RHAN 11Anifeiliaid a ddygir i mewn i Gymru

Adnabod anifeiliaid a fewnforir o drydydd gwledydd34

1

Cyflawnir trosedd os yw ceidwad yn methu â chydymffurfio ag Erthygl 4(4) o Reoliad y Cyngor a’r erthygl hon.

2

At ddibenion Erthygl 4(4) (y paragraff cyntaf) o Reoliad y Cyngor, y cyfnod ar gyfer adnabod anifail yw 14 diwrnod.

3

Rhaid i fodd adnabod anifeiliaid a fewnforir o drydedd wlad fod o’r un math â’r hyn a nodir yn Erthygl 4(2)(a) a (b) ac Erthygl 9(3) o Reoliad y Cyngor, a’r cod adnabod at ddibenion Adran A.2 o’r Atodiad yw—

a

y llythrennau “UK”; a

b

rhif 12 digid yn unol â chynllun rhifo a ragnodir gan Weinidogion Cymru.

4

Pan gaiff anifail ei fewnforio o drydedd wlad a’i ailadnabod yn unol â’r erthygl hon, rhaid i’r ceidwad gofnodi gwybodaeth ynghylch ychwanegu’r modd adnabod newydd yn y gofrestr, ynghyd â’r cod adnabod llawn sydd ar y modd adnabod newydd a’r cod llawn sydd ar y dull adnabod a osodwyd yn y drydedd wlad.