Search Legislation

Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) (Diwygio) 2015

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 509 (Cy. 43)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) (Diwygio) 2015

Made

3 Mawrth 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

6 Mawrth 2015

Yn dod i rym

1 Ebrill 2015

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 12, 19, 187(1) a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(2) a pharagraff 7(3) o Atodlen 2, paragraff 25(3) o Atodlen 3, a pharagraffau 2, 2A(3), 3 a 4 o Atodlen 10 i’r Ddeddf honno.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) (Diwygio) 2015 ac maent yn dod i rym ar 1 Ebrill 2015.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010(4).

Diwygio rheoliad 2 o’r prif Reoliadau

3.—(1Mae rheoliad 2 (dehongli) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn y man priodol yn nhrefn y wyddor, mewnosoder—

ystyr “Prif Weithredwr” (“Chief Executive”) yw person a gyflogir o dan reoliad 36 i weithredu fel prif weithredwr y Bwrdd CIC;.

(3Hepgorer y diffiniadau a ganlyn—

“Cyfarwyddwr” (“Director”);

“Cyngor newydd” (“new Council”);

“Cyngor sy’n parhau” (“continued Council”).

(4Yn y diffiniadau o’r geiriau ac ymadroddion a ganlyn hepgorer “newydd” ym mhob man lle y mae’n digwydd—

“pwyllgor cynllunio gwasanaethau” (“services planning committee”);

“pwyllgor gweithredol” (“executive committee”);

“pwyllgor lleol” (“local committee”);

“pwyllgor lleol perthnasol” (“relevantlocalcommittee”).

Aelodaeth Cynghorau

4.—(1Mae rheoliad 3 (aelodaeth cynghorau) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Yn ychwanegol at yr aelodau a benodir yn unol â pharagraff (1) a (3A), caiff Cyngor o bryd i’w gilydd gyfethol pa bynnag aelodau sy’n ymddangos i’r Cyngor yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau a chaniateir penodi’r cyfryw aelodau i eistedd ar unrhyw bwyllgor neu gydbwyllgor y Cyngor hwnnw.

(3Yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Ni chaiff aelodau a gyfetholir gan Gyngor yn unol â pharagraff (2) bleidleisio mewn unrhyw gyfarfodydd neu drafodion y Cyngor na’i bwyllgorau neu ei gyd-bwyllgorau.

(4Ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Yn ychwanegol at yr aelodau a benodir yn unol â pharagraffau (1) a (2), caiff Gweinidogion Cymru o bryd i’w gilydd, mewn ymateb i gyngor a roddir gan y Bwrdd CIC o dan reoliad 32(2)(f), gyfethol pa bynnag aelodau i Gyngor sy’n ymddangos i Weinidogion Cymru yn angenrheidiol ar gyfer gwella perfformiad y Cyngor hwnnw, a chaniateir penodi’r cyfryw aelodau i eistedd ar unrhyw bwyllgor neu gyd-bwyllgor y Cyngor hwnnw.

(3B) Caiff aelodau a gyfetholir gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (3A) bleidleisio mewn unrhyw gyfarfodydd neu drafodion y Cyngor a’i bwyllgorau neu ei gyd-bwyllgorau.

Tymor penodiad aelodau cyfetholedig

5.—(1Mae rheoliad 5 (tymor penodiad aelodau cyfetholedig) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle rheoliad 5 rhodder—

5.  Ni chaniateir penodi aelodau cyfetholedig am gyfnod hwy na dwy flynedd a rhaid peidio â’u hailbenodi fel aelodau cyfetholedig wedi diwedd eu tymor.

Penodi aelodau gan awdurdodau lleol

6.—(1Mae rheoliad 6 (penodi aelodau gan awdurdodau lleol) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Rhaid i o leiaf un person a benodir yn unol â’r rheoliad hwn fod yn aelod o’r awdurdod lleol sy’n ei benodi.

(3Ym mharagraff (3) ar ôl y geiriau “awdurdod lleol” yn y man cyntaf y maent yn digwydd mewnosoder “o blith ei aelodaeth

Gweithdrefnau ar gyfer penodi aelodau

7.—(1Mae rheoliad 9 (gweithdrefnau ar gyfer penodi aelodau) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (ch) ar ôl “cymhwysedd” mewnosoder “ac ymddygiad”.

Cod Ymddygiad

8.  Ar ôl rheoliad 9 o’r prif Reoliadau mewnosoder—

Cod Ymddygiad

9A.  Wrth gael ei benodi, rhaid i bob aelod a phob aelod cyfetholedig roi ymrwymiad ysgrifenedig i gydymffurfio ag unrhyw god ymddygiad sy’n gymwys o bryd i’w gilydd i aelodau ac aelodau cyfetholedig Cyngor yn eu swyddogaeth fel y cyfryw.

Aelodau sy’n gymwys i’w hailbenodi

9.—(1Mae rheoliad 10 (aelodau sy’n gymwys i’w hailbenodi) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (1) yn lle “(2) a (3)” rhodder “(2), (3) a (4)”.

(3Ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(4) Wrth gyfrifo’r cyfnod o wyth mlynedd y cyfeirir ato ym mharagraff (2), rhaid diystyru pob cyfnod o wasanaeth fel aelod cyfetholedig.

Tymor swydd — trefniadau trosiannol ar gyfer aelodau a benodwyd eisoes ar Gynghorau sy’n parhau

10.  Hepgorer rheoliad 11 o’r prif Reoliadau.

Terfynu aelodaeth ac atal dros dro aelodau

11.—(1Mae rheoliad 13 (terfynu aelodaeth ac atal dros dro aelodau) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir yn aelod o Gyngor o dan reoliad 3.

(3Yn lle paragraff (7) rhodder—

(7) Ni chaiff Gweinidogion Cymru derfynu nac atal dros dro dymor aelod yn ei swydd o dan y rheoliad hwn heb gael argymhelliad i wneud hynny gan y Bwrdd CIC. Ni chaiff y Bwrdd CIC wneud argymhelliad o’r fath heb fod wedi ymgynghori â’r Cyngor perthnasol ac, os nad Gweinidogion Cymru a benododd yr aelod, y corff a benododd yr aelod.

Ethol cadeirydd ac is-gadeirydd

12.—(1Mae rheoliad 15 (ethol cadeirydd ac is-gadeirydd) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3), (4) a (5), rhaid i aelodau Cyngor ethol—

(a)un o’u plith i fod yn gadeirydd; a

(b)un o’u plith, heblaw’r cadeirydd, i fod yn is-gadeirydd,

am gyfnod o dair blynedd ar y mwyaf, ond heb fod yn gyfnod hwy mewn unrhyw achos na gweddill tymor swydd yr aelod a etholir fel aelod; a rhaid I’r Prif Swyddog hysbysu Gweinidogion Cymru a’r Bwrdd CIC o enwau’r personau a etholir felly, ar unwaith mewn ysgrifen.

(3Ym mharagraff (2) yn lle “ddwy flynedd” rhodder “dair blynedd”.

(4Hepgorer paragraff (8).

Cymhwyso rheoliadau 17 i 19

13.  Hepgorer rheoliad 16 o’r prif Reoliadau.

Penodi pwyllgorau sydd i’w hadwaen fel Pwyllgorau Lleol

14.—(1Mae rheoliad 17(1) (penodi pwyllgorau sydd i’w hadwaen fel pwyllgorau lleol) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (1) hepgorer “wrth rifau 1 i 6”.

Penodi pwyllgorau eraill gan Gyngor

15.—(1Mae rheoliad 20 (penodi pwyllgorau eraill gan gyngor) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Rhaid i’r pwyllgor gweithredol benderfynu cyfansoddiad a rheolau sefydlog pwyllgorau a benodir o dan y rheoliad hwn, a dim ond gyda chymeradwyaeth y pwyllgor gweithredol y caniateir eu hamrywio neu eu dirymu.

(3Hepgorer paragraff (4).

Penodi cyd-bwyllgorau gan Gyngor

16.—(1Mae rheoliad 21 (penodi cyd-bwyllgorau gan gyngor) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Pan fo Cynghorau’n penodi cyd-bwyllgor, rhaid i bwyllgorau gweithredol pob Cyngor o’r fath sy’n penodi benderfynu gyda’i gilydd gyfansoddiad a rheolau sefydlog y cyd-bwyllgor a benodir o dan y rheoliad hwn, a dim ond gyda chymeradwyaeth y pwyllgorau gweithredol hynny y caniateir eu hamrywio neu eu dirymu.

(3Hepgorer paragraff (3).

Swyddogion

17.—(1Mae rheoliad 23 (swyddogion) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru neu Fwrdd Iechyd Lleol—

(a)i gyflogi person i weithredu fel Prif Swyddog i Gyngor neu i nifer o Gynghorau;

(b)i gyflogi personau i weithredu fel unrhyw swyddogion eraill i Gyngor neu i nifer o Gynghorau ag sy’n angenrheidiol ym marn yr Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru neu’r Bwrdd Iechyd Lleol sy’n cael ei chyfarwyddo neu ei gyfarwyddo.

(3Yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Caiff personau a gyflogir o dan y rheoliad hwn gynnwys person sydd i’w adnabod fel Dirprwy Brif Swyddog i bwyllgor lleol neu i nifer o bwyllgorau lleol a sefydlir o dan reoliad 17.

(4Ym mharagraff (4) ar ôl “Cyngor” mewnosoder “neu’r Cynghorau”.

Cyflawni Swyddogaethau

18.—(1Mae rheoliad 26 (cyflawni swyddogaethau) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl paragraff (2) mewnosoder

(3) Wrth gyflawni ei swyddogaethau rhaid i bob Cyngor roi sylw i unrhyw safonau mewn perthynas â chyflawni ei swyddogaethau a osodir gan y Bwrdd CIC.

Ymgynghori â Chynghorau gan gyrff gwasanaeth iechyd perthnasol

19.—(1Mae rheoliad 27 (ymgynghori â chynghorau gan gyrff gwasanaeth iechyd perthnasol) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (6) ar ôl “yn unol â pharagraffau (1), (2) a (3)” mewnosoder “, gan roi sylw i unrhyw safonau a osodir gan y Bwrdd CIC,”; ym mharagraff (7) ar ôl “caiff” mewnosoder “, gan roi sylw i unrhyw safonau a osodir gan y Bwrdd CIC,”; ac, ym mharagraff (9) ar ôl “caiff y Cyngor” mewnosoder “, gan roi sylw i unrhyw safonau a osodir gan y Bwrdd CIC,”.

Mynd i mewn i fangreoedd a’u harchwilio

20.—(1Mae rheoliad 29 (mynd i mewn i fangreoedd a’u harchwilio) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (5) ar ôl “Weinidogion Cymru” mewnosoder “, ac i unrhyw safonau a osodir gan y Bwrdd CIC,”.

Eiriolaeth annibynnol ar gyfer cwynion

21.—(1Mae rheoliad 31 (eiriolaeth annibynnol ar gyfer cwynion) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl “Gweinidogion Cymru,” mewnosoder “gan roi sylw i unrhyw safonau a osodir gan y Bwrdd CIC,”.

Swyddogaethau

22.—(1Mae rheoliad 32 (swyddogaethau) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Yn effeithiol o 1 Ebrill 2015 ymlaen, bydd gan y Bwrdd CIC y swyddogaethau canlynol—

(a)rhoi cyngor i Gynghorau mewn cysylltiad â chyflawni eu swyddogaethau;

(b)gosod safonau i Gynghorau mewn cysylltiad â chyflawni eu swyddogaethau, mewn perthynas, yn arbennig—

(i)â darparu gwasanaethau eiriolaeth ar gyfer cwynion,

(ii)â chraffu ar weithrediad y gwasanaeth iechyd, gan gynnwys archwilio mangreoedd,

(iii)ag ymgysylltu â’r boblogaeth leol o fewn eu dosbarth, Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG,

(iv)â chynhyrchu a chynnwys adroddiadau i Weinidogion Cymru y caniateir eu gwneud o dan reoliad 27(7) a (9);

(c)cynorthwyo Cynghorau i gyflawni eu swyddogaethau;

(ch)cynrychioli safbwyntiau a buddiannau Cynghorau ar y cyd gerbron Gweinidogion Cymru;

(d)monitro a rheoli perfformiad Cynghorau a sicrhau bod pob Cyngor yn cymhwyso’r safonau a osodir yn unol â pharagraff (2)(b) mewn modd cyson;

(dd)monitro a rheoli ymddygiad aelodau ac aelodau cyfetholedig a benodir o dan reoliad 3 gyda’r nod o sicrhau eu bod yn cydymffurfio ag unrhyw god ymddygiad sy’n gymwys i aelodau ac aelodau cyfetholedig Cyngor yn eu swyddogaeth fel y cyfryw;

(e)monitro ymddygiad a pherfformiad swyddogion a gyflogir o dan reoliad 23;

(f)rhoi gwybod i Weinidogion Cymru am unrhyw Gynghorau sy’n methu ym mherfformiad eu swyddogaethau ac yng nghymhwysiad y safonau a osodir yn unol â pharagraff (2)(b);

(ff)rhoi gwybod i Weinidogion Cymru am unrhyw aelodau ac aelodau cyfetholedig nad ydynt yn cydymffurfio ag unrhyw god ymddygiad sy’n gymwys i aelodau ac aelodau cyfetholedig Cyngor yn eu swyddogaeth fel y cyfryw; a

(g)gweithredu gweithdrefn gwynion yn unol â rheoliad 33.

Aelodaeth y Bwrdd CIC

23.—(1Mae rheoliad 34 (aelodaeth y Bwrdd CIC) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (1) yn lle “2010” rhodder “2015”.

(3Yn lle paragraff (1)(a) rhodder—

(a)saith ohonynt yn bersonau a benodwyd yn gadeiryddion pob un o’r saith Cyngor, un ohonynt i fod yn is-gadeirydd a etholir gan y saith aelod yn gweithredu ar y cyd;.

(4Yn lle paragraff (1)(c) rhodder—

(c)un ohonynt a benodwyd i weithredu fel cadeirydd gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (4);.

(5Hepgorer paragraff (1)(ch).

(6Ym mharagraff (1)(d) yn lle “Gyfarwyddwr” rhodder “Brif Weithredwr”.

(7Ar ôl paragraff (1)(d) mewnosoder—

(dd)dau ohonynt a benodwyd gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (4).

(8Yn lle paragraff (4) rhodder—

(4) Rhaid i drefniadau priodol fod wedi eu gwneud ar gyfer dewis a phenodi personau, nad ydynt yn aelodau o Gyngor, yn gadeirydd ac yn aelodau gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (1)(c) ac (dd) a rhaid i’r trefniadau hynny gymryd i ystyriaeth—

(a)yr egwyddorion a bennir o bryd i’w gilydd gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus;

(b)y gofyniad bod y dull o ddewis a phenodi aelodau yn agored a thryloyw;

(c)y gofyniad am gystadleuaeth deg ac agored wrth ddewis a phenodi’r ymgeiswyr llwyddiannus.

(9Ym mharagraffau (5) a (6) yn lle “ddwy flynedd” rhodder “dair blynedd”.

(10Ym mharagraff (7)—

(a)yn lle “(ch)” rhodder “(dd)”; a

(b)yn lle “ddwy flynedd” rhodder “bedair blynedd”.

(11Ym mharagraff (8), ym mhob man lle y mae’n digwydd, yn lle “Cyfarwyddwr” rhodder “Prif Weithredwr”.

Cymhwyster Aelodau o’r Bwrdd i’w hailbenodi ar y Bwrdd CIC

24.—(1Mae rheoliad 35 (cymhwyster aelodau o’r bwrdd i’w hailbenodi ar y Bwrdd CIC) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (1)—

(a)yn lle “i (ch)” rhodder “a (b)”; a

(b)yn lle “ddwy flynedd” rhodder “dair blynedd”.

(3Ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Caiff aelod o’r Bwrdd a benodir o dan baragraff (1)(c) ac (dd) o reoliad 34 wasanaethu am gyfnod o bedair blynedd fan hwyaf.

(4Ym mharagraff (2)—

(a)yn lle “ddwy flynedd” rhodder “dair blynedd”; a

(b)yn lle “(ch)” rhodder “(dd)”.

(5Ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) Wrth gyfrifo’r cyfnod o bedair blynedd y cyfeirir ato ym mharagraff (1A) rhaid cyfuno pob cyfnod o wasanaeth fel aelod o’r Bwrdd, gan gynnwys pob cyfnod o wasanaeth cyn 1 Ebrill 2010 a phob cyfnod o wasanaeth o ganlyniad i unrhyw benodiad o dan baragraff (1)(a) i (dd) o reoliad 34.

(6Ym mharagraff (3), ym mhob man lle y mae’n digwydd, yn lle “Cyfarwyddwr” rhodder “Prif Weithredwr”.

(7Hepgorer paragraff (4).

Staff Cymorth

25.—(1Mae rheoliad 36 (staff cymorth) o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru neu Fwrdd Iechyd Lleol—

(a)i gyflogi person i weithredu fel Prif Weithredwr y Bwrdd CIC; a

(b)i gyflogi unrhyw bersonau i weithredu fel swyddogion i’r Bwrdd CIC ag sy’n angenrheidiol ym marn yr Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru neu’r Bwrdd Iechyd Lleol sy’n cael ei chyfarwyddo neu ei gyfarwyddo.

(3Hepgorer paragraff (3).

Cyllid, Cyfrifon ac Indemniad

26.  Yn lle pennawd Rhan VI rhodder—

Cyllid, Cyfrifon ac Indemniad.

Indemniad

27.  Ar ôl rheoliad 41 (cyfrifon) o’r prif Reoliadau mewnosoder—

Indemniad

41A.(1) Caiff Gweinidogion Cymru indemnio Cyngor neu’r Bwrdd CIC yn erbyn unrhyw gostau a threuliau cyfreithiol rhesymol y mae’n rhesymol yn eu hysgwyddo mewn cysylltiad ag arfer eu swyddogaethau.

(2) Caiff unrhyw indemniad a roddir fod ar delerau y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu.

Cyfanswm yr aelodau sydd i’w penodi yn aelodau o Gyngor gan y cyrff sy’n penodi

28.—(1Mae Atodlen 1 (cyfanswm yr aelodau sydd i’w penodi yn aelodau o Gyngor gan y cyrff sy’n penodi o dan reoliad 3) i’r prif Reoliadau wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yng ngholofn 1 yn lle eitem 7 rhodder “Cyngor Iechyd Cymuned Powys”.

(3Yng ngholofnau 2 a 3 yn lle eitem 7 rhodder “6”.

(4Yng ngholofn 4 yn lle eitem 7 rhodder “12”.

(5Hepgorer eitem 8.

Cynghorau Iechyd Cymuned ac Ardaloedd Awdurdod Lleol neu rannau ohonynt y gwneir penodiadau arnynt ac y sefydlir Pwyllgorau Lleol iddynt

29.—(1Mae Atodlen 2 (cynghorau iechyd cymuned ac ardaloedd awdurdod lleol neu rannau ohonynt y gwneir penodiadau arnynt ac, mewn perthynas â chynghorau newydd, y sefydlir pwyllgorau lleol iddynt) i’r prif Reoliadau wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle’r pennawd rhodder—

Cynghorau Iechyd Cymuned ac Ardaloedd Awdurdod Lleol neu rannau ohonynt y gwneir penodiadau arnynt ac y sefydlir Pwyllgorau Lleol iddynt.

(3Yn lle pennawd colofn 2 rhodder—

Ardaloedd Awdurdod Lleol neu rannau ohonynt y gwneir penodiadau arnynt ac y sefydlir pwyllgorau lleol iddynt.

(4Yng ngholofn 1 yn lle eitem 7 rhodder “Cyngor Iechyd Cymuned Powys”.

(5Yng ngholofn 2 yn lle eitem 7 rhodder—

(i)Dosbarth Sir Faesyfed a Sir Frycheiniog sy’n ffurfio rhan o Brif Ardal Llywodraeth Leol Powys

(ii)Dosbarth Sir Drefaldwyn sy’n ffurfio rhan o Brif Ardal Llywodraeth Leol Powys gan gynnwys cymunedau Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llansilin a Llangedwyn.

(6Hepgorer eitem 8.

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

3 Mawrth 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010 (“y prif Reoliadau”).

Mae rheoliad 3 yn diwygio diffiniadau yn y prif Reoliadau.

Mae rheoliadau 4 a 5 yn gwneud darpariaeth ynglŷn ag aelodau cyfetholedig o Gynghorau Iechyd Cymuned (“Cynghorau”). Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 3 o’r prif Reoliadau er mwyn dileu cyfeiriad at Gyngor newydd a darparu y caiff Gweinidogion Cymru, mewn ymateb i gyngor gan Fwrdd Cyngor Iechyd Cymuned (“Bwrdd CIC”), gyfethol aelodau i Gyngor. Caiff aelodau a gyfetholir gan Weinidogion Cymru bleidleisio mewn unrhyw gyfarfodydd a gynhelir o’r Cyngor neu o’i bwyllgorau neu ei gydbwyllgorau. Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 5 o’r prif Reoliadau i ddarparu uchafswm tymor penodiad i aelodau cyfetholedig, sef dwy flynedd.

Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 6 o’r prif Reoliadau er mwyn rhoi’r opsiwn i awdurdod lleol o benodi personau i Gyngor nad ydynt yn aelodau o’r awdurdod, ar yr amod y penodir o leiaf un o blith aelodau’r awdurdod.

Mae rheoliad 7 yn diwygio rheoliad 9 o’r prif Reoliadau er mwyn cynnwys safon ymddygiad fel ffactor a ystyrir wrth ddethol a phenodi personau yn aelodau o Gynghorau.

Mae rheoliad 8 yn mewnosod rheoliad 9A yn y prif Reoliadau i’w gwneud yn ofynnol i bob aelod a phob aelod cyfetholedig o Gyngor roi ymrwymiad ysgrifenedig i gydymffurfio ag unrhyw god sydd mewn grym sy’n ymwneud â’u hymddygiad fel aelod o Gyngor.

Mae rheoliad 9 yn diwygio rheoliad 10 o’r prif Reoliadau er mwyn egluro bod rhaid i wasanaeth fel aelod cyfetholedig gael ei ddiystyru wrth gyfrifo uchafswm tymor penodiad, sef wyth mlynedd.

Mae rheoliad 10 yn hepgor rheoliad 11 o’r prif Reoliadau.

Mae rheoliad 11 yn diwygio rheoliad 13 o’r prif Reoliadau er mwyn darparu na chaiff Gweinidogion Cymru derfynu tymor aelod yn ei swydd na’i atal dros dro ond ar argymhelliad y Bwrdd CIC. Dim ond os yw wedi ymgynghori yn unol â’r rheoliad diwygiedig y caniateir i’r Bwrdd CIC wneud argymhelliad o’r fath.

Mae rheoliad 12 yn diwygio rheoliad 15 o’r prif Reoliadau i ddileu’r ddarpariaeth mewn perthynas â Chynghorau sy’n parhau.

Mae rheoliad 13 yn hepgor rheoliad 16 o’r prif Reoliadau.

Mae rheoliad 14 yn diwygio rheoliad 17 o’r prif Reoliadau i adlewyrchu’r diwygiad a wneir i Atodlen 2 i’r prif Reoliadau.

Mae rheoliad 15 yn diwygio rheoliad 20 o’r prif Reoliadau er mwyn darparu fod rhaid i bwyllgor gweithredol Cyngor benderfynu cyfansoddiad a rheolau sefydlog unrhyw bwyllgorau a benodir o dan y rheoliad. Mae rheoliad 15 hefyd yn diwygio rheoliad 20 o’r prif Reoliadau er mwyn dileu cyfeiriadau at Gynghorau newydd a Chynghorau sy’n parhau.

Mae rheoliad 16 yn diwygio rheoliad 21 o’r prif Reoliadau er mwyn darparu pan fo Cynghorau’n penodi cyd-bwyllgor, rhaid i bwyllgorau gweithredol pob Cyngor sy’n penodi benderfynu gyda’i gilydd gyfansoddiad a rheolau sefydlog y cyd-bwyllgor, a dim ond gyda chymeradwyaeth y pwyllgorau gweithredol hynny y caniateir eu hamrywio neu eu dirymu. Mae rheoliad 16 hefyd yn diwygio rheoliad 21 o’r prif Reoliadau er mwyn dileu cyfeiriadau at Gynghorau newydd a Chynghorau sy’n parhau.

Mae rheoliad 17 yn diwygio rheoliad 23 o’r prif Reoliadau er mwyn darparu y caniateir cyflogi personau i weithredu fel swyddogion i fwy nag un Cyngor.

Mae rheoliadau 18, 19, 20 ac 21 yn diwygio rheoliadau 26, 27, 29 ac 31 o’r prif Reoliadau yn y drefn honno i’w gwneud yn ofynnol i Gynghorau roi sylw i safonau a osodir gan y Bwrdd CIC.

Mae rheoliad 22 yn diwygio rheoliad 32 o’r prif Reoliadau er mwyn darparu bod gan y Bwrdd CIC y swyddogaethau ychwanegol o osod safonau y mae’n rhaid i Gynghorau roi sylw iddynt, rheoli perfformiad Cynghorau ac ymddygiad aelodau Cynghorau, a rhoi gwybod i Weinidogion Cymru am berfformiad annigonol gan Gynghorau a thoriadau o unrhyw god ymddygiad gan aelodau.

Mae rheoliad 23 yn diwygio rheoliad 34 o’r prif Reoliadau mewn perthynas ag aelodaeth y Bwrdd CIC a thymor yr aelodau yn swyddi er mwyn darparu bod saith cadeirydd y Cynghorau unigol yn aelodau o’r Bwrdd CIC a’u bod yn cael eu penodi am uchafswm o dair blynedd, bod y saith cadeirydd yn ethol un o’u plith yn is-gadeirydd y Bwrdd CIC, bod “Cyfarwyddwr” y Bwrdd CIC yn cael ei ailenwi’n “Prif Weithredwr”, a bod Gweinidogion Cymru’n penodi, o’r tu allan i aelodaeth y Cynghorau a’r Bwrdd CIC, y cadeirydd a dau aelod o’r Bwrdd CIC a’r rheiny i’w penodi am bedair blynedd ar y mwyaf. Rhaid i’r trefniadau ar gyfer penodiadau gan Weinidogion Cymru roi ystyriaeth i’r egwyddorion sy’n gymwys i benodiadau cyhoeddus.

Mae rheoliad 24 yn diwygio rheoliad 35 o’r prif Reoliadau er mwyn adlewyrchu uchafswm tymhorau penodiadau aelodau o Fwrdd CIC ac i ddileu darpariaeth ynghylch “Cynghorau sy’n parhau”.

Mae rheoliad 25 yn diwygio rheoliad 36 o’r prif Reoliadau i ddileu’r gofyniad bod rhaid ymgynghori â’r Bwrdd CIC a sicrhau ei gymeradwyaeth ynglŷn â phenodi Prif Weithredwr a staff cymorth y Bwrdd CIC.

Mae rheoliadau 26 a 27 yn diwygio’r prif Reoliadau i gynnwys darpariaeth i Weinidogion Cymru indemnio Cyngor neu’r Bwrdd CIC ar delerau y caiff Gweinidogion Cymru gytuno arnynt.

Mae rheoliadau 28 a 29 yn diwygio Atodlenni 1 a 2 i’r prif Reoliadau i adlewyrchu’r ffaith y diddymir y “Cynghorau sy’n parhau” ac y sefydlir Cyngor Iechyd Cymuned Powys.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei lunio o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

Adran 187 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42) fel y’i diwygiwyd gan adran 180 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4).

(3)

Paragraff 2A o Atodlen 10 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42) fel y’i mewnosodwyd gan adran 19 o Ddeddf Iechyd 2009 (p. 21) a pharagraffau 14, 16(1) a (3) o Ran 1 o Atodlen 3 iddi.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources