xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1Rhagymadrodd

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2015.

(2Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ionawr 2016 ac eithrio Rhan 8 a ddaw i rym ar 18 Ionawr 2016.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

Ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“member State”) yw un o Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd;

ystyr “allforio” (“export”) yw anfon i Aelod-wladwriaeth arall neu i drydedd wlad;

ystyr “anifail” (“animal”) yw unrhyw anifail o’r rhywogaethau defeidiog neu afraidd;

ystyr “annarllenadwy” (“illegible”), mewn perthynas â dyfais adnabod electronig, yw annarllenadwy naill ai’n electronig neu’n weledol;

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodwyd yn arolygydd at ddibenion y Gorchymyn hwn gan Weinidogion Cymru neu gan awdurdod lleol;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) mewn perthynas ag ardal yw’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;

ystyr “canolfan gasglu” (“collection centre”) yw mangre a ddefnyddir fel derbynfa dros dro ar gyfer anifeiliaid y bwriedir eu symud i rywle arall (ond nid yw’n cynnwys marchnad neu le arall a ddefnyddir ar gyfer gwerthu neu farchnata anifeiliaid onid oes bwriad i gigydda’r holl anifeiliaid sydd yno ar unwaith);

ystyr “canolfan grynhoi” (“assembly centre”) yw unrhyw ddaliad lle mae defaid neu eifr sy’n tarddu o wahanol ddaliadau yn cael eu dwyn ynghyd i ffurfio llwythi o anifeiliaid y bwriedir eu hallforio, neu unrhyw ddaliad a ddefnyddir yng nghwrs allforio;

mae i “ceidwad” yr ystyr a roddir i “keeper” yn Erthygl 2 o Reoliad y Cyngor;

ystyr “cod adnabod” (“identification code”) yw’r cod a nodir ar fodd adnabod yn unol â’r gofynion o dan y Gorchymyn hwn neu o dan y Gorchmynion blaenorol;

ystyr “cofrestr” (“register”) yw’r gofrestr sy’n ofynnol gan Erthygl 5 o Reoliad y Cyngor;

ystyr “Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC” (“Council Directive 92/102/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC ynglŷn ag adnabod a chofrestru anifeiliaid(1);

mae i “daliad” yr ystyr a roddir i “holding” yn Erthygl 2 o Reoliad y Cyngor;

ystyr “dogfen symud” (“movement document”) yw’r ddogfen symud sy’n ofynnol gan Erthygl 6 o Reoliad y Cyngor;

ystyr “dull adnabod” (“method of identification”) yw tag clust, tag egwyd neu datŵ a osodir mewn Aelod-wladwriaeth arall neu drydedd wlad;

ystyr “dyfais adnabod” (“identification device”) yw tag clust, tag clust electronig, tag egwyd, tag egwyd electronig neu folws;

ystyr “y Gorchmynion blaenorol” (“the previous Orders”) yw—

(a)

Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2009(2);

(b)

Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2008(3);

(c)

Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2006(4);

(d)

Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002(5);

(e)

Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002(6);

(f)

Rheoliadau Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002(7);

(g)

Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofrestru, Adnabod a Symud) (Lloegr) 2009(8);

(h)

Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofrestru, Adnabod a Symud) (Lloegr) 2007(9);

(i)

Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofrestru, Adnabod a Symud) (Lloegr) 2005(10);

(j)

Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Lloegr) (Rhif 2) 2002(11);

(k)

Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Lloegr) 2002(12);

(l)

Gorchymyn Adnabod Defaid a Geifr (Lloegr) 2000(13);

(m)

Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofrestru, Adnabod a Symud) (Gogledd Iwerddon) 2009(14);

(n)

Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofrestru, Adnabod a Symud) (Gogledd Iwerddon) 2005(15);

(o)

Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Gogledd Iwerddon) 2004(16);

(p)

Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Gogledd Iwerddon) 1997(17);

(q)

Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofrestru, Adnabod a Symud) (Yr Alban) 2009(18);

(r)

Rheoliadau Defaid a Geifr (Adnabod ac Olrheinadwyedd) (Yr Alban) 2006(19);

(s)

Gorchymyn Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Yr Alban) 2002(20);

(t)

Rheoliadau Adnabod Defaid a Geifr (Yr Alban) 2000(21);

ystyr “gweithredwr lladd-dy” (“slaughterhouse operator”) yw person sy’n rhedeg busnes lladd-dy neu gynrychiolydd i berson o’r fath a awdurdodwyd yn briodol;

ystyr “gweithredwr marchnad” (“market operator”) yw person sy’n gyfrifol am reoli derbyn neu werthu anifeiliaid mewn marchnad neu gynrychiolydd i berson o’r fath a awdurdodwyd yn briodol;

ystyr “marc adnabod” (“identification mark”) yw dull adnabod a osodwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall, modd adnabod neu fodd adnabod hŷn;

ystyr “marchnad” (“market”) yw marchnadfa, iard arwerthu neu unrhyw fangre neu le arall y dygir anifeiliaid iddi neu iddo o unrhyw le arall i’w dangos ar gyfer eu gwerthu, ac mae’n cynnwys unrhyw le, gwalfa neu faes parcio cyfagos i farchnad, a ddefnyddir mewn cysylltiad â’r farchnad;

ystyr “modd adnabod” (“means of identification”) yw dyfais adnabod neu datŵ;

ystyr “nod diadell” (“flockmark”) yw’r rhif a ddyrannwyd gan Weinidogion Cymru o ran diadell o ddefaid ar ddaliad;

ystyr “pwynt cofnodi canolog” (“central point of recording”) yw daliad a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru o dan Adran C.2 o’r Atodiad i Reoliad y Cyngor ar gyfer cofnodi manylion adnabod anifeiliaid sy’n cyrraedd y daliad hwnnw;

ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 21/2004 sy’n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru defaid a geifr ac sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1782/2003 a Chyfarwyddebau 92/102/EEC a 64/432/EEC(22) fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;

ystyr “rhif unigryw” (“unique number”) yw rhif sy’n unigryw i anifail mewn diadell neu eifre ac nad yw’n cynnwys mwy na 6 digid.

(2Mae i ymadroddion nas diffinnir ym mharagraff (1) a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn ac y defnyddir yr ymadroddion Saesneg sy’n cyfateb iddynt yn Rheoliad y Cyngor yr un ystyron yn y Gorchymyn hwn ag sydd i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Rheoliad hwnnw.

Awdurdod cymwys

3.  Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor.

Awdurdodiadau

4.  Rhaid i unrhyw awdurdodiadau neu gymeradwyaethau a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn neu o dan Reoliad y Cyngor fod mewn ysgrifen, caniateir eu gwneud yn ddarostyngedig i amodau a chaniateir eu diwygio, eu hatal neu eu dirymu drwy hysbysiad ar unrhyw adeg.

(1)

OJ Rhif L 355, 5.12.92, t. 32 a ddiddymwyd gan Gyfarwyddeb 2008/71/EC. Bydd yr anifeiliaid hynaf yn parhau i gael eu hadnabod yn unol â’r Gorchymyn hwn.

(8)

O.S. 2009/3219, a ddiwygiwyd gan O.S. 2014/331.

(10)

O.S. 2005/3100, a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/2987.

(11)

O.S. 2002/2153, a ddiwygiwyd gan O.S. 2003/29, 2003/502 a 2003/1728.

(12)

O.S. 2002/240, a ddiwygiwyd gan O.S. 2002/764 a 2002/1349.

(13)

O.S. 2000/2027, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/281.

(20)

O.S.A. 2002/38, a ddiwygiwyd gan O.S.A. 2002/221.

(22)

OJ Rhif L 5, 9.1.04, t. 8.