RHAN 3LL+CDŵr y bwriedir ei werthu fel “spring water” neu “dŵr ffynnon”
Datblygu ffynhonnau dŵr a photelu dŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water” neu “dŵr ffynnon”LL+C
14.—(1) Ni chaiff neb botelu dŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, oni bai—
(a)bod y dŵr wedi ei echdynnu o ffynnon a’i botelu wrth y ffynhonnell;
(b)bod y dŵr wedi ei fwriadu i’w yfed gan bobl yn ei gyflwr naturiol;
(c)bod gofynion Atodlen 4 yn cael eu bodloni; a
(d)bod y dŵr yn bodloni gofynion Atodlen 7.
(2) Pan ganfyddir yn ystod datblygu bod dŵr o ffynnon wedi ei lygru ac y byddai potelu’r dŵr yn mynd yn groes i baragraffau 6, 7 neu 8 o Atodlen 4, ni chaiff neb ddatblygu’r ffynnon yr echdynnir y dŵr ohoni hyd nes bod achos y llygredd wedi’i ddileu ac y byddai potelu’r dŵr yn cydymffurfio â’r paragraffau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 14 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Triniaethau i ddŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water” neu “dŵr ffynnon” ac ychwanegiadau iddoLL+C
15. Ni chaiff neb roi dŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, yn ei gyflwr yn ei ffynhonnell, trwy—
(a)unrhyw driniaeth heblaw—
(i)gwahanu ei elfennau ansefydlog, megis cyfansoddion haearn a sylffwr, drwy hidlo neu ardywallt, pa un a fydd ocsigeniad cyn hynny ai peidio, i’r graddau nad yw’r driniaeth yn newid cyfansoddiad y dŵr o ran yr ansoddau hanfodol sy’n rhoi iddo ei briodoleddau;
(ii)dilead cyfan neu rannol y carbon deuocsid rhydd drwy ddulliau cyfan gwbl ffisegol;
(iii)triniaeth tynnu fflworid sydd wedi ei awdurdodi yn unol ag Atodlen 2; neu
(iv)triniaeth ocsideiddio aer a gyfoethogir ag osôn sydd wedi ei awdurdodi yn unol ag Atodlen 3; neu
(b)unrhyw ychwanegiad heblaw cyflwyno neu ailgyflwyno carbon deuocsid; neu
(c)unrhyw driniaeth ddiheintio mewn unrhyw fodd, neu, yn ddarostyngedig i is-baragraff (b), ychwanegu elfennau bacteriostatig, neu unrhyw driniaeth arall sy’n debygol o newid cyfrif cytref hyfyw y dŵr.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 15 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Labelu dŵr fel “spring water” neu “dŵr ffynnon”LL+C
16.—(1) Ni chaiff neb labelu potel o ddŵr fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, oni bai bod y dŵr a gynhwysir ynddi—
(a)yn bodloni gofynion rheoliad 14(1); a
(b)os yw’r dŵr wedi ei drin, ei fod wedi cael triniaeth neu ychwanegiad a ganiateir o dan reoliad 15.
(2) Os yw potel o ddŵr wedi’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, ni chaiff neb labelu’r botel honno gyda disgrifiad masnachol—
(a)sy’n cynnwys enw bro, pentrefan neu le arall, onid yw’r disgrifiad masnachol hwnnw’n cyfeirio at ddŵr y mae’r ffynnon y datblygwyd ef ohoni yn y lle a ddangosir gan yr enw hwnnw ac nad yw’n gamarweiniol o ran y lle y datblygir y ffynnon; neu
(b)yn wahanol i enw’r ffynnon neu’r lle y caiff ei datblygu, oni bai bod enw’r ffynnon neu’r lle y caiff ei datblygu wedi’i labelu ar y botel hefyd, gan ddefnyddio llythrennau sydd o leiaf unwaith a hanner uchder a lled y llythrennau mwyaf a ddefnyddir ar gyfer y disgrifiad masnachol hwnnw.
(3) Ni chaiff neb labelu potel o ddŵr fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, oni bai bod y botel hefyd wedi’i labelu â’r canlynol—
(a)enw’r lle y datblygir y ffynnon;
(b)enw’r ffynnon;
(c)pan fo’r dŵr wedi cael triniaeth ag aer a gyfoethogir ag osôn, rhaid i’r geiriau “water subjected to an authorised ozone-enriched air oxidation technique”, ymddangos yn agos at y manylion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) a (b);
(d)nid oes dim yn is-baragraff (c) yn atal defnyddio’r geiriau “dŵr wedi ei drin â thechneg awdurdodedig i’w ocsideiddio ag aer a gyfoethogir ag osôn” yn ogystal â “water subjected to an authorised ozone-enriched air oxidation technique”; ac
(e)nid oes dim yn is-baragraffau (c) neu (d) yn atal defnyddio geiriau cyfatebol mewn unrhyw iaith yn ogystal â Chymraeg a Saesneg.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 16 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Hysbysebu dŵr fel “spring water” neu “dŵr ffynnon”LL+C
17.—(1) Pan fo’n ofynnol i botel o ddŵr gael ei labelu ag enw’r ffynnon neu’r lle y caiff ei datblygu yn unol â rheoliad 16(2)(b), yn ogystal â disgrifiad masnachol—
(a)mae’r un gofyniad hefyd yn gymwys i unrhyw hysbyseb ysgrifenedig ar gyfer y dŵr hwnnw; a
(b)mewn unrhyw hysbyseb arall, rhaid rhoi amlygrwydd cyfatebol o leiaf i’r lle y caiff ei datblygu neu i enw’r ffynnon ag a roddir i’r disgrifiad masnachol.
(2) Ni chaiff neb hysbysebu potel o ddŵr fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, yn groes i baragraff (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 17 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Gwerthu dŵr fel “spring water” neu “dŵr ffynnon”LL+C
18.—(1) Ni chaiff neb werthu dŵr sydd wedi ei botelu neu ei labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, os yw’r dŵr hwnnw—
(a)wedi’i botelu yn groes i reoliad 14(1);
(b)wedi cael triniaeth neu ychwanegiad yn groes i reoliad 15;
(c)wedi’i labelu yn groes i reoliad 16; neu
(d)wedi’i hysbysebu yn groes i reoliad 17.
(2) Ni chaiff neb werthu dŵr o’r un ffynnon fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, o dan fwy nag un disgrifiad masnachol.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 18 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)