- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Meinweoedd Dynol, Cymru
Gwnaed
7 Hydref 2015
Yn dod i rym am
00:01 ar 1 Rhagfyr 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer eu pwerau yn adrannau 9(2) ac 20(1) a (2) o Ddeddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013(1) ac ar ôl cynnal unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus sy’n briodol yn eu barn hwy yn unol ag adran 20(3) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 20(4) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trawsblannu Dynol (Personau nad yw’r Galluedd ganddynt i Gydsynio) (Cymru) 2015 a deuant i rym am 00:01 ar 1 Rhagfyr 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn unrhyw achos sy’n dod o fewn paragraffau (a) a (b) o adran 9(1) o Ddeddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 (storio a defnyddio sy’n ymwneud â deunydd o oedolion nad yw’r galluedd ganddynt i gydsynio).
(2) Ystyrir bod oedolyn (“P”) nad yw’r galluedd ganddo i gydsynio i weithgaredd o fath a grybwyllir yn adran 3(2)(c) neu (d) o’r Ddeddf honno (storio neu ddefnyddio deunydd perthnasol o gorff dynol at ddiben trawsblannu) sy’n ymwneud â deunydd o gorff P, wedi cydsynio i’r gweithgaredd pan fo’r gweithgaredd wedi ei wneud gan berson sy’n gweithredu mewn ffordd y mae’n credu yn rhesymol ei bod er lles pennaf P.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
7 Hydref 2015
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 9 o Ddeddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013. Mae’r adran hon yn gymwys lle nad oes gan oedolyn sy’n fyw y galluedd i gydsynio i roi organau ac nad oes penderfyniad mewn grym.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch yr amgylchiadau pan ystyrir bod oedolyn byw nad yw’r galluedd ganddo yn cydsynio i storio a defnyddio i’w drawsblannu ddeunydd perthnasol sydd wedi dod o gorff dynol. Yr amgylchiadau pan ystyrir bod cydsyniad wedi ei roi yw pan fo storio a defnyddio er lles pennaf yr oedolyn byw nad yw’r galluedd ganddo.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: