RHAN 3Gofynion ynglŷn â chyfansoddiad
Gofynion ynglŷn â chyfansoddiad16
1
Rhaid i berson beidio â gosod unrhyw gynnyrch ar y farchnad fel “honey”, “mêl”, neu’r enw cyfatebol mewn unrhyw iaith arall, oni bai ei fod yn bodloni’r meini prawf priodol ynglŷn â chyfansoddiad “mêl” a bennir yn Atodlen 1.
2
Rhaid i berson beidio â gosod unrhyw gynnyrch ar y farchnad gan ddefnyddio enw cynnyrch a restrir ym mharagraff (5) oni bai ei fod yn bodloni’r meini prawf priodol ynglŷn â chyfansoddiad y math hwnnw o fêl a bennir yn Atodlen 1.
3
Rhaid i berson beidio â defnyddio cynnyrch (“y cynhwysyn mêl”) (“the honey ingredient”) fel “honey”, “mêl”, neu’r enw cyfatebol mewn unrhyw iaith arall, mewn cynnyrch y bwriedir ei osod ar y farchnad ar gyfer ei fwyta gan bobl oni bai bod y cynhwysyn mêl yn bodloni’r meini prawf priodol ynglŷn â chyfansoddiad “mêl” a bennir yn Atodlen 1.
4
Rhaid i berson beidio â defnyddio cynnyrch (“y cynhwysyn mêl”) (“the honey ingredient”) fel mêl o fath a restrir ym mharagraff (5) mewn cynnyrch y bwriedir ei osod ar y farchnad ar gyfer ei fwyta gan bobl oni bai bod y cynhwysyn mêl yn bodloni’r meini prawf priodol ynglŷn â chyfansoddiad y math hwnnw o fêl a bennir yn Atodlen 1.
5
Enwau cynnyrch a’r mathau o fêl yw—
a
mêl pobydd;
b
mêl blodau;
c
mêl talpiau;
d
mêl diliau;
e
diliau wedi eu torri mewn mêl;
f
mêl wedi ei ddraenio;
g
mêl wedi ei echdynnu;
h
mêl wedi ei hidlo;
i
mêl melwlith;
j
mêl neithdar;
k
mêl wedi ei wasgu.