xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1904 (Cy. 276) (C. 117)

Tai, Cymru

Diogelu Defnyddwyr, Cymru

Gorchymyn Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2015

Gwnaed

11 Tachwedd 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd gan adran 100(3)(b) o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2015.

(2Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 23 Tachwedd 2015

2.  Mae Pennod 3 o Ran 3 (amrywiol a chyffredinol) o’r Ddeddf yn dod i rym ar 23 Tachwedd 2015 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.

3.  Mae Atodlen 9 i’r Ddeddf yn dod i rym ar 23 Tachwedd 2015 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.

Dirymu

4.  Mae Gorchymyn Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2015(2) wedi ei ddirymu.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru

11 Tachwedd 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2015 ac yn dwyn i rym, ar 23 Tachwedd 2015, Bennod 3 o Ran 3 (amrywiol a chyffredinol) o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015 (“y Ddeddf”) at ddibenion sy’n weddill. Mae’r Gorchymyn hwn, felly, yn dwyn i rym ar 23 Tachwedd 2015 y darpariaethau hynny o’r Ddeddf nad ydynt eisoes mewn grym.

Mae Pennod 3 o Ran 3 (amrywiol a chyffredinol) o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i asiantau gosod i roi cyhoeddusrwydd i ffioedd perthnasol yn eu mangreoedd ac ar eu gwefan (os oes ganddynt un). Mae Pennod 3 hefyd yn darparu ar gyfer gorfodi’r ddyletswydd gan bob awdurdod pwysau a mesurau lleol yng Nghymru.

Daeth Pennod 3 o Ran 3 (amrywiol a chyffredinol) i rym pan roddwyd y Cydsyniad Brenhinol i’r Ddeddf ar 26 Mawrth 2015 at y dibenion o wneud rheoliadau.

Mae adran 87 (gorfodi dyletswydd asiantau gosod i roi cyhoeddusrwydd i ffioedd) ac Atodlen 9 (dyletswydd asiantau gosod i roi cyhoeddusrwydd i ffioedd: cosbau ariannol) o’r Ddeddf wedi eu cychwyn yn y Gorchymyn hwn. Mae Atodlen 9 yn darparu gweithdrefn ar gyfer apelau yn erbyn cosbau ariannol.