- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
12. Mae’r Rhan hon yn gymwys i bob anifail a adnabuwyd o dan Ran 3.
13.—(1) Ni chaiff neb fynd yn groes i Erthygl 4(6) (y paragraff cyntaf) o Reoliad y Cyngor na methu â chydymffurfio â hi.
(2) Ond rhaid i geidwad amnewid modd adnabod sydd ar goll neu’n annarllenadwy, yn unol ag erthyglau 14 neu 15 yn ôl gofynion yr achos, cyn gynted â phosibl ar ôl canfod bod y modd adnabod gwreiddiol ar goll neu’n annarllenadwy, ond beth bynnag—
(a)dim hwyrach nag 28 diwrnod ar ôl canfod bod y modd adnabod ar goll neu’n annarllenadwy, a
(b)cyn bo’r anifail yn cael ei symud o’r daliad.
(3) Pan ddisodlir marc adnabod gan farc adnabod sy’n dwyn cod adnabod gwahanol, a’r hen god adnabod yn hysbys, rhaid i’r ceidwad groesgyfeirio’r hen god adnabod a’r cod adnabod newydd yng nghofrestr y daliad.
(4) Mae’n amddiffyniad pan fo unrhyw berson, a gyhuddir o drosedd o fynd yn groes i baragraffau (1) neu (2) neu o fethu â chydymffurfio â hwy, yn profi—
(a)bod y modd adnabod wedi ei dynnu i atal poen ddiangen i anifail; a
(b)bod modd adnabod amnewid sy’n dwyn yr un cod adnabod wedi ei osod ar yr anifail cyn gynted â phosibl.
14.—(1) Pan fo anifail, a adnabuwyd yn unol ag erthygl 9 neu erthygl 11, yn colli un modd adnabod, neu pan fo’r modd adnabod hwnnw’n mynd yn annarllenadwy, mae’r modd adnabod yn cael ei amnewid yn unol â’r erthygl hon os disodlir ef gan un sy’n dwyn yr un rhif 12 digid, neu os tynnir ymaith y ddyfais adnabod sy’n weddill ac ailadnabyddir yr anifail yn unol ag erthygl 9 neu erthygl 11.
(2) Pan fo anifail, a adnabuwyd yn unol ag erthygl 9 neu erthygl 11, yn colli’r ddau fodd adnabod, neu’r ddau fodd adnabod yn mynd yn annarllenadwy, mae’r anifail yn cael ei ailadnabod yn unol â’r erthygl hon os ailadnabyddir yr anifail yn unol ag erthygl 9 neu erthygl 11.
15.—(1) Pan fo anifail a adnabuwyd yn unol ag erthygl 10 neu erthygl 11 yn colli ei dag clust neu’r tag clust hwnnw’n mynd yn annarllenadwy a’r anifail ar ei ddaliad genedigol, mae’n cael ei ailadnabod yn unol â’r erthygl hon os amnewidir y tag clust am un sy’n dwyn yr un nod diadell neu’r un nod geifre.
(2) Pan fo anifail a adnabuwyd yn unol ag erthygl 10 neu erthygl 11 yn colli ei dag clust neu’r tag clust hwnnw’n mynd yn annarllenadwy ac nad yw’r anifail ar ei ddaliad genedigol, neu os nad yw’r ceidwad yn gwybod a yw’r anifail ar ei ddaliad genedigol ai peidio, mae’r anifail yn cael ei ailadnabod yn unol â’r erthygl hon os amnewidir y tag clust am dag clust coch sy’n dwyn nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y daliad y mae’r anifail arno bellach.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: