Search Legislation

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Methiant Busnes) (Cymru) 2015

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Methiant Busnes) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2016.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “achos o ddirwyn i ben yn wirfoddol gan yr aelodau” (“a members’ voluntary winding up”) yw dirwyn busnes i ben pan fo datganiad statudol wedi ei wneud o dan adran 89 o Ddeddf 1986 neu erthygl 75 o Orchymyn 1989(1);

ystyr “darparwr” (“a provider”) yw person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(2) mewn cysylltiad â sefydliad neu asiantaeth;

ystyr “Deddf 1986” (“the 1986 Act”) yw Deddf Ansolfedd 1986(3);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

ystyr “Gorchymyn 1989” (“the 1989 Order”) yw Gorchymyn Ansolfedd (Gogledd Iwerddon) 1989(4);

ystyr “y swm perthnasol” (“the relevant amount”) yw’r swm a bennir yn adran 123(1)(a) o Ddeddf 1986 (diffiniad o fethiant â thalu dyledion).

Methiant busnes

2.—(1At ddibenion adrannau 189 a 191 o’r Ddeddf—

(a)mae i fethiant busnes yr ystyr a roddir ym mharagraffau (2) i (5); a

(b)mae darparwr i’w drin fel pe bai’n methu â rhedeg sefydliad neu ei reoli neu’n methu â rhedeg asiantaeth neu ei rheoli oherwydd methiant busnes os yw methiant y darparwr â gwneud hynny yn dilyn methiant busnes.

(2Pan na fo darparwr yn unigolyn, mae methiant busnes yn golygu, mewn cysylltiad â’r darparwr hwnnw—

(a)bod penodi gweinyddwr (o fewn yr ystyr a roddir i “administrator” gan baragraff 1(1) o Atodlen B1 i Ddeddf 1986(5) neu baragraff 2(1) o Atodlen B1 i Orchymyn 1989(6)) yn cymryd effaith;

(b)bod derbynnydd yn cael ei benodi;

(c)bod derbynnydd gweinyddol fel y diffinnir “administrative receiver” yn adran 251 o Ddeddf 1986 neu erthygl 5 o Orchymyn 1989 yn cael ei benodi;

(d)bod penderfyniad i ddirwyn busnes i ben yn wirfoddol yn cael ei basio ac eithrio mewn achos o ddirwyn i ben yn wirfoddol gan yr aelodau;

(e)bod gorchymyn dirwyn i ben yn cael ei wneud;

(f)bod gorchymyn yn rhinwedd erthygl 11 o Orchymyn Partneriaethau Ansolfent 1994 (deiseb methdalu ar y cyd gan aelodau unigol o bartneriaeth ansolfent)(7) yn cael ei wneud;

(g)bod gorchymyn yn rhinwedd erthygl 11 o Orchymyn Partneriaethau Ansolfent (Gogledd Iwerddon) 1995 (deiseb methdalu ar y cyd gan aelodau unigol o bartneriaeth ansolfent)(8) yn cael ei wneud;

(h)bod ymddiriedolwyr elusen y darparwr yn methu â thalu eu dyledion wrth iddynt ddod yn ddyledus;

(i)bod pob aelod o’r bartneriaeth (mewn achos pan fo’r darparwr yn bartneriaeth) yn cael ei wneud yn fethdalwr; neu

(j)bod trefniant gwirfoddol sydd wedi ei gynnig at ddibenion Rhan I o Ddeddf 1986(9) neu Ran 2 o Orchymyn 1989 wedi ei gymeradwyo o dan y Rhan honno o’r Ddeddf honno neu’r Gorchymyn hwnnw.

(3Mewn perthynas â darparwr sy’n unigolyn, mae methiant busnes yn golygu—

(a)bod yr unigolyn yn cael ei wneud yn fethdalwr;

(b)bod yr unigolyn yn cynnig trefniant gwirfoddol yn unol â Rhan 8 o Ddeddf 1986 neu Ran 8 o Orchymyn 1989 neu’n ymrwymo i drefniant o’r fath; neu

(c)bod gorchymyn rhyddhau o ddyled yn cael ei wneud o dan Ran VIIA o Ddeddf 1986 neu Ran 7A o Orchymyn 1989(10).

(4At ddibenion paragraff (2)(h), mae person yn ymddiriedolwr elusen darparwr—

(a)os yw’r darparwr yn elusen sy’n anghorfforedig; a

(b)os yw’r person yn un o ymddiriedolwyr yr elusen honno.

(5At ddibenion paragraff (2)(h), mae ymddiriedolwyr elusen darparwr i’w trin fel pe baent yn methu â thalu eu dyledion wrth iddynt ddod yn ddyledus—

(a)os yw credydwr y mae ar yr ymddiriedolwyr iddynt swm sy’n fwy na’r swm perthnasol a oedd yn ddyledus bryd hynny wedi cyflwyno i’r ymddiriedolwyr archiad ysgrifenedig sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r ymddiriedolwyr dalu’r swm sy’n ddyledus felly a bod yr ymddiriedolwyr, am 3 wythnos wedi hynny, wedi peidio â thalu’r swm neu ei sicrhau neu gyfamodi i’w dalu er boddhad rhesymol y credydwr;

(b)yng Nghymru a Lloegr, os yw darafaeliad neu broses arall a ddyroddir ar ddyfarniad, archddyfarniad neu orchymyn llys o blaid un o gredydwyr yr ymddiriedolwyr heb ei bodloni yn gyfan gwbl neu’n rhannol;

(c)yn yr Alban, os yw induciae archiad am daliad ar archddyfarniad cryno, neu fond cofrestredig cryno, neu brotest cofrestredig cryno, wedi dod i ben heb i daliad gael ei wneud; neu

(d)yng Ngogledd Iwerddon, os yw tystysgrif anorfodadwyedd wedi ei rhoi mewn cysylltiad â dyfarniad yn erbyn yr ymddiriedolwyr.

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

18 Tachwedd 2015

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources