xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 7LL+CGofynion ar gyfer dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu gan gynnwys crynodiadau neu werthoedd a ragnodwyd o’r paramedrau

RHAN 1LL+CGofynion ar gyfer dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu

1.  Mae dŵr yn bodloni gofynion yr Atodlen hon—LL+C

(a)os nad yw’r dŵr yn cynnwys unrhyw ficro-organebau (heblaw paramedr) neu barasit, neu unrhyw briodwedd, elfen neu sylwedd (heblaw paramedr) mewn crynodiad neu werth a fyddai’n golygu perygl posibl i iechyd dynol;

(b)os nad yw’r dŵr yn cynnwys unrhyw sylwedd (p’un a ydyw’n baramedr ai peidio) ar grynodiad neu werth a fyddai, ar y cyd ag unrhyw briodwedd, elfen, sylwedd neu organeb arall y mae’n eu cynnwys (p’un a ydyw’n baramedr ai peidio), yn golygu perygl posibl i iechyd dynol; ac

(c)os nad yw’r dŵr yn cynnwys crynodiadau neu werthoedd o unrhyw rai o’r paramedrau a restrir yn y tablau yn Rhan 2, Rhan 3 a Rhan 4 o’r Atodlen hon yn fwy na’r crynodiadau neu werthoedd a ragnodwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 7 para. 1 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)