Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Newid Categori) (Cymru) 2015

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y corff llywodraethu” (“the governing body”) yw corff llywodraethu’r ysgol y mae newid categori yn cael ei gynnig neu, yn ôl y digwydd, yn digwydd mewn cysylltiad â hi;

ystyr “y cyfnod gweithredu” (“the implementation period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau ar y dyddiad y cymeradwyir y cynigion neu y penderfynir arnynt o dan adrannau 50, 51 neu 53 o’ Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ac sy’n dod i ben ar y dyddiad gweithredu;

ystyr “y dyddiad gweithredu” (“the implementation date”) yw’r dyddiad a bennir yn y cynigion fel y dyddiad pryd y bwriedir i’r newid categori ddigwydd;

ystyr “Rheoliadau 2005” (“the 2005 Regulations”) yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005(1);

ystyr “Rheoliadau 2014” (“the 2014 Regulations”) yw Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014(2).

(1)

O.S. 2005/2914 (Cy.211) fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005 (O.S.2005/3200 (Cy.236)); a chan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006 (O.S. 2006/873 (Cy.81)) a chan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/944 (Cy.80)), a chan Reoliadau Addysg (Diwygiadau Amrywiol ynghylch Diogelu Plant) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/2544 (Cy.206)), a chan Orchymyn Awdurdodau Addysg