2015 rhif 1823 (Cy. 265)

Plant A Phersonau Ifanc, Cymru

Rheoliadau Ymweliadau â Phlant dan Gadwad (Cymru) 2015

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 97(1)(b) ac (c), (2) a (4) a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 20141, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn2:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ymweliadau â Phlant dan Gadwad (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2016.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “A” (“A”) yw plentyn—

    1. a

      a fu’n derbyn gofal gan awdurdod lleol ond a beidiodd â derbyn gofal ganddo3 o ganlyniad i’r amgylchiadau a ragnodir yn rheoliad 3, neu

    2. b

      yn ddarostyngedig i reoliad 2(2), plentyn sy’n dod o fewn categori a bennir yn rheoliad 4;

  • ystyr “awdurdod lleol cyfrifol” (“responsible local authority”) yw—

    1. a

      pan fo A yn dod o fewn rheoliad 3, yr awdurdod lleol a oedd yn gofalu am A yn union cyn rhoi A dan gadwad,

    2. b

      pan fo A yn dod o fewn rheoliad 4—

      1. i

        os yw A yn preswylio fel arfer yng Nghymru, yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae A yn preswylio ynddi fel arfer, a

      2. ii

        mewn unrhyw achos arall, yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y lleolir ynddi’r sefydliad y mae A dan gadwad ynddo neu’r fangre y mae’n ofynnol bod A yn preswylio ynddi;

  • ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 19894;

  • ystyr “Deddf 2012” (“the 2012 Act”) yw Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 20125;

  • ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

  • ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ŵyl banc yn yr ystyr a roddir i “bank holiday” gan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 19716;

  • ystyr “R” (“R”) yw cynrychiolydd yr awdurdod cyfrifol, sy’n ymweld ag A yn unol â threfniadau a wneir gan yr awdurdod o dan adran 97 o Ddeddf 2014;

  • ystyr “rheolwr achos tîm troseddwyr ifanc perthnasol” (“relevant youth offending team case manager”) yw’r person o fewn tîm troseddwyr ifanc yr awdurdod lleol7 sy’n rheoli achos A;

  • ystyr “sefydliad” (“institution”) yw llety cadw ieuenctid8 neu garchar9;

  • mae i “tîm troseddwyr ifanc” (“youth offending team”) yr ystyr a roddir yn adran 39(1) o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998.

2

Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i blentyn sydd—

a

yng ngofal awdurdod lleol yng Nghymru10;

b

yng ngofal awdurdod lleol yn Lloegr11;

c

yn berson ifanc categori 212;

d

yn blentyn perthnasol yn yr ystyr a roddir i “relevant child” at ddibenion adran 23A o Ddeddf 198913; neu

e

yn blentyn a fu gynt yn derbyn gofal ac, ar ôl ei gollfarnu o drosedd gan lys, sydd dan gadwad mewn llety cadw ieuenctid neu garchar neu sy’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, ac, yn union cyn ei gollfarnu, y darparwyd llety iddo gan awdurdod lleol yn Lloegr o dan adran 20 o Ddeddf 198914.

Amgylchiadau a bennir at ddibenion adran 97(1)(b) o Ddeddf 20143

Yr amgylchiadau a ragnodir at ddibenion adran 97(1)(b) o Ddeddf 201415 yw bod plentyn, ar ôl ei gollfarnu o drosedd gan lys—

a

dan gadwad, yn unol â gorchymyn gan lys, mewn llety cadw ieuenctid16 neu mewn carchar17, neu

b

yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd18.

Categorïau a bennir at ddibenion adran 97(1)(c) o Ddeddf 20144

1

Y categorïau a bennir at ddibenion adran 97(1)(c) o Ddeddf 2014 yw’r canlynol—

a

plentyn, sy’n preswylio fel arfer19 yng Nghymru, sydd, ar ôl ei gollfarnu o drosedd gan lys—

i

dan gadwad mewn llety cadw ieuenctid, neu mewn carchar, neu

ii

yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd; a

b

plentyn sydd, ar ôl ei gollfarnu o drosedd gan lys,—

i

dan gadwad mewn llety cadw ieuenctid neu mewn carchar yng Nghymru, neu

ii

yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd yng Nghymru.

2

Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â phlentyn sy’n dod o fewn disgrifiad a nodir yn is-baragraffau (a) i (e) o reoliad 2(2).

Yr awdurdod lleol a bennir at ddibenion adran 97(2) o Ddeddf 20145

1

Mae paragraff (2) yn pennu, yn unol ag adran 97(2) o Ddeddf 2014, yr awdurdod lleol y mae’n rhaid iddo gyflawni’r dyletswyddau a osodir gan adran 97 o Ddeddf 2014 neu o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â phlentyn sy’n dod o fewn categori a bennir yn rheoliad 4.

2

Pan fo plentyn yn dod o fewn categori a bennir yn—

a

rheoliad 4(1)(a), yr awdurdod lleol y mae’r plentyn yn preswylio fel arfer yn ei ardal20;

b

rheoliad 4(1)(b), yr awdurdod lleol y lleolir ynddo’r llety cadw ieuenctid, carchar neu fangre a gymeradwywyd.

Amlder ymweliadau6

1

Rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag A—

a

o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl rhoi A dan gadwad gyntaf, i’r graddau y mae hynny’n rhesymol ymarferol; a

b

wedi hynny pa bryd bynnag y gofynnir yn rhesymol iddo ymweld gan—

i

A,

ii

aelod o staff y sefydliad y mae A dan gadwad ynddo, neu’r fangre a gymeradwywyd lle mae A yn preswylio,

iii

unrhyw riant A, neu unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am A, neu

iv

y rheolwr achos tîm troseddwyr ifanc perthnasol.

2

Caiff yr awdurdod lleol cyfrifol drefnu i R wneud ymweliadau ychwanegol ag A, gan roi sylw i unrhyw argymhelliad a wneir gan R yn unol â rheoliad 8(1)(b).

Cynnal yr ymweliadau7

Yn ystod pob ymweliad, rhaid i R siarad gydag A yn breifat oni bai—

a

bod A yn gwrthod, ac yntau mewn oedran digonol a chyda dealltwriaeth ddigonol i wneud hynny,

b

bod R o’r farn y byddai gwneud hynny’n amhriodol, o ystyried oedran a dealltwriaeth A, neu

c

bod R yn analluog i wneud hynny.

Adroddiadau am ymweliadau8

1

Rhaid i R ddarparu adroddiad ysgrifenedig am bob ymweliad, a rhaid i’r adroddiad gynnwys—

a

asesiad R, ar ôl ystyried safbwyntiau, dymuniadau a theimladau A, ynglŷn ag a yw llesiant A yn cael ei ddiogelu a’i hyrwyddo’n ddigonol tra bo dan gadwad neu’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd,

b

argymhellion R ynglŷn ag amseriad ac amlder unrhyw ymweliadau pellach gan R,

c

unrhyw drefniadau eraill y tybia R y dylid eu gwneud er mwyn hyrwyddo cyswllt rhwng A a theulu A, neu er mwyn diogelu a hyrwyddo llesiant A,

d

asesiad R o’r modd y dylai llesiant A gael ei ddiogelu a’i hyrwyddo’n ddigonol ar ôl ei ryddhau o gadwad, neu ddiddymu’r gofyniad i breswylio mewn mangre a gymeradwywyd, sef yn benodol—

i

a fydd angen i’r awdurdod lleol cyfrifol, awdurdod lleol arall, neu awdurdod lleol yn Lloegr ddarparu llety i A, a

ii

a ddylai unrhyw wasanaethau eraill gael eu darparu, gan yr awdurdod lleol cyfrifol neu awdurdod lleol arall wrth arfer eu dyletswyddau o dan Ddeddf 2014 neu Ddeddf 1989, neu gan awdurdod lleol yn Lloegr o dan Ddeddf 1989.

2

Rhaid i R, wrth wneud unrhyw asesiad o dan baragraff (1), ac eithrio pan nad yw’n rhesymol ymarferol gwneud hynny, neu pan nad yw gwneud hynny yn gyson â llesiant A, gymryd i ystyriaeth safbwyntiau—

a

unrhyw riant A, neu unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am A, a

b

aelodau priodol o staff y sefydliad y mae A dan gadwad ynddo, neu o staff y fangre a gymeradwywyd y mae A yn preswylio ynddi.

3

Rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol roi copi o’r adroddiad i—

a

A, oni fyddai’n amhriodol gwneud hynny,

b

person sy’n dod o fewn paragraff (2)(a), ac eithrio pan na fyddai gwneud hynny er budd pennaf A,

c

llywodraethwr, cyfarwyddwr neu reolwr cofrestredig21 y sefydliad lle mae A dan gadwad neu’r person sy’n gyfrifol am y fangre a gymeradwywyd y mae A yn preswylio ynddi,

d

y rheolwr achos tîm troseddwyr ifanc perthnasol,

e

os yw’n wahanol i’r awdurdod lleol cyfrifol, awdurdod lleol yr ardal y mae A dan gadwad ynddi, ac

f

unrhyw berson arall y tybia’r awdurdod lleol cyfrifol y dylid rhoi copi o’r adroddiad iddo, o ystyried asesiad R.

Cyngor a chymorth arall9

Wrth wneud trefniadau yn unol ag adran 97(3)(b) o Ddeddf 2014 ar gyfer rhoi cyngor priodol a chymorth arall ar gael i A, rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol sicrhau—

a

bod y trefniadau—

i

yn briodol, o ystyried oedran a dealltwriaeth A, a

ii

yn rhoi ystyriaeth ddyladwy i argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol A ac unrhyw anabledd sydd gan A22, a

b

i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, o ystyried oedran a dealltwriaeth A, fod A yn gwybod sut i ofyn am gyngor priodol a chymorth arall gan yr awdurdod cyfrifol

Mark DrakefordY Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch gofynion ymweld ar gyfer plant penodedig sydd, ar ôl eu collfarnu o drosedd gan lys, dan gadwad mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, neu y gwneir yn ofynnol eu bod yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

Mae rheoliad 3 yn pennu’r amgylchiadau, at ddibenion adran 97(1)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”), sy’n peri bod plentyn yn peidio â derbyn gofal gan awdurdod lleol (digwyddiad a fydd yn dod â phlant o’r fath wedyn o fewn cwmpas y ddyletswydd a nodir yn adran 97(3) o Ddeddf 2014 a’r Rheoliadau hyn).

Mae adran 97(3) o Ddeddf 2014 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod lleol cyfrifol i ymweld â phlentyn o’r fath, cynnal cyswllt â’r plentyn, a darparu cyngor a chymorth arall iddo.

Yr amgylchiadau a bennir gan reoliad 3 yw bod plentyn, a fu’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, ond a beidiodd â derbyn gofal oherwydd naill ai bod y plentyn, ar ôl ei gollfarnu o drosedd gan lys, dan gadwad mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, neu y gwnaed yn ofynnol fod y plentyn yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

Bydd plant sydd, ar ôl eu collfarnu o drosedd gan lys, yn colli eu statws fel plant sy’n derbyn gofal o ganlyniad i’w rhoi dan gadwad neu ei gwneud yn ofynnol eu bod yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, yn dod o fewn disgrifiad a nodir ym mharagraff (a) neu (b) isod—

a

plentyn a oedd, yn union cyn ei roi dan gadwad, yn derbyn gofal yn rhinwedd darparu llety iddo gan yr awdurdod lleol o dan adran 76 o Ddeddf 2014; neu

b

plentyn sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac a drinnid fel plentyn yn derbyn gofal yn unol ag adran 104 o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 (“Deddf 2012”) (yn rhinwedd ei roi ar remánd i lety awdurdod lleol neu lety cadw ieuenctid yn unol ag adran 92 o Ddeddf 2012).

Mae rheoliad 4 yn pennu, at ddibenion adran 97(1)(c) o Ddeddf 2014, dau gategori o blant (a bennir yn unol ag adran 97(2)), y bydd gan awdurdod lleol ddyletswyddau mewn cysylltiad â hwy o dan adran 97(3) o Ddeddf 2014 ac o dan y Rheoliadau hyn. Mae cymhwyso rheoliad 4 yn ddarostyngedig i eithriadau, a nodir yn rheoliad 2(2).

Bydd y plant a eithrir o’r categorïau a bennir yn rheoliad 4 oherwydd eu bod yn dod o fewn disgrifiad a nodir yn is-baragraffau (a) i (e) o reoliad 2(2) yn cael ymweliadau a chymorth gan yr awdurdod lleol (neu awdurdod lleol yn Lloegr) sy’n gyfrifol am ddiwallu eu hanghenion yn unol â gofynion statudol eraill.

Yn ddarostyngedig i’r ddarpariaeth a wneir gan reoliad 2(2), bydd y categorïau o blant a bennir yn rheoliad 4 yn dod o fewn disgrifiad a nodir ym mharagraff (a) neu (b) isod—

a

y categori cyntaf yw plentyn sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac, ar ôl ei gollfarnu o drosedd gan lys, a roddwyd dan gadwad mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, neu y gwneir yn ofynnol ei fod yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd,

b

yr ail gategori yw plentyn sydd, ar ôl ei gollfarnu o drosedd gan lys, dan gadwad mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, neu y gwneir yn ofynnol ei fod yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd a leolir yng Nghymru.

Mae rheoliad 5 yn pennu, at ddibenion adran 97(2) o Ddeddf 2014, pa awdurdod lleol y mae’n rhaid iddo gyflawni’r dyletswyddau a osodir o dan adran 97 ac o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â phlentyn sy’n dod o fewn categori a bennir yn rheoliad 4.

Mae rheoliad 6 yn gwneud darpariaeth ynglŷn ag amlder yr ymweliadau; rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol drefnu i’w gynrychiolydd ymweld â’r plentyn o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl rhoi’r plentyn dan gadwad, neu ei gwneud yn ofynnol gyntaf ei fod yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, ac wedyn pa bryd bynnag y gofynnir yn rhesymol iddo wneud hynny gan bersonau penodedig, er enghraifft, y plentyn, rhieni’r plentyn, neu’n unol ag argymhellion a wneir gan y cynrychiolydd.

Mae rheoliad 7 yn darparu bod rhaid i’r cynrychiolydd, yn ystod pob ymweliad, siarad yn breifat gyda’r plentyn, oni fydd yn amhriodol gwneud hynny neu fod y plentyn yn gwrthod gwneud hynny.

Mae rheoliad 8 yn gosod dyletswydd ar y cynrychiolydd i ddarparu adroddiad am bob ymweliad, ac yn pennu’r hyn y mae’n rhaid ei gynnwys yn yr adroddiad hwnnw. Mae’n darparu hefyd fod rhaid rhoi copi o’r adroddiad i’r plentyn, oni fyddai’n amhriodol gwneud hynny, ac i bersonau penodol eraill.

Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â dyletswydd yr awdurdod lleol cyfrifol o dan adran 97(3)(b) o Ddeddf 2014 i drefnu bod cyngor a chymorth ar gael i’r plentyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.