Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 2) 2015

Diwrnod penodedig

2.  25 Chwefror 2015 yw’r diwrnod penodedig y bydd y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf yn dod i rym—

(a)adran 101 (asesu anghenion llety);

(b)adran 102 (adroddiad yn dilyn asesiad);

(c)adran 105 (darparu gwybodaeth ar gais);

(d)adran 106 (canllawiau) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(e)adran 107 (dyletswyddau mewn perthynas â strategaethau tai);

(f)adran 108 (dehongli);

(g)adran 109 (pŵer i ddiwygio’r diffiniad o Sipsiwn a Theithwyr); a

(h)adran 110 (diwygiadau canlyniadol) a Rhan 2 o Atodlen 3 i’r Ddeddf.