RHAN 2CODI FFIOEDD O DAN RAN 5 O’R DDEDDF

Isafswm incwm ar gyfer person y darperir gofal a chymorth amhreswyl iddo12

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn diwallu anghenion A am ofal a chymorth, neu’n cynnig eu diwallu, rywfodd ac eithrio drwy ddarpariaeth o lety mewn cartref gofal.

2

Rhaid i awdurdod lleol ddyfarnu na fyddai’n rhesymol ymarferol i A dalu unrhyw swm y byddai ei dalu yn gostwng incwm wythnosol net A islaw’r isafswm incwm a nodir yn y rheoliad hwn.

3

Pan fo A yn cael budd-dal perthnasol, yr isafswm incwm yw—

a

yr hawlogaeth wythnosol sylfaenol i’r budd-dal perthnasol y mae A yn ei gael (“yr hawlogaeth sylfaenol”);

b

swm o ddim llai na 35% o’r hawlogaeth honno (“y glustog”);

c

swm ychwanegol i ddigolledu A am wariant cysylltiedig ag anabledd, sef dim llai na 10% o’r hawlogaeth sylfaenol; a

d

swm wythnosol cyfwerth ag unrhyw ffioedd unffurf a delir, neu sydd i’w talu, gan A, pa un ai am wasanaethau a ddarperir o dan Ran 4 o’r Ddeddf, neu am wasanaethau a ddarperir o dan adran 15 neu am gynhorthwy a ddarperir o dan adran 17 o’r Ddeddf.

4

Pan nad yw A yn cael budd-dal perthnasol, yr isafswm incwm wythnosol yw—

a

swm wythnosol yr hyn a asesir yn rhesymol gan yr awdurdod lleol fyddai hawlogaeth sylfaenol A i fudd-daliadau, gan ystyried oedran, amgylchiadau a lefel anabledd A (“yr amcangyfrif o’r hawlogaeth sylfaenol”);

b

swm o ddim llai na 35% o’r amcangyfrif o’r hawlogaeth sylfaenol (“y glustog”);

c

swm i ddigolledu A am wariant cysylltiedig ag anabledd, sef dim llai na 10% o’r amcangyfrif o’r hawlogaeth sylfaenol; a

d

swm wythnosol cyfwerth ag unrhyw ffioedd unffurf a delir, neu sydd i’w talu, gan A, pa un ai am wasanaethau a ddarperir o dan Ran 4 o’r Ddeddf, neu am wasanaethau a ddarperir o dan adran 15 neu am gynhorthwy a ddarperir o dan adran 17 o’r Ddeddf.

5

Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy’n effeithio ar ddisgresiwn awdurdod lleol i gynyddu canran y glustog neu’r swm i ddigolledu am wariant cysylltiedig ag anabledd wrth gyfrifo’r isafswm incwm.