xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
3.—(1) Pan fo cais neu gais tybiedig wedi ei wneud neu y tybir iddo gael ei wneud, gan neu ar ran clwb, cymdeithas neu gorff arall (gan gynnwys unrhyw bersonau sy’n gweinyddu ymddiriedolaeth), nas sefydlwyd ac nac yw’n cael ei gynnal er mwyn gwneud elw, ac amcanion y clwb, y gymdeithas neu’r corff hwnnw yw darparu cyfleusterau ar gyfer chwaraeon neu hamdden, a’r amodau a bennir yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni, y ffi daladwy yw £385.
(2) Yr amodau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yw—
(a)bod y cais neu’r cais tybiedig yn ymwneud ag—
(i)gwneud newid sylweddol yn y defnydd o dir i’w ddefnyddio fel maes chwarae; neu
(ii)cyflawni gweithrediadau (ac eithrio codi adeilad sy’n cynnwys arwynebedd llawr) at ddibenion sy’n atodol i’r defnydd o dir fel maes chwarae,
ac nid ag unrhyw ddatblygiad arall; a
(b)y bodlonwyd yr awdurdod cynllunio lleol y cyflwynwyd y cais iddo, neu (yn achos cais tybiedig) y bodlonwyd Gweinidogion Cymru, fod y datblygiad i’w gyflawni ar dir a feddiennir, neu y bwriedir ei feddiannu gan y clwb, y gymdeithas neu’r corff a’i ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer cyflawni ei amcanion.