xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1521 (Cy. 178)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Newid Categori) (Cymru) 2015

Gwnaed

14 Gorffennaf 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

16 Gorffennaf 2015

Yn dod i rym

1 Medi 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 97 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013(1) a pharagraff 38 o Atodlen 4 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dirymu

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Newid Categori) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 1 Medi 2015.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001(2); a

(b)Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2005(3).

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y corff llywodraethu” (“the governing body”) yw corff llywodraethu’r ysgol y mae newid categori yn cael ei gynnig neu, yn ôl y digwydd, yn digwydd mewn cysylltiad â hi;

ystyr “y cyfnod gweithredu” (“the implementation period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau ar y dyddiad y cymeradwyir y cynigion neu y penderfynir arnynt o dan adrannau 50, 51 neu 53 o’ Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ac sy’n dod i ben ar y dyddiad gweithredu;

ystyr “y dyddiad gweithredu” (“the implementation date”) yw’r dyddiad a bennir yn y cynigion fel y dyddiad pryd y bwriedir i’r newid categori ddigwydd;

ystyr “Rheoliadau 2005” (“the 2005 Regulations”) yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005(4);

ystyr “Rheoliadau 2014” (“the 2014 Regulations”) yw Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014(5).

Yr offeryn llywodraethu

3.—(1Rhaid i’r corff llywodraethu a’r awdurdod lleol sicrhau erbyn diwedd y cyfnod gweithredu fod offeryn llywodraethu newydd yn cael ei wneud ar gyfer yr ysgol yn unol â’ Rheoliadau 2005 neu Reoliadau 2014 (yn ôl y digwydd).

(2Mae’r offeryn llywodraethu newydd yn cymryd effaith o ddyddiad ei wneud at ddiben ailgyfansoddi’r corff llywodraethu ond ni fydd yn effeithio ar gyfansoddiad y corff llywodraethu sy’n rhedeg yr ysgol tra’n aros am y dyddiad gweithredu.

(3At bob diben arall, mae’r offeryn llywodraethu newydd yn cymryd effaith o’r dyddiad gweithredu.

Ailgyfansoddi’r corff llywodraethu

4.—(1Rhaid i’r corff llywodraethu a’r awdurdod lleol sicrhau, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl dechrau’r cyfnod gweithredu (a beth bynnag o fewn cyfnod o 3 mis gan ddechrau ar y dyddiad gweithredu), fod y corff llywodraethu yn cael ei ailgyfansoddi yn unol â’r offeryn llywodraethu newydd a’ Rheoliadau 2005 neu Reoliadau 2014 (yn ôl y digwydd).

(2Rhaid i’r corff llywodraethu arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf a’r Rheoliadau hyn mewn ffordd a fydd yn ’galluogi’r awdurdod lleol i gyflawni ei ddyletswyddau yntau o dan baragraff (1).

Llywodraethwyr presennol yn parhau yn eu swyddi

5.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys i unrhyw aelod o gorff llywodraethu presennol y mae offeryn llywodraethu newydd wedi ei wneud mewn cysylltiad â’r corff o dan y Rheoliadau hyn.

(2Yn ddarostyngedig i reoliad 6, bydd llywodraethwr y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo yn parhau yn ei swydd o’r dyddiad gweithredu (neu ddyddiad gwneud yr offeryn llywodraethu newydd os yw’n ddiweddarach) fel llywodraethwr yn y categori cyfatebol sy’n ofynnol o dan yr offeryn llywodraethu newydd (pan fo categori cyfatebol yn bodoli).

(3Bydd aelod o gorff llywodraethu presennol sy’n parhau yn llywodraethwr o dan baragraff (2) yn dal ei swydd am weddill y tymor y cafodd y llywodraethwr hwnnw ei benodi neu ei ethol ar ei gyfer yn wreiddiol.

(4Ni chaiff trafodion y corff llywodraethu eu hannilysu am fod gan yr ysgol fwy o lywodraethwyr mewn categori penodol na’r hyn y darperir ar ei gyfer gan yr offeryn llywodraethu newydd, tra’n aros i’r llywodraethwyr gormodol gael eu diswyddo o dan reoliad 6.

Llywodraethwyr gormodol

6.—(1Pan fo’r canlynol yn digwydd, sef—

(a)bod gan ysgol fwy o lywodraethwyr ar neu ar ôl y dyddiad gweithredu mewn categori penodol na’r hyn sy’n ofynnol fel llywodraethwyr yn y categori hwnnw o dan yr offeryn llywodraethu newydd; a

(b)bod y gormodedd heb ei ddileu drwy ymddiswyddiadau,

bydd y nifer yn y categori hwnnw sy’n ofynnol i ddileu’r gormodedd yn peidio â dal eu swyddi yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2Ar sail hyd eu gwasanaeth y penderfynir pa lywodraethwyr sydd i beidio â dal eu swyddi, a’r llywodraethwr sydd wedi gwasanaethu am y cyfnod di-dor byrraf ar hyn o bryd (p’un ai fel llywodraethwr un categori neu fwy nag un) fydd y cyntaf i beidio â dal ei swydd.

(3Pan fo angen, at ddiben paragraff (2), dewis un neu ragor o lywodraethwyr o blith grŵp sy’n gyfartal o ran hyd gwasanaeth, rhaid gwneud hynny drwy fwrw coelbren.

(4At ddibenion y rheoliad hwn, mae noddwr-lywodraethwyr a enwebir gan gategori penodol o berson i’w trin fel petaent yn gategori ar wahân o lywodraethwyr.

(5Ni fydd unrhyw weithdrefn a nodir yn yr offeryn llywodraethu newydd ar gyfer diswyddo llywodraethwyr sefydledig gormodol yn gymwys ar gyfer ailgyfansoddi’r corff llywodraethu o dan y Rheoliadau hyn.

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

14 Gorffennaf 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag ymdrin â gwneud offerynnau llywodraethu newydd ar gyfer ysgol a fydd yn newid ei chategori yn unol â chynnig sy’n cael ei wneud o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

Mae rheoliad 2 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau.

Mae rheoliad 3 yn ymdrin â sut y dylai’r offeryn llywodraethu newydd gael ei wneud.

Mae rheoliadau 4 – 6 yn darparu ar gyfer ailgyfansoddi’r corff llywodraethu pan fydd ysgol yn newid categori. Caniateir i lywodraethwyr penodol barhau yn eu swyddi a gwneir darpariaeth ar gyfer diswyddo llywodraethwyr sy’n rhai gormodol yn ôl gofynion yr offeryn llywodraethu newydd.

(4)

O.S. 2005/2914 (Cy.211) fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005 (O.S.2005/3200 (Cy.236)); a chan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006 (O.S. 2006/873 (Cy.81)) a chan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/944 (Cy.80)), a chan Reoliadau Addysg (Diwygiadau Amrywiol ynghylch Diogelu Plant) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/2544 (Cy.206)), a chan Orchymyn Awdurdodau Addysg