- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
12.—(1) Pan fo cais (ac eithrio cais am ganiatâd cynllunio amlinellol) neu gais tybiedig yn ymwneud â datblygiad sy’n rhannol o fewn categori 1 ac yn rhannol o fewn categori 2, 3 neu 4, mae’r is-baragraffau sy’n dilyn yn gymwys at y diben o gyfrifo’r ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cais neu’r cais tybiedig.
(2) Rhaid gwneud asesiad o gyfanswm maint yr arwynebedd llawr gros sydd i’w greu gan y rhan honno o’r datblygiad sydd o fewn categori 2, 3 neu 4 (“yr arwynebedd llawr amhreswyl”), a rhaid adio’r swm taladwy mewn cysylltiad â’r arwynebedd llawr amhreswyl sydd i’w greu gan y datblygiad at y swm taladwy mewn cysylltiad â’r rhan honno o’r datblygiad sydd o fewn categori 1, ac, yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), y swm a gyfrifir felly yw’r ffi daladwy.
(3) At y diben o gyfrifo’r ffi daladwy o dan is-baragraff (2)—
(a)pan fo unrhyw rai o’r adeiladau i gynnwys arwynebedd llawr y bwriedir ei ddefnyddio at y diben o ddarparu mynedfa gyffredin neu wasanaethau neu gyfleusterau cyffredin ar gyfer personau sy’n meddiannu neu’n defnyddio rhan o’r adeilad hwnnw at ddibenion preswyl ac ar gyfer personau sy’n meddiannu neu’n defnyddio rhan ohono at ddibenion amhreswyl (“arwynebedd llawr cyffredin”), rhaid asesu maint yr arwynebedd llawr amhreswyl, mewn perthynas â’r adeilad hwnnw, drwy gynnwys yr un gyfran o’r arwynebedd llawr cyffredin ag y mae maint yr arwynebedd llawr amhreswyl yn yr adeilad yn ei ffurfio o gyfanswm yr arwynebedd llawr gros yn yr adeilad sydd i’w greu gan y datblygiad;
(b)pan fo’r datblygiad yn dod o fewn mwy nag un o’r categorïau 2, 3 a 4, rhaid cyfrifo swm yn unol â phob categori o’r fath, a’r swm uchaf a gyfrifir felly yw’r swm taladwy mewn cysylltiad â’r holl arwynebedd llawr amhreswyl.
(4) Pan fo cais neu gais tybiedig y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo yn ymwneud â datblygiad sydd hefyd o fewn un neu ragor o’r categorïau 5 i 12—
(a)cyfrifir swm yn unol â phob categori o’r fath; a
(b)os oes unrhyw symiau a gyfrifir felly yn fwy na’r swm a gyfrifir yn unol ag is-baragraff (2), y swm uwch hwnnw yw’r ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cyfan o’r datblygiad y mae’r cais neu’r cais tybiedig yn ymwneud ag ef.
(5) Yn is-baragraff (3), mae’r cyfeiriad at ddefnyddio’r adeilad at ddibenion preswyl yn gyfeiriad at ei ddefnyddio fel tŷ annedd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: