Search Legislation

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Dewis o Lety) (Cymru) 2015

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Dewis o Lety) (Cymru) 2015.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

ystyr “llety cartref gofal” (“care home accommodation”) yw—

(a)

llety mewn cartref gofal o fewn yr ystyr a roddir i “care home” gan adran 3 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1) pan fo’r llety yng Nghymru neu Loegr;

(b)

llety mewn gwasanaeth cartref gofal o fewn yr ystyr a roddir i “care home service” gan baragraff 2 o Atodlen 12 i Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010(2) pan fo’r llety yn yr Alban; neu

(c)

llety mewn cartref gofal preswyl o fewn yr ystyr a roddir i “residential care home” gan erthygl 10 o Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Ansawdd, Gwella a Rheoleiddio) (Gogledd Iwerddon) 2003(3) pan fo’r llety yng Ngogledd Iwerddon;

ystyr “llety sy’n cael ei ffafrio” (“preferred accommodation”) yw’r llety y mae person y mae’r llety i’w ddarparu iddo wedi mynegi ei fod yn ei ffafrio yn unol â rheoliad 2(b).

Y dewis o lety

2.  Pan fo—

(a)awdurdod lleol(4) yn mynd i ddiwallu anghenion o dan adrannau 35 i 38 o’r Ddeddf drwy ddarparu neu drefnu i ddarparu llety cartref gofal yn y Deyrnas Unedig;

(b)y person y mae’r llety i’w ddarparu iddo wedi mynegi ei fod yn ffafrio cartref gofal penodol; ac

(c)yr amodau yn rheoliad 3 wedi eu bodloni,

rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu neu drefnu i ddarparu’r llety sy’n cael ei ffafrio yn unol â’r Rheoliadau hyn.

Amodau ar gyfer darparu’r llety sy’n cael ei ffafrio

3.—(1Rhaid i’r amodau a ganlyn fod wedi eu bodloni ar gyfer darparu llety sy’n cael ei ffafrio o dan reoliad 2—

(a)bod y cynllun gofal a chymorth ar gyfer y person yn pennu y gellir diwallu anghenion y person drwy ddarparu llety cartref gofal;

(b)bod y llety sy’n cael ei ffafrio yn addas ar gyfer anghenion y person;

(c)bod y llety sy’n cael ei ffafrio ar gael; ac

(d)os nad yr awdurdod lleol sy’n darparu’r llety sy’n cael ei ffafrio, bod darparwr y llety yn cytuno i ddarparu’r llety i’r person ar delerau’r awdurdod lleol.

(2Os yw’r gost i’r awdurdod lleol am ddarparu neu drefnu i ddarparu’r llety sy’n cael ei ffafrio yn fwy na’r gost y byddai’r awdurdod lleol fel arfer yn disgwyl ei thynnu wrth ddarparu neu drefnu i ddarparu llety cartref gofal i ddiwallu anghenion y person o dan sylw, rhaid i’r amod cost ychwanegol yn rheoliad 4 hefyd gael ei fodloni(5).

Yr amod cost ychwanegol

4.—(1Mae’r amod cost ychwanegol wedi ei fodloni—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod y talwr yn alluog ac yn fodlon i dalu cost ychwanegol y llety sy’n cael ei ffafrio am y cyfnod y mae’r awdurdod lleol yn disgwyl diwallu anghenion y person drwy ddarparu neu drefnu i ddarparu’r llety hwnnw; a

(b)bod y talwr yn ymuno gyda’r awdurdod lleol mewn cytundeb ysgrifenedig, lle y mae’r talwr yn cytuno i dalu’r gost ychwanegol.

(2Rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu i’r talwr fynediad at wybodaeth a chyngor digonol i alluogi’r talwr i ddeall telerau’r cytundeb ysgrifenedig arfaethedig cyn ymuno yn y cytundeb hwnnw.

(3Rhaid i’r cytundeb ysgrifenedig gynnwys—

(a)y gost ychwanegol;

(b)y gost y byddai’r awdurdod lleol fel arfer yn disgwyl ei thynnu wrth ddarparu neu drefnu i ddarparu llety cartref gofal i ddiwallu anghenion y person o dan sylw;

(c)amlder y taliadau;

(d)manylion y person y mae’r taliadau i’w gwneud iddo;

(e)darpariaeth ar gyfer adolygu’r cytundeb;

(f)darpariaethau ynghylch y materion a bennir ym mharagraff (4).

(4Y materion penodedig yw—

(a)canlyniadau peidio â gwneud taliadau;

(b)effaith codiadau mewn ffioedd a wneir gan ddarparwr y llety sy’n cael ei ffafrio; ac

(c)effaith newidiadau yn amgylchiadau ariannol y talwr.

(5At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “y talwr” (“the payer”) yw—

(a)person ac eithrio’r person y mae’r llety i’w ddarparu iddo; neu

(b)mewn achos y mae paragraff (6) yn gymwys iddo, y person y mae’r llety i’w ddarparu iddo.

(6Caiff yr awdurdod lleol beidio â chytuno gyda’r person y mae’r llety i’w ddarparu iddo i’r person hwnnw dalu’r gost ychwanegol oni fydd—

(a)paragraff 2 o Atodlen 2 i Reoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015(6) (cyfalaf sydd i’w ddiystyru yn y 12 wythnos gyntaf) yn gymwys i’r person hwnnw; neu

(b)y person a’r awdurdod lleol yn cytuno neu wedi cytuno i ymuno mewn cytundeb ar daliad gohiriedig yn unol ag adran 68 o’r Ddeddf.

(7At ddibenion y rheoliad hwn, caiff y gost ychwanegol sydd i’w thalu gan y talwr fod yn llai na swm llawn y gost ychwanegol y cyfeirir ati yn adran 57(3) o’r Ddeddf, os yw’r awdurdod lleol yn cytuno y dylid talu swm llai.

Gwrthod darparu llety sy’n cael ei ffafrio

5.  Pan fo awdurdod lleol yn gwrthod darparu neu drefnu i ddarparu llety sy’n cael ei ffafrio rhaid iddo ddarparu datganiad ysgrifenedig sy’n nodi pa un neu pa rai o’r amodau yn rheoliad 3(1) neu reoliad 4(1) nas bodlonwyd ac sy’n pennu’r rhesymau.

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

27 Hydref 2015

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources