xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1820 (Cy. 262)

Plant A Phersonau Ifanc, Cymru

Rheoliadau Ymadawyr Gofal (Cymru) 2015

Gwnaed

21 Hydref 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

23 Hydref 2015

Yn dod i rym

6 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 104(2) a (6), 106(4), 107(7)(c) ac (8), 108(6), 109(1) a (3), 116(2) a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn(2):

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ymadawyr Gofal (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2016.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “awdurdod lleol cyfrifol” (“responsible local authority”) yr ystyr a nodir yn adran 104(5) o’r Ddeddf;

mae i “carchar” (“prison”), “llety cadw ieuenctid” (“youth detention accommodation”), a “mangre a gymeradwywyd” (“approved premises”) yr ystyron a roddir yn adran 188(1) o’r Ddeddf(3);

ystyr “cynghorydd personol” (“personal adviser”) yw’r person a benodir yn unol ag adran 106 o’r Ddeddf ar gyfer person ifanc categori 1, categori 2, categori 3, neu gategori 4;

mae i “cyn-riant maeth” (“former foster parent”) yr ystyr a roddir yn adran 108(3) o’r Ddeddf;

ystyr “dan gadwad” (“detained”)—

(a)

mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc categori 2 a gollfarnwyd o drosedd, yw—

(i)

dan gadwad mewn carchar neu mewn llety cadw ieuenctid,

(ii)

yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, neu

(iii)

yn preswylio mewn unrhyw fangre arall oherwydd bod gofyniad i wneud hynny wedi ei osod ar y plentyn fel amod caniatáu mechnïaeth mewn achos troseddol,

(b)

ond nid yw’n cynnwys remánd i lety neu fangre o’r fath(4)

(c)

mewn perthynas â pherson ifanc categori 3 neu 4, yw—

(i)

dan gadwad mewn carchar neu mewn llety cadw ieuenctid,

(ii)

yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, neu

(iii)

yn preswylio mewn unrhyw fangre arall oherwydd bod gofyniad i wneud hynny wedi ei osod ar y person ifanc fel amod caniatáu mechnïaeth mewn achos troseddol;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

mae i “lleoliad” (“placement”) yr ystyr a roddir yn adran 81(6) o’r Ddeddf;

mae i “person ifanc categori 2” (“category 2 young person”) yr ystyr a roddir yn adran 104(2) o’r Ddeddf a rheoliad 3;

mae i “person ifanc categori 3” (“category 3 young person”) a “person ifanc categori 4” (“category 4 young person”) yr ystyron a roddir yn adran 104(2) o’r Ddeddf;

mae i “trefniant byw ôl-18” (“post-18 living arrangement”) yr ystyr a roddir yn adran 108(3) o’r Ddeddf;

Personau ifanc categori 2

3.—(1At ddibenion adran 104(6)(a) o’r Ddeddf, mae plant sy’n dod o fewn paragraff (2) yn gategori ychwanegol o bersonau ifanc categori 2.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae plentyn yn dod o fewn y paragraff hwn—

(a)os yw’r plentyn yn 16 neu 17 oed,

(b)os nad yw’r plentyn yn ddarostyngedig i orchymyn gofal(5), ac

(c)pan gyrhaeddodd 16 oed, roedd y plentyn dan gadwad neu mewn ysbyty, ac yn union cyn ei roi dan gadwad neu ei dderbyn i ysbyty, roedd wedi bod yn derbyn gofal gan awdurdod lleol am gyfnod neu gyfnodau yr oedd eu cyfanswm yn 13 wythnos o leiaf a’r cyfnod hwnnw wedi dechrau ar ôl i’r plentyn gyrraedd 14 oed(6).

(3Wrth gyfrifo’r cyfnod o 13 wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(c), rhaid diystyru unrhyw gyfnod pan oedd y plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr, yng nghwrs cyfres o leoliadau byrdymor a drefnwyd ymlaen llaw, nad oedd yr un ohonynt yn hwy na 4 wythnos, a phan oedd y plentyn ar ddiwedd pob lleoliad o’r fath yn dychwelyd i ofal ei riant neu berson nad oedd yn rhiant y plentyn ond a oedd â chyfrifoldeb rhiant amdano.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid peidio â thrin plentyn fel person ifanc categori 2, os bu’n byw am gyfnod di-dor o chwe mis neu ragor (pa un a gychwynnodd y cyfnod hwnnw cyn ynteu ar ôl iddo beidio â derbyn gofal) gydag—

(a)ei riant,

(b)rhywun nad yw’n rhiant iddo ond sydd â chyfrifoldeb rhiant amdano, neu

(c)os oedd y plentyn mewn gofal a gorchymyn trefniadau plentyn mewn grym yn union cyn gwneud y gorchymyn gofal, person a enwyd yn y gorchymyn trefniadau plentyn fel y person yr oedd y plentyn i fyw gydag ef,

hyd yn oed os yw’r plentyn yn dod o fewn y diffiniad o berson ifanc categori 2 yn adran 104(2) o’r Ddeddf.

(5Pan fo’r trefniadau byw a ddisgrifir ym mharagraff (4) yn diffygio, a’r plentyn yn peidio â byw gyda’r person dan sylw, rhaid trin y plentyn fel person ifanc categori 2.

(6At ddibenion paragraff (4), gorchymyn trefniadau plentyn yw gorchymyn a gyfansoddir o, neu sy’n cynnwys, trefniadau mewn perthynas ag un neu’r ddau o’r canlynol—

(a)gyda phwy y bydd y plentyn yn byw, a

(b)pa bryd y bydd y plentyn yn byw gydag unrhyw berson.

(7At ddibenion y rheoliad hwn—

mae i “gorchymyn trefniadau plentyn” yr ystyr a roddir i “child arrangements order” yn adran 8(1) o Ddeddf Plant 1989(7); ac

mae i “ysbyty” yr ystyr a roddir i “hospital” yn Neddf Iechyd Meddwl 1983(8)

RHAN 2Asesiadau o anghenion a llwybrau cynllun

Ymglymiad y person ifanc

4.—(1Wrth gynnal asesiad o anghenion o dan reoliad 5, ac wrth baratoi neu adolygu cynllun llwybr o dan reoliad 6 neu 7, rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol, ac eithrio pan nad yw’n rhesymol ymarferol—

(a)canfod a rhoi sylw i safbwyntiau’r person ifanc categori 2, categori 3 neu gategori 4 (y person ifanc perthnasol) y mae’r asesiad neu’r cynllun llwybr yn ymwneud ag ef(9), a

(b)cymryd pob cam rhesymol i alluogi’r person ifanc perthnasol i fod yn bresennol a chymryd rhan mewn unrhyw gyfarfod yr ystyrir ei achos ynddo.

(2Rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ddarparu copïau i’r person ifanc perthnasol o’r canlynol—

(a)canlyniadau’r asesiad,

(b)y cynllun llwybr,

(c)pob adolygiad o’r cynllun llwybr,

a rhaid iddo esbonio cynnwys pob dogfen i’r person ifanc perthnasol, gan roi sylw i lefel ei ddealltwriaeth, ac eithrio pan nad yw’n rhesymol ymarferol gwneud hynny.

(3Rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol sicrhau y cedwir cofnod ysgrifenedig o’r safbwynt a gaffaelir o dan baragraff (1)(a).

Asesu anghenion

5.—(1Rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol asesu anghenion pob person ifanc categori 2 a 4 a phob person ifanc categori 3 nad oes ganddo gynllun llwybr eisoes, yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Rhaid cwblhau’r asesiad anghenion—

(a)yn achos person ifanc categori 2, ddim hwyrach na 3 mis ar ôl y dyddiad y daeth y person ifanc yn berson ifanc categori 2,

(b)yn achos person ifanc categori 3 nad oes ganddo gynllun llwybr eisoes, ddim hwyrach na 3 mis ar ôl y dyddiad y daeth y person ifanc yn berson ifanc categori 3, ac

(c)yn achos person ifanc categori 4, ddim hwyrach na 3 mis ar ôl y dyddiad yr hysbysir yr awdurdod lleol cyfrifol fod y person ifanc categori 4 yn dilyn, neu’n dymuno dilyn, rhaglen o addysg neu hyfforddiant.

(3Rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol sicrhau y cedwir cofnod ysgrifenedig o’r canlynol—

(a)enwau’r personau y casglwyd eu safbwyntiau at y diben o gynnal yr asesiad,

(b)yr wybodaeth a gasglwyd yn ystod yr asesiad,

(c)y trafodaethau mewn unrhyw gyfarfod a gynhaliwyd mewn cysylltiad ag unrhyw agwedd ar yr asesiad, a

(d)canlyniadau’r asesiad.

(4Wrth gynnal asesiad o anghenion person ifanc categori 2, neu berson ifanc categori 3 nad oes ganddo gynllun llwybr eisoes, rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol—

(a)cymryd i ystyriaeth—

(i)a yw’r person ifanc dan gadwad,

(ii)pan fo’r person ifanc yn berson ifanc categori 3, pa un a oes ganddo drefniant byw ôl-18 ai peidio,

(iii)iechyd a datblygiad y person ifanc,

(iv)anghenion y person ifanc o ran addysg, hyfforddiant a chyflogaeth,

(v)y cymorth sydd ar gael i’r person ifanc oddi wrth aelodau o’i deulu a phersonau eraill,

(vi)anghenion ariannol y person ifanc,

(vii)i ba raddau mae’r person ifanc yn meddu’r sgiliau ymarferol a’r sgiliau eraill sydd eu hangen ar gyfer byw’n annibynnol, ac

(viii)anghenion y person ifanc o ran cyngor a chymorth arall; a

(b)ac eithrio pan nad yw’n rhesymol ymarferol, neu pan nad yw’n briodol gwneud hynny, canfod a chymryd i ystyriaeth safbwyntiau’r canlynol—

(i)rhieni’r person ifanc,

(ii)unrhyw berson nad yw’n rhiant y person ifanc ond sydd â chyfrifoldeb rhiant amdano,

(iii)unrhyw berson sy’n gofalu o ddydd i ddydd am y person ifanc, neu’n darparu llety iddo,

(iv)unrhyw ysgol, coleg neu sefydliad yn y sector addysg bellach a fynychir gan y person ifanc,

(v)yr awdurdod lleol, neu’r awdurdod lleol yn Lloegr ar gyfer yr ardal y mae’r person ifanc yn byw ynddi os yw’n wahanol i’r awdurdod lleol cyfrifol,

(vi)unrhyw berson sy’n darparu gofal iechyd neu driniaeth i’r person ifanc,

(vii)pan fo’r person ifanc dan gadwad, llywodraethwr, cyfarwyddwr neu reolwr cofrestredig (yn ôl fel y digwydd), y carchar neu’r llety cadw ieuenctid,

(viii)pan fo’r person ifanc yn berson ifanc categori 3 sydd â threfniant byw ôl-18, cyn-riant maeth y person ifanc,

(ix)unrhyw berson sy’n darparu cymorth ar ffurf cynrychiolaeth i’r person ifanc o dan adran 178 o’r Ddeddf (10),

(x)cynghorydd personol y person ifanc, ac

(xi)unrhyw berson arall y tybia’r awdurdod lleol cyfrifol neu’r person ifanc y gallai ei safbwyntiau fod yn berthnasol;

(c)pan fo’r person ifanc categori 2—

(i)yn ddioddefwr, neu pan fo rheswm dros gredu y gallai fod yn ddioddefwr, masnachu mewn bodau dynol yn yr ystyr a roddir i “trafficking in human beings” yng Nghonfensiwn Cyngor Ewrop ar Weithredu yn Erbyn Masnachu mewn Bodau Dynol(11),

(ii)yn blentyn ar ei ben ei hunan yn ceisio lloches, yn yr ystyr a roddir i “unaccompanied asylum-seeking child” yn y Rheolau Mewnfudo, sydd wedi gwneud cais am loches, neu wedi dynodi wrth yr awdurdod lleol cyfrifol ei fwriad i wneud cais am loches, a heb gael caniatâd amhenodol i aros,

cymryd i ystyriaeth anghenion y person ifanc o ganlyniad i’r statws hwnnw.

(5Wrth gynnal asesiad o anghenion person ifanc categori 3 sydd â threfniant byw ôl-18, rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol ystyried a yw’r trefniant hwnnw yn bellach yn gyson â llesiant y person ifanc ac a ddylid parhau’r trefniant.

(6Wrth gynnal asesiad o anghenion person ifanc categori 4, rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol—

(a)cymryd i ystyriaeth—

(i)pa un a yw’r person ifanc dan gadwad ai peidio,

(ii)anghenion y person ifanc categori 4 am addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth, a

(iii)unrhyw ystyriaethau eraill y tybia’r awdurdod lleol cyfrifol yn berthnasol, a

(b)ac eithrio pan nad yw’n rhesymol ymarferol gwneud hynny, cymryd i ystyriaeth safbwyntiau’r canlynol—

(i)y cynghorydd personol,

(ii)pan fo’r person ifanc categori 4 dan gadwad, llywodraethwr, cyfarwyddwr neu reolwr cofrestredig (yn ôl fel y digwydd), y carchar neu’r llety cadw ieuenctid, a

(iii)unrhyw berson arall y tybia’r awdurdod lleol cyfrifol neu’r person ifanc categori 4 y gallai ei safbwyntiau fod yn berthnasol.

(7Yn y rheoliad hwn—

ystyr “Rheolau Mewnfudo” (“Immigration Rules”) yw’r rheolau a osodwyd ar y pryd gan yr Ysgrifennydd Gwladol fel y crybwyllir yn adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971 (12); ac

mae i “sefydliad yn y sector addysg bellach” yr ystyr a roddir i “institution within the further education sector” yn adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(13).

Cynlluniau llwybr

6.—(1Rhaid paratoi cynllun llwybr yn unol ag adran 107(3) neu (4) o’r Ddeddf cyn gynted ag y bo modd ar ôl cwblhau’r asesiad o anghenion y cyfeirir ato yn rheoliad 5.

(2Rhaid i’r cynllun llwybr gynnwys, yn benodol—

(a)yn achos cynllun a baratoir ar gyfer person ifanc categori 2 neu gategori 3, y materion y cyfeirir atynt yn Atodlen 1,

(b)yn achos cynllun a baratoir ar gyfer person ifanc categori 2 neu 3 sydd dan gadwad, y materion y cyfeirir atynt yn Atodlen 2,

(c)yn achos cynllun a baratoir ar gyfer person ifanc categori 4, y materion y cyfeirir atynt ym mharagraffau 1 i 4 o Atodlen 1, a

(d)yn achos cynllun a baratoir ar gyfer person ifanc categori 4 sydd dan gadwad, y materion y cyfeirir atynt ym mharagraffau 1 i 4 o Atodlen 2.

(3Rhaid i’r cynllun llwybr, mewn perthynas â phob un o’r materion a gynhwysir ynddo yn rhinwedd paragraff (2), nodi’r canlynol—

(a)y modd y mae’r awdurdod lleol cyfrifol neu staff carchar neu lety cadw ieuenctid (pan fo’n berthnasol) yn bwriadu diwallu anghenion y person ifanc y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef, a

(b)erbyn pa ddyddiad, a chan bwy, y cymerir unrhyw gamau sy’n ofynnol er mwyn cyflawni unrhyw agwedd ar y cynllun llwybr.

(4Rhaid i’r cynllun llwybr, unrhyw adolygiad o’r cynllun ac unrhyw newidiadau ynddo o ganlyniad i’r cyfryw adolygiad gael eu cofnodi mewn ysgrifen.

Adolygu cynlluniau llwybr

7.—(1Rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol adolygu cynllun llwybr pob person ifanc categori 2, categori 3 a chategori 4 yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol drefnu adolygiad—

(a)os gofynnir iddo wneud hynny gan y person ifanc categori 2, categori 3 neu gategori 4,

(b)os yw’r awdurdod lleol cyfrifol, neu’r cynghorydd personol, yn tybio bod adolygiad yn angenrheidiol,

(c)os yw’r person ifanc dan gadwad ac, fel arall, na fyddai adolygiad yn digwydd cyn bo’r person ifanc yn peidio â bod dan gadwad, a

(d)beth bynnag fesul ysbaid o ddim mwy na 6 mis.

(3Os yw’r awdurdod lleol cyfrifol yn darparu llety i’r person ifanc categori 2, categori 3 neu gategori 4 yn unol ag adrannau 109, 110 neu 112 o’r Ddeddf, rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol hefyd—

(a)trefnu adolygiad cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y darparwyd llety gyntaf, a

(b)ar ôl cwblhau adolygiad o dan is-baragraff (a), penderfynu fesul pa ysbaid (o ddim mwy na 3 mis) y cynhelir adolygiadau dilynol.

RHAN 3Cynghorwyr Personol

Swyddogaethau cynghorwyr personol

8.—(1Mae gan gynghorydd personol y swyddogaethau canlynol mewn perthynas â’r person ifanc categori 2, categori 3 neu gategori 4 y’i penodir ar ei gyfer—

(a)darparu cyngor (gan gynnwys cyngor ymarferol) a chymorth,

(b)pan fo’n gymwys, cymryd rhan yn yr asesiad ac wrth baratoi’r cynllun llwybr,

(c)cymryd rhan mewn adolygiadau o’r cynllun llwybr,

(d)cysylltu â’r awdurdod lleol cyfrifol ynglŷn â chyflawni’r cynllun llwybr,

(e)cydgysylltu’r ddarpariaeth o wasanaethau, a chymryd camau rhesymol i sicrhau bod y person ifanc yn defnyddio’r cyfryw wasanaethau a’u bod yn addas at anghenion y person ifanc,

(f)parhau’n hyddysg ynghylch cynnydd a llesiant y person ifanc, ac

(g)cadw cofnod ysgrifenedig o bob cyswllt â’r person ifanc ac o’r gwasanaethau a ddarperir iddo.

(2Yn ychwanegol, os darperir llety ar gyfer person ifanc categori 2, categori 3 neu gategori 4 gan yr awdurdod lleol cyfrifol o dan adran 109, 110 neu 112 o’r Ddeddf, rhaid i’r cynghorydd personol ymweld â’r person ifanc yn y llety hwnnw—

(a)o fewn 7 diwrnod ar ôl darparu’r llety gyntaf,

(b)wedi hynny, cyn adolygu’r cynllun llwybr o dan reoliad 7(3), ac

(c)wedyn, fesul ysbaid o ddim mwy na dau fis.

RHAN 4Amrywiol

Cymorth a llety

9.—(1At ddibenion adran 109(1)(c) o’r Ddeddf, rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol ddarparu cymorth i ddiwallu anghenion y person ifanc categori 2 mewn perthynas ag addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth, fel y darperir ar ei gyfer yng nghynllun llwybr y person ifanc hwnnw.

(2At ddibenion adran 109(3), ystyr “llety addas” (“suitable accommodation”) yw llety—

(a)sydd, i’r graddau sy’n rhesymol ymarferol, yn addas ar gyfer y person ifanc categori 2 yng ngoleuni ei anghenion, gan gynnwys unrhyw anghenion iechyd ac anghenion sy’n tarddu o anabledd(14),

(b)y mae’r awdurdod lleol cyfrifol wedi ei fodloni mewn cysylltiad ag ef, ynglŷn â chymeriad ac addasrwydd y landlord neu ddarparwr arall, a

(c)y mae’r awdurdod lleol cyfrifol, i’r graddau sy’n rhesymol ymarferol, wedi cymryd i ystyriaeth mewn cysylltiad ag ef—

(i)dymuniadau a theimladau, a

(ii)anghenion addysg, hyfforddiant a chyflogaeth,

y person ifanc categori 2.

(3Wrth benderfynu, at ddibenion paragraff (2)(a), pa un a yw’r llety yn addas ai peidio ar gyfer person ifanc categori 2, rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol roi sylw i’r materion a nodir yn Atodlen 3.

(4At ddibenion adrannau 110(8), 112(4), 114(7) a 115(8) o’r Ddeddf—

mae i “addysg bellach” yr ystyr a roddir i “further education” yn Neddf Addysg 1996(15) ac eithrio mai addysg bellach a ddarperir ar sail breswyl amser llawn yn unig sy’n gynwysedig at ddibenion y rheoliad hwn; ac

ystyr “addysg uwch” (“higher education”) yw addysg a ddarperir ar ffurf cwrs o ddisgrifiad y cyfeirir ato mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(16).

Cofnodion

10.—(1Rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol sefydlu a chynnal cofnod achos ysgrifenedig ar gyfer pob person ifanc categori 2, categori 3, a chategori 4 (“y cofnod achos”) (“the case record”).

(2Rhaid i’r cofnod achos gynnwys y cofnodion ysgrifenedig sy’n ofynnol yn rhinwedd rheoliad 4(3) a rheoliad 5(3), a’r cofnodion canlynol (“cofnodion perthnasol”) (“relevant records”)—

(a)unrhyw asesiadau o anghenion,

(b)unrhyw gynllun llwybr,

(c)unrhyw adolygiad o’r cynllun llwybr.

(3Rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol gadw’r cofnodion perthnasol tan 75fed pen-blwydd y person ifanc categori 2, categori 3 neu gategori 4 y mae’r cofnodion perthnasol yn ymwneud ag ef, neu, os bydd farw’r person ifanc cyn cyrraedd 18 oed, am gyfnod o 15 mlynedd sy’n dechrau gyda dyddiad y farwolaeth.

(4Gellir cydymffurfio â’r gofyniad ym mharagraff (1) naill ai drwy gadw’r cofnodion ysgrifenedig gwreiddiol neu gopïau ohonynt neu drwy gadw’r cyfan neu ran o’r wybodaeth a gynhwysir ynddynt mewn ffurf hygyrch arall, megis cofnod cyfrifiadurol.

(5Rhaid cadw cofnodion perthnasol yn ddiogel, ac ni chaniateir eu datgelu i unrhyw berson ac eithrio yn unol ag—

(a)unrhyw ddarpariaeth mewn, neu a wneir o dan, neu yn rhinwedd, statud yr awdurdodir mynediad oddi tani i gofnodion o’r fath, neu

(b)unrhyw orchymyn llys sy’n awdurdodi mynediad i gofnodion o’r fath.

Dirymu Rheoliadau

11.  Mae Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) 2001(17) wedi eu dirymu.

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

21 Hydref 2015

Rheoliad 6

ATODLEN 1Materion sydd i’w cynnwys yn y cynllun llwybr a’r adolygiad ohono

1.  Lefel a natur y cyswllt a’r cymorth personol sydd i’w ddarparu i’r person ifanc, a chan bwy.

2.  Cynllun manwl ar gyfer addysg neu hyfforddiant y person ifanc.

3.  Y modd y bydd yr awdurdod lleol cyfrifol yn cynorthwyo’r person ifanc mewn perthynas â chyflogaeth neu weithgaredd pwrpasol arall neu alwedigaeth.

4.  Cynlluniau wrth gefn ar gyfer gweithredu gan yr awdurdod lleol cyfrifol pe bai’r cynllun llwybr, am ba bynnag reswm, yn peidio â bod yn effeithiol.

5.  Manylion y llety y bydd y person ifanc yn preswylio ynddo (gan gynnwys asesiad o’i addasrwydd yng ngoleuni anghenion y person ifanc, a manylion o’r materion a gymerwyd i ystyriaeth wrth asesu ei addasrwydd).

6.  Y cymorth sydd i’w ddarparu i alluogi’r person ifanc i ddatblygu a chynnal perthnasau teuluol a chymdeithasol priodol.

7.  Rhaglen i ddatblygu’r sgiliau ymarferol a sgiliau eraill sy’n angenrheidiol er mwyn i’r person ifanc fyw yn annibynnol.

8.  Y cymorth ariannol sydd i’w ddarparu i’r person ifanc, yn enwedig os darperir y cymorth ar gyfer anghenion llety a chynhaliaeth.

9.  Anghenion iechyd y person ifanc, gan gynnwys unrhyw anghenion iechyd meddwl a sut y bwriedir eu diwallu.

10.  Manylion y trefniadau a wnaed gan yr awdurdod lleol cyfrifol i ddiwallu anghenion y person ifanc o ran ei hunaniaeth, gan gyfeirio’n benodol at argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol.

11.  Pan fo’r person ifanc yn dod o fewn rheoliad 5(4)(c), pa un a yw ei anghenion o ganlyniad i’r statws hwnnw yn cael eu diwallu.

Rheoliad 6

ATODLEN 2Materion sydd i’w cynnwys yn y cynllun llwybr a’r adolygiad ohono pan fo’r person ifanc dan gadwad

1.  Enw a chyfeiriad y carchar neu’r llety cadw ieuenctid.

2.  Lefel a natur y cyswllt a’r cymorth personol sydd i’w ddarparu i’r person ifanc gan yr awdurdod lleol cyfrifol a chan staff y carchar neu’r llety cadw ieuenctid.

3.  Y trefniadau a wnaed gan staff y carchar neu’r llety cadw ieuenctid ar gyfer addysg a hyfforddiant y person ifanc, gan gynnwys enw a chyfeiriad unrhyw sefydliad addysgol neu sefydliad hyfforddi y bu’r person ifanc yn ei fynychu, neu unrhyw berson arall oedd yn darparu addysg neu hyfforddiant i’r person ifanc yn union cyn ei roi dan gadwad.

4.  Manylion y modd y diwellir anghenion y person ifanc pan fydd yn peidio â bod dan gadwad, sef yn benodol—

(a)pa un a ddarperir llety neu gymorth arall ai peidio i’r person ifanc gan yr awdurdod lleol cyfrifol, awdurdod lleol arall neu awdurdod lleol yn Lloegr, a

(b)sut y bydd yr awdurdod lleol cyfrifol yn cynorthwyo’r person ifanc mewn perthynas ag—

(i)addysg neu hyfforddiant, neu

(ii)cyflogaeth neu weithgaredd pwrpasol arall neu alwedigaeth.

5.  Trefniadau a wnaed gan staff y carchar neu’r llety cadw ieuenctid i gynorthwyo’r person ifanc i ddatblygu’r sgiliau ymarferol neu sgiliau eraill sy’n angenrheidiol er mwyn i’r person ifanc fyw yn annibynnol.

6.  Manylion am anghenion iechyd y person ifanc (gan gynnwys unrhyw anghenion iechyd meddwl) a’r trefniadau a wnaed gan staff y carchar neu’r llety cadw ieuenctid i’w diwallu.

7.  Y trefniadau a wnaed a’r cymorth sydd i’w ddarparu i alluogi’r person ifanc i ddatblygu a chynnal perthnasau teuluol a chymdeithasol priodol.

8.  Manylion am hanes personol, argyhoeddiad crefyddol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol a tharddiad hiliol y person ifanc a’r trefniadau a wnaed gan staff y carchar neu’r llety cadw ieuenctid ar gyfer diwallu ei anghenion crefyddol, diwylliannol ac ieithyddol.

Rheoliad 9

ATODLEN 3Materion i’w hystyried wrth benderfynu ynghylch addasrwydd llety

1.  Mewn cysylltiad â’r llety,—

(a)y cyfleusterau a’r gwasanaethau a ddarperir,

(b)cyflwr yr adeilad,

(c)diogelwch,

(d)lleoliad,

(e)cymorth,

(f)statws tenantiaeth, ac

(g)yr ymrwymiadau ariannol goblygedig i’r person ifanc categori 2, a’u fforddiadwyedd.

2.  Mewn cysylltiad â’r person ifanc categori 2—

(a)ei farn am y llety,

(b)ei ddealltwriaeth o’i hawliau a’i gyfrifoldebau mewn perthynas â’r llety, ac

(c)ei ddealltwriaeth o’r trefniadau cyllido.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”) a deuant i rym ar 1 Ebrill 2016. Maent yn dirymu, ac yn disodli’n rhannol, Reoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) 2001.

Mae’r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ynglŷn â’r cymorth sydd i’w ddarparu i bersonau ifanc penodol nad ydynt bellach yn derbyn gofal gan awdurdod lleol sef, sef personau ifanc categori 2 (fel y’u diffinnir gan adran 104(2) o’r Ddeddf a rheoliad 3) ac i bersonau ifanc categori 3 a chategori 4 (fel y’u diffinnir gan adran 104(2) o’r Ddeddf).

Maent yn ailddeddfu (gyda rhai newidiadau) ddarpariaethau yn Rheoliadau 2001 (ac eithrio’r darpariaethau hynny sy’n ymwneud â phersonau ifanc y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hynny fel plant “cymwys” ac a ddiffinnir yn awr fel personau ifanc categori 1 yn unol ag adran 104(2) o’r Ddeddf, a gynhwysir bellach yn Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynglŷn â’r ffordd y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol gynnal asesiad o anghenion personau ifanc categori 2, categori 3 a chategori 4 (rheoliad 5), ac ynglŷn â pharatoi ac adolygu cynlluniau llwybr, sef cynlluniau sy’n nodi’r cyngor a chymorth arall y mae’r awdurdod lleol cyfrifol, a phersonau eraill pan fo’n briodol, yn bwriadu eu darparu (rheoliadau 6 a 7 ac Atodlenni 1 a 2).

Maent yn rhagnodi swyddogaethau cynghorwyr personol a benodir ar gyfer personau ifanc categori 2, categori 3 a chategori 4 (rheoliad 8) ac yn gwneud darpariaeth ynghylch cymorth arall ac addasrwydd llety (rheoliad 9 ac Atodlen 3). Maent yn darparu ar gyfer sefydlu a chadw cofnodion mewn perthynas ag asesiadau a chynlluniau llwybr (rheoliad 10).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(2)

Gweler adran 197(1) am y diffiniad o “penodedig”, “a bennir” ac “a bennwyd” a “rheoliadau”.

(3)

Diffinnir “carchar” gan adran 188(1) o’r Ddeddf drwy gyfeirio at y diffiniad o “prison” yn adran 53(1) o Ddeddf Carchardai 1952 (p. 52); diffinnir “llety cadw ieuenctid” yn adran 188(1) o’r Ddeddf fel: (a) cartref diogel i blant; (b) canolfan hyfforddi ddiogel; (c) sefydliad troseddwyr ifanc; (d) llety sy’n cael ei ddarparu, ei gyfarparu a’i gynnal gan Weinidogion Cymru o dan adran 82(5) o Ddeddf Plant 1989 at y diben o gyfyngu ar ryddid plant; (e) llety, neu lety o ddisgrifiad, a bennir am y tro drwy orchymyn o dan adran 107(1)(e) o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 (llety cadw ieuenctid at ddibenion gorchmynion cadw a hyfforddi); diffinnir “ysbyty” yn adran 197(1) o’r Ddeddf fel term sydd â’r ystyr a roddir i “hospital” yn adran 206 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42). Ar gyfer ystyr “young offender institution” a “secure training centre” gweler adran 43(1)(aa) a (d) o Ddeddf Carchardai 1952 (p. 52).

(4)

Mae adran 104(1) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 (p. 10) (“Deddf 2012”) yn darparu bod rhaid trin plentyn a roddir ar remánd i lety cadw ieuenctid fel pe bai’n “looked after”, sef yn derbyn gofal, gan yr awdurdod lleol (gweler adran 104(1) o Ddeddf 2012); diffinnir “youth detention accommodation” yn adran 102(1) o Ddeddf 2012.

(5)

Ar gyfer ystyr “gorchymyn gofal” gweler adran 197(3) o’r Ddeddf.

(6)

Ar gyfer ystyr “derbyn gofal” gweler adran 74 o’r Ddeddf (plentyn neu berson ifanc sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol).

(7)

1989 p. 42. Diwygiwyd adran 8(1) gan adran 12 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6).

(9)

Rhaid i unrhyw berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf gydymffurfio â’r swyddogaethau cyffredinol a gynhwysir yn adrannau 5 i 7 o’r Ddeddf, sef yn benodol adrannau 5(a), 6(2) a (4) a 7(2).

(10)

Adran 178 o’r Ddeddf – cynhorthwy i bersonau sy’n cyflwyno sylwadau.

(11)

CETS Rhif 197.

(14)

Mae adran 3(5) yn darparu bod person yn “anabl” os oes ganddo anabledd yn yr ystyr a roddir i “disability ” at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010 (p. 15).