yn berson hunangyflogedig yng Nghymru; a

(o)

yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth EEA ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth EEA honno, yn ôl fel y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

mae i “wedi setlo” yr ystyr a roddir i “settled” gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971(95).

(2At ddibenion yr Atodlen hon, mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson sydd â gofal am blentyn ac mae “plentyn” (“child”) i’w ddehongli yn unol â hynny.

(3At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu yn yr Ynysoedd, o ganlyniad i fod wedi symud o un arall o’r ardaloedd hynny at ddiben ymgymryd ag—

(a)y cwrs presennol, y cwrs dysgu o bell presennol, y cwrs rhan-amser presennol neu’r cwrs ôl-radd presennol; neu

(b)gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, cwrs yr ymgymerodd y myfyriwr ag ef yn syth cyn ymgymryd â’r cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (a),

i’w ystyried yn berson sy’n preswylio’n arferol yn y lle y mae’r person wedi symud ohono.

(4At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“A” yn yr is-baragraff hwn) i gael ei drin fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci pe byddai A wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—

(a)A;

(b)priod neu bartner sifil A;

(c)rhiant A; neu

(d)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, plentyn A neu briod neu bartner sifil plentyn A,

yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu’r diriogaeth a ffurfir gan Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci.

(5At ddibenion is-baragraff (4), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd y Swistir a Thwrci yn cynnwys—

(a)yn achos aelodau o luoedd rheolaidd y llynges, y fyddin neu’r llu awyr y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel aelodau o’r cyfryw luoedd; a

(b)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth EEA neu’r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir fel aelodau o’r cyfryw luoedd.

(c)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sydd yn ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci fel aelodau o’r cyfryw luoedd.

(6At ddibenion yr Atodlen hon mae ardal—

(a)nad oedd gynt yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd neu’r Ardal Economaidd Ewropeaidd; ond

(b)sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym wedi dod yn rhan o’r naill neu’r llall, neu o’r ddwy, o’r ardaloedd hyn,

i’w hystyried fel pe bai wastad wedi bod yn rhan o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

(7At ddibenion yr Atodlen hon, ystyrir bod carcharor cymwys yn preswylio fel arfer yn y rhan o’r Deyrnas Unedig lle yr oedd y carcharor yn preswylio cyn cael ei ddedfrydu.

RHAN 2Categorïau

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig

2.—(1Person sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—

(a)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac eithrio am y rheswm ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;

(b)yn preswylio fel arfer yng Nghymru;

(c)wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben derbyn addysg lawnamser.

(2Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson yr ymdrinnir ag ef fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(4).

3.  Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd y ffaith ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(d)mewn achos lle’r oedd ei breswylio arferol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben derbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

Ffoaduriaid ac aelodau o’u teuluoedd

4.—(1Person—

(a)sy’n ffoadur;

(b)sy’n preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers i’r person gael ei gydnabod yn ffoadur; ac

(c)sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur;

(b)oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches;

(c)sy’n preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â bod yn preswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; a

(d)sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Person—

(a)sy’n blentyn i ffoadur neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil ffoadur;

(b)ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches, oedd yn blentyn i’r ffoadur neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur ar y dyddiad hwnnw;

(c)oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches;

(d)sy’n preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; ac

(e)sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoedd

5.—(1Person—

(a)sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—

(b)sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(c)sydd wedi bod yn preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b)a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw—

(i)y cais am loches; neu

(ii)y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed unrhyw gais am loches;

(c)sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(d)sydd wedi bod yn preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Person—

(a)sy’n blentyn i berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu sy’n blentyn i briod neu i bartner sifil person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b)a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—

(i)y cais am loches; neu

(ii)y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed unrhyw gais am loches,

yn blentyn i’r person hwnnw neu’n blentyn i berson oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;

(c)a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—

(i)y cais am loches; neu

(ii)y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed unrhyw gais am loches;

(d)sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(e)sydd wedi bod yn preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd

6.—(1Person—

(a)sydd—

(i)yn weithiwr mudol o’r EEA neu yn berson hunangyflogedig o’r EEA;

(ii)yn berson cyflogedig Swisaidd neu’n berson hunangyflogedig Swisaidd;

(iii)yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii);

(iv)yn weithiwr ffin yr EEA neu yn berson hunangyflogedig ffin yr EEA;

(v)yn berson cyflogedig ffin y Swistir neu’n berson hunangyflogedig ffin y Swistir; neu

(vi)yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (iv) neu (v);

(b)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys os yw’r person sy’n gwneud cais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).

7.  Person sydd—

(a)yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(b)wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 10 o Reoliad (EU) Rhif 492/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ryddid gweithwyr i symud o fewn yr Undeb(96), fel y’i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE.

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall

8.—(1Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

(b)a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn union cyn gadael y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio;

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf mewn gwirionedd yn dechrau;

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(e)mewn achos lle’r oedd ei breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf er mwyn derbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (d).

(2At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir) neu’n berson sydd â hawl i breswylio’n barhaol sydd yn y ddau achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu, yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd â hawl i breswylio’n barhaol, os yw’n mynd i’r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir y mae’n wladolyn iddi neu y mae’r person y mae’n aelod o deulu gwladolyn iddi mewn perthynas ag ef yn wladolyn iddi.

Gwladolion o’r UE

9.—(1Person—

(a)sydd naill ai—

(i)yn wladolyn o’r UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac eithrio person sydd yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig nad yw wedi arfer hawl i breswylio; neu

(ii)yn aelod o deulu person o’r fath;

(b)sydd—

(i)yn mynychu neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru; neu

(ii)yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig, cwrs rhan-amser dynodedig neu gwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru;

(c)wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben derbyn addysg lawnamser.

(2Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson yr ymdrinnir ag ef fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).

(3Os yw gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu gwladolyn o’r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod rhywun yn wladolyn o’r UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi ei fodloni.

(4At ddibenion y paragraff hwn, mae gwladolyn o’r Deyrnas Unedig wedi arfer hawl i breswylio os yw’r person hwnnw wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig.

10.—(1Person—

(a)sy’n wladolyn o’r UE ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)mewn achos lle’r oedd ei breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben derbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

(2Os yw gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o’r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod rhywun yn wladolyn o’r UE ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi ei fodloni.

Plant gwladolion Swisaidd

11.  Person—

(a)sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawl i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)mewn achos lle’r oedd ei breswylio arferol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben derbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

Plant gweithwyr Twrcaidd

12.  Person—

(a)sydd yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(b)sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sydd yn ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci drwy’r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Rheoliadau 5, 71 ac 88

ATODLEN 2CYRSIAU DYNODEDIG

1.  Cwrs gradd gyntaf.

2.  Cwrs ar gyfer y Ddiploma Addysg Uwch.

3.  Cwrs ar gyfer Diploma Genedlaethol Uwch neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch y canlynol—

(a)Cyngor Addysg Busnes a Thechnegwyr; neu

(b)Awdurdod Cymwysterau’r Alban.

4.  Cwrs ar gyfer tystysgrif Addysg Uwch.

5.  Cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon.

6.  Cwrs o hyfforddiant pellach i weithwyr ieuenctid a chymuned.

7.  Cwrs i baratoi at arholiad proffesiynol o safon sy’n uwch na’r canlynol—

(a)yr arholiad safon uwch ar gyfer y Dystysgrif Addysg Gyffredinol neu’r arholiad lefel uwch ar gyfer Tystysgrif Addysg yr Alban; neu

(b)yr arholiad ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol neu Ddiploma Genedlaethol y naill neu’r llall o’r cyrff a grybwyllwyd ym mharagraff 3,

nad yw’n gwrs y mae angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) i gael mynediad iddo fel rheol.

8.  Cwrs—

(a)sy’n darparu addysg (boed i baratoi at arholiad neu beidio) y mae ei safon yn uwch na safon cyrsiau sy’n darparu addysg i baratoi at unrhyw un o’r arholiadau a grybwyllwyd ym mharagraff 7(a) neu (b) ond heb fod yn uwch na chwrs gradd gyntaf; a

(b)nad oes angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) i gael mynediad iddo fel rheol.

Rheoliadau 11, 79, 106 a 121

ATODLEN 3GWYBODAETH

1.  Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais am wneud hynny, rhaid i bob ceisydd, pob myfyriwr cymwys, pob myfyriwr dysgu o bell cymwys, pob myfyriwr rhan-amser cymwys a phob myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn credu bod arnynt ei hangen at ddibenion y Rheoliadau hyn.

2.  Rhaid i bob ceisydd, pob myfyriwr cymwys, pob myfyriwr dysgu o bell cymwys, pob myfyriwr rhan-amser cymwys a phob myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi gwybod ar unwaith i Weinidogion Cymru a rhoi’r manylion iddynt os bydd unrhyw rai o’r canlynol yn digwydd—

(a)y ceisydd neu fyfyriwr yn tynnu’n ôl o’i gwrs, yn cefnu arno neu’n cael ei ddiarddel oddi arno;

(b)y ceisydd neu fyfyriwr yn trosglwyddo i unrhyw gwrs arall yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad gwahanol;

(c)y ceisydd neu fyfyriwr yn rhoi’r gorau i ymgymryd â’i gwrs ac nad yw’n bwriadu parhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd neu nad yw’n cael caniatâd i barhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd;

(d)y ceisydd neu fyfyriwr yn absennol o’i gwrs am fwy na 60 diwrnod oherwydd salwch neu am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall;

(e)bod y mis ar gyfer dechrau ar y cwrs neu ei gwblhau yn newid;

(f)bod cyfeiriad neu rif ffôn gartref neu yn ystod y tymor, y ceisydd neu fyfyriwr, yn newid.

3.  Rhaid i’r wybodaeth a roddir i Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn fod yn y ffurf y gofynnir amdani gan Weinidogion Cymru ac, os ydynt yn gofyn bod yr wybodaeth yn cael ei llofnodi gan y person sy’n ei rhoi, caniateir i lofnod electronig ar unrhyw ffurf a bennir gan Weinidogion Cymru fodloni’r gofyniad hwnnw.

Rheoliad 59

ATODLEN 4BENTHYCIADAU AT FFIOEDD COLEG

Y benthyciadau at ffioedd coleg sydd ar gael

1.  Mae gan berson hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs cymhwysol yn unol â’r Atodlen hon.

2.  Mae gan berson hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg os yw’r person yn bodloni’r amodau canlynol—

(a)bod y person yn fyfyriwr cymwys na chafodd ei wahardd rhag bod â hawl gan baragraff 3;

(b)bod gan y person radd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig;

(c)bod y person yn cymryd cwrs cymhwysol a bod y person—

(i)yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ac y bydd y person yn parhau i ddilyn y cwrs ar ôl 31 Awst 2011; neu

(ii)yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2011;

(d)bod y person yn aelod o goleg neu neuadd breifat barhaol ym Mhrifysgol Rhydychen neu’n aelod o goleg ym Mhrifysgol Caergrawnt;

(e)bod y person o dan 60 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs cymhwysol; ac

(f)nad oes yr un o’r amgylchiadau yn rheoliad 4(3) yn gymwys i’r person.

3.  Nid oes gan fyfyriwr cymwys sy’n dod o fewn paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg o dan y Rheoliadau hyn os yw’n preswylio fel arfer yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

Myfyrwyr anabl

4.  Rhaid trin myfyriwr cymwys anabl sy’n ymgymryd â chwrs cymhwysol yn y Deyrnas Unedig, ond heb fod yn bresennol arno oherwydd na all fod yn bresennol am reswm sy’n ymwneud â’i anabledd, fel pe bai’n bresennol ar y cwrs cymhwysol at ddiben bod â hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg.

Myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd

5.  Os bydd un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraff 6 yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)caiff myfyriwr fod â hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg yn unol â’r Atodlen hon mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a

(b)nid oes benthyciad at ffioedd coleg ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

6.  Y digwyddiadau yw—

(a)bod y myfyriwr, neu briod, partner sifil neu riant (fel y’i diffinnir ym mharagraff 1 o Atodlen 1) y myfyriwr, yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd pan fo’r myfyriwr yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r wladwriaeth honno;

(c)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r UE;

(d)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;

(e)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(f)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1;

(g)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

7.  Mae benthyciad at ffioedd coleg ar gael mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd safonol ar y cwrs cymhwysol ac mewn perthynas ag un flwyddyn academaidd ar y cwrs cymhwysol nad yw’n flwyddyn academaidd safonol.

8.  Os caniateir i fyfyriwr cymhwysol astudio cynnwys un flwyddyn academaidd safonol o’r cwrs cymhwysol dros ddwy flwyddyn academaidd neu fwy, at ddiben penderfynu a oes gan y myfyriwr hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg ar gyfer y blynyddoedd hynny, ymdrinnir â’r gyntaf o’r cyfryw flynyddoedd o astudio fel blwyddyn academaidd safonol ac ymdrinnir â’r blynyddoedd canlynol o’r fath fel blynyddoedd academaidd nad ydynt yn flynyddoedd academaidd safonol.

9.  Yn yr Atodlen hon ystyr “blwyddyn academaidd safonol” (“standard academic year”) yw blwyddyn academaidd o’r cwrs cymhwysol y byddai person nad yw’n ailadrodd unrhyw ran o’r cwrs ac a fyddai’n dechrau ar y cwrs ar yr un pwynt â’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â hi.

Swm y benthyciad at ffioedd coleg

10.—(1Rhaid i swm y benthyciad at ffioedd coleg mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs cymhwysol beidio â bod yn fwy na swm sy’n hafal i’r ffioedd coleg sy’n daladwy gan y myfyriwr cymhwysol i’w goleg neu i’w neuadd breifat barhaol mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno.

(2Os yw’r myfyriwr cymhwysol wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd coleg sy’n llai na’r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o’i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na’r uchafswm sydd ar gael.

Trosglwyddo

11.  Er gwaethaf rheoliad 8, os bydd myfyriwr cymhwysol yn trosglwyddo o un cwrs cymhwysol i gwrs cymhwysol arall—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymhwysol i’r cwrs arall ar gais y myfyriwr cymhwysol oni bai bod y cyfnod cymhwystra wedi dod i ben;

(b)yn ddarostyngedig i is-baragraff (c) os yw’r myfyriwr cymhwysol yn trosglwyddo cyn diwedd y flwyddyn academaidd ar ôl gwneud cais am fenthyciad at ffioedd coleg, telir y swm y gwnaed cais amdano i’r coleg neu’r neuadd breifat barhaol berthnasol mewn perthynas â’r cwrs cymhwysol y mae’r myfyriwr cymhwysol yn trosglwyddo iddo, os bodlonir yr amodau ym mharagraff 12 ac os na fydd gan y myfyriwr cymhwysol hawl i gael benthyciad arall at ffioedd coleg mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno;

(c)os yw’r myfyriwr cymhwysol yn trosglwyddo ar ôl i’r benthyciad at ffioedd coleg gael ei dalu a chyn diwedd y flwyddyn academaidd, ni chaiff wneud cais am fenthyciad arall at ffioedd coleg mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs cymhwysol y mae’n trosglwyddo iddo.

Talu

12.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r benthyciad at ffioedd coleg y mae gan fyfyriwr cymhwysol hawl i’w gael i’r coleg neu’r neuadd breifat barhaol y mae’r myfyriwr yn atebol i wneud y taliad iddo neu iddi.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r benthyciad at ffioedd coleg mewn un cyfandaliad.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu’r benthyciad at ffioedd coleg—

(a)cyn eu bod wedi cael cais am daliad mewn ysgrifen, a ystyrir yn gais dilys gan Weinidogion Cymru, oddi wrth y coleg neu’r neuadd breifat barhaol; a

(b)cyn bod cyfnod o dri mis sy’n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd wedi dod i ben.

(4Mae’n ofynnol i goleg neu neuadd breifat barhaol anfon cadarnhad o bresenoldeb at Weinidogion Cymru ym mha bynnag ffurf fydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu’r benthyciad at ffioedd coleg mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd nes eu bod wedi cael cadarnhad o bresenoldeb gan y coleg neu’r neuadd breifat berthnasol, oni fyddant yn penderfynu, oherwydd amgylchiadau eithriadol, y byddai’n briodol gwneud taliad heb gael cadarnhad o bresenoldeb.

(6Yn y paragraff hwn mae i “cadarnhad o bresenoldeb” (“attendance confirmation”) yr un ystyr ag yn rheoliad 68.

(7Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu benthyciad at ffioedd coleg mewn perthynas â chwrs cymhwysol—

(a)os bydd y myfyriwr cymhwysol cyn i’r cyfnod o dri mis sy’n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd ddod i ben yn rhoi’r gorau i fynychu’r cwrs neu yn achos myfyriwr y bernir ei fod yn bresennol o dan baragraff 4, yn rhoi’r gorau i ymgymryd â’r cwrs; a

(b)os bydd y coleg neu’r neuadd breifat barhaol wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dechrau mynychu neu, yn ôl fel y digwydd, yn ymgymryd â’r cwrs yn y Deyrnas Unedig eto yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r ffioedd coleg yn daladwy ar ei chyfer neu o gwbl.

Amodau hawlogaeth i gael taliad o fenthyciad at ffioedd coleg

13.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn amod hawlogaeth i gael taliad o fenthyciad at ffioedd coleg bod yn rhaid i’r myfyriwr cymhwysol roi iddynt rif ei yswiriant gwladol yn y Deyrnas Unedig.

(2Os yw Gweinidogion Cymru wedi gosod amod o dan is-baragraff (1), rhaid iddynt beidio â gwneud unrhyw daliad o’r benthyciad i’r myfyriwr cymhwysol cyn eu bod wedi eu bodloni bod y myfyriwr cymhwysol wedi cydymffurfio â’r amod hwnnw.

(3Er gwaethaf is-baragraff (2), caiff Gweinidogion Cymru wneud taliad o fenthyciad i fyfyriwr cymhwysol os ydynt wedi eu bodloni oherwydd amgylchiadau eithriadol y byddai’n briodol gwneud taliad o’r fath heb fod y myfyriwr cymhwysol wedi cydymffurfio â’r amod a osodwyd o dan is-baragraff (1).

Gofynion gwybodaeth

14.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ofyn i fyfyriwr cymhwysol am wybodaeth y maent yn ystyried bod ei hangen i adennill benthyciad.

(2Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr cymhwysol ymrwymo i gytundeb i ad-dalu benthyciad drwy ddull penodol.

(3Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ofyn i fyfyriwr cymhwysol am gael gweld ei gerdyn adnabod cenedlaethol dilys, ei basbort dilys a ddyroddwyd gan y wladwriaeth y mae’n wladolyn ohoni neu ei dystysgrif geni.

(4Os bydd Gweinidogion Cymru wedi gofyn am wybodaeth o dan y rheoliad hwn, cânt ddal yn ôl unrhyw daliad o fenthyciad nes i’r person ddarparu’r hyn y gofynnwyd amdano neu roi esboniad boddhaol am beidio â chydymffurfio â’r cais.

(5Os bydd Gweinidogion Cymru wedi gofyn am gytundeb ynghylch y dull o dalu o dan y paragraff hwn, cânt ddal yn ôl unrhyw daliad o fenthyciad at ffioedd coleg nes i’r person ddarparu yr hyn y gofynnwyd amdano.

Gordaliadau

15.  Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad benthyciad at ffioedd coleg oddi wrth y coleg neu’r neuadd breifat barhaol.

Rheoliad 60

ATODLEN 5ASESIAD ARIANNOL

Diffiniadau

1.—(1Yn yr Atodlen hon—

(a)ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm person y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau’r Atodlen hon yn cael ei gyfrifiannu mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy’n gymwys iddo;

(b)mae i “incwm aelwyd”, “incwm yr aelwyd” ac “incwm sydd gan yr aelwyd”, (“household income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 3;

(c)mae i “myfyriwr cymwys annibynnol” (“independent eligible student”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 2;

(d)ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw un o Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd;

(e)ystyr “myfyriwr cymwys newydd” (“new eligible student”) yw myfyriwr cymwys sy’n dechrau ar gwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2004;

(f)ystyr “rhiant” (“parent”) yw rhiant naturiol neu fabwysiadol a dehonglir “plentyn” (“child”) yn unol â hynny;

(g)ystyr “myfyriwr sy’n rhiant” (“parent student”) yw myfyriwr cymwys sy’n rhiant i fyfyriwr cymwys;

(h)ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yw unrhyw un o’r canlynol—

(i)priod myfyriwr cymwys;

(ii)partner sifil myfyriwr cymwys;

(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai’n briod iddo os yw’r myfyriwr cymwys yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) a’i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai’n bartner sifil iddo os yw’r myfyriwr cymwys yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) a’i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(i)ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â rhiant myfyriwr cymwys yw unrhyw un o’r canlynol ac eithrio rhiant arall i’r myfyriwr cymwys—

(i)priod rhiant myfyriwr cymwys;

(ii)partner sifil rhiant myfyriwr cymwys;

(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai’n briod â’r rhiant;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai’n bartner sifil i’r rhiant;

(j)ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn berthnasol;

(k)ystyr “blwyddyn ariannol gynharach” (“prior financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol flaenorol;

(l)ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw’r flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i’w asesu mewn perthynas â hi;

(m)ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff 4 (yn achos myfyriwr cymwys), paragraff 5 (yn achos rhiant myfyriwr cymwys), paragraff 6 (yn achos partner myfyriwr cymwys) neu baragraff 7 (yn achos partner rhiant myfyriwr cymwys newydd) ac incwm y cyfeirir ato yn is-baragraff (2), sef incwm sy’n weddill ar ôl didynnu treth incwm; ac

(n)ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”), o ran paragraff 4, mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd y mae cais wedi ei wneud ar ei chyfer o dan reoliad 9 ac, o ran paragraff 5, mewn perthynas (yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) i (6) o baragraff 5) â’r flwyddyn ariannol gynharach, yw—

(i)cyfanswm yr incwm y mae person yn gorfod talu treth incwm arno fel y’i pennir yng Ngham 1 o’r cyfrifiad yn adran 23 o Ddeddf Treth Incwm 2007(97), ynghyd ag unrhyw daliadau a budd-daliadau eraill a grybwyllir yn adran 401(1) o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003(98) (gan anwybyddu adran 401(2) o’r Ddeddf honno), a gafwyd neu a driniwyd fel pe baent wedi eu cael gan berson, i’r graddau nad ydynt yn gydran o gyfanswm yr incwm y mae person yn gorfod talu treth incwm arno;

(ii)cyfanswm incwm person o bob ffynhonnell fel y’i pennir at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall sy’n gymwys i incwm y person; neu

(iii)os yw deddfwriaeth mwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gymwys i’r cyfnod, cyfanswm incwm person o bob ffynhonnell fel y’i pennir at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod cyfanswm incwm y person yn y cyfnod hwnnw ar ei fwyaf odani (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 5),

ac eithrio bod incwm, y cyfeirir ato yn is-baragraff (2) ac a dalwyd i barti arall, yn cael ei ddiystyru.

(2Yr incwm y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwn yw unrhyw fudd-daliadau o dan drefniant pensiwn yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Achosion Priodasol 1973(99) sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd adrannau 25B(4) a 25E(3) o’r Ddeddf honno(100) neu fudd-daliadau pensiwn o dan Ran 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004((101)sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd Rhannau 6 a 7 o’r Atodlen honno.

Myfyriwr cymwys annibynnol

2.—(1Mae myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys annibynnol ym mhob achos—

(a)pan fo’r myfyriwr cymwys yn 25 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol;

(b)pan fo’r myfyriwr cymwys yn briod neu mewn partneriaeth sifil cyn dechrau’r flwyddyn berthnasol, pa un a yw’r briodas neu’r bartneriaeth sifil yn dal yn bod neu beidio;

(c)pan nad oes gan y myfyriwr cymwys riant yn fyw;

(d)pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni na ellir dod o hyd i’r naill neu’r llall o rieni’r myfyriwr cymwys neu nad yw’n rhesymol ymarferol cysylltu â’r naill na’r llall ohonynt;

(e)pan nad yw’r myfyriwr cymwys wedi cyfathrebu â’r naill na’r llall o’i rieni am gyfnod o flwyddyn cyn dechrau’r flwyddyn berthnasol neu lle y gall, ym marn Gweinidogion Cymru, ddangos ar seiliau eraill ei fod wedi ymddieithrio oddi wrth ei rieni mewn ffordd lle nad oes modd cymodi;

(f)os bu’r myfyriwr cymwys dan ofal awdurdod lleol o fewn ystyr adran 22 o Ddeddf Plant 1989(102) a hynny drwy gydol unrhyw gyfnod o dri mis yn gorffen ar neu ar ôl y dyddiad y cyrhaeddodd 16 oed a chyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs (“y cyfnod perthnasol”) ar yr amod nad yw wedi bod mewn gwirionedd ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod perthnasol o dan ofal neu reolaeth ei rieni;

(g)os yw rhieni’r myfyriwr cymwys yn preswylio y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd a bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni naill ai—

(i)y byddai asesu incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at eu hincwm gweddilliol yn gosod y rhieni hynny mewn perygl; neu

(ii)na fyddai’n rhesymol ymarferol i’r rhieni hynny anfon unrhyw arian perthnasol i’r Deyrnas Unedig o ganlyniad i gyfrifo unrhyw gyfraniad o dan baragraff 8;

(h)pan fo paragraff 5(10) yn gymwys a lle mae’r rhiant y barnodd Gweinidogion Cymru mai’r rhiant hwnnw oedd y mwyaf priodol at ddibenion y paragraff hwnnw wedi marw (ni waeth a oedd gan y rhiant o dan sylw bartner neu beidio);

(i)pan ddechreuodd y myfyriwr cymwys ar y cwrs presennol cyn 1 Medi 2009 ac yntau’n aelod o urdd grefyddol sy’n preswylio yn un o dai’r urdd honno;

(j)pan fo’r myfyriwr cymwys yn gofalu am berson o dan 18 oed ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol; neu

(k)pan fo’r myfyriwr cymwys (“A” yn yr is-baragraff hwn) wedi cynnal ei hun o’i enillion am unrhyw gyfnod neu gyfnodau sy’n diweddu cyn blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod cyfanswm y cyfnodau hynny gyda’i gilydd heb fod yn llai na thair blynedd, ac at ddibenion yr is-baragraff rhaid trin A fel pe bai’n cynnal ei hun o’i enillion yn ystod unrhyw gyfnod—

(i)pan oedd A yn cymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi’r di-waith o dan unrhyw gynllun a oedd yn cael ei weithredu, ei noddi neu ei ariannu gan unrhyw un o awdurdodau neu asiantaethau’r wladwriaeth, boed cenedlaethol, rhanbarthol neu leol (“awdurdod perthnasol”);

(ii)pan oedd A yn cael budd-dal sy’n daladwy gan unrhyw awdurdod perthnasol mewn perthynas â pherson sydd ar gael i’w gyflogi ond sy’n ddi-waith;

(iii)pan oedd A ar gael i’w gyflogi a’i fod wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad ynglŷn â chofrestru a osodwyd gan awdurdod perthnasol fel un o amodau’r hawlogaeth i gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi neu ar gyfer derbyn y budd-dal hwnnw;

(iv)pan oedd gan A efrydiaeth y wladwriaeth(103) neu ddyfarniad tebyg; neu

(v)pan oedd A yn cael unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a oedd yn cael ei dalu gan unrhyw berson oherwydd anabledd sydd ganddo, neu oherwydd cyfyngder, anaf neu salwch.

(2Mae myfyriwr cymwys sy’n gymwys i fod yn fyfyriwr cymwys annibynnol o dan baragraff 2(1)(j) mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig yn cadw’r statws hwnnw tra pery’r cyfnod cymhwystra.

Incwm yr aelwyd

3.—(1Mae swm cyfraniad myfyriwr cymwys yn dibynnu ar incwm yr aelwyd.

(2Incwm yr aelwyd yw’r canlynol—

(a)yn achos myfyriwr cymwys nad yw’n fyfyriwr cymwys annibynnol, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys wedi ei agregu gydag incwm gweddilliol rhieni’r myfyriwr cymwys (yn ddarostyngedig i baragraff 5(10)) ac—

(i)yn achos myfyriwr cymwys newydd a ddechreuodd ar y cwrs dynodedig a bennir cyn 1 Medi 2005, incwm gweddilliol partner (ac eithrio partner o fewn ystyr paragraff 1(i)(iv)) rhiant y myfyriwr cymwys newydd (ar yr amod bod Gweinidogion Cymru wedi dewis y rhiant hwnnw o dan baragraff 5(10)); neu

(ii)yn achos myfyriwr cymwys newydd a ddechreuodd ar y cwrs dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005, incwm gweddilliol partner rhiant y myfyriwr cymwys newydd (ar yr amod bod Gweinidogion Cymru wedi dewis y rhiant hwnnw o dan baragraff 5(10));

(b)yn achos myfyriwr cymwys annibynnol y mae ganddo bartner, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys annibynnol wedi ei gyfuno gydag incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys annibynnol (yn ddarostyngedig i is-baragraff (4)); neu

(c)yn achos myfyriwr cymwys annibynnol nad oes ganddo bartner, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys annibynnol.

(3Wrth bennu incwm yr aelwyd o dan is-baragraff (2), mae’r swm o £1,130 yn cael ei ddidynnu—

(a)am bob plentyn sy’n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar y myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys; neu

(b)am bob plentyn ac eithrio’r myfyriwr cymwys sy’n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar riant y myfyriwr cymwys neu bartner rhiant y myfyriwr cymwys y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gymryd i ystyriaeth.

(4Er mwyn cyfrifo’r cyfraniad sy’n daladwy mewn perthynas â myfyriwr sy’n rhiant, rhaid i incwm gweddilliol partner y myfyriwr sy’n rhiant beidio â chael ei agregu o dan baragraff (b) o is-baragraff (2) yn achos myfyriwr sy’n rhiant y mae gan ei blentyn ef neu y mae gan blentyn ei bartner ddyfarniad y mae incwm yr aelwyd yn cael ei gyfrifo mewn perthynas ag ef gan gyfeirio at incwm gweddilliol y myfyriwr sy’n rhiant neu bartner y myfyriwr sy’n rhiant neu’r ddau.

Cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys

4.—(1At ddiben pennu incwm gweddilliol myfyriwr cymwys, didynnir o’i incwm trethadwy (oni bai ei fod wedi ei ddidynnu eisoes wrth bennu’r incwm trethadwy) gyfanswm unrhyw symiau sy’n dod o fewn unrhyw un o’r paragraffau canlynol—

(a)unrhyw dâl am waith a wnaed yn ystod unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs y myfyriwr cymwys, ar yr amod nad yw’r tâl hwnnw’n cynnwys unrhyw symiau a dalwyd mewn perthynas ag unrhyw gyfnod pan oedd ganddo ganiatâd i fod yn absennol neu pan oedd wedi ei ryddhau o’i ddyletswyddau arferol at ddiben bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw;

(b)swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a dalwyd gan y myfyriwr cymwys mewn perthynas â phensiwn (nad yw’n bensiwn sy’n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004(104), neu os yw incwm y myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm neu swm o’r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os byddai’r ddeddfwriaeth honno’n gwneud darpariaeth sy’n gyfatebol i’r Deddfau Treth Incwm.

(2Os paragraff 9 yw’r unig baragraff o Ran 2 o Atodlen 1 y mae myfyriwr cymwys yn dod odano ac os yw ei incwm yn codi o ffynonellau neu o dan ddeddfwriaeth sy’n wahanol i’r ffynonellau neu’r ddeddfwriaeth sydd fel rheol yn berthnasol i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1, nid yw incwm y myfyriwr cymwys yn cael ei ddiystyru yn unol ag is-baragraff (1) ond yn hytrach mae’n cael ei ddiystyru i’r graddau sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw’r myfyriwr cymwys yn cael ei drin yn llai ffafriol nag y câi person y cyfeirir ato yn unrhyw un o baragraffau Rhan 2 o Atodlen 1 ei drin o dan amgylchiadau tebyg pe bai ganddo incwm tebyg.

(3Os yw’r myfyriwr cymwys yn cael incwm mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, gwerth yr incwm hwnnw at ddiben y paragraff hwn yw—

(a)os yw’r myfyriwr cymwys yn prynu sterling â’r incwm, swm y sterling a gaiff y myfyriwr cymwys felly;

(b)fel arall, gwerth y sterling y byddai’r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio’r gyfradd a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol(105) ar gyfer y mis y ceir yr incwm ynddo.

Cyfrifo incwm gweddilliol y rhiant

5.—(1At ddibenion pennu incwm gweddilliol rhiant myfyriwr cymwys (“A” yn y paragraff hwn), didynnir o incwm trethadwy A gyfanswm unrhyw symiau sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r paragraffau a ganlyn (onis didynnwyd eisoes wrth bennu incwm trethadwy person)—

(a)swm gros unrhyw bremiwm neu swm sy’n ymwneud â phensiwn (nad yw’n bremiwm sy’n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu os yw’r incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm o’r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef pe bai’r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth sy’n gyfatebol i’r Deddfau Treth Incwm;

(b)mewn unrhyw achos pan fo incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion y Deddfau Treth Incwm yn rhinwedd is-baragraff (6) unrhyw symiau sy’n cyfateb i’r didyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (a) o’r is-baragraff hwn, ar yr amod nad yw unrhyw symiau a ddidynnir fel hyn yn fwy na’r didyniadau a fyddai’n cael eu gwneud pe bai’r cyfan o incwm A mewn gwirionedd yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm;

(c)pan fo A yn fyfyriwr sy’n rhiant neu pan fo gan A ddyfarniad statudol, £1,130.

(2Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol sy’n dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol” yn y paragraff hwn), yn debyg o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol gynharach, rhaid i Weinidogion Cymru, at ddiben galluogi’r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ddarganfod incwm gweddilliol A am y flwyddyn ariannol gyfredol.

(3Os digwydd bod is-baragraff (2) neu’r is-baragraff hwn wedi ei gymhwyso mewn perthynas â blwyddyn academaidd flaenorol y cwrs presennol, a bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol gyfredol yn debygol o fod yn ddim mwy nag 85 y cant o werth sterling incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru, at ddiben galluogi’r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, asesu incwm gweddilliol A am y flwyddyn ariannol gyfredol.

(4Mewn blwyddyn academaidd yn union ar ôl un y mae Gweinidogion Cymru wedi canfod ynddi incwm gweddilliol A o dan is-baragraff (2), neu, pan fo’n gymwys, o dan is-baragraff (3), a bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol gyfredol yn debygol o beidio â bod yn fwy nag 85 y cant o werth sterling incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru ganfod incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol flaenorol.

(5Os yw A’n bodloni Gweinidogion Cymru fod incwm A yn deillio’n gyfan gwbl neu’n bennaf o elw busnes neu broffesiwn a gynhelir gan A, yna mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at flwyddyn ariannol gynharach yn gyfeiriad at y cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy’n diweddu ar ôl dechrau’r flwyddyn ariannol gynharach ac y cedwir cyfrifon mewn perthynas ag ef ynglŷn â’r busnes neu’r proffesiwn hwnnw.

(6Os yw A’n derbyn unrhyw incwm nad yw’n ffurfio rhan o incwm A at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, am yr unig reswm—

(a)nad yw A’n preswylio neu wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu, os cyfrifiennir incwm A fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, nad yw’n preswylio neu wedi ymgartrefu felly yn yr Aelod-wladwriaeth honno;

(b)nad yw’r incwm yn codi yn y Deyrnas Unedig, neu, os cyfrifiennir incwm A fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, nad yw’n codi yn yr Aelod-wladwriaeth honno; neu

(c)bod yr incwm yn codi o swydd, gwasanaeth neu gyflogaeth y mae’r incwm ohoni neu ohono yn esempt rhag treth yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth,

mae incwm trethadwy A at ddibenion yr Atodlen hon yn cael ei gyfrifiannu fel pe bai’r incwm o dan yr is-baragraff hwn yn rhan o incwm A at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, yn ôl fel y digwydd.

(7Os cyfrifiennir incwm A fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, rhaid ei gyfrifiannu o dan ddarpariaethau’r Atodlen hon yn arian cyfredol yr Aelod-wladwriaeth honno, ac incwm A at ddibenion yr Atodlen hon fydd gwerth sterling yr incwm hwnnw wedi ei bennu yn unol â’r gyfradd ar gyfer y mis y mae diwrnod olaf y flwyddyn ariannol o dan sylw yn digwydd ynddo, fel y’i cyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

(8Os bydd farw un o rieni’r myfyriwr cymwys naill ai cyn neu yn ystod y flwyddyn berthnasol a bod incwm y rhiant hwnnw wedi ei gymryd i ystyriaeth at ddiben pennu incwm yr aelwyd neu y byddai wedi ei gymryd i ystyriaeth felly, mae incwm yr aelwyd—

(a)os yw’r rhiant yn marw cyn y flwyddyn berthnasol, yn cael ei bennu drwy gyfeirio at incwm y rhiant sydd wedi goroesi; neu

(b)os yw’r rhiant yn marw yn ystod y flwyddyn berthnasol, yn gyfanswm y canlynol—

(i)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir drwy gyfeirio at incwm y ddau riant, sef y gyfran mewn perthynas â’r rhan honno o’r flwyddyn berthnasol pan oedd y ddau riant yn fyw; a

(ii)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir dryw gyfeirio at incwm y rhiant sydd wedi goroesi, sef y gyfran mewn perthynas â’r rhan honno o’r flwyddyn berthnasol sy’n weddill ar ôl i’r rhiant arall farw.

(9Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y rhieni wedi gwahanu drwy gydol y flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd yn cael ei bennu drwy gyfeirio at incwm pa un bynnag o’r rhieni y mae Gweinidogion Cymru yn credu mai ef yw’r mwyaf priodol o dan yr amgylchiadau.

(10Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y rhieni’n gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd yn cael ei bennu drwy gyfeirio at gyfanswm y canlynol—

(a)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir yn unol ag is-baragraff (9), sef y gyfran mewn perthynas â’r rhan honno o’r flwyddyn berthnasol pan fydd y rhieni ar wahân; a

(b)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir fel arall mewn perthynas â gweddill y flwyddyn berthnasol.

Cyfrifo incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys

6.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2), (3) a (4) o’r paragraff hwn, mae incwm partner myfyriwr cymwys yn cael ei bennu yn unol â pharagraff 5 (a chan eithrio is-baragraffau (9), (10) ac (11) o baragraff 5), gan ddehongli cyfeiriadau at y rhiant fel pe baent yn gyfeiriadau at bartner y myfyriwr cymwys.

(2Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr cymwys a’i bartner wedi gwahanu drwy gydol y flwyddyn berthnasol, nid yw incwm y partner yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth bennu incwm yr aelwyd.

(3Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr cymwys a phartner y myfyriwr cymwys wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, pennir incwm y partner drwy gyfeirio at ei incwm o dan is-baragraff (1) wedi ei rannu â hanner cant a dau a’i luosi â’r nifer o wythnosau cyflawn yn y flwyddyn berthnasol y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr cymwys a’i bartner heb wahanu.

(4Os oes gan fyfyriwr cymwys fwy nag un partner mewn unrhyw un flwyddyn academaidd, mae darpariaethau’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob un.

Cyfrifo incwm gweddilliol partner rhiant

7.  Mae incwm partner rhiant myfyriwr cymwys newydd y mae ei incwm yn rhan o incwm yr aelwyd yn rhinwedd paragraff 3(2)(a) yn cael ei bennu yn unol â pharagraff 6, gan ddehongli cyfeiriadau at bartner y myfyriwr cymwys fel pe baent yn gyfeiriadau at bartner rhiant y myfyriwr cymwys newydd, a chan ddehongli cyfeiriadau at y myfyriwr cymwys fel pe baent yn gyfeiriadau at riant y myfyriwr cymwys newydd.

Cyfrifo cyfraniad – myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd

8.—(1Pan fo’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd a phan nad yw’n fyfyriwr carfan newydd, y cyfraniad sy’n daladwy yw—

(a)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy na £39,778, £1 am bob £8.97 o incwm yr aelwyd sydd uwchlaw £39,778; a

(b)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £39,778 neu lai, dim.

(2Pan fo’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac yn fyfyriwr carfan 2010 neu’n fyfyriwr carfan 2012, y cyfraniad sy’n daladwy yw—

(a)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy na £50,753, £1 am bob £5 o incwm yr aelwyd sydd uwchlaw £50,753; a

(b)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £50,753 neu lai, dim.

(3Pan fo’r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac yn fyfyriwr carfan 2011, y cyfraniad sy’n daladwy yw—

(a)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy na £50,448, £1 am bob £5 o incwm yr aelwyd sydd uwchlaw £50,448; a

(b)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £50,448 neu lai, dim.

(4Rhaid i’r cyfraniad mewn unrhyw achos beidio â bod yn fwy na £6,208.

(5Caniateir addasu’r cyfraniad yn unol â pharagraff 9.

(6Pan fo is-baragraff (7) yn gymwys, rhaid i swm cyfanredol y cyfraniadau beidio â bod yn fwy na £6,208.

(7Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)os bydd cyfraniad yn daladwy mewn perthynas â dau neu ragor o fyfyrwyr cymwys mewn cysylltiad â’r un incwm o dan baragraff 5 neu, pan fo incwm gweddilliol partner y rhiant perthnasol yn cael ei ystyried, o dan baragraffau 5 a 7; neu

(b)os incwm gweddilliol myfyriwr cymwys annibynnol a’i bartner yw incwm yr aelwyd a bod gan y ddau ddyfarniad statudol.

Cyfraniadau hollt

9.  Pan fo’r un incwm aelwyd yn cael ei ddefnyddio i asesu swm y dyfarniad statudol y mae gan ddau neu fwy o bersonau hawl i’w gael, rhennir y cyfraniad sy’n daladwy mewn perthynas â’r myfyriwr cymwys â nifer y personau hynny.

Rheoliad 101

ATODLEN 6ASESIAD ARIANNOL — GRANTIAU RHAN-AMSER AR GYFER DIBYNYDDION

Diffiniadau

1.—(1Yn yr Atodlen hon—

(a)ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm person, y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau’r Atodlen hon, yn cael ei gyfrifiannu mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy’n gymwys iddo;

(b)mae i “incwm aelwyd”, “incwm yr aelwyd” ac “incwm sydd gan yr aelwyd” (“household income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 2;

(c)ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw un o Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd;

(d)ystyr “rhiant” (“parent”) yw rhiant naturiol neu fabwysiadol a dehonglir “plentyn” (“child”) yn unol â hynny;

(e)ystyr “myfyriwr sy’n rhiant” (“parent student”) yw myfyriwr rhan-amser cymwys sy’n rhiant i fyfyriwr cymwys;

(f)ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys yw unrhyw un o’r canlynol—

(i)priod myfyriwr rhan-amser cymwys;

(ii)partner sifil myfyriwr rhan-amser cymwys;

(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai’r person yn briod i’r myfyriwr rhan-amser cymwys, pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn 25 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol ac yn dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai’r person yn bartner sifil i’r myfyriwr rhan-amser cymwys, pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn 25 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol ac yn dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(g)ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn berthnasol;

(h)ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw’r flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i’w asesu mewn perthynas â hi;

(i)ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff 3 (yn achos myfyriwr rhan-amser cymwys) neu baragraff 4 (yn achos partner myfyriwr rhan-amser cymwys) a’r incwm y cyfeirir ato yn is-baragraff (2) a hwnnw’n incwm a gafwyd ar ôl didynnu treth incwm; a

(j)ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”), o ran paragraff 3, mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd y mae cais wedi ei wneud ar ei chyfer o dan reoliad 104 ac, o ran paragraff 4, mewn perthynas (yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3), (4) a (5) o baragraff 4) â’r flwyddyn ariannol flaenorol, yw—

(i)cyfanswm yr incwm y mae person yn gorfod talu treth incwm arno fel y’i pennir yng Ngham 1 o’r cyfrifiad yn adran 23 o Ddeddf Treth Incwm 2007(106), ynghyd ag unrhyw daliadau a budd-daliadau eraill a grybwyllir yn adran 401(1) o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003(107) (gan anwybyddu adran 401(2) o’r Ddeddf honno), a gafwyd neu a driniwyd fel pe baent wedi eu cael gan berson, i’r graddau nad ydynt yn gydran o gyfanswm yr incwm y mae person yn gorfod talu treth incwm arno;

(ii)cyfanswm incwm person o bob ffynhonnell fel y’i pennir at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall sy’n gymwys i incwm y person; neu

(iii)os yw deddfwriaeth mwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gymwys i’r cyfnod, cyfanswm incwm person o bob ffynhonnell fel y’i pennir at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod cyfanswm incwm y person yn y cyfnod hwnnw ar ei fwyaf odani (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 4),

ac eithrio bod incwm y cyfeirir ato yn is-baragraff (2) ac a dalwyd i barti arall yn cael ei ddiystyru.

(2Yr incwm y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwn yw unrhyw fudd-daliadau o dan drefniant pensiwn yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Achosion Priodasol 1973 sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd adrannau 25B(4) a 25E(3) o’r Ddeddf honno neu fudd-daliadau pensiwn o dan Ran 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd Rhannau 6 a 7 o’r Atodlen honno.

Incwm yr aelwyd

2.—(1Mae swm cyfraniad myfyriwr rhan-amser cymwys yn dibynnu ar incwm yr aelwyd.

(2Incwm yr aelwyd—

(a)yn achos myfyriwr rhan-amser cymwys a chanddo bartner, yw incwm gweddilliol y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi ei gyfuno gydag incwm gweddilliol partner y myfyriwr rhan-amser cymwys (yn ddarostyngedig i is-baragraff (4)); neu

(b)yn achos myfyriwr rhan-amser cymwys nad oes ganddo bartner, incwm gweddilliol y myfyriwr rhan-amser cymwys.

(3Wrth bennu incwm yr aelwyd o dan is-baragraff (2), mae’r swm o £1,130 yn cael ei ddidynnu am bob plentyn sy’n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar y myfyriwr rhan-amser cymwys neu bartner y myfyriwr hwnnw.

(4At ddiben cyfrifo’r cyfraniad sy’n daladwy mewn perthynas â myfyriwr sy’n rhiant, rhaid i incwm gweddilliol partner y myfyriwr sy’n rhiant beidio â chael ei agregu o dan baragraff (a) o is-baragraff (2) yn achos myfyriwr sy’n rhiant ac y mae gan ei blentyn ef neu blentyn ei bartner sy’n fyfyriwr cymwys ddyfarniad y mae incwm yr aelwyd yn cael ei gyfrifo mewn perthynas ag ef gan gyfeirio at incwm gweddilliol y myfyriwr sy’n rhiant neu bartner y myfyriwr sy’n rhiant neu’r ddau.

Cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr rhan-amser cymwys

3.—(1Er mwyn pennu incwm gweddilliol myfyriwr rhan-amser cymwys, didynnir o’i incwm trethadwy (oni bai ei fod wedi ei ddidynnu eisoes wrth bennu’r incwm trethadwy) swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall sy’n daladwy o dan bolisi a dalwyd gan y myfyriwr rhan-amser cymwys mewn perthynas â phensiwn (nad yw’n bensiwn sy’n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004(108), neu pan gyfrifiennir incwm y myfyriwr rhan-amser cymwys at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, cyfanswm gros unrhyw bremiwm neu swm o’r fath y byddai rhyddhad drosto yn cael ei roi petai’r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth gyfatebol i ddarpariaeth y Deddfau Treth Incwm.

(2Os paragraff 9 yw’r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod odano ac os yw ei incwm yn codi o ffynonellau neu o dan ddeddfwriaeth sy’n wahanol i’r ffynonellau neu’r ddeddfwriaeth sydd fel rheol yn berthnasol i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1, ni ddiystyrir incwm y myfyriwr rhan-amser cymwys yn unol ag is-baragraff (1) ond yn hytrach diystyrir ei incwm i’r graddau sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw’n cael ei drin yn llai ffafriol nag y câi person y cyfeirir ato yn unrhyw un o baragraffau Rhan 2 o Atodlen 1 ei drin o dan amgylchiadau tebyg pe bai ganddo incwm tebyg.

(3Pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn cael incwm mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, gwerth yr incwm hwnnw at ddiben y paragraff hwn yw—

(a)os yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn prynu sterling â’r incwm, swm y sterling a gaiff y myfyriwr rhan-amser cymwys fel hyn;

(b)fel arall, gwerth y sterling y byddai’r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio’r gyfradd ar gyfer y mis y daeth i law, sef cyfradd a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol(109).

Cyfrifo incwm gweddilliol partner myfyriwr rhan-amser cymwys

4.—(1Er mwyn pennu incwm trethadwy partner (“A” yn y paragraff hwn) myfyriwr rhan-amser cymwys, rhaid i unrhyw ddidyniadau sydd i’w gwneud neu unrhyw esemptiadau a ganiateir—

(a)ar ffurf y rhyddhad personol y darperir ar ei gyfer ym Mhennod 1 o Ran VII o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu, os yw’r incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, unrhyw ryddhad personol cyffelyb;

(b)yn unol ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol nad yw taliadau a fyddai fel arall yn cael eu trin o dan gyfraith y Deyrnas Unedig fel rhan o incwm y person yn cael eu trin felly odano neu odani; neu

(c)o dan is-baragraff (2),

beidio â chael eu gwneud na’u caniatáu.

(2Er mwyn pennu incwm gweddilliol A, didynnir o’r incwm trethadwy a bennir o dan is-baragraff (1) swm cyfanredol unrhyw symiau sy’n dod o fewn unrhyw rai o’r paragraffau canlynol—

(a)swm gros unrhyw bremiwm neu swm sy’n ymwneud â phensiwn (nad yw’n bremiwm sy’n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu os yw’r incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm o’r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os oedd y ddeddfwriaeth honno’n gwneud darpariaeth sy’n gyfatebol i’r Deddfau Treth Incwm;

(b)mewn unrhyw achos lle mae incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion y Deddfau Treth Incwm yn rhinwedd is-baragraff (6) unrhyw symiau sy’n cyfateb i’r didyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (a) o’r is-baragraff hwn, ar yr amod nad yw unrhyw symiau a ddidynnir fel hyn yn fwy na’r didyniadau a fyddai’n cael eu gwneud pe bai’r cyfan o incwm A mewn gwirionedd yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm.

(3Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol sy’n dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol”) yn debyg o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling incwm A yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru, at ddiben galluogi’r myfyriwr rhan-amser cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ganfod incwm gweddilliol A am y flwyddyn ariannol gyfredol.

(4Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol A mewn unrhyw flwyddyn ariannol, o ganlyniad i unrhyw ddigwyddiad, yn debyg o beidio â bod, ac o barhau ar ôl y flwyddyn honno i beidio â bod, yn fwy na 85 y cant o werth sterling incwm gweddilliol A yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru, at ddiben galluogi’r myfyriwr rhan-amser cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ganfod incwm yr aelwyd am y flwyddyn academaidd o’i gwrs y digwyddodd y digwyddiad hwnnw ynddi, drwy gymryd mai incwm gweddilliol A yw cyfartaledd incwm gweddilliol A am bob un o’r blynyddoedd ariannol y mae’r flwyddyn academaidd honno’n digwydd ynddynt.

(5Os yw A yn bodloni Gweinidogion Cymru bod ei incwm yn deillio’n gyfan gwbl neu’n bennaf o elw busnes neu broffesiwn a gynhelir gan A, yna mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at flwyddyn ariannol gynharach yn gyfeiriad at y cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy’n diweddu ar ôl dechrau’r flwyddyn ariannol gynharach ac y cedwir cyfrifon mewn perthynas ag ef ynglŷn â’r busnes neu’r proffesiwn hwnnw.

(6Os yw A’n derbyn unrhyw incwm nad yw’n ffurfio rhan o incwm A at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, am yr unig reswm—

(a)nad yw A’n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu, os cyfrifiennir incwm A fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, nad yw’n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu felly yn yr Aelod-wladwriaeth honno;

(b)nad yw’r incwm yn codi yn y Deyrnas Unedig, neu, os cyfrifiennir incwm A fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, nad yw’n codi yn yr Aelod-wladwriaeth honno; neu

(c)bod yr incwm yn codi o swydd, gwasanaeth neu gyflogaeth y mae’r incwm ohoni neu ohono yn esempt rhag treth yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth,

mae incwm trethadwy A at ddibenion yr Atodlen hon yn cael ei gyfrifiannu fel pe bai’r incwm o dan yr is-baragraff hwn yn rhan o incwm A at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, yn ôl fel y digwydd.

(7Os cyfrifiennir incwm A fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, rhaid ei gyfrifiannu o dan ddarpariaethau’r Atodlen hon mewn arian cyfredol yr Aelod-wladwriaeth honno, ac incwm A at ddibenion yr Atodlen hon fydd gwerth sterling yr incwm hwnnw wedi ei bennu yn unol â’r gyfradd ar gyfer y mis y mae diwrnod olaf y flwyddyn ariannol o dan sylw yn digwydd ynddo, fel y’i cyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

(8Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr rhan-amser cymwys a phartner y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi gwahanu drwy gydol y flwyddyn berthnasol, ni chymerir incwm y partner i ystyriaeth wrth bennu incwm yr aelwyd.

(9Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr rhan-amser cymwys a phartner y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, pennir incwm y partner drwy gyfeirio at incwm y partner o dan is-baragraff (1), ei rannu â hanner cant a dau a’i luosi â nifer yr wythnosau cyflawn yn y flwyddyn berthnasol pan nad oedd y myfyriwr rhan-amser cymwys a’i bartner, yn ôl penderfyniad Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu.

(10Os oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys fwy nag un partner mewn unrhyw un flwyddyn academaidd, mae darpariaethau’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob un.

Cyfrifo’r cyfraniad

5.—(1Mae’r cyfraniad sy’n daladwy mewn perthynas â myfyriwr cymwys fel a ganlyn—

(a)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy na £39,793, £1 am bob £9.27 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £39,793; a

(b)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £39,793 neu lai, dim.

(2Rhaid i’r cyfraniad mewn unrhyw achos beidio â bod yn fwy na £6,208.

(3Caniateir i’r cyfraniad gael ei addasu’n unol â pharagraff 6.

(4Pan fo is-baragraff (5) yn gymwys, rhaid i gyfanswm y cyfraniadau beidio â bod yn fwy na £6,208.

(5Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys os cyfansoddir incwm yr aelwyd o incwm gweddilliol myfyriwr rhan-amser cymwys ac incwm gweddilliol partner y myfyriwr rhan-amser cymwys, a bod gan y ddau ddyfarniad statudol.

Cyfraniadau hollt

6.  Os defnyddir yr un incwm aelwyd i asesu swm dyfarniad statudol y mae gan ddau neu ragor o bersonau hawl i’w gael, rhennir y cyfraniad sy’n daladwy mewn perthynas â’r myfyriwr rhan-amser cymwys â’r nifer hwnnw o bersonau.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig mewn perthynas â blynyddoedd academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2015. Maent yn cydgrynhoi, gyda rhai newidiadau, Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2013 (“Rheoliadau 2013”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau 2013 yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rheoliad 3 a esbonnir isod. Bydd Rheoliadau 2013 yn parhau i fod yn gymwys i’r ddarpariaeth o gymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2014 ond cyn 1 Medi 2015. Nodir graddau’r dirymu yn rheoliad 3. Amlygir isod y newidiadau o ran sylwedd a wneir yn y Rheoliadau hyn.

I fod â’r hawl i gael cymorth ariannol, rhaid i fyfyriwr fod yn “fyfyriwr cymwys”. Yn fras, mae person yn fyfyriwr llawnamser cymwys os yw’r person hwnnw’n dod o fewn un o’r categorïau a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 1 a hefyd yn bodloni’r darpariaethau cymhwystra yn Rhan 2 o’r Rheoliadau (mae darpariaethau cymhwystra ar wahân yn gymwys i fyfyrwyr sy’n ymgymryd â chyrsiau dysgu o bell, rhan-amser ac ôl-radd, a chyfeirir atynt yn Rhannau 11 i 13 o’r Rheoliadau).

Mae’r Rheoliadau yn gymwys i fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, ble bynnag y bônt yn astudio ar gwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig. At ddibenion y Rheoliadau hyn, bernir bod person sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, o ganlyniad i symud o unrhyw un o’r ardaloedd hyn at ddiben ymgymryd â chwrs dynodedig, yn preswylio fel arfer yn y lle y symudodd ohono (Atodlen 1, paragraff 1(3)). Rhaid i fyfyriwr cymwys fodloni hefyd unrhyw ofynion a bennir mewn mannau eraill yn y Rheoliadau; yn enwedig y gofynion penodol sy’n gymwys i bob math o gymorth ariannol.

Ar gyfer cyrsiau “dynodedig” o fewn ystyr rheoliadau 5, 71, 88, 174 ac Atodlen 2, yn unig, y mae cymorth ar gael o dan y Rheoliadau.

Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn fyfyriwr cymwys a ddechreuodd ei gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ac yn parhau ar y cwrs hwnnw ar ôl 31 Awst 2015, neu sy’n dechrau ei gwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2015. Mae’r grantiau a’r benthyciadau canlynol ar gael i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd, yn ddarostyngedig i’r amodau a ragnodir yn y rheoliadau perthnasol―

Roedd Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2009 wedi cyflwyno dau is-gategori newydd o fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, sef “myfyriwr carfan 2010” a “myfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010”. Roedd Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2011 wedi cyflwyno dau is-gategori ychwanegol newydd o fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, sef “myfyriwr carfan 2011” a “myfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2011”. Yna cyflwynodd Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu’r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2011 un categori ychwanegol newydd o fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, sef myfyriwr carfan 2012. Myfyriwr carfan 2012 yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n dechrau ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2012 a bydd y darpariaethau perthnasol yn parhau i fod yn gymwys i fyfyrwyr sy’n dechrau ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2015. Mae’r diffiniad o fyfyriwr carfan 2012 yn rheoliad 2(1) hefyd yn darparu nad yw categorïau penodol o fyfyrwyr yn cael eu dosbarthu fel myfyrwyr carfan 2012. Mae’r term “myfyriwr carfan newydd” (“new cohort student”) yn rheoliad 2(1) hefyd yn disgrifio’n gyfunol fyfyrwyr carfan 2010, myfyrwyr carfan 2011 a myfyrwyr carfan 2012.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn ymwneud â chymhwystra.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer ceisiadau am gymorth (rheoliad 9), terfynau amser ar gyfer ceisiadau (rheoliad 10) ac y mae rheoliad 11 ac Atodlen 3 yn pennu’r wybodaeth y mae’n rhaid i geiswyr ei darparu.

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth at ffioedd, ar ffurf grantiau at ffioedd a benthyciadau at ffioedd.

Mae rheoliad 17 yn darparu ar gyfer talu grant newydd at ffioedd i fyfyrwyr carfan 2012. Mae rheoliad 19 yn darparu ar gyfer talu benthyciadau at ffioedd i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd nad oes hawl ganddynt i gael grant at ffioedd. Mae myfyriwr carfan newydd (ar wahân i fyfyriwr carfan 2012) yn dod o fewn y categori hwnnw. Mae rheoliad 20 yn darparu ar gyfer talu benthyciadau at ffioedd i fyfyrwyr sydd â hawl i gael grant at ffioedd o dan reoliad 16. Ni fydd talu benthyciadau at ffioedd o dan reoliadau 19 ac 20 yn gymwys ond mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Medi 2012.

Mae’r benthyciadau at ffioedd sydd ar gael mewn cysylltiad â chyrsiau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012 wedi eu nodi yn rheoliadau 21 i 23. Mae rheoliad 21 yn darparu ar gyfer talu benthyciad newydd at ffioedd i fyfyrwyr carfan 2012 sy’n ymgymryd â chyrsiau mewn sefydliadau a gaiff eu hariannu’n gyhoeddus. Mae rheoliad 22 yn darparu ar gyfer talu benthyciad newydd at ffioedd i sefydliad preifat i fyfyrwyr carfan 2012 sy’n ymgymryd â chyrsiau mewn sefydliadau preifat. Yn olaf, mae rheoliad 23 yn darparu ar gyfer talu benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam i fyfyrwyr sy’n dechrau ar gyrsiau mynediad graddedig carlam ar neu ar ôl 1 Medi 2012.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu ar gyfer lefelau newydd o gymorth at ffioedd i fyfyrwyr carfan 2012 penodol sy’n ymgymryd â blwyddyn o astudio dramor neu leoliad gwaith fel rhan o gwrs dynodedig. Mae hyn yn cynnwys myfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliad gwaith neu flwyddyn o astudio dramor fel rhan o gwrs rhyngosod neu flwyddyn Erasmus. Mae’r cymorth perthnasol wedi ei nodi yn rheoliadau 17, 21 a 22 ac mae newid cysylltiedig wedi ei wneud i’r diffiniad o “Blwyddyn Erasmus” yn rheoliad 2(1).

Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer grantiau at gostau byw, sy’n cynnwys grantiau at deithio, i gategorïau penodol o fyfyrwyr cymwys.

Mae’n darparu y bydd swm y grant cynhaliaeth neu’r grant cymorth arbennig sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn amrywio yn ôl pa un a yw’r myfyriwr yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd nad yw’n fyfyriwr carfan newydd (rheoliadau 37 ac 41); yn fyfyriwr carfan 2010 ac yn fyfyriwr carfan 2012 (rheoliadau 38 a 42); neu’n fyfyriwr carfan 2011 (rheoliadau 39 a 43).

Mae rheoliad 28 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y grant gofal plant sy’n daladwy mewn perthynas â chostau gofal plant yr ysgwyddir mewn perthynas â phlant sy’n ddibynnol ar fyfyriwr cymwys, gan gynnwys plant a enir ar ôl i’r flwyddyn academaidd ddechrau. Mae’r rheoliad hwn bellach hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyfyngu ar swm y grant gofal plant sy’n daladwy pan na fo myfyriwr cymwys yn cyflwyno manylion y darparwr gofal plant.

Mae rheoliadau 26 i 31 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y grantiau i ddibynyddion. Mae rheoliad 30 yn darparu y cymerir i ystyriaeth incwm gweddilliol unrhyw bartner neu ddibynnydd mewn oed yn y flwyddyn ariannol gynharach ac incwm net unrhyw blentyn dibynnol yn y flwyddyn ariannol gynharach wrth gyfrifo swm unrhyw grantiau i ddibynyddion. Fodd bynnag, pan fo incwm dibynnydd am y flwyddyn ariannol gyfredol yn debygol o fod 15 y cant yn llai na’i incwm yn y flwyddyn ariannol gynharach, caiff Gweinidogion Cymru asesu incwm y dibynnydd ar sail y flwyddyn ariannol gyfredol. Mae rheoliad 31 yn darparu diffiniadau o “blwyddyn ariannol gyfredol”, “blwyddyn ariannol gynharach”, “dibynnydd”, “incwm gweddilliol” ac “incwm net” at y dibenion hyn. Mae darpariaeth gyfatebol wedi ei gwneud mewn perthynas â grantiau rhan-amser i ddibynyddion yn Rhan 12 o’r Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer benthyciadau at gostau byw.

Gall swm y benthyciad sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd amrywio yn ôl pa un a yw’r myfyriwr yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd nad yw’n fyfyriwr carfan newydd (rheoliad 46); yn fyfyriwr carfan 2010, yn fyfyriwr carfan 2012 neu’n fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 sy’n ymgymryd â’i flwyddyn gyntaf o astudio (rheoliad 48); neu’n fyfyriwr carfan 2011 (rheoliad 49).

Mae Rhan 7 yn nodi darpariaethau cyffredinol ynglŷn â benthyciadau a wneir o dan y Rheoliadau.

Mae Rhan 8 ac Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer “benthyciadau at ffioedd coleg”. Benthyciadau yw’r rhain mewn perthynas â’r ffioedd coleg sy’n daladwy gan fyfyriwr cymhwysol i goleg neu neuadd breifat barhaol ym Mhrifysgol Rhydychen neu i un o golegau Prifysgol Caergrawnt mewn perthynas â phresenoldeb myfyriwr cymhwysol ar gwrs cymhwysol.

Mae Rhan 9 ac Atodlen 5 yn parhau i ddarparu ar gyfer prawf modd i fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau llawnamser dynodedig. Cyfrifir y cyfraniad a fynnir gan y myfyriwr ar sail incwm yr aelwyd. Mae’r cyfraniad i’w gymhwyso at grantiau a benthyciadau penodedig hyd nes y’i dihysbyddir yn erbyn swm y grantiau a’r benthyciadau penodol y mae hawl gan y myfyriwr i’w cael.

Mae Rhan 10 yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu grantiau a benthyciadau.

Mae Rhan 11 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cymorth i fyfyrwyr sy’n ymgymryd â chyrsiau dysgu o bell dynodedig.

Mae Rhan 12 ac Atodlen 6 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chymorth ar gyfer cyrsiau rhan-amser. Mae rheoliad 91 yn gwneud darpariaeth ar gyfer benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser sydd ar gael i fyfyrwyr rhan-amser cymwys sy’n dechrau ar gyrsiau rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2014. Bydd lefel y benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser yn amrywio yn ôl pa un a ddarperir y cwrs rhan-amser dynodedig gan sefydliad yng Nghymru neu sefydliad yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Bydd lefel y benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser hefyd yn amrywio yn ôl pa un a ddarperir y cwrs rhan-amser dynodedig gan sefydliad a ariennir yn gyhoeddus neu sefydliad preifat yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Bydd y benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser ar gael i fyfyrwyr rhan-amser cymwys newydd sy’n astudio ar gyrsiau rhan-amser dynodedig sydd â dwysedd astudio o dros 25 y cant.

Mae rheoliad 92 yn gwneud darpariaeth ar gyfer grant newydd at gyrsiau rhan-amser, sy’n dibynnu ar brawf modd, ac sydd ar gael i fyfyrwyr rhan-amser cymwys sy’n dechrau ar gyrsiau rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2014. Bydd y grant newydd at gyrsiau rhan-amser ar gael i fyfyrwyr rhan-amser cymwys sy’n astudio ar gyrsiau rhan-amser dynodedig sydd â dwysedd astudio o dros 50 y cant.

Mae Rhan 13 yn gwneud darpariaeth ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig sydd ag anableddau.

Mae rheoliadau 25, 28, 33, 36, 40, 76, 93 a 122 yn gwneud darpariaeth (yn rhannol) ar gyfer myfyrwyr a ddaw’n gymwys i gael mathau penodol o gymorth ran o’r ffordd drwy flwyddyn academaidd. Maent yn darparu mai dim ond mewn perthynas â’r chwarteri academaidd yn dilyn y digwyddiad sy’n sbarduno eu cymhwystra y bydd gan y myfyrwyr hynny hawl i gael y cymorth perthnasol bellach.

Mae Rhan 14 yn gwneud diwygiadau i Reoliadau 2013 mewn perthynas â “cyrsiau blwyddyn gyntaf gywasgedig”. Cyrsiau yw’r rhain yr ymgymerir â’u blwyddyn gyntaf o astudio ar sail gywasgedig. Mae’r diffiniad o “blwyddyn academaidd” hefyd wedi ei ddiwygio at y diben hwn.

(1)

1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147, Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7, Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 257, Deddf Addysg 2011 (p. 21), adran 76 ac O.S. 2013/1881. Gweler adran 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 am y diffiniad o “prescribed” a “regulations”.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (ac eithrio i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud unrhyw ddarpariaeth a awdurdodir gan is-adran (2)(a), (c) (j) neu (k), (3)(e) neu (f) neu (5) o adran 22) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy. 149) (C. 79)), fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy. 159) (C. 56)). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(c) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(5)

Gynt yr enw ar Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis oedd y Sefydliad Prydeinig ym Mharis. Newidiodd y Sefydliad Prydeinig ym Mharis ei enw’n ffurfiol ar 1 Ionawr 2005.

(6)

Mae ERASMUS yn rhan o raglen gweithredu’r Undeb Ewropeaidd, SOCRATES; OJ Rhif L28, 3.2.2000, t.1.

(7)

1968 p. 46; diwygiwyd adran 63 gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1972 (p. 58), Atodlen 7, Deddf Ad-drefnu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1973 (p. 32), Atodlenni 4 a 5, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p. 49), Atodlenni 15 ac 16, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978 (p. 29), Atodlenni 16 a 17, Deddf Llywodraeth Leol 1985 (p. 51), Atodlen 17, Deddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p. 49), adran 20, adran 25(2) ac Atodlen 3, Deddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994 (p. 39), Atodlen 13, Deddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17), Atodlen 1, Gorchymyn Ad-drefnu Llywodraeth Leol (Cymru) (Diwygiadau Canlyniadol Rhif 2) 1996 (O.S. 1996/1008), Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p. 46), Atodlen 2, Deddf Iechyd 1999 (p. 8), Atodlen 4, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p. 15), Atodlen 5, Deddf Diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p. 17), Atodlenni 2, 5 a 9, O.S. 2002/2202, erthygl 4(a) a (b), Rheoliadau Deddf Diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002 (Darpariaethau Atodol, Canlyniadol etc) 2002 (O.S. 2002/2469), Atodlen 1, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p. 43), Atodlenni 4, 11 a 14, Gorchymyn Cychwyn (Rhif 2) Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 2004 (O.S. 2004/288), erthygl 7, Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/480); Deddf Plant 2004 (p. 31), adran 55; O.S. 2004/957, yr Atodlen; Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 (p. 43), Atodlen 1; O.S. 2007/961, yr Atodlen, Deddf Iechyd 2009 (p. 21), Atodlen 1 a Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7), Atodlen 5.

(9)

Mae rheoliad 14 o Reoliadau Credyd Treth Gwaith (Hawlogaeth a’r Gyfradd Uchaf) 2002 (O.S. 2002/2005) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2003/701, O.S. 2003/2815, O.S. 2004/762, O.S. 2004/1276, O.S. 2004/2663, O.S. 2005/769, O.S. 2005/2919, O.S. 2006/766, O.S. 2007/824, O.S. 2007/2479, O.S. 2008/604, O.S. 2008/2169, O.S. 2009/697, O.S. 2009/2887, O.S. 2010/751, O.S. 2011/721, O.S. 2013/388 ac O.S. 2013/591 yn pennu’r costau rhagnodedig, ac felly’r costau gofal plant perthnasol at ddibenion adran 12 o Ddeddf Credydau Treth 2002.

(10)

2012 p. 5.

(11)

Sefydlwyd y corff hwn yn wreiddiol o dan adran 1 o Ddeddf Addysg 1994 (p. 30) fel yr Asiantaeth Hyfforddi Athrawon. Yn rhinwedd adran 74 o Ddeddf Addysg 2005 (p. 18) fe’i gelwid yn lle hynny yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion. Diddymwyd y corff gan Ddeddf Addysg 2011 (p. 21) gydag effaith o 1 Ebrill 2012.

(12)

Gweler adrannau 85–90 o Ddeddf Addysg 2005 i weld swyddogaeth CCAUC ynghylch hyfforddi athrawon.

(13)

OJ Rhif L158, 30.04.2004, t.77-123.

(15)

Nodir y cynllun diofyn cyfredol yn O.S. 2013/3035 (Cy. 303).

(16)

1992 p. 14; mewnosodwyd Atodlen 1B gan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p. 17), adran 10 ac Atodlen 4.

(17)

O.S. 2004/1729 (Cy. 173), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2007/2811 (Cy. 238) ac O.S. 2008/215 (Cy. 26). Dirymwyd yr offeryn hwn, gydag arbedion, gan O.S. 2012/724 (Cy. 96).

(19)

1962 p. 12; amnewidiwyd adrannau 1 i 4 ac Atodlen 1 gan y darpariaethau a nodwyd yn Atodlen 5 i Ddeddf Addysg 1980 (p. 20). Diwygiwyd adran 1(3)(d) gan Ddeddf Addysg (Grantiau a Dyfarniadau) 1984 (p. 11), adran 4. Diwygiwyd adran 4 gan Ddeddf Addysg 1994 (p. 30), Atodlen 2, paragraff 2. Cafodd y Ddeddf gyfan ei diddymu gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 44(2) ac Atodlen 4, yn ddarostyngedig i’r darpariaethau trosiannol a’r arbedion a nodwyd yng Ngorchymyn Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) 1998 (O.S. 1998/3237), erthygl 3.

(20)

1990 p. 6; a ddiddymwyd gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), Atodlen 4, gydag arbedion gweler Gorchymyn Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) 1998 (O.S. 1998/2004) (C. 46).

(21)

O.S. 1990/1506 (G.I. 11), a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/274 (G.I. 1), Erthygl 43 ac Atodlen 5 Rhan II, O.S. 1996/1918 (G.I. 15), Erthygl 3 a’r Atodlen ac O.S. 1998/258 (G.I. 1), Erthyglau 3 i 6 ac a ddi-rymwyd, gydag arbedion, gan Rh. St. (GI) 1998 Rhif 306.

(22)

O.S. 1998/1760 (G.I. 14) y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(23)

2004 p. 8. Mae adran 41(1) wedi ei diwygio ond nid yw’r diwygiadau hynny’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(24)

Gorch. 9171.

(25)

Gorch. 3906 (allan o brint; mae llungopïau ar gael, yn ddi-dâl, oddi wrth yr Adran Cymorth i Fyfyrwyr, Yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau, Mowden Hall, Staindrop Road, Darlington DL3 9BG).

(27)

1980 p. 44; diwygiwyd adran 73(f) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 29(1) a Deddf Addysg (Gwaddoliad Graddedigion a Chymorth i Fyfyrwyr) (Yr Alban) 2001 (dsa 6), adran 3(2) a diwygiwyd adran 74 gan Ddeddf Ysgolion Hunanlywodraethol etc. (Yr Alban) 1989 (p. 39), Atodlen 10, paragraff 8(17). Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion yr Alban yn rhinwedd adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (p. 46).

(29)

O.S. 1998/2003, dirymwyd gydag arbedion gan O.S. 1999/496.

(30)

O.S. 1999/496, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/2266 ac O.S. 2000/1120. Dirymwyd yr offerynnau hyn gan O.S. 2000/1121 ac eithrio mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn 1 Medi 2000.

(31)

O.S. 2000/1121, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/1490, O.S. 2000/2142 ac O.S. 2000/2912. Dirymwyd yr offerynnau hyn gan O.S. 2001/951 ac eithrio mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn 1 Medi 2001.

(32)

O.S. 2001/951, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/1730, O.S. 2001/2355 ac O.S. 2002/174. Dirymwyd yr offerynnau hyn gan O.S. 2002/195 ac eithrio mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn 1 Medi 2002.

(33)

O.S. 2002/195, a ddiwygiwyd gan O.S. 2002/1318, O.S. 2002/2088 ac O.S. 2002/3059. Dirymwyd O.S. 2002/195, O.S. 2002/1318 ac O.S. 2002/2088 gan O.S. 2002/3200 ac eithrio mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn 1 Medi 2003. Dirymwyd O.S. 2002/3059 gan O.S. 2003/1065.

(34)

O.S. 2002/3200, a ddiwygiwyd gan O.S. 2003/1065 ac O.S. 2003/3280. Dirymwyd O.S. 2002/3200 ac O.S. 2003/1065 gan O.S. 2005/52 gydag arbedion.

(35)

O.S. 2002/3200, a ddiwygiwyd gan O.S. 2003/1065, O.S. 2003/3280, O.S. 2004/161, O.S. 2004/1602, O.S. 2004/2041, O.S. 2004/2598, O.S. 2005/1341 ac O.S. 2005/2084. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Ac eithrio O.S. 2005/1341 ac O.S. 2005/2084, dirymwyd yr offerynnau hyn gydag arbedion gan O.S. 2005/52. Dirymwyd O.S. 2005/1341 ac O.S. 2005/2084 o ran Cymru, gydag arbedion, gan O.S. 2006/126 (Cy. 19).

(36)

O.S. 2005/52, a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/1341, O.S. 2005/2084, O.S. 2005/3482 ac O.S. 2006/955. Ac eithrio O.S. 2005/3482 ac O.S. 2006/955, dirymwyd yr offerynnau hyn o ran Cymru, gydag arbedion, gan O.S. 2006/126 (Cy. 19).

(37)

O.S. 2006/126 (Cy. 19), a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/1863 (Cy. 196) ac O.S. 2007/2312 (Cy. 183). Dirymwyd O.S. 2006/126 (Cy. 19) ac O.S. 2006/1863 (Cy. 196) gan O.S. 2007/1045 (Cy. 104) gydag arbedion mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ond cyn 1 Medi 2007.

(39)

O.S. 2008/1273 (Cy. 130), a ddiwygiwyd gan O.S. 2008/2140 (Cy. 189). Dirymwyd yr offerynnau hyn, gydag arbedion, gan O.S. 2008/3170 (Cy. 283).

(41)

O.S. 2009/2737 (Cy. 235). Dirymwyd yr offeryn hwn, gydag arbedion, gan O.S. 2011/148 (Cy. 32).

(42)

O.S. 2011/148 (Cy. 32), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2011/1978 (Cy. 218). Dirymwyd yr offeryn hwn, gydag arbedion, gan O.S. 2011/886 (Cy. 130).

(43)

O.S. 2011/886 (Cy. 130), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1978 (Cy. 218), O.S. 2012/14 (Cy. 5) ac O.S. 2012/1156 (Cy. 139). Dirymwyd yr offeryn hwn, gydag arbedion, gan O.S. 2012/3097 (Cy. 313).

(44)

O.S. 2012/3097 (Cy. 313), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2013/765 (Cy. 91) ac O.S. 2013/1965 (Cy 190). Dirymwyd yr offeryn hwn, gydag arbedion, gan O.S. 2013/3177 (Cy. 316).

(45)

O.S. 2013/3177 (Cy. 316), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2014/1712 (Cy. 172).

(46)

2004 p. 8.

(48)

1988 p. 40; diwygiwyd adran 214(2) gan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13), adran 93 ac Atodlen 8.

(49)

1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.

(50)

O.S. 1999/2263, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/2893.

(51)

1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.

(54)

1978 p. 29, y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(56)

2006 p. 41; mewnosodwyd adrannau 1H ac 1I gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7), adrannau 9 a 10.

(57)

2012 p. 7.

(58)

1996 p. 56; diwygiwyd adran 312 gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), Atodlen 7, paragraff 23 ac Atodlen 8, Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140, Atodlen 30, paragraff 71 ac Atodlen 31, Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 59 ac Atodlen 2, Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), Atodlen 3 ac O.S. 2010/1158.

(59)

2002 p. 21 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(61)

2007 p. 3; diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf Cyllid 2009 (p. 10), Atodlen 1, paragraff 6(o)(i), a Deddf Cyllid 2013 (p. 29), Atodlen 3, paragraff 2(2).

(62)

2003 p. 1; diwygiwyd adran 401 gan O.S. 2005/3229, O.S. 2011/1037 ac O.S. 2014/211.

(64)

2004 p. 33, diwygiwyd Atodlen 5 gan Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd 2013 (p. 22), adran 17 ac Atodlen 11.

(65)

1992 p. 4, y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(67)

1989 p. 41. Diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf y Llysoedd a Gwasanaethau Cyfreithiol 1990 (p. 41), Atodlen 16, paragraff 12, Deddf Safonau Gofal 2000 (p. 14), Atodlen 4, paragraff 14, Deddf Plant 2004 (p. 31), adran 49(3), Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p. 23), adran 39 ac Atodlen 3, paragraffau 1 a 7 a Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), Atodlen 2.

(68)

Mewnosodwyd is-adrannau (5A) i (5C) o adran 23C o Ddeddf Plant 1989, o ran Lloegr, gan adran 21 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 ac mae O.S. 2009/268 ac O.S. 2009/2273 yn cyfeirio at hyn. Mewnosodwyd is-adrannau (5A) i (5C) yn adran 23C o ran Cymru, ac mae O.S. 2010/1329 (Cy. 112) (C. 81) ac O.S. 2011/ 824 (Cy. 123) (C. 32) yn cyfeirio at hyn.

(69)

Mae diwygiadau i adrannau 15 a 24 ac Atodlen 1 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(70)

2002 p. 21 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(71)

1992 p. 4. Gwnaed newidiadau i adran 124 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Mae’r categorïau o dan adran 124(1)(e) wedi eu rhagnodi mewn rheoliadau. Y rheoliad perthnasol yw rheoliad 4ZA o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1967). Mewnosodwyd rheoliad 4ZA gan O.S. 1996/206, a ddiwygiwyd gan O. S. 1997/2197, O.S. 2000/1981, O.S. 2001/3070, O.S. 2008/1826, O.S. 2009/2655, O.S. 2009/3152 ac O.S. 2013/2536.

(72)

Mae diwygiadau i adran 130 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Y rheoliad perthnasol yw rheoliad 56 o Reoliadau Cymhorthdal Tai 2006 (O.S. 2006/213 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2008/1042, O.S. 2008/1082, O.S. 2012/757, O.S. 2013/630 ac O.S. 2013/2070).

(75)

O.S. 1998/1760 (G.I. 14), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(76)

1980 p. 44; diwygiwyd adran 73(f) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 29(1) a Deddf Addysg (Gwaddoliad Graddedigion a Chymorth i Fyfyrwyr) (Yr Alban) 2001 (dsa 6), adran 3(2). Mewnosodwyd adran 73B gan adran 29(2) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Addysg (Gwaddol Graddedigion a Chymorth Myfyrwyr) (Yr Alban) 2001, Atodlen 6 i Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1) ac adran 34(1) o Ddeddf Methdaliad a Diwydrwydd etc. (Yr Alban) 2007 (dsa 3). Diwygiwyd adran 74 gan adran 82 o Ddeddf Ysgolion Hunanlywodraethol etc. (Yr Alban) 1989 (p. 39) ac Atodlen 10 iddi. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion yr Alban yn rhinwedd adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (p. 46).

(77)

1992 p. 4; diwygiwyd Rhan VII gan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14), Atodlen 9 ac Atodlen 14; Deddf Nawdd Cymdeithasol (Anallu i Weithio) 1994, Atodlenni 1 a 2; Deddf Ceiswyr Gwaith 1995 (p. 18), Atodlen 2 ac Atodlen 3; Deddf Tai 1996 (p. 52), Atodlen 19, Rhan 6; Deddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlen 8; Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p. 15), Atodlen 6, Rhan 3; Deddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 (p. 16), Atodlen 2 ac Atodlen 3, Deddf Credydau Treth 2002 (p. 21), Atodlen 6; O.S. 2002/1937; Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, paragraffau 169 a 179; Deddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33), Atodlen 24 ac Atodlen 30; Deddf Diwygio Lles 2007 (p. 5), adrannau 30(2) a 31(1), Atodlen 3, Atodlen 5 ac Atodlen 8; Deddf Diwygio Lles 2009 (p. 24), adran 3; Deddf Diwygio Lles 2012 (p. 5), adran 69 ac Atodlen 14(1); O.S. 2008/632; O.S. 2008/787; O.S. 2009/497; O.S. 2010/793; O.S. 2014/516 ac O.S. 2014/560.

(79)

2007 p. 5, a ddiwygiwyd gan Ddeddf Diwygio Lles 2012 (p. 5), adrannau 28, 51, 52, 53, 54, 57 a 60 ac Atodlenni 3 a 14 a Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), Atodlen 7.

(80)

2002 p. 21, diwygiwyd adran 3 gan Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33), adran 254 ac Atodlen 24.

(81)

1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.

(82)

1996 p. 56; diwygiwyd adran 312 gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), Atodlen 7, paragraff 23 ac Atodlen 8, paragraff 1, Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140, paragraff 71 o Atodlen 30 ac Atodlen 31, Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 59 ac Atodlen 2, O.S. 2010/1158 a Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), Atodlen 3.

(83)

2002 p. 21, y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(84)

2007 p. 3; diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf Cyllid 2009 (p. 10), Atodlen 1, paragraff 6(o)(i), a Deddf Cyllid 2013 (p. 29), Atodlen 3, paragraff 2(2).

(85)

2003 p. 1; diwygiwyd adran 401 gan O.S. 2005/3229, O.S. 2011/1037 ac O.S. 2014/211.

(86)

1992 p. 4 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(88)

1989 p. 41. Diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf y Llysoedd a Gwasanaethau Cyfreithiol 1990 (p. 41), Atodlen 16, paragraff 12, Deddf Safonau Gofal 2000 (p. 14), Atodlen 4, paragraff 14, Deddf Plant 2004 (p. 31), adran 49(3), Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p. 23), adran 39 ac Atodlen 3, paragraffau 1 a 7 a Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), Atodlen 2(1).

(89)

Mae diwygiadau i adrannau 15 a 24 ac Atodlen 1 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(90)

2002 p. 21 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(91)

Sefydlwyd y corff hwn o dan adran 1 o Ddeddf Addysg Bellach ac Addysg Uwch (yr Alban) 2005 (dsa 6).

(93)

1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.

(94)

Gorch. 4904 ac OJ Rhif L114, 30.04.02, t.6.

(95)

1971 p. 77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p. 61).

(96)

OJ Rhif L141, 27.05.2011, t. 1.

(97)

2007 p. 3; diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf Cyllid 2009 (p. 10), Atodlen 1, paragraff 6(o)(i), a Deddf Cyllid 2013 (p. 29), Atodlen 3, paragraff 2(2).

(98)

2003 p. 1; diwygiwyd adran 401 gan O.S. 2005/3229, O.S. 2011/1037 ac O.S. 2014/211.

(99)

1973 p. 18; diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf Gweinyddu Cyfiawnder 1982 (p. 53), adran 16.

(100)

Mewnosodwyd adran 25B gan Ddeddf Pensiynau 1995 (p. 26), adran 166(1) ac fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlen 4. Mewnosodwyd adran 25E gan Ddeddf Pensiynau 2004 (p. 35), adran 319(1), Atodlen 12, paragraff 3.

(101)

2004 p. 33; addaswyd paragraff 25 o Atodlen 5 gan O.S. 2006/1934 a diwygiwyd paragraff 30 o Atodlen 5 gan Ddeddf Pensiynau 2008 (p. 30), Atodlenni 6 ac 11.

(103)

Darperir cyllid gan y Cynghorau Ymchwil o ran astudio ôl-radd llawnamser.

(104)

2004 p. 12; diwygiwyd adran 188 gan Ddeddf Cyllid 2007 (p. 11), adrannau 68 a 114 ac Atodlenni 18 a 27, Deddf Cyllid 2013 (p. 29), adran 52 a Deddf Cyllid 2014 (p. 26), Atodlen 7.

(105)

“Financial Statistics” (ISSN 0015-203X).

(106)

2007 p. 3; diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf Cyllid 2009 (p. 10), Atodlen 1, paragraff 6(o)(i), a Deddf Cyllid 2013 (p. 29), Atodlen 3, paragraff 2(2).

(107)

2003 p. 1; diwygiwyd adran 401 gan O.S. 2005/3229, O.S. 2011/1037 ac O.S. 2014/211.

(108)

2004 p. 12; diwygiwyd adran 188 gan Ddeddf Cyllid 2007 (p. 11), adrannau 68 a 114 ac Atodlenni 18 a 27, Deddf Cyllid 2013 (p. 29), adran 52 a Deddf Cyllid 2014 (p. 26), Atodlen 7.

(109)

“Financial Statistics” (ISSN 0015-203X).