- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
9.—(1) Ni chaiff neb fewnblannu microsglodyn mewn ci, onid yw—
(a)yn filfeddyg neu’n nyrs filfeddygol yn gweithredu o dan gyfarwyddyd milfeddyg;
(b)yn fyfyriwr milfeddygaeth neu’n fyfyriwr nyrsio milfeddygol, ac yn y naill achos a’r llall yn gweithredu o dan gyfarwyddyd milfeddyg;
(c)wedi ei asesu’n foddhaol ar gwrs hyfforddi a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw; neu
(d)wedi cael hyfforddiant mewn mewnblannu, a oedd yn cynnwys profiad ymarferol o fewnblannu microsglodyn, cyn y diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
(2) Os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru, ar sail gwybodaeth a ddarparwyd yn unol â rheoliad 10 ac unrhyw wybodaeth arall, fod person, a allai fewnblannu microsglodion yn unol â pharagraff (1)(c) neu (1)(d), yn analluog i wneud hynny hyd at safon dderbyniol, caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i’r person hwnnw yn ei wahardd rhag mewnblannu microsglodion mewn cŵn—
(a)hyd nes bo’r person hwnnw wedi cael hyfforddiant pellach ar gwrs a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru; neu
(b)byth eto.
(3) Mae paragraff (1)(d) yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau gyda’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
(4) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “milfeddyg” (“veterinary surgeon”) yw person a gofrestrwyd yn y gofrestr o filfeddygon, neu’r gofrestr filfeddygol atodol, a gedwir o dan Ddeddf Milfeddygon 1966;
mae i “myfyriwr milfeddygaeth” (“student of veterinary surgery”) yr ystyr a roddir i “student of veterinary surgery” yn rheoliad 3 o’r Atodlen i’r Gorchymyn Cyfrin Gyngor Rheoliadau Milfeddygon (Ymarfer gan Fyfyrwyr) 1981(1);
mae i “myfyriwr nyrsio milfeddygol” (“student veterinary nurse”) a “nyrs filfeddygol” (“veterinary nurse”) yr ystyron a roddir, yn eu trefn, i “student veterinary nurse” a “veterinary nurse” gan Atodlen 3 i Ddeddf Milfeddygon1966(2).
O.S. 1981/988. Amnewidiwyd rheoliad 3 gan yr Atodlen i O.S. 1995/2397.
1966 p. 36. Mewnosodwyd paragraff 6 o Atodlen 3 i Ddeddf Milfeddygon 1966 gan O.S. 1991/1412, amnewidiwyd y paragraff hwnnw gan O.S. 2002/1479 a diwygiwyd ef gan baragraff 18 o’r Atodlen i O.S. 2008/1824. Mewnosodwyd paragraff 7 o Atodlen 3 i Ddeddf Milfeddygon 1966 gan O.S. 2002/1479.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: