- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “ad-daliad” (“reimbursement”) yw swm y dyfernir sydd i’w ad-dalu fel y crybwyllir yn adran 53(1)(c)(ii) o’r Ddeddf mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol;
ystyr “asesiad ariannol” (“financial assessment”) yw asesiad ariannol o dan adran 63 o’r Ddeddf;
ystyr “ceisydd” (“requester”) yw—
person a restrir ym mharagraffau (a) to (c) o reoliad 3; a
a ofynnodd am adolygiad o unrhyw benderfyniad sy’n ymwneud â chodi ffi, y cyfeirir ato yn adran 73(1) o’r Ddeddf neu ddyfarniad ynghylch ad-daliad neu gyfraniad a wnaed yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 50 i 53 o’r Ddeddf;
ystyr “cyfnod adolygu” (“review period”) yw cyfnod sy’n cychwyn gyda’r dyddiad y mae’r awdurdod lleol yn cael cais am adolygiad, ac yn diweddu ar y cynharaf o naill ai’r dyddiad y mae’r awdurdod lleol yn anfon ei benderfyniad ar yr adolygiad at y ceisydd, neu’r dyddiad yr hysbysir yr awdurdod lleol o dynnu’n ôl y cais;
ystyr “cyfraniad” (“contribution”) yw swm y dyfernir fel cyfraniad, fel y crybwyllir yn adran 53(1)(c)(ii) o’r Ddeddf mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol;
ystyr “datganiad” (“statement”) yw datganiad mewn ffurf sy’n briodol ar gyfer anghenion cyfathrebu pob un o’r canlynol—
y ceisydd;
unrhyw gynrychiolydd penodedig; neu
person y mae’r awdurdod lleol yn gofyn am wybodaeth neu ddogfennaeth ganddo o dan reoliad 13;
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ŵyl banc yn yr ystyr a roddir i “bank holiday” yn Neddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 (1);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
ystyr “ffi” (“charge”) yw—
unrhyw ffi a osodir yn unol ag adran 59 o’r Ddeddf;
unrhyw ad-daliad neu gyfraniad y dyfernir yn unol â rheoliadau a wneir o dan adrannau 50 i 53 o’r Ddeddf; neu
unrhyw ffi a osodir ar berson a ddaeth yn atebol, yn unol ag adran 72 o’r Ddeddf, am swm mewn cysylltiad â chostau diwallu anghenion person;
mae i “ffi safonol” (“standard charge”) yr ystyr a roddir yn adran 63(3) o’r Ddeddf;
mae i “gofal a chymorth” (“care and support”) yr ystyr a roddir yn adran 4 o’r Ddeddf;
ystyr “mewn ysgrifen” (“in writing”) yw unrhyw fynegiant a gyfansoddir o eiriau neu ffigurau y gellir ei ddarllen, ei atgynhyrchu a’i gyfathrebu yn ddiweddarach, a gall gynnwys gwybodaeth a drawsyrrir ac a gedwir gan ddefnyddio dulliau electronig;
ystyr “person penodedig” (“appointed person”) yw person a benodwyd i ymdrin â’r adolygiad yn unol â rheoliad 7 o’r Rheoliadau hyn;
ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015;
mae i “taliadau gros” (“gross payments”) yr ystyr a roddir yn adran 53(2) o’r Ddeddf;
ystyr “trosglwyddai atebol” (“liable transferee”) yw trosglwyddai o fewn yr ystyr yn adran 72 o’r Ddeddf, y codir atebolrwydd yn ei erbyn o dan yr adran honno;
ystyr “ymweliad â’r cartref” (“home visit”) yw ymweliad a wneir gan swyddog awdurdod lleol â phreswylfa gyfredol—
ceisydd; neu
person y mae’r awdurdod lleol yn gofyn am wybodaeth neu ddogfennaeth ganddo o dan reoliad 13
neu â pha bynnag fan cyfarfod arall y gofynnir amdano yn rhesymol gan y personau y cyfeirir atynt yn (a) neu (b).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: