xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “amser penodedig” (“specified time”) yw’r amser a bennir yn rheoliad 7;

ystyr “cynllun gofal a chymorth” (“care and support plan”) yw cynllun a lunnir yn unol ag adran 54 o’r Ddeddf, neu gynllun y mae awdurdod lleol yn ei lunio pan yw’n diwallu anghenion oedolyn am ofal a chymorth o dan adran 36 o’r Ddeddf;

mae i “cytundeb ar daliad gohiriedig” (“deferred payment agreement”) yr ystyr a roddir yn adran 68(2) o’r Ddeddf;

ystyr “Deddf 2011” (“the 2011 Act”) yw Deddf Cyfrifoldeb Cyllidebol ac Archwilio Cenedlaethol 2011(1);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

mae i “incwm asesedig” (“assessed income”) yr ystyr a roddir yn y Rheoliadau Gosod Ffioedd;

ystyr “y Rheoliadau Gosod Ffioedd” (“the Charging Regulations”) yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015(2);

ystyr “sicrwydd digonol” (“adequate security”) yw arwystl drwy gyfrwng morgais cyfreithiol am swm sydd o leiaf yn hafal i swm gofynnol yr oedolyn ac unrhyw log neu gostau gweinyddol sydd i gael eu trin yn yr un ffordd â swm gofynnol yr oedolyn ac sy’n gallu cael ei gofrestru fel arwystl cyfreithiol cyntaf o blaid yr awdurdod lleol yn y gofrestr tir(3);

ystyr “swm gofynnol” (“required amount”) yw’r hyn o’r ffi y mae’n ofynnol i’r oedolyn (neu y mae’n mynd i fod yn ofynnol iddo) ei dalu o dan adran 59 o’r Ddeddf ac unrhyw swm y mae’n ofynnol i’r oedolyn ei dalu yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 57(2) o’r Ddeddf ag a bennir neu a ddyfernir yn unol â rheoliad 5;

ystyr “terfyn cyfalaf” (“capital limit”) yw’r swm a bennir yn rheoliad 11(2) o’r Rheoliadau Gosod Ffioedd.

(3)

Gweler adran 132(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (p. 9) am ystyr “charge” (“arwystl”), “legal mortgage” (“morgais cyfreithiol”) a “register” (“cofrestr”).