Rheoliadau Ymweliadau â Phlant dan Gadwad (Cymru) 2015

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “A” (“A”) yw plentyn—

(a)

a fu’n derbyn gofal gan awdurdod lleol ond a beidiodd â derbyn gofal ganddo(1) o ganlyniad i’r amgylchiadau a ragnodir yn rheoliad 3, neu

(b)

yn ddarostyngedig i reoliad 2(2), plentyn sy’n dod o fewn categori a bennir yn rheoliad 4;

ystyr “awdurdod lleol cyfrifol” (“responsible local authority”) yw—

(a)

pan fo A yn dod o fewn rheoliad 3, yr awdurdod lleol a oedd yn gofalu am A yn union cyn rhoi A dan gadwad,

(b)

pan fo A yn dod o fewn rheoliad 4—

(i)

os yw A yn preswylio fel arfer yng Nghymru, yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae A yn preswylio ynddi fel arfer, a

(ii)

mewn unrhyw achos arall, yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y lleolir ynddi’r sefydliad y mae A dan gadwad ynddo neu’r fangre y mae’n ofynnol bod A yn preswylio ynddi;

ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989(2);

ystyr “Deddf 2012” (“the 2012 Act”) yw Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012(3);

ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ŵyl banc yn yr ystyr a roddir i “bank holiday” gan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(4);

ystyr “R” (“R”) yw cynrychiolydd yr awdurdod cyfrifol, sy’n ymweld ag A yn unol â threfniadau a wneir gan yr awdurdod o dan adran 97 o Ddeddf 2014;

ystyr “rheolwr achos tîm troseddwyr ifanc perthnasol” (“relevant youth offending team case manager”) yw’r person o fewn tîm troseddwyr ifanc yr awdurdod lleol(5) sy’n rheoli achos A;

ystyr “sefydliad” (“institution”) yw llety cadw ieuenctid(6) neu garchar(7);

mae i “tîm troseddwyr ifanc” (“youth offending team”) yr ystyr a roddir yn adran 39(1) o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998.

(2Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i blentyn sydd—

(a)yng ngofal awdurdod lleol yng Nghymru(8);

(b)yng ngofal awdurdod lleol yn Lloegr(9);

(c)yn berson ifanc categori 2(10);

(d)yn blentyn perthnasol yn yr ystyr a roddir i “relevant child” at ddibenion adran 23A o Ddeddf 1989(11); neu

(e)yn blentyn a fu gynt yn derbyn gofal ac, ar ôl ei gollfarnu o drosedd gan lys, sydd dan gadwad mewn llety cadw ieuenctid neu garchar neu sy’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, ac, yn union cyn ei gollfarnu, y darparwyd llety iddo gan awdurdod lleol yn Lloegr o dan adran 20 o Ddeddf 1989(12).

(1)

Ar gyfer ystyr plentyn sy’n “derbyn gofal” gan awdurdod lleol, gweler adran 197(2) o Ddeddf 2014; diffinnir “awdurdod lleol” ac “awdurdod lleol yn Lloegr” yn adran 197(1) o Ddeddf 2014.

(5)

Mae dyletswydd ar awdurdod lleol o dan adran 39(1) o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (p. 37) i sefydlu un neu ragor o dimau troseddwyr ifanc ar gyfer ei ardal.

(6)

Diffinnir “llety cadw ieuenctid” yn adran 188(1) o Ddeddf 2014.

(7)

Diffinnir “carchar” yn adran 188(1) a 197(1) o Ddeddf 2014.

(8)

Gweler adran 197(3) o Ddeddf 2014 sy’n darparu bod “cyfeiriad yn y Ddeddf hon at blentyn sydd yng ngofal awdurdod lleol yn gyfeiriad at blentyn sydd o dan ei ofal yn rhinwedd gorchymyn gofal (o fewn yr ystyr a roddir i “care order” gan Neddf Plant 1989)”. Gwneir darpariaeth ar gyfer plant yn derbyn gofal sydd dan gadwad, neu y gwneir yn ofynnol eu bod yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, yn Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 [O.S.2015/ 1818 (Cy. 261)).

(9)

Gweler adran 105(1) o Ddeddf 1989, sy’n darparu bod unrhyw gyfeiriad at blentyn sydd “in the care of a local authority” yn gyfeiriad at blentyn sydd yng ngofal yr awdurdod yn rhinwedd “care order” a bod i “care order” yr ystyr a roddir gan adran 31(11) o Ddeddf 1989. Mae gan awdurdod lleol yn Lloegr ddyletswyddau mewn perthynas â phlant yn eu gofal sydd dan gadwad, yn rhinwedd Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Lloegr) 2010 (O.S. 2010/959).

(10)

Diffinnir “person ifanc categori 2” yn adran 104(2) o Ddeddf 2014. Mae gan yr awdurdod lleol cyfrifol ddyletswyddau mewn perthynas â pherson ifanc categori 2 sydd dan gadwad mewn carchar neu lety cadw ieuenctid, neu y gwneir yn ofynnol ei fod yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, o dan Reoliadau Ymadawyr Gofal (Cymru) 2015 [O.S.2015/ 1820 (Cy. 262)).

(11)

Mae adran 23A(2) o Ddeddf 1989 yn diffinio “relevant child” ac adran 23B o Ddeddf 1989 yn pennu swyddogaethau ychwanegol yr awdurdod lleol cyfrifol yn Lloegr mewn cysylltiad â phlant perthnasol o’r fath. Mae gan awdurdod lleol yn Lloegr ddyletswyddau tuag at blant perthnasol sydd dan gadwad yn rhinwedd Rheoliadau Ymadawyr Gofal (Lloegr) 2010 (O.S. 2010/2571).

(12)

Mae gan yr awdurdod lleol cyfrifol yn Lloegr ddyletswyddau mewn perthynas â phlentyn o’r fath a fu gynt yn derbyn gofal, o dan Reoliadau Plant sy’n Derbyn Gofal dan Gadwad (Lloegr) 2010 (O.S. 2010/2797).