Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 2019 (Cy. 307) (C. 124)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 2) 2015

Gwnaed

10 Rhagfyr 2015

Enwi

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 2) 2015.

Diwrnod penodedig

2.  4 Ionawr 2016 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015—

(a)adran 5 (dyletswydd i baratoi strategaethau lleol);

(b)adran 6 (cyhoeddi ac adolygu strategaethau lleol);

(c)adran 7 (materion y mae’n rhaid rhoi sylw iddynt wrth baratoi neu adolygu strategaeth leol);

(d)adran 8 (dyletswydd i weithredu strategaethau lleol); ac

(e)adran 13 (adroddiadau cynnydd blynyddol gan awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol).

Leighton Andrews

Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru

10 Rhagfyr 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Dyma’r ail orchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn yn darparu mai 4 Ionawr 2016 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau’r Ddeddf nad ydynt eisoes mewn grym. Sef:

  • adran 5 (dyletswydd i baratoi strategaethau lleol)

  • adran 6 (cyhoeddi ac adolygu strategaethau lleol)

  • adran 7 (materion y mae’n rhaid rhoi sylw iddynt wrth baratoi neu adolygu strategaeth leol)

  • adran 8 (dyletswydd i weithredu strategaethau lleol)

  • adran 13 (adroddiadau cynnydd blynyddol gan awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol).

Daeth adrannau 1 (diben y Ddeddf hon), 24 (dehongli), 25 (cychwyn) a 26 (enw byr) i rym pan roddwyd y Cydsyniad Brenhinol ar 29 Ebrill 2015 yn rhinwedd adran 25(1) o’r Ddeddf.