RHAN 5Monitro a samplu

PENNOD 1Dŵr mwynol naturiol

Monitro dŵr mwynol naturiolI123

Yn achos dŵr mwynol naturiol, rhaid i bob awdurdod bwyd gynnal gwiriadau achlysurol i sicrhau—

a

bod cyfansoddiad, tymheredd a nodweddion hanfodol eraill y dŵr yn parhau’n sefydlog o fewn terfynau anwadaliad naturiol;

b

heb leihau effaith paragraff (a), nad yw cyfansoddiad, tymheredd a nodweddion hanfodol eraill y dŵr yn cael eu heffeithio gan unrhyw amrywiad yng nghyfradd y llif;

c

bod y cyfrif cytref hyfyw wrth y ffynhonnell (cyn i’r dŵr gael unrhyw driniaeth) yn rhesymol gyson, gan gymryd i ystyriaeth gyfansoddiad ansoddol a meintiol y dŵr a ystyriwyd wrth roi cydnabyddiaeth i’r dŵr a pha un a yw’n parhau i fodloni gofynion Rhan 1 o Atodlen 1; a

d

bod gofynion Atodlen 4 yn cael eu bodloni mewn perthynas â’r dŵr.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 23 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 2Dŵr wedi’i botelu a’i labelu fel “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu

Monitro dŵr wedi’i botelu a’i labelu fel “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i boteluI224

1

Yn achos dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, a dŵr yfed wedi’i botelu, rhaid i bob awdurdod bwyd fonitro ansawdd y dŵr yn rheolaidd er mwyn gwneud yn siŵr—

a

ei fod yn bodloni gofynion Cyfarwyddeb 98/83 ac yn cydymffurfio’n benodol â’r gwerthoedd paramedrig a osodir yn unol ag Atodlen 7; a

b

pan fo diheintiad yn ffurfio rhan o’r broses o baratoi neu ddosbarthu dŵr yfed wedi’i botelu, bod y driniaeth ddiheintio a ddefnyddir yn effeithlon a bod unrhyw halogiad o sgil-gynhyrchion diheintio yn cael ei gadw cyn ised â phosibl heb beryglu’r diheintio.

2

Er mwyn cydymffurfio â pharagraff (1), rhaid i bob awdurdod bwyd gyflawni—

a

monitro yn unol ag Atodlen 8 er mwyn canfod a yw’r dŵr yn cydymffurfio â’r gwerthoedd paramedrig perthnasol a bennir yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 7; a

b

monitro yn unol ag Atodlen 9 er mwyn canfod a yw’r dŵr yn cydymffurfio â’r gwerthoedd paramedrig perthnasol a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7.

3

Rhaid i bob awdurdod bwyd gyflawni monitro ychwanegol, yn ôl bob achos yn unigol, mewn perthynas ag unrhyw briodwedd, elfen, sylwedd neu organeb ar wahân i baramedr a bennir yn Atodlen 7, os oes gan yr awdurdod bwyd reswm i amau y gallai fod yn bresennol yn y dŵr dan sylw mewn maint neu nifer sy’n golygu perygl posibl i iechyd pobl.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 24 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Samplau a dadansoddiI325

1

At ddiben monitro dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, a dŵr yfed wedi’i botelu, rhaid i bob awdurdod bwyd gyflawni—

a

samplu a dadansoddi yn unol ag Atodlen 10 er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn cydymffurfio â’r gwerthoedd paramedrig a bennir yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 7; a

b

samplu a dadansoddi yn unol ag Atodlen 11 er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn cydymffurfio â’r gwerthoedd paramedrig ar gyfer y dogn dangosiadol a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7.

2

Rhaid i bob awdurdod bwyd gymryd samplau ar yr adeg y potelir y dŵr.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 25 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Camau adferolI426

1

Os bydd awdurdod bwyd yn penderfynu nad yw dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, neu ddŵr yfed wedi’i botelu, yn cydymffurfio â’r crynodiadau neu’r gwerthoedd paramedrig a bennir yn Atodlen 7, rhaid i’r awdurdod bwyd—

a

ymchwilio ar unwaith i’r diffyg cydymffurfio er mwyn canfod yr achos;

b

asesu a yw’r diffyg cydymffurfio yn peryglu iechyd pobl gan olygu bod angen camau gweithredu;

c

ei gwneud yn ofynnol i weithredwr y busnes gymryd camau adferol cyn gynted ag y bo modd er mwyn adfer ansawdd y dŵr pan fo hynny’n angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd pobl;

d

mewn cysylltiad ag unrhyw baramedr a bennir yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 7, hysbysu’r cyhoedd o’r camau adferol a gymerir, oni bai bod yr awdurdod bwyd yn ystyried bod y diffyg cydymffurfio â’r gwerth paramedrig yn ddibwys; ac

e

mewn cysylltiad ag unrhyw baramedr a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7, hysbysu’r cyhoedd o’r risgiau a’r camau adferol a gymerir a rhoi cyngor i’r cyhoedd am unrhyw fesurau rhagofal a allai fod yn angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd pobl mewn cysylltiad â sylweddau ymbelydrol.

2

Os yw dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, neu ddŵr yfed wedi’i botelu, yn golygu perygl posibl i iechyd pobl, boed yn bodloni’r gwerthoedd paramedrig perthnasol yn Atodlen 7 ai peidio, rhaid i’r awdurdod bwyd—

a

atal neu gyfyngu ar gyflenwad y dŵr hwnnw yn ei ardal neu gymryd camau eraill fel y bo’r angen er mwyn diogelu iechyd pobl; a

b

hysbysu’r cyhoedd yn ddi-oed o’r ffaith a rhoi cyngor pan fo angen.

3

Nid oes rhaid i awdurdod bwyd atal neu gyfyngu ar gyflenwad dŵr o dan baragraff (2)(a) os yw’n ystyried y byddai gwneud hynny yn arwain at risg annerbyniol i iechyd pobl.

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 26 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 3Triniaethau

Monitro triniaethau penodolI527

1

Rhaid i bob awdurdod bwyd gynnal gwiriadau achlysurol ar unrhyw driniaethau tynnu fflworid a awdurdodwyd ganddo er mwyn sicrhau bod gofynion paragraff 3 o Atodlen 2 yn parhau i gael eu bodloni.

2

Rhaid i bob awdurdod bwyd gynnal gwiriadau achlysurol ar unrhyw driniaeth aer a gyfoethogir ag osôn a awdurdodwyd ganddo er mwyn sicrhau bod gofynion paragraff 4 o Atodlen 3 yn parhau i gael eu bodloni.

Annotations:
Commencement Information
I5

Rhl. 27 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 4Samplau

CyffredinolI628

Rhaid i’r awdurdod bwyd sicrhau bod pob sampl yn cynrychioli ansawdd y dŵr dan sylw a yfir drwy gydol y flwyddyn y cymerir y sampl ynddi.

Annotations:
Commencement Information
I6

Rhl. 28 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

DosbarthuI729

1

Caiff swyddog awdurdodedig awdurdod bwyd sydd wedi caffael sampl o dan adran 29 o’r Ddeddf ac y mae’n ofynnol iddo roi rhan o’r sampl hwnnw i’r perchennog yn unol â rheoliad 7(3)(c) o’r Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 201318 fynd â’r sampl hwnnw—

a

yn uniongyrchol i’r perchennog neu asiant y perchennog; neu

b

drwy bost cofrestredig neu wasanaeth dosbarthu cofnodedig.

2

Os na fydd y swyddog awdurdodedig, ar ôl ymchwilio’n rhesymol, yn gallu canfod enw a chyfeiriad y perchennog, caiff y swyddog awdurdodedig ddal gafael ar y sampl.

3

Yn y rheoliad hwn, mae i “perchennog” yr un ystyr ag a roddir iddo yn y Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013.

Annotations:
Commencement Information
I7

Rhl. 29 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

HysbysuI830

1

Rhaid i swyddog awdurdodedig awdurdod bwyd sydd wedi caffael sampl dŵr o dan adran 29 o’r Ddeddf at y diben o’i ddadansoddi gan ddadansoddwr cyhoeddus gyflwyno hysbysiad yn unol â pharagraff (2) os ymddengys bod y dŵr wedi ei ddatblygu neu ei botelu gan berson (ar wahân i’r perchennog) y mae ei enw a’i gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig wedi eu harddangos ar y botel.

2

Rhaid i’r swyddog awdurdodedig anfon yr hysbysiad i’r person hwnnw o fewn 3 diwrnod i gaffael y sampl, sy’n ei hysbysu—

a

bod y sampl wedi ei gaffael gan y swyddog; a

b

ymhle y cafodd y sampl ei gymryd neu, yn ôl y digwydd, gan bwy y’i prynwyd.

3

Nid yw paragraff (1) yn gymwys os bydd y swyddog awdurdodedig yn penderfynu peidio â chael dadansoddiad o’r sampl.

Annotations:
Commencement Information
I8

Rhl. 30 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Dadansoddiad gan Gemegydd y LlywodraethI931

1

Mae paragraffau (2) i (6) yn gymwys pan fo rhan o sampl a gafodd ei gaffael o dan adran 29 o’r Ddeddf wedi ei chyflwyno i gael ei dadansoddi a bod rhan arall o’r sampl wedi ei chadw yn unol â rheoliad 7(3)(e) o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013 a—

a

bod hysbysiad gwella wedi ei gyflwyno i berson o dan adran 10(1) o’r Ddeddf, fel y’i cymhwysir a’i haddasir gan reoliad 33, fel y’i darllenir gydag Atodlen 12, am dorri darpariaeth y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â’r sampl hwnnw;

b

bod apêl yn erbyn yr hysbysiad gwella hwnnw wedi ei gwneud gan y person hwnnw i lys yr ynadon; ac

c

bod y swyddog awdurdodedig yn bwriadu cyflwyno canlyniad y dadansoddiad a grybwyllwyd uchod fel tystiolaeth.

2

Caiff swyddog awdurdodedig anfon y rhan o’r sampl a gedwir i Gemegydd y Llywodraeth i’w dadansoddi ond rhaid ei anfon—

a

os gofynnir hynny gan lys yr ynadon; neu

b

yn ddarostyngedig i baragraff (6), os gofynnir hynny gan dderbynnydd yr hysbysiad gwella.

3

Rhaid i Gemegydd y Llywodraeth ddadansoddi, neu gyfarwyddo dadansoddwr bwyd i ddadansoddi, y rhan o’r sampl a anfonwyd o dan baragraff (2) ac anfon tystysgrif dadansoddiad Cemegydd y Llywodraeth i’r swyddog awdurdodedig.

4

Rhaid i unrhyw dystysgrif a anfonir gan Gemegydd y Llywodraeth gael ei llofnodi gan neu ar ran Cemegydd y Llywodraeth, ond caniateir cynnal y dadansoddiad gan berson o dan gyfarwyddyd y person sy’n llofnodi’r dystysgrif.

5

Ar ôl derbyn y dystysgrif, a chyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, rhaid i’r swyddog awdurdodedig roi copi ohoni i lys yr ynadon ac i dderbynnydd yr hysbysiad gwella.

6

Pan wneir cais o dan baragraff (2)(b), caiff y swyddog awdurdodedig ofyn i dderbynnydd yr hysbysiad gwella dalu ffi a bennir yn ysgrifenedig i dalu rhai o gostau Cemegydd y Llywodraeth am gyflawni’r swyddogaethau o dan baragraff (3), neu’r holl gostau.

7

Pan fydd hysbysiad yn cael ei gyflwyno o dan baragraff (6) a derbynnydd yr hysbysiad gwella yn gwrthod talu’r ffi a bennir yn yr hysbysiad, caiff y swyddog awdurdodedig wrthod cydymffurfio â’r cais a wnaed o dan baragraff (2)(b).