Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y corff llywodraethu” (“the governing body”) yw corff llywodraethu’r ysgol y mae newid categori yn cael ei gynnig neu, yn ôl y digwydd, yn digwydd mewn cysylltiad â hi;
ystyr “y cyfnod gweithredu” (“the implementation period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau ar y dyddiad y cymeradwyir y cynigion neu y penderfynir arnynt o dan adrannau 50, 51 neu 53 o’ Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ac sy’n dod i ben ar y dyddiad gweithredu;
ystyr “y dyddiad gweithredu” (“the implementation date”) yw’r dyddiad a bennir yn y cynigion fel y dyddiad pryd y bwriedir i’r newid categori ddigwydd;
ystyr “Rheoliadau 2005” (“the 2005 Regulations”) yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 20054;
ystyr “Rheoliadau 2014” (“the 2014 Regulations”) yw Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 20145.