Search Legislation

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) (Diwygio) 2015

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) (“Y Ddeddf”) yn darparu ar gyfer system o gynlluniau datblygu lleol (“CDLl”) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/2839) (“Rheoliadau 2005”) sydd yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â gweithredu’r system honno.

Mae’r prif newidiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn fel a ganlyn.

Mae rheoliad 2(2)(h)(i) yn mewnosod diffiniad o gofrestr safleoedd ymgeisiol ac mae rheoliad 2(2)(h)(iii) yn mewnosod diffiniad o adroddiad adolygu fel y gellir cynnwys y ddau yn y diffiniad o ddogfennau CDLl (fel y’i diwygiwyd gan reoliad 2(2)(d)). Mae’n ofynnol sicrhau bod y rhain ar gael o dan reoliad 17 a rheoliad 26B (adneuo cynigion).

Mae rheoliad 2(2)(g)(ii) yn diwygio’r diffiniad o “cyrff ymgynghori penodol” i ychwanegu Network Rail Infrastructure Limited at y rhestr o gyrff y mae’n rhaid ymgynghori â hwy o dan reoliadau 14 a 26A.

Effaith rheoliad 2(3) yw nad oes unrhyw ofyniad i ymgysylltu ag ymgyngoreion wrth baratoi cynllun cynnwys cymunedau nac amserlen pan fo’r dogfennau hynny’n ymwneud ag adolygu CDLl.

Mae rheoliad 2(5)(c) yn mewnosod gofyniad i’r awdurdod cynllunio lleol (“ACLl”) hysbysu rhai ymgyngoreion cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i adolygiad i gytundeb cyflawni gael ei gytuno neu pan y bernir iddo gael ei gytuno.

Mae rheoliad 2(5)(d) yn rhagnodi’r amgylchiadau pan nad oes angen i’r ACLl gydymffurfio â gofynion y cynllun cynnwys cymunedau.

Mae rheoliad 2(7) yn gwneud newidiadau i’r wybodaeth sy’n ofynnol yn isdeitl y CDLl.

Mae rheoliad 2(8) yn ychwanegu unrhyw gynllun morol a baratowyd gan Weinidogion Cymru at y rhestr o faterion y mae’n rhaid i’r ACLl eu hystyried wrth ddarparu CDLl. Mae hyn yn ychwanegol i’r materion a bennwyd eisoes yn adrannau 39 a 62(5) o’r Ddeddf ac yn rheoliad 13. Hepgorir y cyfeiriad at gynlluniau gwastraff rhanbarthol anarferedig yn y rheoliad hwnnw hefyd.

Mae rheoliad 2(9) a 2(22) yn darparu ar gyfer gweithdrefn newydd ffurf fer ar gyfer adolygu CDLl. Rhaid defnyddio’r weithdrefn newydd pan nad yw’r materion dan sylw yn ddigon arwyddocaol i warantu’r weithdrefn lawn sydd hefyd yn gymwys wrth baratoi CDLl cychwynnol neu CDLl yn lle cynllun arall. Mae’r weithdrefn ffurf fer yn y Rhan 4A newydd i Reoliadau 2005. Yn hytrach na gofyn i gyrff statudol gyfranogi cyn-adneuo, y mae gofyniad i’r ACLl hysbysu’r cyrff hynny ynglŷn â phwnc adolygiad arfaethedig a’r adroddiad adolygu sy’n ei ragflaenu ac i wahodd sylwadau ynglŷn â’r hyn y dylid ei gynnwys mewn adolygiad. Nid oes gofyniad yn y weithdrefn ffurf fer i’r ACLl gynnal ymgynghoriad cyhoeddus cyn-adneuo.

Mae rheoliad 2(10) yn ei gwneud yn ofynnol i ACLl alw am safleoedd ymgeisiol y gellir eu hystyried i’w cynnwys yn y CDLl. Mae’n rhaid i ACLl hefyd gadw cofrestr o safleoedd ymgeisiol i gofnodi’r enwebiadau sy’n dod i law.

Mae rheoliad 2(12) yn mewnosod gofyniad i’r ACLl baratoi adroddiad o’r hysbysiadau a wnaed a’r sylwadau a gyflwynwyd o dan reoliadau 14 i 16. Yr adroddiad a ddiffinnir fel yr “adroddiad ymgynghori cychwynnol” yw hwn.

Mae rheoliad 2(16) yn dileu’r gweithdrefnau yn rheoliadau 20 a 21 o Reoliadau 2005 sy’n ymwneud yn benodol ag ymdrin â sylwadau ynglŷn â dyrannu safleoedd, fel yr ymdrinnir â’r sylwadau hynny yn yr un ffordd ag unrhyw sylwadau eraill.

Mae rheoliad 2(19)(c) yn gwneud darpariaeth bod CDLl a fabwysiadir neu a gymeradwyir yn disodli’r CDLl presennol yn awtomatig.

Mae rheoliad 2(20) yn mewnosod rheoliad newydd 25A yn Rheoliadau 2005 i alluogi’r ACLl i fabwysiadu CDLl diwygiedig naill ai â diwygiadau fel y’u paratowyd neu fel y’u haddaswyd, yn dibynnu ar argymhelliad y person a benodwyd i gynnal yr archwiliad annibynnol o’r adolygiadau arfaethedig.

Mae rheoliad 2(24) yn diwygio rheoliad 30 o Reoliadau 2005 i ddarparu bod ACLl yn gyfrifol am baratoi arfarniad o gynaliadwyedd y CDLl neu’r adolygiad ohono, os nad yw eisoes wedi gwneud hynny, os yw Gweinidogion Cymru’n rhoi cyfarwyddyd o dan adran 65(4) o’r Ddeddf.

Mae rheoliad 2(29) yn gwneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i baratoi adroddiad adolygu cyn cynnal unrhyw adolygiad o CDLl. Caiff yr adroddiad hwnnw fod yr adroddiad adolygu llawn sy’n ofynnol o dan adran 69(2) o’r Ddeddf neu’n adroddiad o adolygiad dethol o ran (neu rannau) o’r CDLl. Gwneir mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol gan baragraffau eraill o reoliad 2, gan gynnwys hepgor pob gofyniad i roi cyhoeddusrwydd i faterion drwy hysbysebu mewn papur newydd lleol.

Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth drosiannol ac arbed.

Paratowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Mae copïau ar gael gan Lywodraeth Cymru yn: Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru: www.cymru.gov.uk .

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources