Mewnblannu microsglodion9
1
Ni chaiff neb fewnblannu microsglodyn mewn ci, onid yw—
a
yn filfeddyg neu’n nyrs filfeddygol yn gweithredu o dan gyfarwyddyd milfeddyg;
b
yn fyfyriwr milfeddygaeth neu’n fyfyriwr nyrsio milfeddygol, ac yn y naill achos a’r llall yn gweithredu o dan gyfarwyddyd milfeddyg;
c
wedi ei asesu’n foddhaol ar gwrs hyfforddi a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw; neu
d
wedi cael hyfforddiant mewn mewnblannu, a oedd yn cynnwys profiad ymarferol o fewnblannu microsglodyn, cyn y diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
2
Os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru, ar sail gwybodaeth a ddarparwyd yn unol â rheoliad 10 ac unrhyw wybodaeth arall, fod person, a allai fewnblannu microsglodion yn unol â pharagraff (1)(c) neu (1)(d), yn analluog i wneud hynny hyd at safon dderbyniol, caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i’r person hwnnw yn ei wahardd rhag mewnblannu microsglodion mewn cŵn—
a
hyd nes bo’r person hwnnw wedi cael hyfforddiant pellach ar gwrs a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru; neu
b
byth eto.
3
Mae paragraff (1)(d) yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau gyda’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
4
Yn y rheoliad hwn—
ystyr “milfeddyg” (“veterinary surgeon”) yw person a gofrestrwyd yn y gofrestr o filfeddygon, neu’r gofrestr filfeddygol atodol, a gedwir o dan Ddeddf Milfeddygon 1966;
mae i “myfyriwr milfeddygaeth” (“student of veterinary surgery”) yr ystyr a roddir i “student of veterinary surgery” yn rheoliad 3 o’r Atodlen i’r Gorchymyn Cyfrin Gyngor Rheoliadau Milfeddygon (Ymarfer gan Fyfyrwyr) 19818;
mae i “myfyriwr nyrsio milfeddygol” (“student veterinary nurse”) a “nyrs filfeddygol” (“veterinary nurse”) yr ystyron a roddir, yn eu trefn, i “student veterinary nurse” a “veterinary nurse” gan Atodlen 3 i Ddeddf Milfeddygon19669.