2015 Rhif 1841 (Cy. 269)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Taliadau Gohiriedig) (Cymru) 2015

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 68 ac adran 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 20141, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Taliadau Gohiriedig) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2016.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “amser penodedig” (“specified time”) yw’r amser a bennir yn rheoliad 7;

  • ystyr “cynllun gofal a chymorth” (“care and support plan”) yw cynllun a lunnir yn unol ag adran 54 o’r Ddeddf, neu gynllun y mae awdurdod lleol yn ei lunio pan yw’n diwallu anghenion oedolyn am ofal a chymorth o dan adran 36 o’r Ddeddf;

  • mae i “cytundeb ar daliad gohiriedig” (“deferred payment agreement”) yr ystyr a roddir yn adran 68(2) o’r Ddeddf;

  • ystyr “Deddf 2011” (“the 2011 Act”) yw Deddf Cyfrifoldeb Cyllidebol ac Archwilio Cenedlaethol 20112;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

  • mae i “incwm asesedig” (“assessed income”) yr ystyr a roddir yn y Rheoliadau Gosod Ffioedd;

  • ystyr “y Rheoliadau Gosod Ffioedd” (“the Charging Regulations”) yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 20153;

  • ystyr “sicrwydd digonol” (“adequate security”) yw arwystl drwy gyfrwng morgais cyfreithiol am swm sydd o leiaf yn hafal i swm gofynnol yr oedolyn ac unrhyw log neu gostau gweinyddol sydd i gael eu trin yn yr un ffordd â swm gofynnol yr oedolyn ac sy’n gallu cael ei gofrestru fel arwystl cyfreithiol cyntaf o blaid yr awdurdod lleol yn y gofrestr tir4;

  • ystyr “swm gofynnol” (“required amount”) yw’r hyn o’r ffi y mae’n ofynnol i’r oedolyn (neu y mae’n mynd i fod yn ofynnol iddo) ei dalu o dan adran 59 o’r Ddeddf ac unrhyw swm y mae’n ofynnol i’r oedolyn ei dalu yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 57(2) o’r Ddeddf ag a bennir neu a ddyfernir yn unol â rheoliad 5;

  • ystyr “terfyn cyfalaf” (“capital limit”) yw’r swm a bennir yn rheoliad 11(2) o’r Rheoliadau Gosod Ffioedd.

Gofyniad ar awdurdod lleol i ymrwymo i gytundeb ar daliad gohiriedig3

1

Mae’n ofynnol i awdurdod lleol5 ymrwymo i gytundeb ar daliad gohiriedig gydag oedolyn—

a

os yw paragraff (2) yn gymwys i’r oedolyn;

b

os yw’r amod yn rheoliad 4 wedi ei fodloni; ac

c

os yw’r oedolyn yn cytuno i’r holl delerau ac amodau sydd wedi eu cynnwys yn y cytundeb ar daliad gohiriedig yn unol â rheoliad 11.

2

Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

a

os yw anghenion yr oedolyn am ofal a chymorth yn cael eu diwallu (neu os ydynt yn mynd i gael eu diwallu) o dan adran 35 neu adran 36(1) o’r Ddeddf a bod y cynllun gofal a chymorth ar gyfer yr oedolyn yn pennu bod yr awdurdod lleol yn mynd i ddiwallu anghenion yr oedolyn drwy ddarparu llety mewn cartref gofal6;

b

os yw’n ofynnol (neu os yw’n mynd i fod yn ofynnol) i’r oedolyn dalu ffi o dan adran 59 o’r Ddeddf;

c

os yw’r awdurdod lleol wedi cynnal asesiad ariannol o dan adran 63 o’r Ddeddf;

d

os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan yr oedolyn fuddiant mewn eiddo y mae’r oedolyn yn ei feddiannu fel ei gartref neu yr arferai’r oedolyn ei feddiannu fel ei gartref7, ac—

i

nad yw gwerth y buddiant hwnnw wedi ei ddiystyru at ddibenion cyfrifo swm cyfalaf yr oedolyn yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 64 o’r Ddeddf8, a

ii

nad yw cyfalaf yr oedolyn, llai gwerth y buddiant hwnnw, yn fwy na’r terfyn cyfalaf; ac

e

os yw incwm asesedig wythnosol yr oedolyn yn annigonol i dalu’r swm llawn sy’n ddyledus gan yr oedolyn o dan adran 59 o’r Ddeddf am y ddarpariaeth o ofal a chymorth mewn cartref gofal ac unrhyw swm y mae’n ofynnol i’r oedolyn ei dalu yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 57(2)9 o’r Ddeddf.

Sicrwydd digonol4

1

Rhaid i awdurdod lleol gael—

a

sicrwydd digonol ar gyfer y taliad o swm gofynnol yr oedolyn ac unrhyw log neu gostau gweinyddol sydd i gael eu trin yn yr un ffordd â swm gofynnol yr oedolyn; a

b

y cydsyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (2), os yw’r awdurdod lleol yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny.

2

Y cydsyniad sy’n ofynnol gan baragraff (1)(b) yw cydsyniad sydd, ym marn yr awdurdod lleol, yn gydsyniad dilys a gwybodus, a roddir mewn ysgrifen, i’r materion a bennir ym mharagraff (3) gan unrhyw berson—

a

yr ystyria’r awdurdod lleol fod buddiant ganddo yn yr eiddo y crëir yr arwystl drosto; a

b

yr ystyria’r awdurdod lleol y gall ei fuddiant rwystro’r awdurdod lleol rhag arfer pŵer i werthu’r eiddo neu adennill y swm gofynnol ac unrhyw log a chostau gweinyddol sydd i gael eu trin yn yr un ffordd â’r swm gofynnol.

3

Y materion a bennir at ddiben paragraff (2) yw—

a

creu arwystl; a

b

bod yr arwystl yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw fuddiant sydd gan y person yn yr eiddo y crëir yr arwystl drosto a bod yr arwystl mewn safle uwch nag unrhyw fuddiant o’r fath.

Y swm gofynnol5

1

Swm gofynnol yr oedolyn yw’r swm a bennir neu a ddyfernir yn unol â pharagraff (2).

2

Y swm yw’r lleiaf o’r canlynol—

a

100% o’r swm sy’n ddyledus gan yr oedolyn o dan adran 59 o’r Ddeddf am y ddarpariaeth o ofal a chymorth mewn cartref gofal ac o unrhyw swm y mae’n ofynnol i’r oedolyn ei dalu yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 57(2) o’r Ddeddf, llai unrhyw swm y mae’r awdurdod lleol yn ei gwneud yn ofynnol i’r oedolyn ei gyfrannu o dan reoliad 6;

b

y cyfryw ran lai o’r swm sy’n ddyledus o dan adran 59 o’r Ddeddf, ac, yn ôl y digwydd, yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 57(2) o’r Ddeddf, y mae’r oedolyn yn gofyn am iddo gael ei ohirio, llai unrhyw swm y mae’r awdurdod lleol yn ei gwneud yn ofynnol i’r oedolyn ei gyfrannu o dan reoliad 6;

c

y swm a ohirir yn unol ag is-baragraffau (a) neu (b), llai unrhyw swm nad yw’r awdurdod, yn ystod y cyfnod pan fo’r cytundeb ar daliad gohiriedig mewn grym ac yn unol â thelerau ac amodau’r cytundeb ar daliad gohiriedig, yn cytuno i ohirio taliad ohono tan yr amser penodedig.

Cyfraniad oedolyn6

1

Os yw incwm asesedig wythnosol yr oedolyn, mewn unrhyw wythnos pan fo’r cytundeb ar daliad gohiriedig mewn grym, yn fwy na swm y warant isafswm briodol sy’n gymwys yn achos yr oedolyn, caniateir i’r awdurdod lleol beidio â gohirio swm sy’n ddyledus i’r awdurdod lleol o dan adran 59 o’r Ddeddf ac unrhyw swm y mae’n ofynnol i’r oedolyn ei dalu yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 57(2) o’r Ddeddf ar gyfer diwallu anghenion yr oedolyn am yr wythnos honno drwy ddarparu llety mewn cartref gofal.

2

Ond ni chaniateir i’r swm y caiff yr awdurdod lleol, o dan y rheoliad hwn, benderfynu peidio â’i ohirio mewn cysylltiad â’r wythnos honno fod yn fwy na’r gwahaniaeth rhwng incwm asesedig yr oedolyn yn yr wythnos honno a swm y warant isafswm briodol.

3

Pan fo’r awdurdod lleol yn penderfynu peidio â gohirio swm o dan baragraff (1), caiff gynnwys teler yn y cytundeb ar daliad gohiriedig sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r oedolyn dalu neu sicrhau y telir y swm sy’n ddyledus i’r awdurdod lleol.

4

Ym mharagraff (3) y swm sy’n ddyledus i’r awdurdod lleol yw’r swm y mae’r awdurdod lleol, yn unol â’r rheoliad hwn, yn penderfynu peidio â’i ohirio.

5

Rhaid cyfrifo swm incwm asesedig wythnosol yr oedolyn yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 64 o’r Ddeddf.

6

Ond nid oes dim yn y rheoliad hwn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol ohirio unrhyw swm sy’n ddyledus iddo o dan adran 59 o’r Ddeddf neu yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 57(2) o’r Ddeddf os caniateir i’r awdurdod lleol, o dan baragraff (3), neu yn unol â thelerau’r cytundeb ar daliad gohiriedig, roi’r gorau i ohirio’r swm hwnnw.

7

At ddibenion paragraffau (1) a (2), mae “gwarant isafswm briodol” i gael ei dehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “appropriate minimum guarantee” yn adran 2(3) o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 200210.

Yr amser ar gyfer talu’r swm gofynnol7

Yr amser penodedig ar gyfer ad-dalu’r swm gofynnol ac unrhyw log a chostau gweinyddol sydd wedi eu trin yn yr un ffordd â’r swm gofynnol yw’r cynharaf o’r canlynol—

a

dyddiad gwerthu neu waredu eiddo’r oedolyn; neu

b

90 diwrnod ar ôl dyddiad marwolaeth yr oedolyn y gwneir y cytundeb ar daliad gohiriedig gydag ef neu unrhyw gyfnod hwy a ganiateir gan yr awdurdod lleol.

Terfynu8

Caiff yr oedolyn derfynu’r cytundeb ar daliad gohiriedig ar unrhyw adeg cyn yr amser penodedig drwy roi rhybudd rhesymol i’r awdurdod lleol, mewn ysgrifen, a thalu i’r awdurdod lleol y swm gofynnol ynghyd ag unrhyw swm o log ac unrhyw swm y mae’n ofynnol ei dalu tuag at gostau gweinyddol y mae’r oedolyn wedi cytuno iddo gael ei drin yn yr un ffordd â’r swm gofynnol.

Llog9

1

Caiff awdurdod lleol godi llog ar swm gofynnol oedolyn ar yr amod bod yr awdurdod lleol, cyn ymrwymo i’r cytundeb ar daliad gohiriedig, yn hysbysu’r oedolyn ei fod yn bwriadu gwneud hynny ac am gyfradd y llog a godir.

2

Caniateir trin y llog yn yr un ffordd â swm gofynnol yr oedolyn, oni fydd yr oedolyn yn gofyn am gael talu’r llog ar wahân.

3

Y gyfradd llog yw cyfradd nad yw’n fwy na’r gyfradd berthnasol am y cyfnod perthnasol plws 0.15%.

4

Y gyfradd berthnasol yw’r gyfradd llog gyfartalog bwysedig ar giltiau confensiynol a bennir ar gyfer y flwyddyn ariannol y mae’r cyfnod perthnasol yn dechrau ynddi yn yr adroddiad diweddaraf a gyhoeddwyd cyn dechrau’r cyfnod perthnasol gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol11 o dan adran 4(3) o Ddeddf 201112.

5

Y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod sy’n dechrau ar—

a

1 Ionawr ac yn diweddu ar 30 Mehefin mewn unrhyw flwyddyn; neu

b

1 Gorffennaf ac yn diweddu ar 31 Rhagfyr mewn unrhyw flwyddyn.

6

Mae i “blwyddyn ariannol” yr ystyr a roddir i “financial year” yn adran 25(2) o Ddeddf 2011.

Costau gweinyddol10

1

Caiff awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i’r oedolyn dalu swm tuag at gostau gweinyddol yr awdurdod lleol ar yr amod bod yr awdurdod lleol, cyn ymrwymo i’r cytundeb ar daliad gohiriedig, yn hysbysu’r oedolyn ei fod yn bwriadu gwneud hynny, ac yn cydymffurfio ag is-baragraffau (a) i (c) o baragraff (3).

2

Caniateir trin y swm y mae’r awdurdod lleol yn ei gwneud yn ofynnol i’r oedolyn ei dalu tuag at ei gostau gweinyddol yn yr un ffordd â swm gofynnol yr oedolyn, oni fydd yr oedolyn yn gofyn am gael talu’r swm hwnnw ar wahân.

3

Ond rhaid i’r awdurdod lleol—

a

cyn ymrwymo i’r cytundeb ar daliad gohiriedig, roi i’r oedolyn amcangyfrif o’r swm y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu ei gwneud yn ofynnol i’r oedolyn ei dalu tuag at gostau gweinyddol yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â gwneud y cytundeb ar daliad gohiriedig a chofrestru unrhyw arwystl ar y gofrestr tir neu ar y gofrestr pridiannau tir;

b

cyn ymrwymo i’r cytundeb ar daliad gohiriedig, roi i’r oedolyn amcan o’r swm y bydd yn ofynnol i’r oedolyn ei dalu tuag at gostau gweinyddol yr awdurdod lleol yn ystod y cyfnod pan yw’r cytundeb ar daliad gohiriedig mewn grym a gwybodaeth i alluogi’r oedolyn i ganfod unrhyw newidiadau yn swm taliadau o’r fath;

c

cyn gofyn am daliad tuag at gostau gweinyddol yr awdurdod lleol, neu drin swm taliad o’r fath yn yr un ffordd â’r swm gofynnol, ddarparu datganiad i’r oedolyn sy’n nodi swm y taliad.

Telerau, amodau a gwybodaeth11

Caiff y cytundeb ar daliad gohiriedig gynnwys unrhyw delerau, amodau a gwybodaeth y mae’r awdurdod lleol yn ystyried eu bod yn angenrheidiol neu’n briodol.

Mark DrakefordY Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau )

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud ag awdurdodau lleol yn ymrwymo i gytundebau ar daliadau gohiriedig o dan adran 68 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”). Mae rheoliad 3 yn nodi’r amgylchiadau pan fo rhaid i awdurdod lleol ymrwymo i gytundeb ar daliad gohiriedig gydag oedolyn ond mae’r gofyniad hwn yn ddarostyngedig i fodloni amodau penodedig.

Mae rheoliad 4 yn darparu na chaiff awdurdod lleol ymrwymo i gytundeb ar daliad gohiriedig oni bai ei fod yn cael sicrwydd digonol ar gyfer y taliad o’r swm gofynnol. Mae’n nodi, mewn achosion pan fo’n ofynnol i awdurdod lleol ymrwymo i gytundeb ar daliad gohiriedig, fod rhaid i’r sicrwydd digonol fod yn arwystl drwy gyfrwng morgais cyfreithiol am swm sydd o leiaf yn hafal i swm gofynnol yr oedolyn ac unrhyw log a chostau gweinyddol a gaiff eu trin yn yr un ffordd â swm gofynnol yr oedolyn ac sy’n gallu cael ei gofrestru fel arwystl cyfreithiol cyntaf dros yr eiddo o blaid yr awdurdod lleol yn y gofrestr tir.

Mae rheoliad 4 hefyd yn darparu, os yw awdurdod lleol yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny, fod rhaid iddo gael cydsyniad ysgrifenedig i’r materion a bennir ym mharagraff (3) oddi wrth berson a chanddo fuddiant yn yr eiddo y mae’n bwriadu cael yr arwystl cyfreithiol drosto.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth o ran y swm a ohirir o dan y cytundeb. Mae rheoliad 5(1) yn darparu mai’r swm gofynnol yw’r swm a bennir neu a ddyfernir yn unol â pharagraff (2).

Mae rheoliad 5(2) yn darparu, mewn achosion pan fo’n ofynnol i’r oedolyn dalu ffioedd i awdurdod lleol am gostau ei ofal a chymorth, mai’r swm yw 100% o’r swm sy’n ddyledus i’r awdurdod lleol o dan adran 59 o’r Ddeddf (pŵer i osod ffioedd), ac unrhyw swm sy’n ddyledus i’r awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 57(2) o’r Ddeddf (achosion pan fo person yn mynegi ei fod yn ffafrio llety penodol), neu unrhyw swm llai y mae’r oedolyn yn gofyn am iddo gael ei ohirio. Mewn unrhyw un o’r achosion hyn, caniateir gostyngiad yn y symiau o’r swm y caniateir i’r awdurdod lleol beidio â’i ohirio o dan reoliad 6, neu yn unol â thelerau ac amodau’r cytundeb ar daliad gohiriedig.

Effaith rheoliad 6 yw darparu nad oes rhaid i awdurdod lleol ohirio swm pan fyddai’r oedolyn, ar ôl iddo dalu’r symiau sy’n ddyledus i’r awdurdod lleol, yn parhau â swm mewn llaw sydd o leiaf yn hafal i’r warant isafswm briodol. Diffinnir y warant isafswm briodol yn rheoliad 6(7) a bydd yn dibynnu ar amgylchiadau’r oedolyn.

Mae paragraffau (3) a (4) o reoliad 6 yn darparu y caiff awdurdod lleol gynnwys teler yn y cytundeb ar daliad gohiriedig i’w gwneud yn ofynnol i’r oedolyn dalu, neu sicrhau y telir, y symiau y mae’r awdurdod lleol, yn unol â’r rheoliad hwn, wedi penderfynu peidio â’u gohirio.

Mae rheoliadau 7 ac 8 yn gwneud darpariaeth o ran yr amser ar gyfer ad-dalu’r swm gofynnol a hawl yr oedolyn i derfynu’r cytundeb ar daliad gohiriedig.

Mae rheoliadau 9 a 10 yn gwneud darpariaeth o ran talu llog a chostau gweinyddol.

Mae rheoliad 11 yn gwneud darpariaeth ynghylch y telerau, yr amodau a’r wybodaeth y caniateir eu cynnwys mewn cytundeb ar daliad gohiriedig.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.