xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2015 rhif 1823 (Cy. 265)

Plant A Phersonau Ifanc, Cymru

Rheoliadau Ymweliadau â Phlant dan Gadwad (Cymru) 2015

Gwnaed

21 Hydref 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

23 Hydref 2015

Yn dod i rym

6 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 97(1)(b) ac (c), (2) a (4) a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn(2):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ymweliadau â Phlant dan Gadwad (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2016.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “A” (“A”) yw plentyn—

(a)

a fu’n derbyn gofal gan awdurdod lleol ond a beidiodd â derbyn gofal ganddo(3) o ganlyniad i’r amgylchiadau a ragnodir yn rheoliad 3, neu

(b)

yn ddarostyngedig i reoliad 2(2), plentyn sy’n dod o fewn categori a bennir yn rheoliad 4;

ystyr “awdurdod lleol cyfrifol” (“responsible local authority”) yw—

(a)

pan fo A yn dod o fewn rheoliad 3, yr awdurdod lleol a oedd yn gofalu am A yn union cyn rhoi A dan gadwad,

(b)

pan fo A yn dod o fewn rheoliad 4—

(i)

os yw A yn preswylio fel arfer yng Nghymru, yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae A yn preswylio ynddi fel arfer, a

(ii)

mewn unrhyw achos arall, yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y lleolir ynddi’r sefydliad y mae A dan gadwad ynddo neu’r fangre y mae’n ofynnol bod A yn preswylio ynddi;

ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989(4);

ystyr “Deddf 2012” (“the 2012 Act”) yw Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012(5);

ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ŵyl banc yn yr ystyr a roddir i “bank holiday” gan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(6);

ystyr “R” (“R”) yw cynrychiolydd yr awdurdod cyfrifol, sy’n ymweld ag A yn unol â threfniadau a wneir gan yr awdurdod o dan adran 97 o Ddeddf 2014;

ystyr “rheolwr achos tîm troseddwyr ifanc perthnasol” (“relevant youth offending team case manager”) yw’r person o fewn tîm troseddwyr ifanc yr awdurdod lleol(7) sy’n rheoli achos A;

ystyr “sefydliad” (“institution”) yw llety cadw ieuenctid(8) neu garchar(9);

mae i “tîm troseddwyr ifanc” (“youth offending team”) yr ystyr a roddir yn adran 39(1) o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998.

(2Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i blentyn sydd—

(a)yng ngofal awdurdod lleol yng Nghymru(10);

(b)yng ngofal awdurdod lleol yn Lloegr(11);

(c)yn berson ifanc categori 2(12);

(d)yn blentyn perthnasol yn yr ystyr a roddir i “relevant child” at ddibenion adran 23A o Ddeddf 1989(13); neu

(e)yn blentyn a fu gynt yn derbyn gofal ac, ar ôl ei gollfarnu o drosedd gan lys, sydd dan gadwad mewn llety cadw ieuenctid neu garchar neu sy’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, ac, yn union cyn ei gollfarnu, y darparwyd llety iddo gan awdurdod lleol yn Lloegr o dan adran 20 o Ddeddf 1989(14).

Amgylchiadau a bennir at ddibenion adran 97(1)(b) o Ddeddf 2014

3.  Yr amgylchiadau a ragnodir at ddibenion adran 97(1)(b) o Ddeddf 2014(15) yw bod plentyn, ar ôl ei gollfarnu o drosedd gan lys—

(a)dan gadwad, yn unol â gorchymyn gan lys, mewn llety cadw ieuenctid(16) neu mewn carchar(17), neu

(b)yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd(18).

Categorïau a bennir at ddibenion adran 97(1)(c) o Ddeddf 2014

4.—(1Y categorïau a bennir at ddibenion adran 97(1)(c) o Ddeddf 2014 yw’r canlynol—

(a)plentyn, sy’n preswylio fel arfer(19) yng Nghymru, sydd, ar ôl ei gollfarnu o drosedd gan lys—

(i)dan gadwad mewn llety cadw ieuenctid, neu mewn carchar, neu

(ii)yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd; a

(b)plentyn sydd, ar ôl ei gollfarnu o drosedd gan lys,—

(i)dan gadwad mewn llety cadw ieuenctid neu mewn carchar yng Nghymru, neu

(ii)yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd yng Nghymru.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â phlentyn sy’n dod o fewn disgrifiad a nodir yn is-baragraffau (a) i (e) o reoliad 2(2).

Yr awdurdod lleol a bennir at ddibenion adran 97(2) o Ddeddf 2014

5.—(1Mae paragraff (2) yn pennu, yn unol ag adran 97(2) o Ddeddf 2014, yr awdurdod lleol y mae’n rhaid iddo gyflawni’r dyletswyddau a osodir gan adran 97 o Ddeddf 2014 neu o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â phlentyn sy’n dod o fewn categori a bennir yn rheoliad 4.

(2Pan fo plentyn yn dod o fewn categori a bennir yn—

(a)rheoliad 4(1)(a), yr awdurdod lleol y mae’r plentyn yn preswylio fel arfer yn ei ardal(20);

(b)rheoliad 4(1)(b), yr awdurdod lleol y lleolir ynddo’r llety cadw ieuenctid, carchar neu fangre a gymeradwywyd.

Amlder ymweliadau

6.—(1Rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag A—

(a)o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl rhoi A dan gadwad gyntaf, i’r graddau y mae hynny’n rhesymol ymarferol; a

(b)wedi hynny pa bryd bynnag y gofynnir yn rhesymol iddo ymweld gan—

(i)A,

(ii)aelod o staff y sefydliad y mae A dan gadwad ynddo, neu’r fangre a gymeradwywyd lle mae A yn preswylio,

(iii)unrhyw riant A, neu unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am A, neu

(iv)y rheolwr achos tîm troseddwyr ifanc perthnasol.

(2Caiff yr awdurdod lleol cyfrifol drefnu i R wneud ymweliadau ychwanegol ag A, gan roi sylw i unrhyw argymhelliad a wneir gan R yn unol â rheoliad 8(1)(b).

Cynnal yr ymweliadau

7.  Yn ystod pob ymweliad, rhaid i R siarad gydag A yn breifat oni bai—

(a)bod A yn gwrthod, ac yntau mewn oedran digonol a chyda dealltwriaeth ddigonol i wneud hynny,

(b)bod R o’r farn y byddai gwneud hynny’n amhriodol, o ystyried oedran a dealltwriaeth A, neu

(c)bod R yn analluog i wneud hynny.

Adroddiadau am ymweliadau

8.—(1Rhaid i R ddarparu adroddiad ysgrifenedig am bob ymweliad, a rhaid i’r adroddiad gynnwys—

(a)asesiad R, ar ôl ystyried safbwyntiau, dymuniadau a theimladau A, ynglŷn ag a yw llesiant A yn cael ei ddiogelu a’i hyrwyddo’n ddigonol tra bo dan gadwad neu’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd,

(b)argymhellion R ynglŷn ag amseriad ac amlder unrhyw ymweliadau pellach gan R,

(c)unrhyw drefniadau eraill y tybia R y dylid eu gwneud er mwyn hyrwyddo cyswllt rhwng A a theulu A, neu er mwyn diogelu a hyrwyddo llesiant A,

(d)asesiad R o’r modd y dylai llesiant A gael ei ddiogelu a’i hyrwyddo’n ddigonol ar ôl ei ryddhau o gadwad, neu ddiddymu’r gofyniad i breswylio mewn mangre a gymeradwywyd, sef yn benodol—

(i)a fydd angen i’r awdurdod lleol cyfrifol, awdurdod lleol arall, neu awdurdod lleol yn Lloegr ddarparu llety i A, a

(ii)a ddylai unrhyw wasanaethau eraill gael eu darparu, gan yr awdurdod lleol cyfrifol neu awdurdod lleol arall wrth arfer eu dyletswyddau o dan Ddeddf 2014 neu Ddeddf 1989, neu gan awdurdod lleol yn Lloegr o dan Ddeddf 1989.

(2Rhaid i R, wrth wneud unrhyw asesiad o dan baragraff (1), ac eithrio pan nad yw’n rhesymol ymarferol gwneud hynny, neu pan nad yw gwneud hynny yn gyson â llesiant A, gymryd i ystyriaeth safbwyntiau—

(a)unrhyw riant A, neu unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am A, a

(b)aelodau priodol o staff y sefydliad y mae A dan gadwad ynddo, neu o staff y fangre a gymeradwywyd y mae A yn preswylio ynddi.

(3Rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol roi copi o’r adroddiad i—

(a)A, oni fyddai’n amhriodol gwneud hynny,

(b)person sy’n dod o fewn paragraff (2)(a), ac eithrio pan na fyddai gwneud hynny er budd pennaf A,

(c)llywodraethwr, cyfarwyddwr neu reolwr cofrestredig(21) y sefydliad lle mae A dan gadwad neu’r person sy’n gyfrifol am y fangre a gymeradwywyd y mae A yn preswylio ynddi,

(d)y rheolwr achos tîm troseddwyr ifanc perthnasol,

(e)os yw’n wahanol i’r awdurdod lleol cyfrifol, awdurdod lleol yr ardal y mae A dan gadwad ynddi, ac

(f)unrhyw berson arall y tybia’r awdurdod lleol cyfrifol y dylid rhoi copi o’r adroddiad iddo, o ystyried asesiad R.

Cyngor a chymorth arall

9.  Wrth wneud trefniadau yn unol ag adran 97(3)(b) o Ddeddf 2014 ar gyfer rhoi cyngor priodol a chymorth arall ar gael i A, rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol sicrhau—

(a)bod y trefniadau—

(i)yn briodol, o ystyried oedran a dealltwriaeth A, a

(ii)yn rhoi ystyriaeth ddyladwy i argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol A ac unrhyw anabledd sydd gan A(22), a

(b)i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, o ystyried oedran a dealltwriaeth A, fod A yn gwybod sut i ofyn am gyngor priodol a chymorth arall gan yr awdurdod cyfrifol

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

21 Hydref 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch gofynion ymweld ar gyfer plant penodedig sydd, ar ôl eu collfarnu o drosedd gan lys, dan gadwad mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, neu y gwneir yn ofynnol eu bod yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

Mae rheoliad 3 yn pennu’r amgylchiadau, at ddibenion adran 97(1)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”), sy’n peri bod plentyn yn peidio â derbyn gofal gan awdurdod lleol (digwyddiad a fydd yn dod â phlant o’r fath wedyn o fewn cwmpas y ddyletswydd a nodir yn adran 97(3) o Ddeddf 2014 a’r Rheoliadau hyn).

Mae adran 97(3) o Ddeddf 2014 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod lleol cyfrifol i ymweld â phlentyn o’r fath, cynnal cyswllt â’r plentyn, a darparu cyngor a chymorth arall iddo.

Yr amgylchiadau a bennir gan reoliad 3 yw bod plentyn, a fu’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, ond a beidiodd â derbyn gofal oherwydd naill ai bod y plentyn, ar ôl ei gollfarnu o drosedd gan lys, dan gadwad mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, neu y gwnaed yn ofynnol fod y plentyn yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

Bydd plant sydd, ar ôl eu collfarnu o drosedd gan lys, yn colli eu statws fel plant sy’n derbyn gofal o ganlyniad i’w rhoi dan gadwad neu ei gwneud yn ofynnol eu bod yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, yn dod o fewn disgrifiad a nodir ym mharagraff (a) neu (b) isod—

(a)plentyn a oedd, yn union cyn ei roi dan gadwad, yn derbyn gofal yn rhinwedd darparu llety iddo gan yr awdurdod lleol o dan adran 76 o Ddeddf 2014; neu

(b)plentyn sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac a drinnid fel plentyn yn derbyn gofal yn unol ag adran 104 o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 (“Deddf 2012”) (yn rhinwedd ei roi ar remánd i lety awdurdod lleol neu lety cadw ieuenctid yn unol ag adran 92 o Ddeddf 2012).

Mae rheoliad 4 yn pennu, at ddibenion adran 97(1)(c) o Ddeddf 2014, dau gategori o blant (a bennir yn unol ag adran 97(2)), y bydd gan awdurdod lleol ddyletswyddau mewn cysylltiad â hwy o dan adran 97(3) o Ddeddf 2014 ac o dan y Rheoliadau hyn. Mae cymhwyso rheoliad 4 yn ddarostyngedig i eithriadau, a nodir yn rheoliad 2(2).

Bydd y plant a eithrir o’r categorïau a bennir yn rheoliad 4 oherwydd eu bod yn dod o fewn disgrifiad a nodir yn is-baragraffau (a) i (e) o reoliad 2(2) yn cael ymweliadau a chymorth gan yr awdurdod lleol (neu awdurdod lleol yn Lloegr) sy’n gyfrifol am ddiwallu eu hanghenion yn unol â gofynion statudol eraill.

Yn ddarostyngedig i’r ddarpariaeth a wneir gan reoliad 2(2), bydd y categorïau o blant a bennir yn rheoliad 4 yn dod o fewn disgrifiad a nodir ym mharagraff (a) neu (b) isod—

(a)y categori cyntaf yw plentyn sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac, ar ôl ei gollfarnu o drosedd gan lys, a roddwyd dan gadwad mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, neu y gwneir yn ofynnol ei fod yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd,

(b)yr ail gategori yw plentyn sydd, ar ôl ei gollfarnu o drosedd gan lys, dan gadwad mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, neu y gwneir yn ofynnol ei fod yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd a leolir yng Nghymru.

Mae rheoliad 5 yn pennu, at ddibenion adran 97(2) o Ddeddf 2014, pa awdurdod lleol y mae’n rhaid iddo gyflawni’r dyletswyddau a osodir o dan adran 97 ac o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â phlentyn sy’n dod o fewn categori a bennir yn rheoliad 4.

Mae rheoliad 6 yn gwneud darpariaeth ynglŷn ag amlder yr ymweliadau; rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol drefnu i’w gynrychiolydd ymweld â’r plentyn o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl rhoi’r plentyn dan gadwad, neu ei gwneud yn ofynnol gyntaf ei fod yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, ac wedyn pa bryd bynnag y gofynnir yn rhesymol iddo wneud hynny gan bersonau penodedig, er enghraifft, y plentyn, rhieni’r plentyn, neu’n unol ag argymhellion a wneir gan y cynrychiolydd.

Mae rheoliad 7 yn darparu bod rhaid i’r cynrychiolydd, yn ystod pob ymweliad, siarad yn breifat gyda’r plentyn, oni fydd yn amhriodol gwneud hynny neu fod y plentyn yn gwrthod gwneud hynny.

Mae rheoliad 8 yn gosod dyletswydd ar y cynrychiolydd i ddarparu adroddiad am bob ymweliad, ac yn pennu’r hyn y mae’n rhaid ei gynnwys yn yr adroddiad hwnnw. Mae’n darparu hefyd fod rhaid rhoi copi o’r adroddiad i’r plentyn, oni fyddai’n amhriodol gwneud hynny, ac i bersonau penodol eraill.

Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â dyletswydd yr awdurdod lleol cyfrifol o dan adran 97(3)(b) o Ddeddf 2014 i drefnu bod cyngor a chymorth ar gael i’r plentyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(2)

Gweler adran 197(1) am y diffiniadau o “penodedig”, “a bennir” ac “a bennwyd” a “rheoliadau”.

(3)

Ar gyfer ystyr plentyn sy’n “derbyn gofal” gan awdurdod lleol, gweler adran 197(2) o Ddeddf 2014; diffinnir “awdurdod lleol” ac “awdurdod lleol yn Lloegr” yn adran 197(1) o Ddeddf 2014.

(7)

Mae dyletswydd ar awdurdod lleol o dan adran 39(1) o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (p. 37) i sefydlu un neu ragor o dimau troseddwyr ifanc ar gyfer ei ardal.

(8)

Diffinnir “llety cadw ieuenctid” yn adran 188(1) o Ddeddf 2014.

(9)

Diffinnir “carchar” yn adran 188(1) a 197(1) o Ddeddf 2014.

(10)

Gweler adran 197(3) o Ddeddf 2014 sy’n darparu bod “cyfeiriad yn y Ddeddf hon at blentyn sydd yng ngofal awdurdod lleol yn gyfeiriad at blentyn sydd o dan ei ofal yn rhinwedd gorchymyn gofal (o fewn yr ystyr a roddir i “care order” gan Neddf Plant 1989)”. Gwneir darpariaeth ar gyfer plant yn derbyn gofal sydd dan gadwad, neu y gwneir yn ofynnol eu bod yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, yn Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 [O.S.2015/ 1818 (Cy. 261)).

(11)

Gweler adran 105(1) o Ddeddf 1989, sy’n darparu bod unrhyw gyfeiriad at blentyn sydd “in the care of a local authority” yn gyfeiriad at blentyn sydd yng ngofal yr awdurdod yn rhinwedd “care order” a bod i “care order” yr ystyr a roddir gan adran 31(11) o Ddeddf 1989. Mae gan awdurdod lleol yn Lloegr ddyletswyddau mewn perthynas â phlant yn eu gofal sydd dan gadwad, yn rhinwedd Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Lloegr) 2010 (O.S. 2010/959).

(12)

Diffinnir “person ifanc categori 2” yn adran 104(2) o Ddeddf 2014. Mae gan yr awdurdod lleol cyfrifol ddyletswyddau mewn perthynas â pherson ifanc categori 2 sydd dan gadwad mewn carchar neu lety cadw ieuenctid, neu y gwneir yn ofynnol ei fod yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, o dan Reoliadau Ymadawyr Gofal (Cymru) 2015 [O.S.2015/ 1820 (Cy. 262)).

(13)

Mae adran 23A(2) o Ddeddf 1989 yn diffinio “relevant child” ac adran 23B o Ddeddf 1989 yn pennu swyddogaethau ychwanegol yr awdurdod lleol cyfrifol yn Lloegr mewn cysylltiad â phlant perthnasol o’r fath. Mae gan awdurdod lleol yn Lloegr ddyletswyddau tuag at blant perthnasol sydd dan gadwad yn rhinwedd Rheoliadau Ymadawyr Gofal (Lloegr) 2010 (O.S. 2010/2571).

(14)

Mae gan yr awdurdod lleol cyfrifol yn Lloegr ddyletswyddau mewn perthynas â phlentyn o’r fath a fu gynt yn derbyn gofal, o dan Reoliadau Plant sy’n Derbyn Gofal dan Gadwad (Lloegr) 2010 (O.S. 2010/2797).

(15)

Mae adran 97(3) o Ddeddf 2014 yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i sicrhau bod cynrychiolydd yr awdurdod yn ymweld â phlentyn y mae’r adran yn gymwys iddo, a threfnu bod cyngor priodol a chymorth arall ar gael i blentyn y mae’r adran yn gymwys iddo.

(16)

Diffinnir “llety cadw ieuenctid” yn adran 188(1) o Ddeddf 2014 fel—

(a) cartref diogel i blant,

(b) canolfan hyfforddi ddiogel,

(c) sefydliad troseddwyr ifanc,

(d) llety sy’n cael ei ddarparu, ei gyfarparu a’i gynnal gan Weinidogion Cymru o dan adran 82(5) o Ddeddf Plant 1989 at y diben o gyfyngu ar ryddid plant,

(e) llety, neu lety o ddisgrifiad, a bennir am y tro drwy orchymyn o dan adran 107(1)(e) o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 (llety cadw ieuenctid at ddibenion gorchmynion cadw a hyfforddi).

Ystyr “cartref diogel i blant” yw cartref plant a ddefnyddir at y diben o gyfyngu ar ryddid ac a gymeradwywyd at y diben hwnnw, y cofrestrwyd person cysylltiad ag ef o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000;

mae i “canolfan hyfforddi ddiogel” yr ystyr a roddir i “secure training centre” yn adran 43(1)(d) o Ddeddf Carchardai 1952; ac

mae i “sefydliad troseddwyr ifanc” yr ystyr a roddir i “young offender institution” yn adran 43(1)(aa) o’r Ddeddf honno.

(17)

Diffinnir “carchar” yn adrannau 188(1) a 197(1) o Ddeddf 2014 fel term sy’n meddu’r ystyr a roddir i “prison” yn Neddf Carchardai 1952 (p. 52) (gweler adran 53(1) o’r Ddeddf honno).

(18)

Diffinnir ”mangre a gymeradwywyd” yn adran 188(1) o Ddeddf 2014 fel term sy’n meddu’r ystyr a roddir i “approved premises” gan adran 13 o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 (p. 21).

(19)

Mae adran 194 ac adran 186(2) o Ddeddf 2014 yn gwneud darpariaeth ynghylch statws preswylfa arferol plentyn sydd dan gadwad mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, neu sy’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

(20)

Mae adran 194 ac adran 186(2) o Ddeddf 2014 yn gwneud darpariaeth ynghylch statws preswylfa arferol plentyn sydd dan gadwad mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, neu sy’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

(21)

Hynny yw, person a gofrestrwyd o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 fel rheolwr cartref diogel i blant.

(22)

Diffinnir “anabledd” yn adran 3(5) o Ddeddf 2014.