Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2015.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig” yr ystyr a roddir i “qualified teacher” yn adran 132(1) o Ddeddf Addysg 20022;

  • ystyr “cwrs addysg uwch” (“course of higher education”) yw cwrs sy’n dod o fewn paragraff 1 o Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 19883;

  • mae “cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon” (“course for the initial training of teachers”) yn cynnwys cwrs o’r fath sy’n arwain at radd gyntaf;

  • ystyr “cwrs blaenorol” (“preceding course”) yw cwrs a grybwyllir ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 2 i Reoliadau 2015 neu gwrs ar gyfer gradd sylfaen neu gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon y mae person (gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser) yn peidio â’i fynychu yn union cyn dechrau mynychu cwrs penben;

  • mae i “cwrs penben” (“end-on course”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2015;

  • ystyr “cwrs sengl” (“single course”) yw cwrs y mae rheoliad 5(6) o Reoliadau 2015 yn gymwys iddo ac sy’n dod o fewn y disgrifiad o gwrs yn y rheoliad hwnnw;

  • ystyr “cymhwyster cyfwerth neu is” (“equivalent or lower qualification”) yw cymhwyster y penderfynir gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (2) ei fod yn gymhwyster cyfwerth neu is;

  • ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Addysg Uwch 20044;

  • ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015; ac

  • ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 20155.

2

Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu bod cymhwyster yn gymhwyster cyfwerth neu is—

a

os oes gan y person gymhwyster addysg uwch o sefydliad yn y Deyrnas Unedig; a

b

os yw’r cymhwyster y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) ar lefel academaidd sy’n gyfwerth i gymhwyster y mae’r cwrs cyfredol yn arwain ato neu’n uwch na’r cymhwyster hwnnw.

Disgrifiad rhagnodedig o gwrs cymhwysol3

1

Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3) a (4), cwrs cymhwysol at ddiben adran 5(2)(b) o Ddeddf 2015 yw cwrs addysg uwch sy’n gallu cael ei ddynodi drwy reoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 19986 (ni waeth pa un a yw’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs yn cael ei gyllido’n gyhoeddus at ddibenion y rheoliadau hynny).

2

Nid yw cwrs yn gwrs cymhwysol os dechreuodd blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs cyn 1 Medi 2012.

3

Nid yw cwrs yn gwrs cymhwysol—

a

os yw’n gwrs penben; a

b

os nad oedd y cwrs blaenorol yn gwrs cymhwysol oherwydd paragraff (2).

4

Nid yw cwrs yn gwrs cymhwysol os yw’n gwrs rhan-amser.

Disgrifiad rhagnodedig o berson cymhwysol4

1

Mae person cymhwysol a ragnodir at ddibenion adran 5(5) o Ddeddf 2015 yn berson sy’n dod o fewn yr Atodlen ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd, ac eithrio—

a

person nad yw’n gymwys i gael cymorth o dan Reoliadau 2015 oherwydd rheoliad 4(3)(c), (d), (e) neu (f) o’r Rheoliadau hynny; neu

b

person a grybwyllir ym mharagraffau (2), (3), neu (8).

2

Yn ddarostyngedig i’r eithriadau ym mharagraffau (4), (5), (6) a (7), nid yw person yn berson cymhwysol—

a

os oes gan y person gymhwyster addysg uwch; a

b

os yw’r cwrs cymhwysol yn arwain at gymhwyster sy’n gymhwyster cyfwerth neu is.

3

Nid yw person yn berson cymhwysol—

a

os yw’r person yn rhoi’r gorau i gwrs (“y cwrs cyntaf”) nad yw’n gwrs cymhwysol;

b

gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, os yw’r person yn mynychu ar unwaith gwrs arall sy’n gwrs cymhwysol; ac

c

os nad oedd y cwrs cyntaf yn gwrs cymhwysol oherwydd rheoliad 3(2).

4

Nid yw paragraff (2) yn gymwys—

a

pan fo’r cwrs cymhwysol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;

b

pan na fo hyd y cwrs yn hwy na dwy flynedd (mynegir hyd cwrs rhan-amser fel hyd y cwrs llawnamser cyfatebol); ac

c

pan na fo’r person cymhwysol yn athro cymwysedig neu’n athrawes gymwysedig.

5

Nid yw paragraff (2) yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw ran o gwrs sengl—

a

pan fo’r cwrs sengl yn arwain at radd anrhydedd yn cael ei rhoi i’r person cymhwysol gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig cyn y radd derfynol neu gymhwyster cyfatebol; a

b

pan fo’r unig radd anrhydedd sydd gan y person cymhwysol wedi ei chael fel rhan o’r cwrs sengl hwnnw.

6

Nid yw paragraff (2) yn gymwys pan fo’r cwrs cymhwysol yn radd sylfaen.

7

Nid yw paragraff (2) yn gymwys pan fo’r cwrs cymhwysol yn arwain at gymhwyster gweithiwr cymdeithasol, meddyg, deintydd, milfeddyg neu bensaer.

8

Pan fo person, o ganlyniad i ddigwyddiad yn ystod blwyddyn academaidd, yn dod o fewn yr Atodlen yn ystod blwyddyn academaidd, nid yw’r person hwnnw yn berson cymhwysol mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi neu mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn academaidd flaenorol.

Darpariaeth atodol

5

1

Mae’r geiriau “a ddarperir yng Nghymru” yn adran 5(2)(b) o Ddeddf 2015 yn cael effaith er mwyn cynnwys llunio, yng Nghymru, y deunyddiau sy’n angenrheidiol i gyflwyno cwrs cymhwysol penodol, ni waeth pa un a yw’n ofynnol i fyfyrwyr fynychu’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs.

2

Mae’r geiriau “a ddarperir yng Nghymru” yn adran 17(1) o Ddeddf 2015 yn cael effaith er mwyn cynnwys llunio, yng Nghymru, y deunyddiau sy’n angenrheidiol i ddarparu addysg, ni waeth pa un a yw’n ofynnol i fyfyrwyr fynychu sefydliad i gael yr addysg honno.

6

At ddibenion paragraff 29(3) o’r Atodlen i Ddeddf 2015, mae cynllun o dan Ddeddf 2004 yn cynnwys cynllun arfaethedig y mae CCAUC yn ei gael fel awdurdod perthnasol7 o dan adran 34 o Ddeddf 2004 cyn 1 Awst 2015 ond nad yw’n cael ei gymeradwyo gan CCAUC tan ar ôl y dyddiad hwnnw yn dilyn adolygiad o dan reoliadau 11 i 18 o Reoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cynlluniau wedi eu Cymeradwyo) (Cymru) 20118.

Huw LewisY Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru