Offerynnau Statudol Cymru
Cyflogaeth A Hyfforddiant, Cymru
Gwnaed
29 Medi 2015
Yn dod i rym
16 Hydref 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 10(1)(b) a (3) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Prentisiaethau (Dynodi Awdurdod Ardystio Cymru) (Diwygio) 2015 a daw i rym ar 16 Hydref 2015.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae Gorchymyn Prentisiaethau (Dynodi Awdurdod Ardystio Cymru) 2013(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2, yn lle’r geiriau “mae Cynghrair y Cynghorau Sgiliau Sector” rhodder “mae’r Federation for Industry Sector Skills & Standards (Rhif Cwmni: SC175918)”.
Julie James
Y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, o dan awdurdod y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
29 Medi 2015
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Prentisiaethau (Dynodi Awdurdod Ardystio Cymru) 2013 drwy newid enw awdurdod ardystio Cymru o Gynghrair y Cynghorau Sgiliau Sector i Ffederasiwn Sgiliau a Safonau’r Sector Diwydiant. Mae hyn yn cydnabod y newid yn enw cwmni cofrestredig y sefydliad hwn.