xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 6
1. Lefel a natur y cyswllt a’r cymorth personol sydd i’w ddarparu i’r person ifanc, a chan bwy.
2. Cynllun manwl ar gyfer addysg neu hyfforddiant y person ifanc.
3. Y modd y bydd yr awdurdod lleol cyfrifol yn cynorthwyo’r person ifanc mewn perthynas â chyflogaeth neu weithgaredd pwrpasol arall neu alwedigaeth.
4. Cynlluniau wrth gefn ar gyfer gweithredu gan yr awdurdod lleol cyfrifol pe bai’r cynllun llwybr, am ba bynnag reswm, yn peidio â bod yn effeithiol.
5. Manylion y llety y bydd y person ifanc yn preswylio ynddo (gan gynnwys asesiad o’i addasrwydd yng ngoleuni anghenion y person ifanc, a manylion o’r materion a gymerwyd i ystyriaeth wrth asesu ei addasrwydd).
6. Y cymorth sydd i’w ddarparu i alluogi’r person ifanc i ddatblygu a chynnal perthnasau teuluol a chymdeithasol priodol.
7. Rhaglen i ddatblygu’r sgiliau ymarferol a sgiliau eraill sy’n angenrheidiol er mwyn i’r person ifanc fyw yn annibynnol.
8. Y cymorth ariannol sydd i’w ddarparu i’r person ifanc, yn enwedig os darperir y cymorth ar gyfer anghenion llety a chynhaliaeth.
9. Anghenion iechyd y person ifanc, gan gynnwys unrhyw anghenion iechyd meddwl a sut y bwriedir eu diwallu.
10. Manylion y trefniadau a wnaed gan yr awdurdod lleol cyfrifol i ddiwallu anghenion y person ifanc o ran ei hunaniaeth, gan gyfeirio’n benodol at argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol.
11. Pan fo’r person ifanc yn dod o fewn rheoliad 5(4)(c), pa un a yw ei anghenion o ganlyniad i’r statws hwnnw yn cael eu diwallu.