- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
5. Yr amodau i’w bodloni at ddibenion adran 43(4B)(b)(ii) o Ddeddf 1988 yw’r rhai a ragnodir yn erthyglau 6 i 9.
6. Yr amodau gwerth ardrethol yw—
(a)nad yw gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy na £7,800;
(b)nad yw’r hereditament yn hereditament a eithrir; ac
(c)bod yr hereditament yn cael ei feddiannu’n gyfan gwbl.
7. Yr amodau gofal plant yw—
(a)bod yr hereditament yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl at ddibenion gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd gan berson wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(1);
(b)nad yw’r hereditament yn hereditament a eithrir;
(c)bod yr hereditament yn cael ei feddiannu’n gyfan gwbl;
(d)bod gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy na £2,000 ond nad yw’n fwy na £12,000; ac
(e)bod y trethdalwr wedi rhoi hysbysiad i’r awdurdod bilio mewn cysylltiad â’r hereditament yn unol ag erthygl 16.
8. Yr amodau a ragnodir gan yr erthygl hon (“yr amodau swyddfa bost”) yw—
(a)y defnyddir yr hereditament, neu ran o’r hereditament, at ddibenion swyddfa bost;
(b)nad yw gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy na £12,000;
(c)bod yr hereditament yn cael ei feddiannu’n gyfan gwbl; a
(d)bod y trethdalwr wedi rhoi hysbysiad i’r awdurdod bilio mewn cysylltiad â’r hereditament yn unol ag erthygl 16.
9. Yr amodau mangre fanwerthu yw—
(a)bod yr hereditament yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion mangre fanwerthu;
(b)nad yw’r hereditament yn hereditament a eithrir;
(c)bod yr hereditament yn cael ei feddiannu’n gyfan gwbl;
(d)bod gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy na £7,800 ond nad yw’n fwy nag £11,000;
(e)bod y trethdalwr wedi rhoi hysbysiad i’r awdurdod bilio mewn cysylltiad â’r hereditament yn unol ag erthygl 16; ac
(f)nad yw’r trethdalwr wedi rhoi hysbysiad yn unol ag erthygl 16 i’r awdurdod bilio, neu i unrhyw awdurdod bilio arall yng Nghymru, mewn cysylltiad ag unrhyw hereditament arall.
10.—(1) Mae’r swm a bennir ym mharagraff (2) wedi ei ragnodi fel swm E at ddibenion adran 44(9) o Ddeddf 1988 pan fo’r amodau yn erthygl 6, 7, 8 neu 9 wedi eu bodloni.
(2) Mewn perthynas â hereditament, pan fo’r amodau a ragnodir gan yr erthygl a bennir yng ngholofn (1) o’r tabl wedi eu bodloni a gwerth ardrethol yr hereditament o fewn yr ystod yn y golofn (2) gyfatebol, yna E yw’r swm a bennir yn y golofn (3) gyfatebol.
(1) Erthygl | (2) Gwerth Ardrethol (£) | (3) Swm E |
---|---|---|
6 (Gwerth Ardrethol) | 0 i 2,400 | 2 |
6 (Gwerth Ardrethol) | 2,401 i 7,800 | 1.333333 |
7 (Gofal Plant) | 2,001 i 12,000 | 2 |
8 (Swyddfa Bost) | 0 i 9,000 | 1,000,000 |
8 (Swyddfa Bost) | 9,001 i 12,000 | 2 |
9 (Mangre Fanwerthu) | 7,801 i 11,000 | 1.333333 |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: