xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
16.—(1) Rhaid i berson beidio â gosod unrhyw gynnyrch ar y farchnad fel “honey”, “mêl”, neu’r enw cyfatebol mewn unrhyw iaith arall, oni bai ei fod yn bodloni’r meini prawf priodol ynglŷn â chyfansoddiad “mêl” a bennir yn Atodlen 1.
(2) Rhaid i berson beidio â gosod unrhyw gynnyrch ar y farchnad gan ddefnyddio enw cynnyrch a restrir ym mharagraff (5) oni bai ei fod yn bodloni’r meini prawf priodol ynglŷn â chyfansoddiad y math hwnnw o fêl a bennir yn Atodlen 1.
(3) Rhaid i berson beidio â defnyddio cynnyrch (“y cynhwysyn mêl”) (“the honey ingredient”) fel “honey”, “mêl”, neu’r enw cyfatebol mewn unrhyw iaith arall, mewn cynnyrch y bwriedir ei osod ar y farchnad ar gyfer ei fwyta gan bobl oni bai bod y cynhwysyn mêl yn bodloni’r meini prawf priodol ynglŷn â chyfansoddiad “mêl” a bennir yn Atodlen 1.
(4) Rhaid i berson beidio â defnyddio cynnyrch (“y cynhwysyn mêl”) (“the honey ingredient”) fel mêl o fath a restrir ym mharagraff (5) mewn cynnyrch y bwriedir ei osod ar y farchnad ar gyfer ei fwyta gan bobl oni bai bod y cynhwysyn mêl yn bodloni’r meini prawf priodol ynglŷn â chyfansoddiad y math hwnnw o fêl a bennir yn Atodlen 1.
(5) Enwau cynnyrch a’r mathau o fêl yw—
(a)mêl pobydd;
(b)mêl blodau;
(c)mêl talpiau;
(d)mêl diliau;
(e)diliau wedi eu torri mewn mêl;
(f)mêl wedi ei ddraenio;
(g)mêl wedi ei echdynnu;
(h)mêl wedi ei hidlo;
(i)mêl melwlith;
(j)mêl neithdar;
(k)mêl wedi ei wasgu.